Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Cynhadledd Tiwtoriaid

Similar presentations


Presentation on theme: "Cynhadledd Tiwtoriaid"— Presentation transcript:

1 Cynhadledd Tiwtoriaid
Cymraeg i oedolion 2 Rhagfyr 2011

2 Amcanion Rhoi gwybod i gynadleddwyr am arolygiadau Estyn
Codi ymwybyddiaeth am y modd y byddwn yn barnu gwaith tiwtoriaid

3

4 Beth yw’r newidiadau allweddol?
Arolygiadau craidd byrrach yn ogystal â gwaith dilynol amrywiol Ymestyn arolygiadau sy’n cael eu harwain gan Estyn a chynnwys cymheiriaid Pwyslais ar adeiladu cynhwysedd ar gyfer hunan arfarnu Ffocws ar foddhad cwsmeriaid

5 Dibenion arolygu Cyflawni atebolrwydd cyhoeddus
Hyrwyddo a lledaenu arfer dda Llywio polisi

6 Beth yw’r newidiadau allweddol?
Adroddiadau cliriach, mwy hygyrch Fframwaith a system farnu symlach Cyfnod byrrach o rybudd ymlaen llaw

7 Cryfderau yn gorbwyso meysydd i’w gwella Anfoddhaol
Y fframwaith newydd Barnau: Rhagorol Llawer o gryfderau, gan gynnwys enghreifftiau arwyddocaol o arfer sy’n arwain y sector Da Llawer o gryfderau a dim meysydd pwysig y mae angen eu gwella’n sylweddol Digonol Cryfderau yn gorbwyso meysydd i’w gwella Anfoddhaol Meysydd pwysig i’w gwella yn gorbwyso cryfderau

8 perfformiad cyfredol y darparwr rhagolygon gwella
Dwy farn gryno Barnau cryno: perfformiad cyfredol y darparwr rhagolygon gwella

9 Cwestiynau allweddol Cwestiwn allweddol 1: Safonau a lles Cwestiwn allweddol 2: Darpariaeth yn cynnwys addysgu a gofal, cymorth ac arweiniad Cwestiwn allweddol 3: Arweinyddiaeth a rheolaeth

10 Cadw ac ymestyn nodweddion o’r hen gylch
Dechrau gyda hunan arfarniad y Ganolfan Ranbarthol Cynnwys arolygwyr cymheiriaid Defnyddio enwebeion Cylch chwe blynedd

11 Hyrwyddo gwelliant Mwy o waith dilynol: Astudiaeth achos arfer dda
Monitro gan Estyn Gwelliant sylweddol Mesurau arbennig

12 Cwestiynau y dylai darparwyr eu gofyn
A yw safonau ….? Beth yw cyfradd y cynnydd? Sut mae ein darpariaeth yn cymharu? Beth mae angen ei wella? Beth mae’n rhaid i’r ganolfan ei wneud i wella?

13 Trefn yr arolygiad Dydd Llun: Cyfarfod cyn arolygiad
Dydd Mawrth: Ymweliadau a chyfarfodydd Dydd Mercher: Ymweliadau a chyfarfodydd Dydd Iau: Ymweliadau a chyfarfod cymedroli Dydd Gwener: Ysgrifennu’r adroddiad drafft Cyfarfod adborth i’r uwch swyddogion

14 Ymweliad dosbarth Hyd yr ymweliad
o leiaf 30 munud, ond yn aml 60 munud Gweithgareddau Arsylwi ar gynnydd y dysgwyr Edrych ar lefelau presenoldeb Edrych ar gynllun y wers Edrych ar adnoddau a chyflwr yr ystafell Sgwrsio gyda’r dysgwyr am 10 munud Cynnig sgwrs broffesiynol gyda’r tiwtor

15 Arsylwi ar gynnydd dysgwyr -1
Ydy’r dysgwyr yn: gwneud cynnydd da yn eu dysgu? gwrando’n astud? dwyn i gof ffurfiau a ddysgwyd yn flaenorol? ynganu’n gywir? eiddgar i gyfrannu ar lafar? siarad yn gynyddol hyderus yn ôl eu profiad a lefel y dosbarth? datblygu eu medrau iaith a chyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn dda?

16 Arsylwi ar gynnydd dysgwyr - 2
Ydy’r dysgwyr yn darllen: yn gywir? darllen yn hyderus? deall cynnwys y testun? Ydy’r dysgwyr yn ysgrifennu: mewn amrywiaeth o ffurfiau?

17 Arsylwi ar gynnydd dysgwyr - 3
Ar lefelau uwch ydy’r dysgwyr yn: siarad yn gywir? siarad yn ddigymell ? siarad yn estynedig? defnyddio ystod helaeth o eirfa? defnyddio cystrawen yr iaith yn gywir? medru defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau beunyddiol a’u gwaith, lle bynnag y bo modd?

18 Addysgu -1 Ydy’r tiwtor yn: cynllunio’r wers yn dda?
cyflwyno’r wers gyda brwdfrydedd ac egni? atgyfnerthu dysgu blaenorol y dysgwyr yn dda cyn symud ymlaen i bwnc newydd?

19 Addysgu - 2 Ydy’r tiwtor yn defnyddio ystod eang o weithgareddau dysgu effeithiol, er enghraifft drilio iaith newydd; gweithgareddau gwylio neu wrando pwrpasol; gwaith llafar unigol, gwaith pâr, gwaith grŵp, dosbarth cyfan; a gweithgareddau darllen ac ysgrifennu.

20 Addysgu - 3 defnyddio’r iaith Gymraeg yn helaeth yn ystod y wers?
Ydy’r tiwtor yn: defnyddio’r iaith Gymraeg yn helaeth yn ystod y wers? sicrhau bod cyflymder y gwersi yn dda? gwneud defnydd da o ystod o adnoddau addysgu o ansawdd uchel? talu sylw da i ynganu? gwneud defnydd da o dasgau gwaith cartref i wella sgiliau dysgwyr?

21 Addysgu - 4 Ydy’r tiwtor yn:
herio dysgwyr i ymestyn eu dealltwriaeth a'u defnydd o sgiliau iaith mewn ystod o gyd-destun gwahanol? cynnig adborth da i ddysgwyr a sôn am y camau dysgu nesaf iddynt? cywiro camgymeriadau mewn modd sensitif?

22 Barn dysgwyr Cyn yr arolygiad:
Bydd sampl o ddysgwyr yn llenwi holiadur barn Yn ystod yr arolygiad: Trefnir grwpiau ffocws o ddysgwyr ar draws y rhanbarth Yn y dosbarth trefnir 10 munud o sgwrs gyda’r dosbarth heb y tiwtor

23 Barn tiwtoriaid Yn ystod yr arolygiad trefnir:
Grwpiau ffocws o diwtoriaid ar draws y rhanbarth Tua 10 munud o sgwrs gyda’r tiwtor ar ddiwedd y sesiwn arsylwi

24 Sgwrs broffesiynol gyda’r tiwtor
Ar ddiwedd y sesiwn arsylwi dylai arolygwyr: gynnig adborth ar y gwaith a welwyd. holi’r tiwtor am y gefnogaeth sydd ar gael iddynt, gan gynnwys: Hyfforddiant mewn swydd Adnoddau Arsylwadau gan diwtor drefnyddion Diogelu

25 Yr adroddiad Cyfarfodydd tîm, sy’n cynnwys yr enwebai, i benderfynu ar y barnau Cynnig adborth a barnau dros dro i uwch rheolwyr y ganolfan ar ddiwedd yr arolygiad Arolygydd arweiniol yn ysgrifennu’r adroddiad Proses o gymedroli mewnol a golygu’r adroddiad yn Estyn Cyhoeddi'r adroddiad


Download ppt "Cynhadledd Tiwtoriaid"

Similar presentations


Ads by Google