Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
1
Her Dinasyddiaeth Fyd-eang CA5
UWCH/DINASYDDIAETH/GWE
2
UWCH/DINASYDDIAETH/GWE
PWRPAS Pwrpas yr Her yw datblygu eich sgiliau tra rhoi’r cyfle i chi ddeall ac ymateb i faterion byd-eang Byddwch yn datblygu sgiliau Meddwl yn feirniadol, Datrys Problem, Creadigrwydd ac Arloesedd gan eu defnyddio nhw yn bwrpasol yn eich gwaith UWCH/DINASYDDIAETH/GWE
3
UWCH/DINASYDDIAETH/GWE
YR HER Mae’r ysgol am drefnu cynhadledd er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc fynegu eu barn am faterion llosg fyd-eang. Bydd y gwersi nesaf yn eich paratoi chi ar gyfer y digwyddiad hwn UWCH/DINASYDDIAETH/GWE
4
UWCH/DINASYDDIAETH/GWE
Materion Byd-eang Iechyd Bwyd & lloches Poblogaeth Trafnidiaeth Economi Amgylchedd naturiol UWCH/DINASYDDIAETH/GWE
5
PARATOI AT YR FFUG HER (Mawrth)
Byddwch yn cael dewis 1 mater o restr o faterion byd-eang Byddwch yn cael 2 wythnos er mwyn dod o hyd i erthyglau (adref & ysgol) sydd yn ymwneud â’r mater hwn Byddwch yn dod â’r erthyglau/dogfennau (dim nodiadau arnynt) i fewn i’ch athro er mwyn eu cadw mewn ffeil nes i’r asesiad gychwyn UWCH/DINASYDDIAETH/GWE
6
UWCH/DINASYDDIAETH/GWE
TASG 1 SAFBWYNT PERSONOL Byddwch yn ymchwilio i fewn i’r erthyglau a dogfennau yr ydych wedi eu dewis er mwyn dod i farn. Bydd rhaid i chi ddefnyddio’r erthyglau a dogfennau er mwyn cefnogi eich dadleuon. Bydd rhaid i chi ddangos eich bod wedi ystyried hygrededd y ffynonellau ac eich bod wedi ystyried ffactorau PESTLE (gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, cyfreithiol & amgylcheddol) Byddwch yn ysgrifennu darn (dim mwy na 1000 o eiriau) yn cynnwys yr uchod yn ogystal â ffeithiau, ffactorau, barn a safbwyntiau gwahanol am y mater byd–eang. Rhaid nodi nifer y geiriau yn glir ar waelod y darn ysgrifenedig. UWCH/DINASYDDIAETH/GWE
7
UWCH/DINASYDDIAETH/GWE
TASG 2 CYFRANIAD MEWN CYNHADLEDD BYD-EANG Gan ddefnyddio eich safbwynt personol, mi fyddech chi yn cyflwyno eich cyfraniad mewn Cynhadledd Dewisiadau Byd-eang Byddech yn dewis gwneud hyn drwy ARAITH (10 munud), CYFLWYNIAD LLAFAR (5 munud) & chyfraniad ychwanegol (clip fidio, can, animeiddiad) neu BAPUR CYNHADLEDD (500 o eiriau) sydd yn cynnwys amlinelliad o argymhellion allweddol y dylid eu trafod yn y gynhadledd Dylech ddangos eich bod yn gallu dadlau eich pwynt, cyflwyno barn neu safbwynt clir mewn darn strwythuredig, creadigol ac arloesol, gallu datblygu a chyflwyno rhesymau darbwyllol sydd wedi eu cefnogi’n dda yn seiliedig ar dystiolaeth ategol UWCH/DINASYDDIAETH/GWE
8
UWCH/DINASYDDIAETH/GWE
TASG 3 ADOLYGIAD PERSONOL Byddech yn llunio adolygiad personol o’r ffordd y datblygwyd ac y defnyddiwyd eich sgiliau yn ystod yr Her a’ch cyfraniad at y Gynhadledd Bydd yr athrawes yn rhoi adborth i chi ar gyfer tasg 1 & Tasg 2 ac mi gewch ddefnyddio y wybodaeth yma yn eich adolygiad UWCH/DINASYDDIAETH/GWE
9
UWCH/DINASYDDIAETH/GWE
FFUG ASESIAD Gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio yr holl sgiliau a thechnegau y bydden ni yn eich dysgu chi yn ystod y gwersi nesaf ! Unwaith y bydd yr asesiad yn cychwyn, mi fyddech chi yn gweithio dan amodau arholiad ac ni fydden ni yn cael rhoi mwy o gymorth i chi! UWCH/DINASYDDIAETH/GWE
10
Advanced/Global Challenge/GwE
BRIFF Y FFUG HER Mae'r byd yn wynebu heriau byd-eang, sy'n gofyn am atebion byd-eang. Drwy feithrin gwybodaeth am y mater a meithrin dealltwriaeth o fater byd-eang byddwch yn dechrau datblygu eich Safbwynt Personol. Cewch gyfle i gyflwyno eich dull chi o ymdrin ȃ'r mater byd-eang yn y Gynhadledd Dewisiadau Byd-eang. Rhaid i chi ddatblygu a chefnogi dadleuon, barn a safbwyntiau penodol ar fater byd-eang. Os yw datrysiadau dichonadwy i'w canfod mae hi'n hanfodol rhannu eich syniadau am y ffyrdd o weithredu trwy ymgysylltu ag eraill. Mae'r Her yn gyfle i chi hybu eich dynesiad eich hunan ar gyfer datrysiadau a strategaethau er mwyn taclo'r mater byd-eang yn y Gynhadledd Dewisiadau Byd-eang. Dylech gyfleu eich neges mewn ffordd greadigol ac arloesol er mwyn ymgysylltu ag aelodau o'r gynulleidfa a'u hannog i feddwl a gweithredu fel dinasyddion byd-eang. Byddwch yn ymchwilio i fater yn ymwneud â Phoblogaeth Fyd-eang Iechyd sydd wedi'i seilio ar Boblogaeth sy’n heneiddio. Bydd y gynhadledd y byddwch yn cyfrannu ati yn canolbwyntio ar: 'Mae poblogaeth sy'n heneiddio yn fater sy'n wynebu nifer o wledydd. Beth ddylid ei wneud i daclo'r mater?' ... a gynhelir ar Fawrth 14eg yn yr Ystafell Gynhadledd. Bydd y sgiliau y byddwch yn eu meithrin yn yr Her Ddinasyddiaeth Fyd-eang yn rhoi'r gallu a'r hyder i chi fod yn ddinasyddion byd-eang rhagweithiol, sy'n barod i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y byd. Advanced/Global Challenge/GwE
11
Rheoli’r ffug Her Advanced/Global Challenge/GwE Wythnos
FFUG HER DINASYDDIAETH BLWYDDYN 12 ATHRO YSTAFELL 8.2.16 Gosod y briff ffug ar gyfer y gynhadledd Edrych ar esiamplau CBAC & uwcholeuo sgiliau/edrych ar y criteria marcio Gwaith Cartref: Ymchwilio’r mater & dod o hyd i erthyglau (erthyglau i’r ysgol mewn 2 wythnos) Athro Dosbarth Dosbarth Sicrhau bod disgyblion efo erthyglau (5 mwyafrif) Atgoffa’r disgyblion o’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y tasgau & sut i wneud safbwynt/araith/myfyrdod Athro i gadw’r holl erthyglau mewn ffeiliau yn y dosbarth Paratoi Safbwynt Personol (4 gwers) ARGRAFFU’R GWAITH & RHOI COPI I’R ATHRO Adnoddau: erthyglau o’r ffeil Arolygwr TGCH Dim rhyngrwyd ATHRO I FARCIO TASG 1 & RHOI ADBORTH I’R DISGYBL (NID MARCIAU) 7.3.16 Paratoi Cyfranogiad i’r Gynhadledd (araith/cyflwyniad/papur) (4 gwers) Adnoddau: Adborth Tasg 1, adnoddau ar sut i wneud araith ayyb, TGCH & Rhyngrwyd. ARGRAFFU COPI O’R GWAITH I FYND ADREF I ADOLYGU & COPI I’R ATHRO CYNHADLEDD IECHYD Gwers 1: Disgyblion i ymarfer Gwersi 2-6 : Cyfranogi i’r Gynhadledd ASESWYR & 1 UDRH YSTAFELL GYNHADLEDD ATHRO I FARCIO TASG 2 - Myfyrdod Personol (1 wers) Y 3 tasg i’w marcio gan yr athro CYMEDROLI O FEWN YR ADRAN BAC AR OL Y PASG Advanced/Global Challenge/GwE
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.