Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
1
Trafodwch y penawdau hyn a chasglwch rai eich hun
Ôl-troed Sbwriel Trafodwch y penawdau hyn a chasglwch rai eich hun © EDINA ym Mhrifysgol Caeredin 2013 Mae’r gwaith hwn o dan Drwydded Anfasnachol Creative Commons Attribution
2
(2007) Y DU: ‘bin sbwriel tirlenwi Ewrop’
Mae’r DU yn gwaredu mwy o wastraff cartref mewn safleoedd tirlenwi nag unrhyw wlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl ymchwil gan Gymdeithas Llywodraeth Leol. Anfonwyd 22.6 miliwn tunnell o sbwriel o gartrefi’r DU i safleoedd tirlenwi yn 2004/5 – y flwyddyn ddiweddaraf y mae ffigurau cymaradwy ar gael ar draws yr UE. 12 Tachwedd
3
(2009) Dim gwastraffu: y dirwasgiad yn arwain at ostwng faint o sbwriel rydym yn ei daflu
Mae cartrefi’n defnyddio llai ac yn ailgylchu mwy, yn ôl y ffigurau swyddogol diweddaraf. ‘Casglom 4.5 y cant yn llai o wastraff yn y flwyddyn ddiwethaf, sydd 7,000 tunnell yn llai o sbwriel’ meddai Mark Banks, rheolwr strategaeth gwastraff Cyngor Dinas San Steffan. ‘Mae hyn yn gyffredin ar draws Llundain Fwyaf gyfan – mae awdurdodau lleol yn adrodd gostyngiad rhwng 3 y cant a 10 y cant yn y sbwriel a gesglir,’ meddai. Dydd Sul 10 Mai 2009
4
Y broblem gyda safleoedd tirlenwi
Yn 2007/08, cynhyrchodd pobl Swydd Rhydychen oddeutu 300,000 tunnell o sbwriel cartref. Mae hynny’n hanner tunnell o sbwriel ar gyfer pob unigolyn yn y sir. Petaech yn rhoi’r cyfan ar gae pêl-droed, byddai’n 1,600 troedfedd o uchder – yr un peth â 110 bws dau lawr wedi’u gosod ar ben ei gilydd.
5
Mae tanau sbwriel a thipio anghyfreithlon yn costio £16 miliwn i’w diffodd
Mae tanau sbwriel yn costio miliynau o bunnoedd y flwyddyn i drethdalwyr, yn ôl Gwasanaeth Tân yr Alban. Roedd y rhan fwyaf o danau a oedd yn ymwneud â sbwriel a thipio anghyfreithlon y llynedd wedi cael eu dechrau’n fwriadol. Roedd ei ffigurau diweddaraf yn dangos bod 7,937 o danau wedi bod yn 2012/13 a oedd yn ymwneud â sbwriel a thipio anghyfreithlon, a bron 90% ohonynt wedi cael eu cynnau’n fwriadol. Roedd mynd i’r afael â’r tanau hyn wedi costio oddeutu £15.9 miliwn. 23 Hydref 2013
6
Os yw miliwn o gartrefi yn cynhyrchu cilomedr sgwâr o sbwriel rhyngddynt, byddai holl gartrefi Prydain Fawr yn cynhyrchu oddeutu 26 Km² Dyma’r hyn sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi bob wythnos – ble fyddech chi’n ei roi?
7
Dyma sut y gallai gwerth blwyddyn o sbwriel o gartrefi Prydain Fawr edrych ar fap.
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.