Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
Published byPhạm Đỗ Modified over 6 years ago
1
Dod â data'n fyw – dulliau ystadegol o ymdrin â materion byd-eang Sesiwn 6, Cyfnod Allweddol 3
Ychwanegwch nodiadau am destun y wers neu wybodaeth gefndir am unrhyw luniau (dewisol).
2
A oedd menywod yn well eu byd o ganlyniad i’r grwpiau gweithredu cyfunol?
Ychwanegwch nodiadau am destun y wers neu wybodaeth gefndir am unrhyw luniau (dewisol).
3
Grymuso Menywod Mae mwyafrif y bobl sy’n byw mewn tlodi yn fenywod.
Mae sgiliau, penderfyniad a syniadau menywod yn adnoddau sy’n cael eu tanddefnyddio’n enbyd mewn perthynas â lleihau tlodi. Mae grymuso menywod yn golygu gwneud y gorau o’r sgiliau hyn fel bod menywod yn gallu cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau a dod o hyd i waith â thâl. Canlyniad grymuso menywod yw lleihau tlodi.
4
Menywod o sefydliad cymorth yn cymryd rhan yn ymchwil Oxfam i ddarganfod pa effaith mae bod yn aelod o grŵp gweithredu cyfunol wedi’i chael ar eu bywydau. Bydd y llun hwn yn dod â’r ffaith bod hwn yn brosiect go iawn yn gweithio gyda menywod go iawn yn Ethiopia yn fyw. Credyd am y llun: Tarekegn Garomsa/Oxfam
5
Mynegai Grymuso Menywod
Mwy o ddylanwad dros yr hyn sy’n digwydd ar ffermydd lle mae’r fenyw yn gweithio. Gallai’r ffermydd hyn fod yn ffermydd teuluol neu ffermydd masnachol. Mwy o lais o ran y ffordd y mae’r arian a enillir wrth ffermio yn cael ei wario. Bod yn berchen ar fwy o arian, tir, anifeiliaid a/neu offer. Hawl menyw i benderfynu beth sy’n cael ei wneud gyda thir, anifeiliaid ac offer ffermio yn cael ei barchu. Mwy o ddylanwad dros fenthyg arian. Mwy o lais o ran y ffordd y mae arian yn cael ei wario yn y cartref (anghenion bob dydd a phwrcasau mwy) Mwy o ryddid i deithio i ffwrdd o’r cartref. Mwy o ryddid i fynd i gyfarfodydd grwpiau gweithredu.
6
Digonolrwydd mewn wyth dimensiwn o rymuso i aelodau a’r rhai nad ydynt yn aelodau yn Ethiopia
Y rhai nad ydynt yn aelodau Graff wedi’i gynhyrchu gan Oxfam. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn - Women’s Collective Action Unlocking the potential of agricultural markets. Adroddiad ymchwil rhyngwladol gan Oxfam. Mae aelodau grwpiau gweithredu cyfunol wedi’u dangos mewn gwyrdd. Mae menywod nad oeddent yn perthyn i grwpiau cyfunol (y grŵp rheoli yn yr astudiaeth) wedi’u dangos mewn porffor. Gweler y nodiadau cefndir am ragor o wybodaeth. Cymryd rhan mewn cynhyrchu Rheolaeth dros incwm a amaethyddiaeth Perchnogaeth ar y cyd o asedau Prynu, gwerthu asedau amaethyddol Mynediad at gredyd Rheolaeth dros incwm yr aelwyd Rhyddid o ran symud Rhyddid i fynychu cyfarfodydd grŵp
7
Cwestiynau ar gyfer siart Ethiopia
Ai’r menywod sy’n aelodau o grwpiau gweithredu cyfunol neu’r rhai nad ydynt yn aelodau sy’n gwneud yn well yn yr wyth dimensiwn? Ym mha ddau ddimensiwn y mae menywod sy’n aelodau o grwpiau yn gwneud waethaf, o gymharu â menywod nad ydynt mewn grwpiau? Ym mha ddau ddimensiwn y mae menywod yn Ethiopia wedi’u grymuso leiaf?
8
Atebion ar gyfer siart Ethiopia
Ai’r menywod sy’n aelodau o grwpiau gweithredu cyfunol neu’r rhai nad ydynt yn aelodau sy’n gwneud yn well yn yr wyth dimensiwn? Yn gyffredinol mae’r menywod nad ydynt yn aelodau o grwpiau yn gwneud yn well, yn chwech o’r wyth dimensiwn. 2. Ym mha ddau ddimensiwn y mae menywod sy’n aelodau o grwpiau yn gwneud waethaf, o gymharu â menywod nad ydynt mewn grwpiau? Rhyddid o ran symud o gwmpas a rhyddid i fynychu cyfarfodydd grŵp. 3. Ym mha ddau ddimensiwn y mae menywod yn Ethiopia wedi’u grymuso leiaf? Mynediad i gredyd a rheolaeth dros incwm yr aelwyd.
9
Cwestiynau pellach Pa ddimensiynau grymuso oedd uchaf i aelodau grwpiau? Pa ddimensiynau grymuso oedd uchaf i’r rhai nad oeddent yn aelodau grwpiau? Pam ydych yn meddwl bod y gwahaniaethau hyn yn bodoli (rhwng aelodau grwpiau a’r rhai nad ydynt yn aelodau)? Yn seiliedig ar y graffiau hyn, a ydych yn credu bod grwpiau gweithredu cyfunol menywod yn effeithiol wrth wella grymuso menywod? Pam neu pam ddim?
10
I ba raddau..? I ba raddau ydych yn cytuno â’r datganiad “mae grwpiau gweithredu cyfunol yn grymuso ffermwyr sy’n fenywod”?
11
Mae grwpiau gweithredu cyfunol yn cael effaith gadarnhaol ar ffermwyr sy’n fenywod.
Cytuno 0% Cytuno 25% Cytuno 50% Cytuno 75% Cytuno 100% Gofynnwch i’r dysgwyr faint y maent yn cytuno â’r datganiad. Gofynnwch iddynt ddewis canran.
12
Mae grwpiau gweithredu cyfunol yn cael effaith gadarnhaol ar ffermwyr sy’n fenywod.
Cytuno 0% Cytuno 25% Cytuno 50% Cytuno 75% Cytuno 100% Ddim o gwbl Yn rhannol Rhywfaint I raddau Gan fwyaf Ar y cyfan Yn bennaf Yn llwyr Yn gyfan gwbl Yn bendant Yn sicr Ychydig Prin I raddau bach Gydag amheuon Cyflwynwch y geiriau y gallent eu defnyddio i egluro faint y maent yn cytuno â’r datganiad
13
I ba raddau..? I ba raddau ydych yn cytuno â’r datganiad “mae grwpiau gweithredu cyfunol yn grymuso ffermwyr sy’n fenywod”? Ysgrifennwch ymateb, gan ddefnyddio’r geiriau ‘cytuno’ a defnyddio’r datganiadau, y siartiau a’r astudiaethau achos yn eich ateb.
14
I ba raddau ydych yn cytuno â’r datganiad “mae grwpiau gweithredu cyfunol yn grymuso ffermwyr sy’n fenywod”? Tair o weithwyr prosesu mêl yn eu cydweithfa. Mae’r menywod hyn hefyd yn cynhyrchu mêl. Bydd y llun hwn yn dod â’r ffaith bod hwn yn brosiect go iawn yn gweithio gyda menywod go iawn yn Ethiopia yn fyw. Credyd am y llun: Tom Pietrasik/Oxfam
15
Eich adroddiad Cyflwyniad (Eglurwch beth yw grwpiau gweithredu cyfunol a pha wledydd a gweithgareddau yr ydych wedi eu hastudio) Paragraff cyntaf (Rhowch ran o’r dystiolaeth sy’n cefnogi’r datganiad: Pa ddata sy’n ei gefnogi? Pa enghreifftiau o’r astudiaethau achos?) Ail baragraff (Rhowch ran o’r dystiolaeth sy’n ymddangos ei bod yn gwrthddweud y datganiad.) Casgliad (Dywedwch i ba raddau yr ydych yn cytuno, ac eglurwch pam: Pa ddata oedd yn darbwyllo fwyaf? Ar y cyfan, a oedd mwy o ddata yn cefnogi neu’n gwrthddweud y datganiad?)
16
Strwythur arall i’r adroddiad
Cyflwyniad (Eglurwch beth yw grwpiau gweithredu cyfunol a pha wledydd a gweithgareddau yr ydych yn eu defnyddio i seilio’ch ateb arnynt) Paragraff cyntaf (Eglurwch y data yn y siartiau a dewiswch rai enghreifftiau sy’n cefnogi’r datganiad a rhai sy’n ymddangos eu bod yn ei wrthddweud.) Ail baragraff (Dewiswch rai o ganfyddiadau’r adroddiad sy’n cefnogi’r datganiad a rhai sy’n ei wrthddweud.) Trydydd paragraff (Eglurwch ddata’r astudiaeth achos a dewiswch peth o’r deunydd a/neu ddyfyniadau sy’n cefnogi’r datganiad ac unrhyw rhai sy’n ymddangos eu bod yn ei wrthddweud.) Casgliad (Dywedwch i ba raddau yr ydych yn cytuno, ac eglurwch pam: Pa ddata oedd yn darbwyllo fwyaf? Ar y cyfan, a oedd mwy o ddata yn cefnogi neu’n gwrthddweud y datganiad?)
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.