Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
1
Y Rhaglen i Drawsnewid y System ADY
Beth yw’r Rhaglen i Drawsnewid y System ADY? Rhaglen i drawsnewid addysg a chymorth i ddegau o filoedd o blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), gwella eu profiad addysgol a’u helpu i gyflawni eu potensial. Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yw conglfaen y rhaglen hon – ond yn ogystal â newidiadau yn y gyfraith, mae yna newidiadau o ran diwylliant ac arferion, a fydd yn sicrhau’r deilliannau gwell i ddysgwyr sydd mor bwysig inni. Mae trawsnewid y system ADY yn elfen hanfodol o’r gwaith ehangach o ddiwygio addysg – mae’r dystiolaeth yn glir: drwy ofalu am ddysgwyr ADY, fe fyddwn ni’n gofalu am bob dysgwr. Y Rhaglen i Drawsnewid y System ADY
2
Y rhaglen i drawsnewid y System Anghenion Dysgu Ychwanegol
5 prif thema: Deddfwriaeth a chanllawiau statudol Cymorth gweithredu / trosglwyddo Datblygu'r gweithlu Codi ymwybyddiaeth Cefnogi'r polisi Mae 5 prif thema i’r rhaglen i drawsnewid y system ADY, ac rwyf am eu trafod yn y cyflwyniad. Fodd bynnag, i grynhoi, dyma nhw: 1. Deddfwriaeth a chanllawiau statudol – y broses o ddatblygu’r fframwaith deddfwriaethol, gan gynnwys y Bil, y rheoliadau a’r Cod ADY newydd; 2. Cymorth gweithredu / trosglwyddo – gweithgareddau i helpu partneriaid i baratoi, cynllunio a rheoli sut y gweithredir y system newydd a’r broses drosglwyddo; 3. Datblygu’r gweithlu – ar dair lefel: datblygu sgiliau craidd pob ymarferwr sy’n cefnogi dysgwyr ag ADY; datblygu sgiliau uwch drwy ddatblygu rôl Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol; a datblygu sgiliau arbenigol ar gyfer gwasanaethau cymorth arbenigol a ddarperir gan yr awdurdod lleol; 4. Codi ymwybyddiaeth – gweithgareddau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch eu dyletswyddau deddfwriaethol newydd, ac i esbonio a hyrwyddo’r system a’r hawliau mae’n eu rhoi i blant, pobl ifanc a rhieni; 5. Cefnogi’r polisi – gan gynnwys datblygu adnoddau i helpu pawb o fewn y system i ddeall y dystiolaeth dros arferion gorau, beth gellir ei ddisgwyl gan ymyriadau, yr ymyriadau sy’n debygol o fod fwyaf effeithiol, a rôl gweithwyr proffesiynol i sicrhau disgwyliadau realistig a bod adnoddau yn cael eu defnyddio mewn ffordd effeithiol.
3
Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Bydd y Bil yn creu fframwaith deddfwriaethol er mwyn gwella’r broses o gynllunio a chyflwyno darpariaeth ddysgu ychwanegol, trwy ddull sy’n canolbwyntio ar unigolion er mwyn nodi anghenion yn fuan, rhoi system gymorth a monitro effeithiol ar waith ac addasu ymyriadau er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni’r canlyniadau a ddymunir. Cyflwynwyd y Bil i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12 Rhagfyr 2016. Y Bil yw prif ffocws yr elfen ‘deddfwriaeth a chanllawiau statudol’ a hwn fydd yn creu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer trawsnewid y system. Cafodd ei gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Rhagfyr 2016, a chyrhaeddodd ail gam proses graffu’r Cynulliad ym Mehefin. Yng ngham cyntaf y broses, sef y cyfnod ymgynghori ar egwyddorion cyffredinol y Bil, aeth pwyllgorau perthnasol y Cynulliad ati i gasglu tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig oddi wrth amrywiaeth eang o randdeiliaid ac oddi wrth blant a phobl ifanc a’u rhieni. Aeth y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Bil, Alun Davies AC, i 4 sesiwn pwyllgor arall i ddarparu tystiolaeth. Ddiwedd Mai 2017, cyhoeddwyd adroddiadau Cam 1 ar y Bil gan 3 o Bwyllgorau’r Cynulliad – y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol; a’r Pwyllgor Cyllid. Yna cafwyd trafodaeth a phleidlais ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 6 Mehefin, a chytunodd Aelodau’r Cynulliad y dylai’r Bil symud i gam nesaf y broses – Cam 2, cam diwygio, sy’n canolbwyntio’n fwy ar y manylion a’r meysydd penodol y mae angen eu diwygio. Os oes diddordeb gyda chi mewn darllen yr adroddiadau eu hunain neu unrhyw ddeunyddiau, tystiolaeth neu ohebiaeth arall sy’n ymwneud â’r gwaith craffu ar y Bil hyd yma, mae’r cyfan i’w weld ar wefan y Cynulliad (
4
Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Cyflwyno'r term Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) - yn lle'r termau 'anghenion addysgol arbennig' (AAA) ac 'anawsterau a/neu anableddau dysgu' (AAD). Ystod oedran bydd gan bob plentyn a pherson ifanc yr un hawliau i dderbyn y ddarpariaeth sydd ei hangen arnynt, yn ogystal â gwella'r broses o drosglwyddo rhwng yr ysgol ac addysg ôl-16. Cynllun statudol unedig - y Cynllun Datblygu Unigol. Bydd hwn yn disodli'r cynlluniau statudol ac anstatudol amrywiol i ddysgwyr mewn ysgolion ac addysg bellach.
5
Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Cynnwys plant a phobl ifanc yn fwy - o dan y Bil dylai barn dysgwyr, ynghyd â barn eu rhieni, gael ei hystyried bob amser fel rhan o'r broses gynllunio. Dyheadau uchel a gwell deilliannau - canolbwyntio ar sicrhau darpariaeth sy'n cyflawni deilliannau gweladwy, gan gyfrannu at allu'r plentyn neu'r person ifanc i gyflawni hyd eithaf ei allu. Symlach a llai o wrthdaro - proses symlach i ddarparu a diwygio CDU er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu anghenion y dysgwr. Rhagor o gydweithredu - bydd y diwygiadau yn help i gydweithredu a rhannu gwybodaeth yn well rhwng asiantaethau.
6
Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Datrys anghytundebau yn gynharach - pan fydd anghytundebau yn codi, dylid eu hystyried a'u datrys ar y lefel fwyaf leol bosibl. Hawliau clir a chyson i apelio - bydd gan bob plentyn, ei rieni a phobl ifanc hawl i apelio i'r Tribiwnlys lle na ellir datrys anghytundebau ar lefel leol. Cod gorfodol - bydd yna God ADY i ategu'r ddeddfwriaeth sylfaenol a fydd yn darparu'r gofynion gorfodol a'r canllawiau statudol.
7
Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Bydd y canlynol yn ategu’r Bil: Rheoliadau – is-ddeddfwriaeth lle mae angen rhagor o fanylion. Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol – canllawiau statudol a gofynion gorfodol er mwyn helpu pobl a sefydliadau i weithio o fewn y gyfraith. Disgwylir i’r Bil fynd drwy holl gamau’r Cynulliad erbyn diwedd 2017, ac i’r Cydsyniad Brenhinol gael ei roi ddechrau Bydd Llywodraeth Cymru wedyn yn canolbwyntio ar yr is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys sawl set o reoliadau a Chod ADY newydd. Bydd y Cod yn disodli’r Cod Ymarfer AAA cyfredol ac yn rhoi gwybodaeth i bobl am eu dyletswyddau cyfreithiol – hwn fydd llawlyfr y system newydd. Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi llunio 2 fersiwn ddrafft o’r Cod. Gwnaed y gyntaf yn ystod yr ymgynghoriad ar y Bil drafft yn 2015, a’r ail ym mis Chwefror 2017 i helpu yn y gwaith o graffu ar y Bil. Y fersiwn ddrafft nesaf fydd yr un a gyhoeddir ar gyfer yr ymgynghoriad, y disgwylir ei gynnal ddechrau 2018 ar yr un pryd ag ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft. Caiff yr ymatebion i’r ymgynghoriad eu defnyddio i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r rheoliadau a’r Cod. Bydd y rheini wedyn yn cael eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’w cymeradwyo. Bydd angen cyflawni’r dyletswyddau presennol sydd yn y cod ymarfer AAA cyfredol hyd nes y caiff y system newydd ei gweithredu’n ffurfiol. Mae fersiwn gyfredol y Cod drafft ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ochr yn ochr â’r Bil.
8
Gweithredu'r Bil ADY Daeth ymgynghoriad ar opsiynau ar gyfer gweithredu'r Bil ADY i ben ar 9 Mehefin 2017. Caiff yr ymatebion i'r ymgynghoriad eu hadolygu a'u defnyddio i lywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru ar sut i drosglwyddo i'r system newydd. A chymryd na fydd yna fwy o oedi yn y broses ddeddfwriaethol, ac y bydd yr ymgynghoriad ac ystyriaeth y Cynulliad o’r is-ddeddfwriaeth yn weddol ddidrafferth, y nod yw sefydlu’r gyfraith newydd a chymeradwyo’r Cod erbyn diwedd O ddechrau 2019 bydd yna raglen estynedig o hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ar sail y Cod newydd, cyn cyflwyno’r system newydd. Mae sut yn union y caiff y system newydd ei chyflwyno yn cael ei ystyried, yn dilyn ymgynghoriad ar opsiynau ar gyfer gweithredu’r system ADY a ddaeth i ben ym Mehefin Caiff crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ei gyhoeddi yn yr hydref ynghyd ag ymateb y Llywodraeth, a fydd yn amlinellu ei dull gweithredu arfaethedig ac amseru gweithredu’r ddeddfwriaeth.
9
Gweithredu'r Bil ADY Defnyddiwch y sleid hon i esbonio sut mae eich sefydliad yn cael gwybodaeth ac yn trafod y newidiadau, ee drwy grŵp gweithredu strategol ADY neu ei grwpiau arbenigol.
10
Cymorth gweithredu / trosglwyddo
Er mwyn paratoi ar gyfer y system newydd, bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £20m dros y 4 blynedd nesaf. Caiff £1.1m o'r buddsoddiad hwnnw ei ddarparu drwy Gronfa Arloesi ADY. Mae’r elfen hon o’r rhaglen i drawsnewid y system ADY yn ymwneud â chefnogi’r system gyfan wrth i ymarferwyr newid arferion gwaith a diwylliant, datblygu cysylltiadau ac arferion gwaith amlasiantaethol, a gweithio gyda phartneriaid ar y Cod a chynlluniau gweithredu. Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi arian i gefnogi llawer o’r gwaith hwn – mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cyhoeddi buddsoddiad o £20m rhwng a i gefnogi partneriaid i weithredu’r system ADY newydd yn llwyddiannus. Mae rhywfaint o’r cyllid i weithredu’r system newydd - £10.1m – wedi’i ddyrannu fel rhan o ymrwymiad ehangach i ddarparu £100m ychwanegol i wella safonau ysgolion yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Y nod yw codi safonau ac ehangu cyfleoedd ein holl bobl ifanc – plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yw bron i chwarter poblogaeth ein hysgolion; ni allwn godi safonau heb dargedu’r grŵp hwn o ddysgwyr gyda’n hadnoddau a’n gweithgareddau i wella’u perfformiad. Grant yw Cronfa Arloesi ADY a delir cyn i’r ddeddfwriaeth fynd drwodd i gefnogi prosiectau cydweithredol rhwng amrywiaeth eang o asiantaethau sy’n cefnogi dysgwyr ag ADY. Ei nod yw dod o hyd i arferion arloesol sy’n gwella systemau, trefniadau a chysylltiadau, a’u datblygu, yn barod ar gyfer y newidiadau deddfwriaethol arfaethedig. Caiff yr hyn a ddysgir drwy’r prosiectau a ariennir gan y cynllun grant ei rannu ledled Cymru a bydd yn gyfle allweddol i ddatblygu ffyrdd o weithio sy’n gyson â’r diwygiadau ac i ddylanwadu ar y broses drawsnewid a gweithredu.
11
Cymorth gweithredu / trosglwyddo
Defnyddiwch y sleid hon i nodi sut rydych yn paratoi ar gyfer gweithredu’r Bil, er enghraifft: Hyfforddiant mewn ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn Prosiectau’r gronfa arloesi Cynllun gweithredu Ymgysylltu â’r arweinydd trawsnewid rhanbarthol/addysg bellach ac ati
12
Datblygu’r gweithlu Mae gweithlu medrus yn ganolog i'r rhaglen drawsnewid a bydd tair lefel i'w ddatblygiad: Datblygu sgiliau craidd ar gyfer pob ymarferwr er mwyn cefnogi amrywiaeth eang o ADY cyffredin iawn ond llai cymhleth mewn lleoliadau a mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus; Datblygu sgiliau uwch trwy ddatblygu rôl Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a fydd yn disodli’r Cydlynwyr AAA presennol; Datblygu sgiliau arbenigol trwy system genedlaethol i gynllunio’r gweithlu ar gyfer gwasanaethau cymorth arbenigol a ddarperir gan awdurdodau lleol i leoliadau addysg – er enghraifft, seicolegwyr addysg ac athrawon disgyblion â nam ar y golwg neu’r clyw. Datblygu sgiliau craidd – mae Llywodraeth Cymru yn comisiynu rhaglen hyfforddi i ddarparu pecyn hyfforddi amlasiantaethol mewn pryd ar gyfer gweithredu’r Bil. Datblygu sgiliau uwch – mae Llywodraeth Cymru yn datblygu llwybr datblygiad ar gyfer Cydlynwyr ADY. Datblygu sgiliau arbenigol – mae CLlLC wedi cynnal arolwg ar wasanaethau cymorth arbenigol awdurdodau lleol. Caiff y data eu dadansoddi a’u defnyddio i lywio cynlluniau ar gyfer gweithlu arbenigol.
13
Datblygu’r gweithlu Defnyddiwch y sleid hon i nodi unrhyw hyfforddiant sydd ar gael i’ch cyflogeion/gan eich sefydliad a fydd yn help i ymbaratoi ar gyfer y system newydd.
14
Codi ymwybyddiaeth Hollbwysig i helpu pawb o fewn y system i ddeall
y dystiolaeth dros arferion gorau, beth gellir ei ddisgwyl o ymyriadau, yr ymyriadau sy'n debygol o fod fwyaf effeithiol, rôl gweithwyr proffesiynol er mwyn sicrhau disgwyliadau realistig a bod adnoddau yn cael eu defnyddio mewn ffordd effeithiol. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi cyfres o ddeunyddiau i helpu’r rheini a hoffai ddeall y diwygiadau a sut y byddant yn gweithio’n ymarferol. Wrth i’r Bil fynd drwy’r broses ddeddfwriaethol, ac inni symud i mewn i’r cam gweithredu, bydd mwy o ganllawiau ar gael a chânt eu cyhoeddi yma: Gallech ddefnyddio’r cyfle hwn i hyrwyddo unrhyw ddeunyddiau y mae eich sefydliad wedi’u creu.
15
Cefnogi'r polisi Pwysig peidio â cholli golwg ar ganllawiau polisi effeithiol i sicrhau bod arferion da yn cael eu cefnogi a’u gwreiddio yn y system AAA bresennol yn ogystal â system ADY y dyfodol. Mae’r elfen hon o’r rhaglen yn canolbwyntio ar lunio polisi a chanllawiau i sicrhau bod arferion da yn cael eu cefnogi a’u sefydlu o fewn system bresennol anghenion addysgol arbennig yn ogystal ag o fewn y system sydd i ddod. Eleni, er mwyn cefnogi ymarferwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar: gyllid ôl-16 i ddysgwyr sydd ag anawsterau dysgu mewn colegau arbenigol rôl y Cydlynydd AAA cefnogi dysgwyr sydd ag anawsterau dysgu penodol cefnogi dysgwyr sydd ag anghenion gofal iechyd.
16
Hynt y gwaith a'r camau nesaf
Arweinwyr trawsnewid rhanbarthol ac Addysg Bellach Canllaw trosglwyddo Parodrwydd, cydymffurfio a monitro effaith Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu pum swydd ‘arweinydd trawsnewid’. Bydd pedwar o’r arweinwyr trawsnewid yn gweithio ar ôl-troed consortia addysg rhanbarthol a bydd un arweinydd addysg bellach yn gweithio ar lefel Cymru gyfan. Bydd yr arweinwyr yn chwarae rôl hollbwysig yn y strategaeth weithredu, gan sicrhau bod partneriaid gweithredu yn cael eu paratoi, yn cael adnoddau a hyfforddiant, ac yn gweithio gyda’i gilydd er lles plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, gan sicrhau mai’r dysgwyr hyn yw’r flaenoriaeth yn hyn i gyd. Bydd yr arweinwyr yn cydlynu gweithgareddau gan ddefnyddio grantiau gweithredu awdurdodau lleol sydd wedi’u cronni’n rhanbarthol. Bydd hyn yn sicrhau bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn cyflawni cymaint â phosibl drwy fanteisio ar ddarbodion maint a hwyluso cynllunio a gweithio rhanbarthol. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau cyn lleied â phosibl o fiwrocratiaeth o ran y grantiau ac mai darpariaeth gwasanaeth a gwerth am arian yw’r blaenoriaethau. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllaw trosglwyddo ar gyfer pob sector er mwyn sicrhau newid didrafferth o un system i’r llall. Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y ffordd y caiff y Bil ei weithredu yn cael ei monitro’n ofalus, bod camau yn cael eu cymryd i fynd i’r afael yn effeithiol â materion sy’n codi er lles plant a phobl ifanc, a bod arferion gorau yn cael eu nodi a’u rhannu ledled Cymru. Rhoddir ystyriaeth i’r camau canlynol: O Parodrwydd: asesu i ba raddau y mae awdurdodau lleol ac asiantau gweithredu eraill yn barod ar gyfer y newidiadau sydd ar droed O Cydymffurfio: pa mor effeithiol y maent yn cydymffurfio â’r gofynion deddfwriaethol newydd unwaith y byddant yn weithredol O Effaith: sut ac i ba raddau y mae’r newidiadau yn ennill eu plwyf ac yn effeithio ar ddeilliannau dysgwyr.
17
Hynt y gwaith a'r camau nesaf
Efallai y byddwch am ychwanegu eich camau nesaf fel sefydliad yma
18
www.llyw.cymru/ADY SENreforms@cymru.gsi.gov.uk
Efallai y byddwch hefyd am ychwanegu eich manylion cyswllt i’r sleid hon
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.