Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
Published byHelmi Karvonen Modified over 5 years ago
1
Hysbysu Gofal Iechyd Cryfhau’r Ddarpariaeth Gymraeg mewn Gofal Iechyd
12ed Tachwedd 2009 Dr Gwyn Thomas – Cyfarwyddwr, Hysbysu Gofal Iechyd a Gofal Cymdeithasol Dr Carwyn Lloyd-Jones – Pennaeth Isadeiledd, Hysbysu Gofal Iechyd
2
Cyflwyniad Hysbysu Gofal Iechyd Prosesau llywodraethu
Gwaith hyn yn hyn Gweithgareddau presennol Cynlluniau hir-dymor Cwestiynau a thrafodaeth
3
Hysbysu Gofal Iechyd Rhaglen moderneiddio gofal iechyd
I gyflawni strategaeth Hysbysu Gofal Iechyd Yn syml, ni yw’r rhaglen genedlaethol ar gyfer cysylltu systemau technoleg gwybodaeth gofal iechyd a gofal cymdeithasol
4
Hysbysu Gofal Iechyd Cynorthwyo’r claf … Un cofnod electroneg… gwybodaeth i’r claf a’r rhai sy’n edrych ar eu hol… Cynorthwyo’r clinigwr a’r gofalydd… … Nifer o welliannau gwasanaethau…Darparu offer, sgiliau a gwybodaeth i glinigwyr, gofalwyr a chleifion i fabwysiadu arfer gorau Cynorthwyo’r system gofal iechyd… Rhwydwaith Cenedlaethol Technolegol integredig… galluogi rhannu gwybodaeth ar draws ffiniau sefydliadau
5
Prosesau llywodraethu
Er mwyn sicrhau bod y gofynion Cymraeg yn cael eu hystyried yn llawn, mae’r systemau canlynol yn eu lle: Grŵp Cynghori Cenedlaethol Grŵp Cyflenwi Cenedlaethol Bwrdd Rhaglen HGI Prosesau Llywodraethu Rhaglenni a Phrosiectau Grŵp Cyfeirio’r Iaith Gymraeg I roi cymorth ac arweiniad i raglen HGI a'i phrosiectau
6
Gwaith hyd yn hyn Wedi canolbwyntio ar ddarparu gwybodaeth ddwyieithog i'r cyhoedd Rhai o'r llwyddiannau allweddol: Darparu safleoedd gwybodaeth iechyd dwyieithog ar y we, fel Darparu fersiwn Cymraeg o’r gwyddoniadur meddygol ar-lein Sicrhau bod llenyddiaeth cynadleddau yn cael ei ddarparu yn Gymraeg ac yn Saesneg Sicrhau bod unrhyw daflenni gwybodaeth i'r cyhoedd yn ddwyieithog
7
Gweithgareddau Presennol
Ffocws y gwaith ar hyn o bryd yw defnyddio TG i hwyluso'r 'anghenion iaith' neu 'dewis iaith’ i gleifion wrth ddefnyddio’r gwasanaethau iechyd Cael ei gyflawni drwy: Casglu gofynion y cleifion a sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei drosglwyddo i'r pwynt lle darperir y gofal. Darparu gwybodaeth ychwanegol i gleifion a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau mwy gwybodus dros eu hunain
8
Meddalwedd Meddyg Teulu
Cofnodi dewision iaith y claf – llafar a cyfathrebiad ysgrifenedig Cofnodi galluoedd y staff i ddarllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg ynghyd â'u parodrwydd i siarad Cymraeg gyda’u cleifion. Modd i greu adroddiadau fel y gall y wybodaeth hon ei drosglwyddo yn hawdd i'r Byrddau Iechyd
9
System Cyfeirio Electronig
Cael ei gyflwyno ar gyfer cyfeirio o’r Meddyg Teulu i ofal eilaidd Peilot yng Nghaerdydd ar hyn o bryd Templedau sy’n cofnodi gwybodaeth perthnasol ar gyfer y cyfeiriad Gwybodaeth cyffredinol/generic yn cynnwys: Dewis iaith gofal Dewis iaith ar gyfer cyfathrebiad ysgrifenedig Lle ar gyfer gwybodaeth perthnasol ychwanegol Templedau perthnasol yn gofyn cwestiynnau pellach Yn y dyfodol, bydd y gwybodaeth yma yn cael ei lenwi’n awtomatig o system y Meddyg Teulu
10
System Cyfeirio Electronig
Ychwanegu dewisiadau iaith fan hyn
11
System Cyfeirio Electronig
Ychwanegu anghenion iaith fan hyn
12
Electronic Referral System
Dewisiadau neu anghenion iaith yn cael eu dangos fan hyn?
13
Fy Iechyd Ar-Lein Gwefan sy’n caniatáu i gleifion gysylltu neu ryngweithio gyda’i meddygfa Bwcio neu ganslo apwyntiad Archebu presgripsiwn amlroddadwy ‘Ebostio y meddyg’ Edrych ar eu cofnod meddygol (hir-dymor) Ar hyn o bryd, yn aros i’r achos busnes gael ei gymeradwyo Prosiect peilot wedi’i wneud gyda EMIS (Cyflenwr Meddalwedd Meddyg Teulu ) Gwefan dwyieithog Bydd dewis iaith y claf yn cael ei darllen o system y MT Bydd yn darparu gwybodaeth ychwanegol i’r claf Bydd y claf yn medru dewis y clinigwr mwyaf addas
14
My Health On-Line Cymraeg / English English Cymraeg / English English
15
Casglu a storio gallu iaith staff yng ngofal eilaidd
Mae’r system ESR (Cofnod Staff Electronig) yn cael ei uwchraddio i gofnodi gallu a pharodrwydd staff i siarad Cymraeg gyda’u cleifion Holiadur hunanasesiad Does dim rhyngwyneb i’r staff cyffredinol – dim ond i staff yr adran Adnoddau Dynol. Felly, bydd y wybodaeth yn gorfod cael eu casglu ar ffurflenni papur (neu ryw fodd arall) Posibilrwydd o ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyfeiriadur Actif Cenedlaethol, Gwasanaeth E-bost Cenedlaethol a’r Porth Clinigol Cymreig i helpu diweddaru’r wybodaeth e.e. galle’r defnyddiwr gael ei annog i ddiweddaru ei ddewisiadau wrth fewngofnodi i’r cyfrifiadur, neu gael e-bost i’w atgoffa i ddiweddaru ei wybodaeth drwy’r Porth Clinigol
16
Gweithgareddau hir dymor?
Ymestyn y Gwasanaeth Demograffeg Cymru (WDS) i storio dewis iaith cleifion Ymestyn system gweinyddu cleifion 'Myrddin' i adalw, storio a diweddaru dewisiadau iaith y cleifion Ymestyn Porth Clinigol Cymru i ddangos dewis iaith cleifion Ymestyn rhestr cyfeiriadau'r gwasanaeth e-bost cenedlaethol i ddangos siaradwyr Cymraeg Creu proses awtomatig i echdynnu gallu iaith Cymraeg staff y meddyg teulu a darparu'r wybodaeth hon ar wefan gyhoeddus. Trwy hynny bydd yn galluogi i gleifion i benderfynu pa bractis meddyg teulu sydd yn fwyaf addas ar eu cyfer
17
Cwestiynau a Thrafodaeth
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.