Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

CADW COFNODION TYWYDD.

Similar presentations


Presentation on theme: "CADW COFNODION TYWYDD."— Presentation transcript:

1 CADW COFNODION TYWYDD

2 Shw’mai Gyfeillion! Llongyfarchiadau ar gwblhau’r dasg ddiwethaf! Rydych chi’n Wyddonwyr Gwych! Yn y dasg nesaf, byddwn ni’n trafod sut i gasglu a chofnodi gwybodaeth.

3 Cynllunio eich Ymchwiliad
Cyn i chi ddechrau unrhyw ymchwiliad mae’n bwysig ystyried cyn cychwyn. Cofiwch, rydym yn ceisio darganfod: ‘Sut y mae newidiadau i dymheredd y gwanwyn yn effeithio ar amser blodeuo bylbiau cennin pedr a chrocws’. Beth fyddwch chi yn ei wneud? Darllenwch ymlaen am ychydig o gymorth. OK, this is how it works: You will be collecting information on clipboards (CLICK) from the living laboratory. (CLICK) You will then enter information onto the web (CLICK) (CLICK) Which will then be used by Museum Experts (CLICK) (CLICK) to answer some very important questions (CLICK) about our world (CLICK). There are lots of other schools across Wales taking part in this experiment, so this morning I’m going to train you up on how to be a scientist in this mini laboratory. Leading questions: Who can look at our information when it’s on the internet? (CLICK)

4 Cwestiynau da i’w gofyn wrth gynllunio ymchwiliad…
Beth yr ydym yn ei ddisgwyl i ddigwydd? Pa wybodaeth y dylem ei gasglu? Sut fyddwn ni yn ei gasglu? Pa offer fyddwn ni yn ei ddefnyddio? Sut fyddwn ni yn ei wneud yn brawf teg? A fydd unrhyw risg neu beryglon?

5 Pa wybodaeth sydd angen i ni ei gasglu?
Tymheredd? Nifer o ddail a farciwyd gan bryfetach? Glawiad? Nifer o bryfed peillio? (gwenyn neu glêr ) Nifer o Eliffantod? Taldra planhigyn? Dyddiad blodeuo? Nifer o ddail? Mwyafswm nifer y blodau? Lliw pensil?

6 Rhaid i ni gasglu dim ond…
Tymheredd? Nifer o ddail a farciwyd gan bryfetach? Glawiad? Nifer o bryfed peillio? (gwenyn neu glêr ) Nifer o Eliffantod? Taldra planhigyn? Dyddiad blodeuo? Nifer o ddail? Mwyafswm nifer y blodau? Lliw pensil?

7 Pa offer ac unedau y dylid eu defnyddio ar gyfer cofnodi?
Mesur Offer Unedau Tymheredd? Glawiad? Taldra plahigyn? Dyddiad blodeuo?

8 Mae Athro’r Ardd yn awgrymu:
Mesur Offer Unedau Tymheredd: Thermomedr Selsiws (°C) Glawiad: Mesurydd glaw Milimedrau (mm) Taldra plahigyn: Pren mesur Dyddiad blodeuo: Calendr Yn ôl dyddiad (01/02/06)

9 Rheolau Cofnodi Mae sut rydyn ni’n casglu gwybodaeth yn bwysig iawn i wneud yn siŵr bod eich prawf yn deg, dilynwch fy rheolau cofnodi. Rhwng Tachwedd ac Ebrill - cadwch gofnod o’r tywydd. Rhwng Ionawr ac Ebrill cadwch gofnodion blodeuo.

10 Offer angenrheidiol 1 mesurydd glaw 1 thermomedr 1 pren mesur
1 siart tywydd

11 Cadw cofnod o’r tywydd Rhwng Tachwedd ac Ebrill, cadwch gofnodion dyddiol o’r tymheredd (°C) a’r glawiad (mm). Edrychwch ar siart tywydd eich ysgol am fanylion. Cofiwch gadw’ch cofnodion tua’r un amser bob prynhawn – ar amser sy’n gyfleus i chi. Ar ddiwedd pob wythnos, ewch i’r wefan i anfon eich cofnodion at Athro’r Ardd. Bydd angen i chi wybod enw defnyddiwr eich dosbarth a’ch cyfrinair.

12 Amser ymarfer Os gallwch chi, ymarferwch greu cofnodion y tywydd:
Rhowch tipyn bach o ddŵr yn eich mesurydd glaw. Gofynnwch i bawb yn y dosbarth nodi eu mesuriad yn eu tro. Ydych chi i gyd wedi nodi’r un ateb? Os na, pam? Gwnewch yn siŵr bod pawb yn darllen yn iawn. Gwnewch ymarfer debyg gyda’r thermomedr. Anfonwch eich straeon a’ch lluniau i’n blwg bylbiau a dilynwch Athro’r Ardd ar Twitter!

13 Astudiwch a chymharwch (www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau)
Ar ôl i chi anfon eich data bydd y wefan yn creu siart dywydd gan roi'ch ysgol ar fap bylbiau'r gwanwyn. Astudiwch siart dywydd eich ysgol a'i chymharu â siartiau tywydd ysgolion eraill.

14 Cadwch gofnodion wythnosol am gyfle i ennill gwobr i’ch dosbarth!

15 Yn cynnwys: Bws am ddim a diwrnod o weithgareddau natur dan arweiniad ar gyfer un dosbarth. Bydd enillydd o dde Cymru yn ymweld â Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru neu bydd enillydd o ogledd Cymru yn ymweld ag Amgueddfa Lechi Cymru. Bydd Ymddiriedolaeth Edina yn trefnu gwobrau i ysgolion sy'n cymryd rhan yn brosiect nhw. Ewch i

16 Am gyfle o ennill: Cofiwch anfon eich cofnodion tywydd wythnosol i’r wefan erbyn 29 Mawrth. Byddwn yn cyhoeddi’r wythnos o 23 Ebrill a chaiff y trip ei threfnu erbyn 22 Mai. Bydd pob disgybl sy'n anfon ei gofnodion yn derbyn tystysgrif Gwyddonydd Gwych, pensil a hadau blodau haul. Pwysig: Os na allwch anfon eich data cysylltwch ag Athro'r Ardd:

17 Nawr, gobeithio eich bod chi’n deall:
Pa wybodaeth ddylech chi ei chasglu. Pa offer ddylech chi ei defnyddio. Sut i gasglu’r wybodaeth. Llongyfarchiadau ar gwblhau’r dasg! Rydych chi’n Wyddonwyr Gwych go iawn!


Download ppt "CADW COFNODION TYWYDD."

Similar presentations


Ads by Google