Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Adroddiad Blynyddol (Ysgolion cynradd) Annual Report (Primary schools)

Similar presentations


Presentation on theme: "Adroddiad Blynyddol (Ysgolion cynradd) Annual Report (Primary schools)"— Presentation transcript:

1 Adroddiad Blynyddol 2011-2012 (Ysgolion cynradd) Annual Report 2011-2012 (Primary schools)

2 Perfformiad a Rhagolygon Performance and Prospects
Mae perfformiad yn dda neu’n well ar y cyfan mewn 73% o’r 218 o ysgolion cynradd a arolygwyd. Mae’n rhagorol ar y cyfan mewn 3% o ysgolion. Mae’r rhagolygon gwella yn dda neu’n well mewn 80% o ysgolion cynradd, ac yn rhagorol mewn 6% ohonynt. Mae cyfran yr ysgolion sy’n perfformio’n dda yn is na’r llynedd, ond mae’r gyfran sydd â rhagolygon gwella da yn uwch. Performance is good or better overall in 73% of 218 primary schools inspected. It is excellent overall in 3% of schools. Prospects for improvement are good or better in 80% of primary schools and excellent in 6%. The proportion of schools with good performance is lower than last year, but the proportion with good prospects for improvement is higher.

3 Gweithgarwch dilynol – mynd i mewn i gategori Follow-up activity – going in
Mae angen gweithgarwch dilynol mewn 48% o ysgolion cynradd: mae angen i 36 o ysgolion cynradd gael eu monitro gan yr awdurdod lleol; mae angen i 56 o ysgolion cynradd gael ymweliad monitro gan Estyn; ac mae angen i 8 o ysgolion cynradd gael eu gwella’n sylweddol; ac mae angen mesurau arbennig ar 6 o ysgolion cynradd. 48% of primary schools require follow-up activity: 36 need local authority monitoring; 56 require an Estyn monitoring visit; and 8 are in need of significant improvement; and 6 are in special measures.

4 Gweithgarwch dilynol – dod allan o gategori Follow-up activity – coming out
Mae ysgolion a roddwyd mewn categori gweithgarwch dilynol y llynedd wedi gwneud cynnydd da, a thynnwyd llawer ohonynt o’r categori ymweliadau dilynol pellach: Bu gwelliant mewn 77% o ysgolion sy’n cael eu monitro gan Estyn, ac nid oes angen unrhyw weithgarwch dilynol arnynt; Bu gwelliant sylweddol hefyd mewn 61% o ysgolion y mae angen iddynt gael eu monitro gan yr awdurdod lleol; Mae 4 o ysgolion yn parhau yn y categori gwelliant sylweddol, a 4 o ysgolion yn parhau yn y categori mesurau arbennig Astudiaeth achos – yn sgîl dod allan o’r categori monitro gan Estyn Schools placed in follow-up last year have made good progress and many were removed from further follow-up visits: 77% in Estyn monitoring improved and do not need any further follow-up; 61% requiring local authority monitoring also made significant improvement; 4 schools remain in need of significant improvement and 4 remain in special measures Case study – coming out of Estyn monitoring

5 Deilliannau Outcomes Mae safonau’n dda neu’n well mewn ychydig llai na thri chwarter o ysgolion. Nid yw disgyblion mwy abl yn gwneud digon o gynnydd mewn lleiafrif sylweddol o ysgolion. Standards are good or better in just under three-quarters of schools. More able pupils do not make enough progress in a significant minority of schools.

6 Mewn ychydig iawn o ysgolion sydd â safonau rhagorol:
Mae bron pob disgybl yn gwneud cynnydd gwell na’r disgwyl; ac Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu a chymhwyso medrau llythrennedd a rhifedd i safon uchel ar draws y cwricwlwm. In very few schools with excellent standards: Nearly all pupils make better than expected progress; and Most pupils develop and apply literacy and numeracy skills to a high standard across the curriculum.

7 Y Cyfnod Sylfaen: Mewn dros bedair o bob pump o ysgolion, mae plant yn gwrando’n ofalus ac yn siarad yn hyderus gyda geirfa gynyddol. Mae llawer ohonynt yn darllen testunau priodol gyda chywirdeb a dealltwriaeth dda ac maent yn defnyddio eu gwybodaeth am ffoneg i ddatrys geiriau anghyfarwydd. Mae lleiafrif sylweddol o blant yn gwneud camgymeriadau sillafu ac atalnodi sylfaenol neu’n ffurfio llythrennau yn wael. Mewn dros 20% o ysgolion, nid yw plant yn cymhwyso eu medrau rhifedd yn ddigon da ar draws pob maes dysgu. Foundation Phase: In over four-fifths of schools, children listen carefully and speak confidently with a growing vocabulary. Many read appropriate texts with a good degree of accuracy and understanding and use their knowledge of phonics to work out unfamiliar words. A significant minority of children make basic spelling and punctuation errors or have poor letter formation. In over 20% of schools, children do not apply their numeracy skills well enough across all areas of learning.

8 Cyfnod allweddol 2: Mae llawer o ddisgyblion yn siarad yn glir mewn trafodaethau a gallant esbonio’r hyn y maent wedi’i ysgrifennu. Mewn 20% o ysgolion, mae gormod o ddisgyblion yn darllen ar lefel islaw eu hoedran cronolegol, ac nid yw lleiafrif ohonynt yn gwneud digon o gynnydd wrth ddysgu darllen gyda dealltwriaeth. Mewn dros 25% o ysgolion, mae medrau ysgrifennu lleiafrif sylweddol o ddisgyblion yn wael, ac ni allant drosglwyddo’r medrau gramadeg a sillafu a ddysgwyd mewn sesiynau iaith i’w hysgrifennu mewn pynciau eraill. Key stage 2: Many pupils speak clearly in discussions and are able to explain their writing. In 20% of schools too many pupils read at a level below their chronological age and a minority do not make enough progress in learning to read with understanding. In over 25% of schools, a significant minority of pupils have weak writing skills and are unable to transfer the grammar and spelling skills learnt in language sessions to their writing in other subjects.

9 Mewn 40% o ysgolion, roedd angen gwella safonau mewn Saesneg neu Gymraeg mamiaith.
Mewn tua 40% o ysgolion, nid yw disgyblion yn datrys problemau, yn defnyddio rhesymu mathemategol na medrau gwybodaeth a chyfathrebu ar lefel uwch ar draws y cwricwlwm. In 40% of schools, standards in English or Welsh first language needed to improve. In around 40% of schools, pupils do not solve problems, use mathematical reasoning or higher level information and communication skills across the curriculum.

10 Mae deilliannau disgyblion yn dda neu’n well yn y rhan fwyaf o ysgolion lle mae gan lai na 24% o ddisgyblion hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae hyn dim ond yn wir am hanner o’r ysgolion lle mae gan dros 24% o ddisgyblion hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r duedd hon yn wahanol mewn rhai ysgolion. Pupils’ outcomes are good or better in most schools where less than 24% of pupils are entitled to free school meals. This is only true for half of schools with more than 24% of pupils entitled to free school meals. A few schools buck this trend.

11 Cymraeg ail iaith Yn y Cyfnod Sylfaen, mae’r rhan fwyaf o blant yn gwneud cynnydd da yn ystod sesiynau grŵp cyfan ac mae ganddynt agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu Cymraeg. Yng nghyfnod allweddol 2, mewn lleiafrif sylweddol o ysgolion, nid yw disgyblion yn parhau i ddatblygu eu medrau Cymraeg yn ddigon da. Yn yr ysgolion hyn, nid oes gan lawer o athrawon hyder i addysgu Cymraeg, yn enwedig i ddisgyblion hŷn yn CA2. Welsh second language In the Foundation Phase, most children make good progress during whole-group sessions and have a positive attitude towards learning Welsh. In key stage 2, in a significant minority of schools, pupils do not continue to develop their Welsh skills well enough. In these schools, many teachers lack confidence in teaching Welsh, particularly to older KS2 pupils.

12 Mae bron pob disgybl yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol, mae gan y rhan fwyaf ohonynt ddealltwriaeth dda o fyw yn iach, ac mae llawer ohonynt yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau corfforol. Er bod cynghorau ysgol yn gweithio’n dda gyda’r gymuned leol, mewn rhai ysgolion yn unig, nid yw disgyblion yn arfarnu agweddau ar fywyd ysgol nac yn cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau ynghylch sut i wella safonau a darpariaeth. Mae ymddygiad yn dda ar y cyfan ac mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn sylwgar a brwdfrydig. Mae lefelau presenoldeb yn amrywio gormod rhwng ysgolion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a’r ardaloedd lleiaf difreintiedig. Nearly all pupils feel safe in school, most have a good understanding of the importance of healthy living, and many take part regularly in physical activities. While school councils work well with the local community, in only a few schools do pupils evaluate aspects of school life or are involved in making decisions about how to improve standards and provision. Behaviour is generally good and most pupils are attentive and enthusiastic. Attendance levels vary too widely between schools in the lowest and highest areas of deprivation.

13 Darpariaeth Provision
Mae profiadau dysgu yn dda neu’n well mewn llai na thri chwarter o ysgolion. Yn y Cyfnod Sylfaen, mewn lleiafrif o ysgolion, nid oes darpariaeth well a pharhaus ar gyfer plant 6 a 7 oed. Mewn tua 40% o ysgolion, nid yw athrawon CA2 yn addasu eu cynllunio yn ddigon da i fodloni anghenion pob disgybl. Mewn mwyafrif o’r ysgolion hyn, mae gorddibynnu ar gynlluniau masnachol, ac yn rhy aml, mae pob disgybl yn cwblhau’r un gwaith, beth bynnag fo’u gallu. Learning experiences are good or better in fewer than three-quarters of schools. In the Foundation Phase, in a minority of schools, 6 and 7-year-olds do not have enhanced and continuous provision. In around 40% of schools, KS2 teachers do not adapt their planning well enough to meet all pupils’ needs. In a majority of these schools, there is an over-reliance on commercial schemes and, too often, all pupils complete the same work, regardless of ability.

14 Mae ychydig iawn o ysgolion sydd â darpariaeth ragorol yn mabwysiadu dull yn seiliedig ar ymholi sy’n helpu disgyblion i gymhwyso medrau yn annibynnol yn y rhan fwyaf o agweddau ar eu dysgu. Mewn chwarter o ysgolion, mae cynllunio ar gyfer datblygu medrau disgyblion, yn enwedig y rhai mwy abl, yn wan, ac nid oes digon o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio eu medrau ysgrifennu a rhifedd ar y lefel briodol mewn gwersi Cymraeg/Saesneg a mathemateg ac ar draws meysydd pwnc. Nid yw lleiafrif o ysgolion yn neilltuo digon o amser i addysgu Cymraeg ail iaith yn CA2. A very few schools with excellent provision adopt an enquiry-based approach that helps pupils apply skills independently in most aspects of their learning. In a quarter of schools, planning for pupils’ skills development, particularly for the more able, is weak and there are not enough opportunities for pupils to use their writing and numeracy skills at the appropriate level both within English/Welsh and mathematics lessons and across subject areas. A minority of schools do not devote enough time to teaching Welsh second language at KS2.

15 Teaching is good or better in around four-fifths of schools.
Mae addysgu yn dda neu’n well mewn tua phedair o bob pump o ysgolion. Yn yr ychydig iawn o ysgolion lle mae’r addysgu yn rhagorol, mae gan bron bob athro ddisgwyliadau uchel ac maent yn holi cwestiynau treiddgar sy’n annog disgyblion i feddwl yn rhesymegol. Mewn lleiafrif o ysgolion, nid oes gan athrawon ddisgwyliadau digon uchel, yn enwedig o’r hyn y gall disgyblion mwy abl ei gyflawni mewn darllen, ysgrifennu a rhifedd. Mewn 10% o ysgolion, nid yw gwersi’n symud yn ddigon cyflym, ac nid yw defnydd mynych o daflenni gwaith yn helpu disgyblion i gymhwyso eu medrau yn llawn neu ddysgu yn annibynnol. Teaching is good or better in around four-fifths of schools. In the very few schools with excellent teaching, nearly all teachers have high expectations and ask probing questions that encourage pupils to think logically. In a minority of schools, teachers do not have high enough expectations, particularly of what more able pupils can achieve in reading, writing and numeracy. In 10% of schools, lessons lack pace and repeated use of worksheets fails to help pupils apply their skills fully or to learn independently.

16 Mae diffygion mewn tua dwy o bob pump o ysgolion o ran pa mor gywir y maent yn asesu cynnydd disgyblion ac wrth ddefnyddio data o asesiadau. Mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw’r marcio yn nodi sut i wella gwaith disgyblion, ac nid yw digon o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn asesu eu cynnydd. Mae gormod o ysgolion nad ydynt yn defnyddio canfyddiadau asesu i nodi targedau ar gyfer gwella yn gyson ar draws yr ysgol neu ddilyn eu polisi asesu cytûn. Mae bron pob ysgol yn hyrwyddo lles, datblygiad cymdeithasol, moesol, ysbrydol a diwylliannol disgyblion yn effeithiol. Around two-fifths of schools have shortcomings in how accurately they assess pupil progress and in the use of data from assessment. In a minority of schools, marking does not identify how to improve pupils’ work and too few pupils are involved in assessing their progress. Too many schools do not use assessment findings to identify targets for improvement consistently across the school or follow their agreed assessment policy. Nearly all schools promote pupils’ wellbeing, social, moral, spiritual and cultural development effectively.

17 Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion weithdrefnau da ar gyfer nodi disgyblion y mae angen cymorth ychwanegol arnynt yn gynnar. Nid yw lleiafrif o athrawon yn helpu disgyblion i atgyfnerthu’r medrau y maent wedi eu dysgu mewn rhaglenni ymyrraeth yn eu haddysgu dosbarth cyfan. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn gwneud defnydd effeithiol o’r adnoddau a’r lle sydd ar gael. Mae’r profiadau yn yr awyr agored y mae ychydig ysgolion yn eu cynnig i blant y Cyfnod Sylfaen yn parhau i fod yn gyfyngedig. Most schools have good procedures for identifying pupils early on that need extra support. A minority of teachers do not help pupils to consolidate the skills they have learned in intervention programmes in their whole-class teaching. Most schools make effective use of the resources and space available. A few schools still provide limited outdoor experiences for Foundation Phase children.

18 Arweinyddiaeth a rheolaeth Leadership and management
Mae arweinyddiaeth a rheolaeth yn dda neu’n well mewn ychydig llai na phedair o bob pump o ysgolion. Mae llawer o ysgolion yn dadansoddi data yn dda ac yn ei ddefnyddio i osod targedau gwella ysgol gyfan priodol. Mewn gormod o ysgolion, nid yw penaethiaid yn mynd i’r afael ag addysgu cymedrol yn ddigon cadarn nac yn rhoi digon o gymorth na her i’r athrawon hynny y mae eu gwaith prin yn ddigonol. Leadership and management are good or better overall in just under four-fifths of schools. Many schools analyse data well and use it to set appropriate whole-school improvement targets. In too many schools, headteachers do not address mediocre teaching performance robustly enough or provide enough support or challenge for those teachers whose work is barely adequate.

19 Mae’r rhan fwyaf o gyrff llywodraethol yn rhoi cymorth priodol i’r Pennaeth; mae llawer ohonynt yn gwybod pa mor dda y mae’r ysgol yn perfformio ac yn deall cymariaethau gydag ysgolion eraill. Mewn 30% o ysgolion, nid yw llywodraethwyr yn defnyddio’r wybodaeth hon i herio’r ysgol am safonau disgyblion. Eleni, rhoddwyd mwy o argymhellion i lywodraethwyr wella mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg nag ysgolion cyfrwng Saesneg. Most governing bodies provide appropriate support for the Headteacher; many know how well the school performs and understand comparisons with other schools. In 30% of schools, governors do not use this information to challenge the school about pupil standards. This year, there were more recommendations for governors to improve in Welsh-medium schools than English-medium schools.

20 Mae gan ryw ddwy o bob tair o ysgolion weithdrefnau da neu well i wella ansawdd.
Yn y traean o ysgolion lle mae gwella ansawdd yn ddigonol yn unig, nid yw arweinwyr yn canolbwyntio digon ar safonau disgyblion nac yn defnyddio’r canlyniadau monitro i osod targedau gwella clir a mesuradwy; ac nid yw’r adroddiad hunanarfarnu yn arfarnu pa mor dda y mae disgyblion yn cyflawni nac yn craffu ar effaith y ddarpariaeth. Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion gysylltiadau da gydag ysgolion eraill ar gyfer prosiectau penodol. Around two-thirds of schools have good or better procedures to improve quality. In the third of schools where improving quality is only adequate, leaders do not focus enough on pupils’ standards or use the results of monitoring to set clear, measurable improvement targets; and the self-evaluation report does not evaluate how well pupils achieve or scrutinise the impact of provision. Most schools have good links with other local schools for specific projects.

21 Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn gweithio’n dda gyda rhieni a’r gymuned leol.
Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn dechrau cydweithio mwy gydag ysgolion eraill yn eu clwstwr i safoni a chymedroli gwaith disgyblion. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn defnyddio eu hadnoddau yn dda i wella safonau a darpariaeth. Mewn tua chwarter o ysgolion, nid yw arweinwyr yn monitro effaith y penderfyniadau am wariant ar safonau yn ddigon da. Mewn traean o ysgolion, nid yw arweinwyr yn monitro effaith hyfforddiant staff nac yn mynd i’r afael ag anghysondebau rhwng dosbarthiadau. Most schools work well with parents and the local community. Most schools are beginning to collaborate more with others in their cluster to standardise and moderate pupils’ work. Most schools use their resources well to improve standards and provision. In around a quarter of schools, leaders do not monitor the impact of spending decisions on standards well enough. In a third of schools, leaders do not monitor the impact of staff training or address inconsistencies in practice between classes.

22 Astudiaethau Achos arfer orau Case Studies of best practice
Datblygu medrau llythrennedd – Ysgol Gynradd Trerobart, Rhondda Cynon Taf Medrau Cymraeg – Ysgol Comins Coch, Ceredigion Profiadau awyr agored – Ysgol Gynradd Gymunedol Tafarn Ysbyty, Sir Benfro Datblygiad proffesiynol i wella dwyieithrwydd – Ysgol Gynradd Sirol Plascrug, Ceredigion Developing literacy skills – Trerobart Primary School, Rhondda Cynon Taf Welsh language skills – Ysgol Comins Coch, Ceredigion Outdoor experiences – Tavernspite Community Primary school, Pembrokeshire Professional development to improve bilingualism – Plascrug County Primary School, Ceredigion

23 Cwestiynau i'w hystyried Questions to consider
A yw ein hadroddiad hunanarfarnu yn adlewyrchiad realistig o’n hysgol ac a yw wedi’i seilio ar dystiolaeth uniongyrchol o safonau? Pa mor dda y mae ein hysgol yn nodi ac yn darparu ar gyfer yr 20% mwyaf abl o ddisgyblion? Sut ydym yn sicrhau bod ein disgyblion yn cymhwyso’r medrau llythrennedd y maent yn eu hennill mewn gwersi Cymraeg/Saesneg ar yr un lefel ar draws y cwricwlwm? Is our self-evaluation report a realistic reflection of our school and is it based on first hand evidence of standards? How well does our school identify and provide for the most able 20% of pupils? How do we ensure that our pupils apply the literacy skills they achieve in English/Welsh lessons at the same level across the curriculum?

24 Cwestiynau i'w hystyried Questions to consider
Sut ydym yn sicrhau bod disgyblion yn cymhwyso’r medrau rhifedd y maent yn eu hennill mewn gwersi mathemateg ar yr un lefel ar draws y cwricwlwm? A yw ein hathrawon yng nghyfnod allweddol 2 yn gallu datblygu medrau Cymraeg disgyblion yn effeithiol? A oes gan ein staff ddisgwyliadau digon uchel o’r holl ddisgyblion, waeth beth yw eu cefndir? Pa mor dda y mae ein hysgol yn datblygu dysgu annibynnol? How do we ensure that pupils apply the numeracy skills they achieve in mathematics lessons at the same level across the curriculum? Are our teachers in key stage 2 able to develop pupils’ Welsh language skills effectively? Do our staff have high enough expectations of all pupils, regardless of their background? How well does our school develop independent learning?

25 Cwestiynau i'w hystyried Questions to consider
A yw ein hasesiadau athrawon o gynnydd disgyblion yn gywir a sut ydym ni’n gwybod? Pa mor effeithiol ydym ni’n mynd i’r afael ag addysgu digonol? A yw ein llywodraethwyr yn meddu ar y medrau i farnu perfformiad ein hysgol yn gywir? A allwn ni ddangos bod gwario ar wella’r ysgol, gan gynnwys datblygiad staff, wedi gwella safonau? Is our teacher assessment of pupils’ progress accurate and how do we know? How effectively do we address adequate teaching? Do our governors have the skills and knowledge to judge our school’s performance accurately? Can we demonstrate that spending on school improvement, including staff development has improved standards?


Download ppt "Adroddiad Blynyddol (Ysgolion cynradd) Annual Report (Primary schools)"

Similar presentations


Ads by Google