Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Blwyddyn 1 MAPIO’R SGILIAU AR DRAWS Y CWRICWLWM.

Similar presentations


Presentation on theme: "Blwyddyn 1 MAPIO’R SGILIAU AR DRAWS Y CWRICWLWM."— Presentation transcript:

1 Blwyddyn 1 MAPIO’R SGILIAU AR DRAWS Y CWRICWLWM

2 Llythrennedd Digidol Canlyniadau Disgwyliedig Cwricwlwm TGCh
Fframwaith Cymhwysedd Digidol Blwyddyn 1 – Diogelwch yn Gyntaf 1. Gallu dilyn rheolau penodol wrth fynd ar-lein 2. Deall bod ffyrdd diogel o chwilio am wybodaeth ar- lein 3. Deall peryglon rhannu gwybodaeth bersonol ar-lein 4. Rhoi enw a dyddiad ar eu gwaith creadigol eu hunain 5. Nodi sut i ddefnyddio e- bost yn ddiogel Maen nhw’n defnyddio’r we/technolegau cysylltiedig yn ddiogel gyda chymorth. Maen nhw’n gwybod am TGCh yn eu byd. (L1) Maen nhw’n gwybod am ddefnyddio TGCh yn y byd tu allan. (L2) Maen nhw’n cadw eu gwaith ac yn ei adfer ar eu pen eu hunain. Disgyblion sy’n anfon a chael gwybodaeth yn electronig, gyda chymorth. (L3) Maen nhw’n dod o hyd i wybodaeth o ffynhonnell benodol gan ei defnyddio i ateb cwestiynau syml. (L2) Llinyn: Dinasyddiaeth Elfen: Hunaniaeth, delwedd ac enw da (Blwyddyn 1) Deall bod rhai gwefannau’n gofyn am wybodaeth sy’n breifat a phersonol e.e. nodi gwybodaeth breifat a phersonol a thrafod sut i ddelio â cheisiadau am wybodaeth breifat – heb ddatgelu enw llawn, cyfeiriad, dyddiad geni, ysgol. Llinyn: Dinasyddiaeth Elfen: Iechyd a lles (Blwyddyn 1) Defnyddio dyfeisiau digidol o fewn amgylchedd a reolir, amser a chyd-destun e.e. defnyddio ar gyfer terfyn amser penodol a chanlyniad penodol. Llinyn: Dinasyddiaeth Elfen: Hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth (Blwyddyn 1) Ychwanegu eu henw a dyddiad i waith a wnaeth e.e. teipio enw cyntaf a chyfenw a’i ychwanegu at ddarnau o waith. Llinyn: Dinasyddiaeth Elfen: Ymddygiad ar-lein a seibrfwlio (Blwyddyn 1) Eglurwch mewn modd syml y gellir defnyddio technoleg ddigidol i gyfathrebu a chysylltu ag eraill yn lleol ac yn fyd-eang e.e. testun, delwedd, ffotograffau, fideo, cylchlythyron, e-bost, gwasanaethau gwe Dechrau cydnabod symbolau gwahanol sydd ar-lein e.e. padlock, gwenogluniau Dechrau nodi tebygrwyddau a gwahaniaethau rhwng cyfathrebu all-lein ac ar-lein e.e. dilyn yr un rheolau wrth gyfathrebu wyneb yn wyneb ac ar-lein Defnyddio geiriau a theimladau priodol e.e. geiriau trafod, a gweithredoedd. Nodiadau Athro:

3 Dinasyddiaeth Blwyddyn 1 DCF 1.1 GWEITHGAREDDAU ELFEN
Hunaniaeth, delwedd ac enw da Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: Deall bod rhai gwefannau’n gofyn am wybodaeth sy’n breifat a phersonol e.e. nodi gwybodaeth breifat a phersonol a thrafod sut i ddelio â cheisiadau am wybodaeth breifat – heb ddatgelu enw llawn, cyfeiriad, dyddiad geni, ysgol. GWEITHGAREDDAU Gweler SWGfL Uned Llythrennedd Digidol – Blwyddyn 1 – ‘Cadw hi’n Breifat’

4 Dinasyddiaeth Blwyddyn 1 DCF 1.2 GWEITHGAREDDAU ELFEN Iechyd a lles
Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: defnyddio dyfeisiau digidol o fewn amgylchedd a reolir, amser a chyd-destun e.e. defnyddio ar gyfer terfyn amser penodol a chanlyniad penodol. GWEITHGAREDDAU Sicrhau bod iPads a chyfrifiaduron desg (os ar gael) ar gael i roi darpariaeth well. Nodi cyfarwyddiadau at ddefnydd penodol i’r diwrnod/wythnos honno. e.e. Gosod arwydd wrth Den Digi gyda thasg i’r plant ei chwblhau fel ‘...creu fideo Puppet Pals yn ymarfer brawddegau Cymraeg’. Rhoi cyfyngiadau amser i blant wrth ddefnyddio amserwyr tywod.

5 Dinasyddiaeth Blwyddyn 1 DCF 1.3 ELFEN
Hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: Ychwanegu eu henw a dyddiad i waith a wnaeth e.e. teipio enw cyntaf a chyfenw a’i ychwanegu at ddarnau o waith. GWEITHGAREDDAU Gweler Datgloi Cyfrifiadura Llinyn Llythrennedd Digidol – Blwyddyn 1 - ‘Fy Ngwaith Creadigol’ SWGfL

6 Dinasyddiaeth Blwyddyn 1 DCF 1.4 GWEITHGAREDDAU
Gweler Datgloi Cyfrifiadura Llinyn Llythrennedd Digidol – Blwyddyn 1 - ‘Anfon E-byst’. SWGfL Paru geirfa Gymraeg (neu iaith arall) â gwenogluniau ac wynebau emoji. Dangos symbolau ar-lein o gylch Den Digi (ardal dechnoleg) a gofyn i blant ysgrifennu brawddegau syml yn egluro’r hyn y maen nhw’n ei gynhyrchioli. Gweler Datgloi Cyfrifiadura – Llinyn Llythrennedd Digidol – Blwyddyn 1 – ‘Mynd i Lefydd yn Ddiogel’. SWGfL. Arwain amser cylch ar deimladau. Dechrau drwy ddarllen stori fel ‘Today I feel silly & Other Moods That Make My Day’ gan Jamie Lee Curtis. Siarad am deimladau y siaradwyd amdanynt yn y stori. Arwain trafodaeth am y pethau a wnawn pan deimlwn yn drist/hapus/blin. Trafod ymddygiad priodol. Rhoi cardiau senario i blant. Gofyn iddynt a wnaeth y plant ymddwyn yn briodol ymhob senario. Sut gallwn ni bob amser sicrhau ein bod ni’n trin eraill â pharch? - Byddwch yn garedig mewn gair a gweithred. ELFEN Ymddygiad ar-lein a seibrfwlio Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: Eglurwch mewn modd syml y gellir defnyddio technoleg ddigidol i gyfathrebu a chysylltu ag eraill yn lleol ac yn fyd-eang e.e. testun, delwedd, ffotograffau, fideo, cylchlythyron, e-bost, gwasanaethau gwe Dechrau cydnabod symbolau gwahanol sydd ar-lein e.e. padlock, gwenogluniau Dechrau nodi tebygrwyddau a gwahaniaethau rhwng cyfathrebu all-lein ac ar-lein e.e. dilyn yr un rheolau wrth gyfathrebu wyneb yn wyneb ac ar-lein Defnyddio geiriau a theimladau priodol e.e. geiriau trafod, a gweithredoedd.

7 Ein Byd Digidol Canlyniadau Disgwyliedig Cwricwlwm TGCh
Fframwaith Cymhwysedd Digidol Blwyddyn – Fi yw Vlog 1.Gallu trafod ac egluro’r mathau gwahanol o dechnoleg 2.Creu Vlogs a/neu bodlediadau a’u gweld ar y Rhyngrwyd 3.Dechrau deall sut i bori’r we’n effeithiol 4.Cadw ac Adfer eitemau ar gyfrifiadur / gliniadur a/neu lechen Maen nhw’n defnyddio TGCh i symud eitemau o amgylch sgrin at ddiben penodol (L1). Disgyblion yn ystyried, creu a chyfleu gwybodaeth a syniadau ar ffurfiau gwahanol gan ddefnyddio testun, delweddau, lluniau a sain (L1) Llinyn: Rhyngweithio a Chydweithredu Elfen: Cyfathrebu (Blwyddyn 1) Cyfrannu at gyfathrebu ar-lein dosbarth cyfan neu grŵp e.e. e-bost neu alwad fideo Llinyn: Rhyngweithio a Chydweithredu Elfen: Cydweithredu (Blwyddyn 1) Cydweithio â phartner ar ddarn o waith digidol. Llinyn: Rhyngweithio a Chydweithredu Elfen: Storio a Rhannu (Blwyddyn 1) cadw gwaith drwy ddefnyddio gair cyfarwydd fel enw ffeil e.e. enw/gair allweddol plentyn. Nodiadau Athro:

8 Rhyngweithio a Chydweithredu
Blwyddyn 1 DCF 2.1 ELFEN Cyfathrebu Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: cyfrannu at gyfathrebu dosbarth cyfan neu grŵp ar-lein mewn un iaith neu fwy e.e. e-bost neu alwad fideo. GWEITHGAREDDAU Gweler Datgloi Cyfrifiadura – Ein Llinyn Byd Digidol – Blwyddyn 1 - 'Fi yw Vlog’.

9 Rhyngweithio a Chydweithredu
Blwyddyn 1 DCF 2.2 ELFEN Cydweithio Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: cydweithio â phartner ar ddarn o waith digidol. GWEITHGAREDDAU Gweler Datgloi Cyfrifiadura – Ein Llinyn Byd Digidol – Blwyddyn 1 - 'Fi yw Vlog’.

10 Rhyngweithio a Chydweithredu
Blwyddyn 1 DCF 2.3 ELFEN Storio a rhannu Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: cadw gwaith drwy ddefnyddio gair cyfarwydd fel enw ffeil e.e. enw/gair allweddol plentyn. GWEITHGAREDDAU Gweler Datgloi Cyfrifiadura – Ein Llinyn Byd Digidol – Blwyddyn 1 - 'Fi yw Vlog’.

11 Amlgyfrwng Canlyniadau Disgwyliedig Cwricwlwm TGCh
Fframwaith Cymhwysedd Digidol Blwyddyn 1 (1) – Yn cyflwyno pypedau! 1. Defnyddio technoleg i greu a chyflwyno syniadau mewn amryw fformatau 2. Defnyddio camerâu a fideo’n fwy effeithiol 3. Ystyried amrywiaeth o dechnegau animeiddio Disgyblion yn dechrau trefnu eu tasgau a defnyddio TGCh i greu, trefnu, diwygio a chyflwyno syniadau a gwybodaeth. (L3) Disgyblion yn cadw ac yn adfer gwaith gyda rhywfaint o gymorth. (L2) Maen nhw’n gwybod am ddefnyddio TGCh yn y byd tu allan (L2) Llinyn: Rhyngweithio a Chydweithredu Elfen: Cydweithredu Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: cydweithio â phartner ar ddarn o waith digidol. Llinyn: Rhyngweithio a Chydweithredu Elfen: Storio a rhannu cadw gwaith drwy ddefnyddio gair cyfarwydd fel enw ffeil e.e. enw/gair allweddol plentyn. Llinyn: Cynhyrchu Elfen: Creu Dewis meddalwedd briodol i gwblhau tasgau a roddwyd i ddefnyddio tesun, delweddau, sain, animeiddio a fideo Nodiadau Athro: D.S. Mae llinyn amlgyfrwng Datgloi Cyfrifiadura yn ei hanfod yn set drawsgwricwlaidd o fodiwlau i addysgu’r sgiliau perthnasol yn eu cyd-destun. Gellir cyflwyno’r holl fodiwlau fel gwers yn eich thema/pwnc cyfredol gan fod y cyfan yn gofyn am ddefnyddio cynnwys i hwyluso addysgu’r sgiliau.

12 Canlyniadau Disgwyliedig
Cwricwlwm TGCh Fframwaith Cymhwysedd Digidol Blwyddyn 1 (2) – Awduron anhygoel! 1. Defnyddio technoleg i greu a chyflwyno syniadau mewn amryw fformatau 2. Cyfnerthu defnyddio camera’n effeithiol 3. Creu e-lyfr Disgyblion yn dechrau trefnu eu tasgau a defnyddio TGCh i greu, trefnu, diwygio a chyflwyno syniadau a gwybodaeth. (L3) Maen nhw’n dod o hyd i wybodaeth o ffynhonnell benodol gan ei defnyddio i ateb cwestiynau syml. (L2) Llinyn: Cynhyrchu Elfen: Cynllunio, chwilio am ffynonellau Nodi rhai meini prawf llwyddo mewn ymateb i gwestiynau e.e. dewis lliw priodol ac ychwanegu teitl i fideo Llinyn: Cynhyrchu Elfen: Creu Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: Dewis meddalwedd briodol i gwblhau tasgau a roddwyd i ddefnyddio tesun, delweddau, sain, animeiddio a fideo Nodiadau Athro:

13 Cynhyrchu Blwyddyn 1 DCF 3.1 ELFEN Cynllunio, chwilio am ffynonellau
Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: Nodi rhai meini prawf llwyddo mewn ymateb i gwestiynau e.e. dewis lliw priodol ac ychwanegu teitl i fideo defnyddio testun wrth chwilio am wybodaeth/cyfryngau (delweddau, fideo, sain) a defnyddio porwr gwe’n annibynnol e.e. agor porwr gwe a theipio un gair allweddol i chwilio. GWEITHGAREDDAU Creu Pic Collage o weithgareddau a wnaed yr wythnos hon i dudalen y dosbarth ar wefan yr ysgol. Defnyddio meini prawf llwyddo – defnyddio lliwiau’r ysgol yn y cefndir a theitl i gyflwyno’r Pic Collage. Creu Popplet ar eu hoff fwyd. Yn gyntaf, defnyddio Safari a Google i chwilio am ddelweddau o’u hoff fwyd. Dangos i blant sut i gadw delwedd (drwy dal eu bys i lawr ar ddelwedd a’i gadw yno nes i ‘save image’ ddangos). Yn ail, ychwanegu delweddau i’w Popplet ac ysgrifennu enw pob bwyd isod.

14 Cynhyrchu Blwyddyn 1 DCF 3.2 ELFEN GWEITHGAREDDAU Creu
Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: dewis meddalwedd briodol i gwblhau tasgau a roddwyd i ddefnyddio tesun, delweddau, sain, animeiddio a fideo GWEITHGAREDDAU Defnyddio Book Creator i greu llyfr amdanynt eu hunain a beth maen nhw’n ei hoffi lle gallant ychwanegu testun/clipiau sain a fideos o’u hunain yn dweud neu wneud pethau gwahanol. Neu gallant greu llyfr pwnc e.e. Llyfr am ddeinosoriaid.

15 Cynhyrchu Blwyddyn 1 DCF 3.3 ELFEN GWEITHGAREDDAU Gwerthuso a gwella
Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: rhoi sylwadau ar waith o ran un maen prawf llwyddo e.e. ychwanegu sylwadau gan ddefnyddio nodwedd recordio’n y feddalwedd. GWEITHGAREDDAU Pan fydd plant wedi creu e-lyfr yn Book Creator e.e., defnyddio’r offer recordio i wneud asesiad cymheiriaid a rhoi sylwadau ar waith ei gilydd. Defnyddio’r app ‘Explain Everything’ neu debyg i dynnu ffotograff o rywbeth maen nhw wedi’i greu. Recordio eu 2 seren a dymuniad gan ddefnyddio'r nodwedd recordio.

16 Rhaglennu Canlyniadau Disgwyliedig Cwricwlwm TGCh
Fframwaith Cymhwysedd Digidol Blwyddyn 1 – Rhaglenni Perffaith 1. Deall ystyr ‘algorithm’ (h.y. gallu rhoi a dilyn cyfres o gyfarwyddiadau syml). 2. Deall sut mae dewis cyfarwyddyd yn effeithio ar ganlyniadau Maen nhw’n ystyried effeithiau gwneud newidiadau mewn modelau neu ysgogiadau (L2) Llinyn: Data a Dull Cyfrifiannu Elfen: Datrys Problemau a Modelu (Blwyddyn 1) Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: dilyn cyfres o gamau i ddatrys problemau e.e. rhagfynegi ac egluro pa gamau gweithredu sydd eu hangen i wneud i rywbeth ddigwydd rhannu problem yn ddarnau gwahanol i’w gwneud yn haws ei deall Creu a nodi cyfarwyddiadau ysgrifenedig y gall pobl eraill eu deall a’u dilyn Newid cyfarwyddiadau i sicrhau canlyniad gwahanol. Nodiadau Athro:

17 Data a dull cyfrifiannu
Blwyddyn 1 DCF 4.1 ELFEN Datrys problemau a modelu Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: dilyn cyfres o gamau i ddatrys problemau e.e. rhagfynegi ac egluro pa gamau gweithredu sydd eu hangen i wneud i rywbeth ddigwydd rhannu problem yn ddarnau gwahanol i’w gwneud yn haws ei deall creu a nodi cyfarwyddiadau ysgrifenedig y gall pobl eraill eu deall a’u dilyn newid cyfarwyddiadau i sicrhau canlyniad gwahanol. GWEITHGAREDDAU Ysgrifennu rhai cyfarwyddiadau syml i fod o blaned arall ar gwblhau tasg bob dydd hawdd e.e. brwsio’ch dannedd. Herio gyda chwestiynau fel beth fyddai’n digwydd petaem yn rhoi’r past dannedd ar y goes? Rhaglennu Beebot/tebyg i roi neges i ffrind sy’n eistedd ar draws y bwrdd. Ymarfer dilyn cyfarwyddiadau diagramegol eich partner ar sut i gyrraedd rhywle yn y dosbarth/iard. Defnyddiwch symbolau saeth ymlaen, dde a chwith. Oedd gwallau? Allwch chi eu newid? Gweler uchod a newidiwch gyfarwyddiadau.

18 Trin Data Canlyniadau Disgwyliedig Cwricwlwm TGCh
Fframwaith Cymhwysedd Digidol Blwyddyn 1 – Deall Graffiau 1. Ychwanegu gwybodaeth i bictogram a thrafod canfyddiadau. 2. Rhoi data ar gronfa ddata ragbaratoedig a defnyddio data a gedwir i ateb cwestiynau syml 3. Cyflwyno terminoleg sylfaenol (e.e. colofn, rhes) 4. Cyflwyno cysyniad defnyddio graff i gynrychioli data’n weledol. Maen nhw’n dod o hyd i wybodaeth o ffynhonnell benodol gan ei defnyddio i ateb cwestiynau syml. (L2) Disgyblion yn nodi gwybodaeth i gofnod â rhywfaint o gymorth. (L2) Llinyn: Data a Dull Cyfrifiannu Elfen: Data a llythrennedd gwybodaeth (Blwyddyn 1) Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: casglu a grwpio’r data e.e. didoli lluniau/geiriau dosbarthu eitem gan ddefnyddio mwy nag un maen prawf e.e. labelu grŵp/set cofnodi data a gasglwyd mewn fformat addas e.e. defnyddio siartiau tali, pictogramau a graffiau bloc mewn pecyn cyfrifyddu syml. Nodiadau Athro:

19 Data a Dull Cyfrifiannu
Blwyddyn 1 DCF 4.2 ELFEN Data a llythrennedd gwybodaeth Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: Casglu a grwpio’r data e.e. didoli lluniau/geiriau dosbarthu eitem gan ddefnyddio mwy nag un maen prawf e.e. labelu grŵp/set cofnodi data a gasglwyd mewn fformat addas e.e. defnyddio siartiau tali, pictogramau a graffiau bloc mewn pecyn cyfrifyddu syml. GWEITHGAREDDAU Gweler rhaglen astudio Mathemateg – didoli/grwpiau data gydag mwy nag 1 maen prawf. I ddosbarthu amcanion gweler uchod. Defnyddio meddalwedd J2E i graffio data a gesglir o arolwg tali o’r dosbarth. Hoff liw / bwyd/ chwaraeon/ deinosor ac ati.


Download ppt "Blwyddyn 1 MAPIO’R SGILIAU AR DRAWS Y CWRICWLWM."

Similar presentations


Ads by Google