Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Bagiau Llyfrau Bwmerang

Similar presentations


Presentation on theme: "Bagiau Llyfrau Bwmerang"— Presentation transcript:

1 Bagiau Llyfrau Bwmerang
Mae Bagiau Llyfrau Bwmerang yn rhan o Pori Drwy Stori, rhaglen genedlaethol ar gyfer plant oedran Derbyn yng Nghymru. Mae Pori Drwy Stori yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a ddarperir gan BookTrust - yr elusen annibynnol sy’n gweithio i drawsnewid bywydau drwy annog cariad at ddarllen. Rydym ni’n mynd i esbonio sut i gael y gorau o Fag Llyfrau Bwmerang eich plentyn, ac yna byddwn ni’n rhannu ychydig o ffyrdd syml y gallwch chi fwynhau llyfrau, bydd yn gweithio gyda llawer iawn o lyfrau gwahanol a fydd yn cefnogi eich plentyn wrth iddyn nhw ddarllen.

2 Bagiau Llyfr Bwmerang Cynlluniwyd i deithio rhwng yr ysgol a’r cartref
Creu cyffro am ddarllen Annog darllen er pleser gartref Rydyn ni wedi derbyn set dosbarth o Fagiau Llyfr Bwmerang. Bydd plant y Derbyn yn cymryd tro i fynd â’r bag adref ac yna’i ddychwelyd i’r ysgol. Byddwch yn cael cadw’r bag am wythnos / pythefnos. Llyfrau Pan fydd eich plentyn yn dod â’r Bag Bwmerang oren gartref, mi fydd yn cynnwys dau lyfr stori a llun hyfryd, un yn Gymraeg ac un yn Saesneg, ac mae’r ddau lyfr yn llawn o bosibiliadau dysgu a hwyl. Mae’r llyfrau’n newid bob blwyddyn ac mae bagiau eleni yn cynnwys Little Monkey a Cled y Cwmwl Unig. Cylchgrawn Fe fydd eich plentyn hefyd yn derbyn cylchgrawn arbennig iddyn nhw ei gadw iddyn nhw’u hunain Mae’r cylchgrawn yn cynnwys llawer o weithgareddau hwyliog i blant a theuluoedd eu cwblhau gyda’i gilydd. Mae ynddo gynghorion gwych ar sut i fwynhau llyfrau a syniadau am ffyrdd y gall rhieni a gofalwyr ddod â’r llyfrau’n fyw.

3 Cylchgrawn Bwmerang Bydd y cylchgrawn yn aros yn y cartref, ond bydd angen dychwelyd y llyfrau i’r ysgol. Fel gweithgaredd ysgol-cartref, gall plant gwblhau’r gweithgaredd tynnu llun ar gefn y cylchgrawn, ei dorri o’r cylchgrawn a’u ddychwelyd i’r ysgol yn y bag oren. Gallwch chi hefyd ateb y cwestiynau syml ar gefn y darlun. Mae BookTrust Cymru am dderbyn adborth gan rieni a gofalwyr gan ei fod yn ei helpu i wella Pori Drwy Stori. Rydym ni wedi clywed y bydd ysgolion sy’n anfon holiaduron yn ôl at BookTrust Cymru erbyn 4ydd Mai yn cael cyfle i ennill Bagiau Llyfrau Bwmerang ar gyfer pob plentyn oedran Derbyn yn eu dosbarth. …………………………………………………………………………………………. (Awgrymiadau yw’r canlynol, a all eich helpu chi i ymgysylltu’n well gyda’ch cynulleidfa): Gwnewch yn siŵr fod gennych Fag Llyfr, copïau o’r llyfrau a’r cylchgrawn ar gael i’r rheini / gofalwyr eu gweld, eu dal ac edrych drwyddyn nhw. Os bydd rhieni / gofalwyr eisoes wedi mynd â’r cylchgrawn adref gyda nhw holwch a ydyn nhw wedi gwneud unrhyw rai o’r gweithgareddau. Crëwch arddangosfa’n dangos rhywfaint o’r gwaith y byddwch eisoes wedi’i wneud yn y dosbarth ynglŷn â’r ddau lyfr.

4 Cled y Cwmwl Unig Little Monkey
Fersiwn sain: booktrust.org.uk/cy-gb/boomerang-book-bags/ Fersiwn Saesneg ar gefn y llyfr Syniadau am bethau i’w trafod Geirfa Beth arall sydd ar gael? Cled y Cwmwl Unig gan Tim Hopgood, addasiad Eleri Huws Fersiwn sain o’r llyfr yn cael ei ddarllen ar wefan Pori Drwy Stori (dolen). Côd QR ar y llyfr hefyd. Ferswin Saesneg o’r stori ar gefn y llyfr. Awgrymiadau am gwestiynau ar flaen ac ar gefn y llyfr – yn rhoi syniadau ychwanegol i rieni a gofalwyr. Mae cymaint o bethau i siarad amdanyn nhw yn y llyfr hwn! Geirfa ar flaen y llyfr – geiriau allweddol. Little Monkey gan Nadia Shireen Clip Youtube o’r awdur yn darllen ei llyfr ( Little Monkey Gwylio a gwrando ar yr awdur yn darllen ei llyfr yma

5 Darllen gyda’ch plentyn
Bydd darllen gyda’ch gilydd bob dydd a chael hwyl gyda straeon yn gwneud eich plentyn yn ddarllenydd mwy hyderus. Darganfu adroddiad diweddar* mai darllen gyda’ch plentyn yw’r peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud i’w gwneud yn ddarllenydd mwy hyderus. Ar ôl darllen, mae canu caneuon, adrodd straeon a chwarae gemau geiriau hefyd yn help mawr, yn ddefnyddiol ac yn weithgareddau llawn sbort sy’n cefnogi darllen eich plentyn. Bydd plant sy’n ddarllenwyr hyderus yn gwneud cynnydd llawer cynt yn yr ysgol na phlant llai hyderus. Bydd dod o hyd i ychydig funudau bob dydd er mwyn darllen gyda’ch plentyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr – a gall fod yn llawer o hwyl! _________________________________________________________________________________ *Yr adroddiad a grybwyllir yw PISA - Let's Read Them a Story! The Parent Factor in Education, 2012 oddi wrth yr OECD:

6 Cynghorion gorau ar gyfer darllen gyda’ch plentyn
Gall rhannu llyfr am gyn lleied â deng munud bob dydd wneud gwahaniaeth enfawr i ddatblygiad ieithyddol, hyder a sgiliau cymdeithasol! Rhannwch lyfrau stori a llun, comics, cerddi, rhigymau, caneuon… Beth fyddwch chi’n ei ddarllen? Dewiswch ystod o lyfrau i’w darllen – llyfrau stori a llun, llyfrau ffeithiol ar bynciau sydd o ddiddordeb i’ch plentyn (er enghraifft trychfilod neu ddeinosoriaid), comics, cylchgronau plant, llyfrau hwiangerddi! Y peth pwysicaf yw dewis llyfrau y byddwch chi a’ch plentyn yn eu mwynhau! Mae darllen beunyddiol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i hyder a gallu darllen plant. Gall cyffroi eich plant o blaid llyfrau a mwynhau llyfrau gael buddiannau hirdymor arwyddocaol iawn. Dangoswyd fod darllen yn gyson i gael mwynhad yn helpu plant a phobl ifanc yn fawr iawn i wneud yn well yn yr ysgol*. *Ffynhonnell: Do Students Read for Pleasure? PISA in Focus (OECD 2011) Cynlluniwyd Bagiau Llyfrau Bwmerang er mwyn annog plant i fwynhau darllen, ac i gefnogi rhieni a gofalwyr i rannu llyfrau gyda’u plant.

7 Mwy o gynghorion gwych! Darllenwch unrhyw bryd, unrhyw le.
Chwiliwch am le tawel. Diffoddwch y teledu, llechi digidol a chyfrifiaduron. Mae amser gwely’n gyfle da. Siaradwch am y lluniau, holwch gwestiynau am yr hyn y gall eich plentyn ei weld. Y peth pwysicaf oll yw eich bod yn cael sbort! Atgoffwch rieni a gofalwyr fod rhagor o gynghorion da yn y cylchgrawn oedd yn eu Bag Llyfrau Bwmerang ac y bydd cwblhau’r cylchgrawn hwn gyda’u plentyn yn rhoi llawer o syniadau iddynt am ffyrdd y gallant fwynhau’r llyfrau yn y bagiau gyda’i gilydd. Mae’r dulliau a’r gemau hyn yn berthnasol i lyfrau eraill yn ogystal!

8 Gemau darllen drwy’r dydd
Canwch ganeuon, adroddwch rigymau a straeon, boed y rheiny’n wir neu’n ddychymyg pur! Chwiliwch am lythrennau a geiriau yn y byd o’ch cwmpas pan fyddwch chi allan (arwyddion, hysbysebion, deunydd pecynnu…) Chwaraewch Mi-wela-i-â’m-llygad-bach-i… Siaradwch am luniau – adroddwch straeon o fywyd y teulu. Siarad: Siaradwch â’ch plentyn, holwch am eu diwrnod, dywedwch wrthyn nhw am eich diwrnod chi. Gallai hyn fod wrth i chi baratoi tê iddyn nhw, rhoi bath iddyn nhw neu wrth gerdded adref o’r ysgol. Dywedwch bethau dwl fydd yn tanio’u dychymyg – os ydyn nhw’n holi ble mae eu hesgidiau, dywedwch rywbeth fel “Dwn i ddim – efallai fod bwystfil wedi’u bwyta nhw?” Synau a siapau llythrennau: Chwiliwch am eiriau a llythrennau pan fyddwch chi allan. Sillafwch enw eich plentyn yn y parc gan ddefnyddio brigau neu ddail, neu ysgrifennwch yn y tywod. Dyfalwch synau dechrau geiriau a gofynnwch iddyn nhw feddwl am eiriau eraill sy’n swnio’r un peth. Edrychwch ar arwyddion a chwiliwch am ragor o lythrennau a’r sŵn y maen nhw’n eu gwneud. Gwnewch yn siŵr fod hyn yn sbort, a pheidiwch â bod ofn ymddwyn yn ddwl am y bydd hyn yn gwneud y profiad cyfan yn fwy cofiadwy i’ch plentyn!

9 Darllen Darllenwch i’ch plentyn
Adroddwch straeon wrth eich plentyn – rhai o lyfrau, rhai am eich bywyd chi a nhw, neu rhannwch straeon o’ch dychymyg! Siaradwch am y llyfrau rydych chi wedi’u darllen Chwiliwch am eiriau sy’n odli wrth i chi ddarllen Gadewch i’ch plentyn eich gweld chi’n darllen Darllenwch yr un llyfr drosodd a throsodd. Darllenwch lyfrau newydd. Darllenwch chi eich hun hefyd. Darllenwch gyda’ch gilydd – yr un geiriau ar yr un pryd. Cyfansoddwch straeon gyda’ch gilydd. Pan fyddwch chi’n siarad gyda’ch plentyn ac yn adrodd straeon, gall hynny ddigwydd mewn unrhyw iaith. Po fwyaf eang yw’r ystod o iaith fyddwch chi’n defnyddio gyda’ch plentyn, y mwyaf o eiriau y byddan nhw’n eu gwybod. Peidiwch â bod ofn mynd yn ôl i ail-ddarllen llyfrau sy’n haws, i gael sbort – llyfrau yr oeddech chi’n arfer eu darllen i’ch plentyn, ond y gallan nhw eu darllen i chi erbyn hyn. Gofynnwch gwestiynau i’ch plentyn am y llyfr a’r cymeriadau – beth fydden nhw’n ei wneud yn y sefyllfa honno, sut fydden nhw’n teimlo… ac ati.

10 Ewch i’ch llyfrgell leol
Mae llyfrgelloedd yn dwlu ar blant – does dim angen i chi fod yn dawel! Dydy llyfrgelloedd ddim yn codi dirwyon ar lyfrau a fenthycir ar gardiau plant. Dewiswch: lyfrau gyda’ch gilydd lyfrau y gallwch chi eu darllen i’ch plentyn lyfr i chi eich hunan Gall mynd ar ymweliad â’r llyfrgell fod yn weithgaredd cyffrous ar ôl ysgol neu ar y penwythnos. Mae’r llyfrgell yn lle gwych i ddarganfod llyfrau i’w darllen. Bydd y llyfrgellwyr yn barod i’ch helpu i ddewis llyfrau os ewch i’w holi. Beth bynnag yw eich diddordebau chi neu ddiddordebau eich plentyn, gallwch ddod o hyd i lyfrau y byddwch chi’n mwynhau eu darllen. Bydd yno lyfrau sy’n hollol ddieithr i chi, llyfrau o’ch plentyndod a llyfrau sy’n cynnwys cymeriadau sydd eisoes yn gyfarwydd ac yn annwyl i chi. _________________________________________________________________________________ (Awgrymiadau yw’r canlynol, a all eich helpu chi i ymwneud yn well gyda’ch cynulleidfa): Rhowch wybodaeth i’ch cynulleidfa am leoliad y llyfrgell leol, sut i ymuno, ac esboniwch ei bod hi’n rhad ac am ddim i wneud hynny. Efallai y byddwch eisiau ychwanegu nad yw llyfrgelloedd yn codi dirwyon ar lyfrau sy’n cael eu benthyca ar gardiau plant os ydych chi’n eu dychwelyd yn hwyr. Dosbarthwch y taflenni gwybodaeth llyfrgell a ddaeth gydag adnoddau Pori Drwy Stori ym mis Ionawr. Efallai yr hoffech wahodd llyfrgellydd i’ch digwyddiad hyd yn oed.

11 Bagiau Llyfrau Bwmerang
Darllenwch i’ch plentyn Siaradwch â’ch plentyn Gadewch i’ch plentyn eich gweld chi’n darllen Ewch i ymweld â gwefan Pori Drwy Stori er mwyn cael rhagor o syniadau: Mae gan y wefan lawer o adnoddau ar eich cyfer chi a’ch plentyn, gan gynnwys fersiwn sain o’n llyfrau Cymraeg, rhigymau a cherddi gemau ar lein Fersiynau rhyngweithiol o lyfrau stori Gallech hefyd fynd i edrych ar brif wefan BookTrust i ddarganfod rhagor o argymhellion am lyfrau: Nodyn: Efallai y byddech yn dymuno darparu nifer fach o lechi digidol neu gyfrifiaduron er mwyn dangos gwefannau Pori a BookTrust er mwyn i rieni allu pori ynddynt ar ddiwedd y sesiwn.

12 Rhannwch yr hyn a wnaethoch!
Trydar: #PoriDrwyStori @BookTrustCymru Rhannwch yr hyn yr ydych yn gwneud - gyda ni ac hefyd gyda BookTrust Cymru – byddem wrth ein bodd yn gweld lluniau ac yn clywed beth wnaethoch chi!


Download ppt "Bagiau Llyfrau Bwmerang"

Similar presentations


Ads by Google