Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

TYSTYSGRIF LeFel 2 MEWN TECHNOLEG EWINEDD

Similar presentations


Presentation on theme: "TYSTYSGRIF LeFel 2 MEWN TECHNOLEG EWINEDD"— Presentation transcript:

1 TYSTYSGRIF LeFel 2 MEWN TECHNOLEG EWINEDD
Welcome Croeso

2 AROLWG CWRS Blwyddyn academaidd lawn hyd Mehefin y flwyddyn nesaf
Pob dydd Iau 4:30-9:00pm Ddim yn y coleg yn ystod hanner tymor, Nadolig a Phasg Presenoldeb 80% yn ofynnol dros y flwyddyn Os nad ydych yn medru mynychu’r coleg am unrhyw reswm yna gadewch neges cyn i’r sesiwn ddechrau

3 CYNNWYS CWRS Unedau y byddwch yn dysgu: Iechyd a diogelwch
Gofal o gleientiaid a chyfathrebu gyda nhw Triniaeth ddwylo Gwelliannau ewinedd gel Celf ewinedd

4 Cynllun cwrs Tymor un: Iechyd a diogelwch
Gofal o gleientiaid a chyfathrebu gyda nhw Triniaeth ddwylo Tymor dau: Celf ewinedd Gwelliannau ewinedd Tymor tri: Salon fasnachol - asesiadau

5 SUT YR ASESIR Y CWRS Bydd gennych bob un lyfr asesu wedi ei roi gan VTCT y byddwn yn cofnodi eich holl asesiadau ymarferol a’ch arholiadau papur ysgrifenedig allanol ynddynt Bydd eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r theori hefyd yn cael ei asesu a’i gofnodi yn y llyfr hwn Ar gyfer pob uned bydd gennych lyfr gwaith a fydd yn cael ei gwblhau a’i arwyddo gan eich tiwtor pan fo wedi ei orffen.

6 Sut yr asesir y cwrs Bydd gennych nifer o asesiadau ymarferol i’w gwneud ar gyfer pob uned y byddwch yn eu cwblhau ar gleientiaid. Rhaid marcio y rhain fel cymwys (competent) cyn y gellir cwblhau yr uned Mae yna 5 papur allanol i gyd, bydd yr arholiadau hyn yn profi eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r theori yn yr uned

7 Corff yn dyfarnu Y corff yn dyfarnu a ddefnyddiwn yng Ngholeg Menai yw VTCT sydd yn sefyll dros Vocational Training Charitable Trust Maent yn cyhoeddi y llyfrau asesu, yn gosod y meini prawf asesu ac hefyd yn gosod yr arholiadau annibynnol allanol Eu gwefan yw Ymwelwch â’r wefan a chymerwch olwg ar yr holl wybodaeth yno.

8 TrefniaDaethau ansawdd
Yng Ngholeg Menai mae ein safon o addysgu a hyfforddi yn uchel iawn ac mae’n bwysig fod y safonau hyn yn cael eu cynnal I wneud hyn mae gennym drefniadaethau ansawdd yn eu lle Mae aseswyr yn gwneud penderfyniadau am waith myfyrwyr Mae dilyswyr mewnol yn gwirio yn rheolaidd benderfyniadau yr aseswr Mae dilyswyr allanol o VTCT yn ymweld â’r coleg ddwy waith y flwyddyn i sicrhau fod safonau yn cael eu cyfarfod

9 ANHAPUS GYDA PHENDERFYNIAD ASESU
Os ar unrhyw adeg yn ystod eich cwrs rydych yn anhapus gyda phenderfyniad asesu yna mae gennych hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw Yn gyntaf siaradwch gyda eich aseswr i gael adborth pam na wnaethoch basio eich asesiad Os nad ydych yn cytuno gyda’r penderfyniad o hyd yna medrwch siarad gyda dilysydd mewnol y cwrs a fydd yn adolygu’r asesiad a’r canlyniad Os ydych yn anhapus o hyd gyda’r penderfyniad yna medrwch siarad gyda’r dilysydd allanol o VTCT a fydd yn adolygu’r asesiad a’r canlyniad


Download ppt "TYSTYSGRIF LeFel 2 MEWN TECHNOLEG EWINEDD"

Similar presentations


Ads by Google