Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Glasbrint ar gyfer Newid: Cynllun Ardal Gorllewin Cymru

Similar presentations


Presentation on theme: "Glasbrint ar gyfer Newid: Cynllun Ardal Gorllewin Cymru"— Presentation transcript:

1 Glasbrint ar gyfer Newid: Cynllun Ardal Gorllewin Cymru
Martyn Palfreman Kim Neyland Croeso

2 Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
Yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gydweithio â phartneriaid perthnasol gan gynnwys y GIG wrth ddarparu gofal a chymorth Yn darparu ar gyfer trefniadau partneriaeth a chyfuno cronfeydd rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i gyflawni eu swyddogaethau Yn ei gwneud yn ofynnol sefydlu trefniadau partneriaeth ar olion traed byrddau iechyd lleol, a oruchwylir gan Fyrddau Partneriaeth Ranbarthol sy'n cynnwys uwch gynrychiolwyr o bob sector a defnyddwyr a gofalwyr ‘Mae fy ngofal yn cael ei gynllunio gennyf i gyda phobl yn cydweithio i'm deall i, fy nheulu a'm gofalwr/gofalwyr, gan roi rheolaeth i mi, a dwyn gwasanaethau ynghyd i sicrhau'r canlyniadau sy'n bwysig i mi’

3 Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru
Un o 7 bwrdd a sefydlwyd yng Nghymru o dan Ran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) Aelodaeth draws-sector fel y nodwyd yn y canllawiau statudol Y prif gyfrifoldebau: Dwyn ynghyd yr holl bartneriaid perthnasol a sicrhau eu bod yn cydweithio'n effeithiol i wella canlyniadau i bobl Hyrwyddo integreiddio gwasanaethau allweddol e.e. ar gyfer pobl hŷn, anableddau dysgu, gofalwyr a phlant ag anghenion cymhleth Sefydlu trefniadau partneriaeth a chefnogi trefniadau cronfeydd ar y cyd lle bo'n briodol Sicrhau bod trefniadau priodol ar waith i gyflawni dyletswyddau statudol craidd megis darparu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ac eiriolaeth

4 Integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol: Yr holl elfennau
Rhaglen Gofal Iechyd Canolbarth Cymru Diogelu rhanbarthol Ffyniant i Bawb Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Camddefnyddio sylweddau Deddfwriaeth Llywodraeth Leol Dinas-ranbarth Bae Abertawe a Thyfu Canolbarth Cymru Cynlluniau a strategaethau lleol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl

5 Asesiad Poblogaeth Gorllewin Cymru (2017)
Datblygwyd gan weithgorau ar draws asiantaethau a sectorau Llywiwyd gan ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Yn nodi anghenion ar draws gwahanol grwpiau poblogaeth a bylchau a meysydd i'w gwella mewn perthynas â phob un o'r rhain

6 Asesiad Poblogaeth Gorllewin Cymru (2017)
Y prif gasgliadau: Rhagwelir y bydd yr angen am ofal a chymorth yn cynyddu yng Ngorllewin Cymru yn ystod y ddau ddegawd nesaf, o ran maint a chymhlethdod Disgwylir gostyngiad cyfatebol yn nifer y bobl o oedran gweithio yn y Rhanbarth, gan greu heriau o ran gweithlu cynaliadwy Mae sylfeini sylweddol y gellir adeiladu arnynt o ran (1) arferion da presennol ac (2) asedau yn y gymuned y gellir eu defnyddio i gefnogi'r agenda ataliol Mae gan nifer sylweddol o bobl gyfrifoldebau gofalu ac mae angen ystyried cael gwybodaeth a chyngor priodol ynghylch y cymorth sydd ar gael iddynt a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt yn eu cymunedau

7 Cyflawni Newid Gyda'n Gilydd: Cynllun Ardal Gorllewin Cymru
Cafodd y cynllun ei ddatblygu gan weithgor trawsasiantaethol a'i gymeradwyo gan y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol a phob un o'r partneriaid statudol Cyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018 Yn cwmpasu'r 5 mlynedd nesaf Llywiwyd yn uniongyrchol gan ganfyddiadau'r Asesiad Boblogaeth Yn nodi amcanion strategol lefel uchel a gefnogir gan amrywiaeth o gamau gweithredu ar lefel ranbarthol a lleol Yn cydnabod y Pum Ffordd o Weithio a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Yn ymrwymo i ddull cydgynhyrchiol o weithredu, gan gynnwys Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Yn seiliedig ar saith blaenoriaeth strategol

8 Blaenoriaethau strategol
Trawsnewid Gwasanaethau Anableddau Dysgu ac Iechyd Meddwl Comisiynu integredig Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth / Atal Integreiddio Gwasanaethau a Chronfeydd ar y Cyd Gweithredu System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru Strategaeth Gweithlu Gofalwyr Yr Iaith Gymraeg

9 Llwybr gofal a chymorth ataliol â thri cham
Cadw’n iach ac yn annibynnol yn y gymuned – Atal Cam 1 Cynnal annibyniaeth drwy ddarparu cymorth wedi’i dargedu sy’n atal yr angen i dderbyn pobl i’r ysbyty neu i ofal preswyl hirdymor, neu sy’n fodd i’w rhyddhau’n amserol - Atal Cam 2 Darparu gofal a chymorth priodol, hirdymor, yn canolbwyntio ar ganlyniadau – Atal Cam 3

10 Cadw’n iach ac yn annibynnol yn y gymuned
Datblygu Strategaeth Iechyd a Llesiant a rennir i’r rhanbarth sy’n gwreiddio gwaith atal ac yn lleihau anghydraddoldebau iechyd drwy weithredu prif ffrwd ar draws y system gyfan Sefydlu fframwaith atal rhanbarthol wedi’i seilio ar ymarfer lleol effeithiol gyda’r nod o wneud y gymuned yn gryfach Gwreiddio a hyrwyddo Dewis ac Infoengine fel pyrth gwasanaeth sylfaenol, wedi’u cysylltu â gwasanaeth 111 y GIG a Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd lleol Sefydlu a gweithredu strategaeth ranbarthol i Ofal a Alluogir gan Dechnoleg Gweithredu’r fframwaith trothwy rhanbarthol ‘Y Cymorth Iawn ar yr Adeg Iawn i Blant, Pobl Ifanc a’u Teuluoedd’ sy’n cynnwys help i leihau Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs)

11 Cynnal annibyniaeth drwy ddarparu cymorth wedi’i dargedu
Datblygu model integredig gofal yn y gymuned drwy ganolfannau cymunedol lleol, yn darparu gofal lefel isel rhagweithiol, cyfleusterau ‘camu i fyny’ a rheoli cydgysylltiedig ar gyflyrau cronig, lleihau derbyniadau i’r ysbyty neu ofal tymor hir a chynnal hyn drwy drefniadau cronfeydd ar y cyd Adolygu’r trefniadau ar gyfer Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig a rhoi model rhanbarthol ar waith, yn cynnwys ystyried trefniadau cronfeydd ar y cyd Sicrhau bod oedolion a phlant ag awtistiaeth ac anabledd dysgu neu broblem iechyd meddwl yn cael gofal a chymorth priodol, cydgysylltiedig, wedi’u targedu, drwy ddatblygu a gweithredu Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig rhanbarthol Sicrhau bod gofal a chymorth a dargedir yn diwallu anghenion pobl â dementia drwy weithredu’r Strategaeth Dementia Ranbarthol

12 Darparu gofal a chymorth priodol, hirdymor, yn canolbwyntio ar ganlyniadau
Sicrhau bod trefniadau IAA yn helpu pobl i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth am eu gofal hirdymor Sicrhau bod y Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol wedi ennill ei blwyf Sefydlu gwasanaeth rhanbarthol ar gyfer anghenion cymhleth, a defnyddio adnoddau rhanbarthol lle mae’n briodol Mabwysiadu un contract rhanbarthol a manyleb gwasanaeth i gartrefi gofal pobl hŷn, ynghyd â pholisïau perthnasol a ffordd gyson o ymdrin â sicrhau ansawdd a phryderon sy’n dwysáu

13 Porth Data Gorllewin Cymru
Yn darparu fersiwn ar-lein o'r Cynllun Ardal ac ystorfa ddata sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd

14 Trafodaeth I ba raddau y mae'r amcanion yn y Cynllun Ardal yn adlewyrchu eich gwaith a'ch arferion bob dydd? A ydych yn teimlo y gallwch 'berchen' arno? Beth fyddai eich "peth mwyaf gwerthfawr" o ran newid yng Ngorllewin Cymru? Sut hoffech chi gyfrannu at weithredu'r cynllun ac adolygu'r camau a gymerir? Sut hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru a'r bartneriaeth ehangach?

15 MJPalfreman@sirgar. gov. uk 01267 228978/ 07880 504028 Kneyland@sirgar
/ /


Download ppt "Glasbrint ar gyfer Newid: Cynllun Ardal Gorllewin Cymru"

Similar presentations


Ads by Google