Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Dathliad! (Dyma gyflwyniad ar gyfer unigolion sydd eisiau cyflwyno Llan Llanast i’w heglwys. Gallwch ddefnyddio’r nodiadau sydd o dan bob sleid I’ch arwain).

Similar presentations


Presentation on theme: "Dathliad! (Dyma gyflwyniad ar gyfer unigolion sydd eisiau cyflwyno Llan Llanast i’w heglwys. Gallwch ddefnyddio’r nodiadau sydd o dan bob sleid I’ch arwain)."— Presentation transcript:

1 Dathliad! (Dyma gyflwyniad ar gyfer unigolion sydd eisiau cyflwyno Llan Llanast i’w heglwys. Gallwch ddefnyddio’r nodiadau sydd o dan bob sleid I’ch arwain).

2 Mae’n Eglwys! Yn union fel cynulleidfaoedd eraill
Beth yw Llan Llanast? Mae’n Eglwys! Yn union fel cynulleidfaoedd eraill Beth yn union yw Llan Llanast? Mae Llan Llanast yn eglwys yn ei hawl ei hun. Nid yw’n dilyn fformat traddodiadol capel oherwydd y nod yw darparu rhywbeth sy’n addas ar gyfer teuluoedd sydd heb fynychu eglwys o’r blaen. Ni ddylid ei wneud chwaith er mwyn denu mwy o bobl i’r cwrdd ar ddydd Sul; er y gallai hyn fod yn ganlyniad i Llan Llanast – nid dyna’r bwriad. Fel arfer, digwyddiad misol neu dymhorol ydyw, ond eto gall hyn amrywio.

3 Eglwys ar gyfer pobl o bob oed i addoli Duw gyda’i gilydd
Os oes gennych rai o’r amcanion isod, efallai bod Llan Llanast yn rywbeth y dylech ei ystyried: rydych eisiau gwneud disgyblion i Iesu Grist; hoffech gynnal ‘egwlys’ sy’n addas ar gyfer pobl ar bob cam o daith ffydd; hoffech gyrraedd teuluoedd heb gysylltiad â chapel neu eglwys; hoffech ddangos pwy yw Iesu i deuluoedd drwy waith crefft, cymdeithasu a dysgu anffurfiol.

4 “Messy Church is an all-age fresh expression of church that offers counter-cultural transformation of family life through families coming together to be, make, to eat and to celebrate God.”

5 Unwaith y mis ar amser sy’n gyfleus i deuluoedd
Ffurf Llan Llanast Unwaith y mis ar amser sy’n gyfleus i deuluoedd Croeso Crefft Dathliad Bwyd Beth sy’n digwydd mewn Llan Llanast? Mae pedair elfen i’r digwydd. Bydd Llan Llanast yn para tua awr a hanner i ddwyawr fel arfer. Rhaid dewis lleoliad addas – byddai festri neu neuadd gyda digon o ofod yn dda ond rhaid gwneud yn siŵr ei fod yn leoliad sy’n addas i blant. Dyma’r elfennau:

6 1. Croeso – mae croesawu pobl yn bwysig iawn ac yn gyfle i esbonio’n glir i’r rhieni beth fydd yn digwydd fel modd i’w gwneud i deimlo’n gartrefol. 1. CROESO

7 2. Crefft – dylid ceisio cynllunio sawl bwrdd gyda chyfle i wneud crefft arnynt sy’n gysylltiedig â thema neu stori o’r Beibl. Dylid sicrhau fod amrywiaeth o grefft at bob oed. Bydd rhieni a phlant yn gwneud y crefft gyda’i gilydd. Dyma amser pwysig i bobl ddod i adnabod ei gilydd, creu perthynas a dysgu yn anffurfiol yr un pryd. 2. CREFFT

8 New people coming to church
Celebrate... New people coming to church 3. Dathliad – dyma gyfnod byr – munud ar y mwyaf – i ganu cân, dweud y stori sy’n gysylltiedig â’r crefft a gweddïo. Bydd y stori yn dod â’r elfennau y dysgwyd amdanynt yn y cyfnod o wneud crefft ynghŷd. Cyfle i ddathlu Duw, gwaith achubol Iesu ar y groes, ein bywyd fel cymuned Llan Llanast a theulu. 3. DATHLIAD

9 New opportunities for the team to serve and grow
Celebrate... New opportunities for the team to serve and grow 4. Bwyd – bydd y math o bryd a ddarperir yn ddibynnol ar yr adnoddau ar gael. Annogir pobl i eistedd o gwmpas byrddau/blancedi picnic a chymdeithasu wrth fwyta – darlun o wledd teyrnas Dduw lle mae pawb yn perthyn! 4. PRYD O FWYD

10 Trwy’r bedair elfen hon, y nod yw rhoi cyfle i bobl adeiladu perthynas ac i’r tîm Llan Llanast ddangos pwy yw Duw mewn gair a gweithred.

11 Mae hefyd yn ffordd o ddathlu Duw ac adlewyrchu ei natur greadigol Ef.

12 Wrth groesawu pobl sydd ar gyrion y capel hefyd, mae lletygarwch yn bwysig iawn a pharodrwydd i fod yn rasol ar gyfer anghenion gwahanol deuluoedd.

13 Bydd dau lyfr am Llan Llanast yn cael eu cyhoeddi gan Cyhoeddiadau’r Gair ym mis Mawrth 2015 sef ‘Cyflwyno Llan Llanast’ a ‘Llan Llanast 1’ sy’n llawn gwybodaeth am sut i fynd at i ddechrau eglwys Llan Llanast, ynghŷd â syniadau am weithgareddau, cyngor a mwy am nod y fenter sef mynd â theuluoedd ar daith ffydd. Beth am fynd ar wefan Messy Church i gael mwy o wybodaeth a gwylio fideo neu ddau fydd yn rhoi blas i chi o’r math o ddigwyddiad yw Llan Llanast? (Os am hyfforddiant neu fwy o help, cysylltwch â Menna Machreth, Cydlynydd Cenhadaeth Undeb Bedyddwyr Cymru.)


Download ppt "Dathliad! (Dyma gyflwyniad ar gyfer unigolion sydd eisiau cyflwyno Llan Llanast i’w heglwys. Gallwch ddefnyddio’r nodiadau sydd o dan bob sleid I’ch arwain)."

Similar presentations


Ads by Google