Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
Published by黑婉歙 支 Modified over 6 years ago
1
Yn cefnogi gofalwyr ac yn cyflawni dyletswyddau newydd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Adnodd hyfforddi
2
“Caiff 98% o gymorth cymdeithasol ei ddarparu'n ddi-dâl gan aelodau’r teulu
Yn sgil hyn, yn hytrach na bod gofalwyr yn ceisio siarad ag awdurdodau lleol, dylai awdurdodau lleol geisio siarad â ni i ganfod sut rydym am fodloni anghenion y boblogaeth bresennol a phoblogaeth y dyfodol yn gynaliadwy" Gofalwr Rhagarweiniad
3
Gofalwyr yng Nghymru Roedd mwy na 370,000 o ofalwyr yng Nghymru yn ôl y cyfrifiad diwethaf yn Bydd y ffigwr hwn bellach yn llawer uwch Mae gofalwyr yn cyfrannu 96% o ofal yn y gymuned yng Nghymru, cyfraniad sydd werth £8.1 biliwn bob blwyddyn Mae gan Gymru y gyfran uchaf o ofalwyr hŷn a'r gyfran uchaf o ofalwyr ifanc yn y DU Mae yno o leiaf 370,000 o ofalwyr yng Nghymru, ond mae'n debygol bod y nifer gryn lawer uwch. Ymysg pobl ifanc yn unig, mae ymchwil yn awgrymu y gall y ffigwr cywir fod bedair gwaith yn uwch na'r hyn sy'n cael ei nodi yn y cyfrifiad ( Yn ôl cyfrifiad 2011, Castell-nedd Port Talbot sydd â'r ganran uchaf o ofalwyr yn y DU (
4
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Daeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym fis Ebrill 2016 a'i bwriad yw gweddnewid y ffordd y caiff gwasanaethau cymdeithasol eu darparu Mae'r Ddeddf yn cynnwys newidiadau sylweddol i ofalwyr, gan gynnwys hawliau newydd a dyletswyddau newydd i awdurdodau lleol
5
Diddymiadau Mae'r Ddeddf yn diddymu mwyafrif y ddeddfwriaeth bresennol sy'n perthyn i ofal cymunedol, gan gynnwys: Deddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995 Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 Deddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) 2004 Mesur Strategaeth Gofalwyr (Cymru) 2010
6
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Diffiniad newydd o ofalwr Mae'r Ddeddf newydd yn cynnig diffiniad newydd o ofalwyr, sef “person sy'n darparu neu'n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl” Mae hwn yn dileu'r gofyn bod rhaid i ofalwyr ddarparu “gofal sylweddol, a hynny'n rheolaidd” Mae'r diffiniad newydd o ofalwr yn arwyddocâol, gan ei fod yn ehangu'r grŵp o bobl gymwys am asesiad a chynlluniau cymorth i ofalwyr.
7
Dyletswydd i gefnogi gofalwyr
Os yw awdurdod lleol yn penderfynu bod anghenion gofalwr yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, yna rhaid i'r awdurdod wneud y canlynol: ystyried yr hyn gellid ei wneud i fodloni'r anghenion hynny ystyried a fyddai'n codi tâl am wneud y pethau hynny, ac os felly, penderfynu maint y taliad hwnnw
8
“Dylid cynnig gwybodaeth i ofalwyr cynted ag y maent yn dechrau gofalu; gan ysbytai, meddygon teulu a gweithwyr cymdeithasol. Dylent fod yn ymwybodol o'u opsiynau a'u hawliau er mwyn eu galluogi i barhau i ofalu am eu hanwyliaid gartref” Gofalwr Rhan 2
9
Rhan 2 : Swyddogaethau Cyffredinol
Cynnwys: Llesiant a dyletswyddau trosfwaol Asesiadau o'r boblogaeth Gwasanaethau ataliol Mentrau cymdeithasol Y ddarpariaeth o wybodaeth, cyngor a chymorth Cofrestru pobl sydd â nam golwg, nam ar eu clyw ac anableddau eraill Mae Rhan 2 o'r Ddeddf, Adrannau 5-18, yn ymwneud â Swyddogaethau Cyffredinol Mae'r Rheoliadau ar gyfer Rhan 2, Swyddogaethau Cyffredinol, i'w gweld fan yma (Asesiadau poblogaeth, Trefniadau partneriaeth, Mentrau gymdeithasol, cydweithfeydd a'r trydydd sector) Mae Rhan 2, Côd Swyddogaethau Cyffredinol ar gael fan hyn
10
Rhan 2 : Llesiant a dyletswyddau trosfwaol
Rhaid i staff wneud y canlynol • Hybu llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth • Canfod dymuniadau a theimladau'r person • Parchu eu hurddas • Ystyried eu diwylliant, eu credo a nodweddion eraill Mae Rhan 2, Côd Ymarfer, Pennod 1, yn ymwneud â llesiant a dyletswyddau trosfwaol n.b. para 54. Rhaid i unigolyn sy'n gweithredu swyddogaethau dan y Ddeddf parthed unigolyn, gydymffurfio â'r dyletswyddau trosfwaol. Y Ddeddf, Rhan 2, Adran 7 Egwyddorion a Chytundeb y Cenhedloedd Unedig (CU) – rhaid i unigolyn sy'n gweithredu swyddogaethau parthed oedolion dan y Ddeddf roi llawn ystyriaeth i Egwyddorion y CU er Pobl Hŷn 1991 ac yn achos plentyn, Cytundeb y CU er Hawliau'r Plentyn 1989. I lawer o siaradwyr y Gymraeg, mae'r iaith yn elfen annatod o'r gofal a roddir iddynt, a bydd sicrhau hawliau'n ymwneud bod yn gallu defnyddio eu hiaith eu hunain i gyfathrebu a chyfranogi yn eu gofal fel partneriaid cyfartal. Mae Fframwaith Gweithredu ar Fyw'n Annibynnol Llywodraeth Cymru sy'n mynegi hawliau pobol anabl i gyfranogi'n llawn ym mhob agwedd o fywyd ar gael yn:
11
Rhan 2 : Llesiant a deilliannau
Ystyr llesiant Llesiant corfforol, meddyliol, emosiynol Amddiffyniad rhag camdriniaeth ac esgeulustod Addysg, hyfforddiant, hamdden Perthynas ddomestig, teuluol a phersonol Cyfraniad at y gymdeithas Y Ddeddf, Rhan 2, Adran 8 Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno datganiad parthed llesiant (a) pobl yng Nghymru sydd angen gofal a chymorth a (b) gofalwyr yng Nghymru sydd angen cymorth. Gellir gweld Datganiad Llesiant Llywodraeth Cymru fan yma n.b. Bydd llesiant wrth galon y broses asesu. Rhaid i unrhyw unigolyn sy'n gweithredu swyddogaethau dan y Ddeddf geisio hyrwyddo llesiant y bobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth. Ym mhob amgylchiadau, rhaid i awdurdodau lleol weithio'n agored a thryloyw mewn partneriaeth wirioneddol gyda phobl i hyrwyddo llesiant pobl a bod yn hyblyg yn eu hymagweddiad tuag at sicrhau'r agweddau hynny o lesiant sydd bwysicaf i'r unigolyn. Rhaid i hyrwyddo llesiant pobl gynnwys ffocws ar ohirio ac atal yr angen am ofal a chefnogaeth er mwyn atal anghenion pobl rhag cynyddu.
12
Rhan 2 : Llesiant a deilliannau
Ystyr llesiant Sicrhau hawliau Llesiant cymdeithasol ac economaidd ac addasrwydd llety I oedolion, mae hefyd yn cynnwys rheolaeth dros fywyd o ddydd i ddydd a chyfranogiad mewn gwaith I blentyn, mae'n cynnwys datblygiad a llesiant corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiad Y Ddeddf, Rhan 2, Adran 8 Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno datganiad parthed llesiant (a) pobl yng Nghymru sydd angen gofal a chymorth a (b) gofalwyr yng Nghymru sydd angen cymorth. Gellir gweld Datganiad deilliannau Llywodraeth Cymru fan yma
13
Rhan 2 : Asesiadau o'r boblogaeth
Dyletswydd newydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i asesu'r angen am ofal a chymorth yn eu hardaloedd, gan gynnwys gofalwyr Rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol gynhyrchu tystiolaeth sy'n amlinellu anghenion gofalwyr gan gynnwys ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i gwrdd â'r angen hwnnw. Wedyn rhaid cyhoeddi cynllun poblogaeth ar gyfer gofalwyr a'i adrodd yn ôl i'r Gweinidog Y Ddeddf, Rhan 2, Adran 14 Asesiad o anghenion am ofal a chefnogaeth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol Mae Rhan 2, Côd Ymarfer, Pennod 2, yn ymwneud ag Asesiadau poblogaeth 99. Rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol asesu'r canlynol ar y cyd: faint o bobl o fewn yr ardal asesu sydd angen gofal a chefnogaeth faint o ofalwyr o fewn yr ardal asesu sydd angen cymorth faint o bobl sydd ddim yn derbyn y gofal a'r gefnogaeth (neu, yn achos gofalwyr y cymorth) maent eu hangen 132. Rhaid i bobl fod yn rhan o'r broses o ganfod yr ystod a'r lefel o wasanaethau sydd eu hangen.
14
Rhan 2 : Gwasanaethau ataliol
Dyletswydd i ddarparu ystod o wasanaethau ataliol Rhaid i ystod a lefel y gwasanaethau ataliol geisio hyrwyddo llesiant pobl sydd angen gofal a gofalwyr sydd angen cymorth. Y Ddeddf, Rhan 2, Adran 15 Gwasanaethau ataliol Mae Rhan 2, Côd Ymarfer, Pennod 3, yn ymwneud â Gwasanaethau ataliol Mae atal wrth galon rhaglen newid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Dylai pobl fod yn rhan o gynllunio a gweithredu gwasanaethau ar bob lefel, o unigolion i'r boblogaeth gyfan. Rhaid i awdurdodau lleol geisio grymuso pobl i greu datrysiadau blaengar ar gyfer gohirio, atal a chwrdd ag anghenion gofal a chefnogaeth drwy rwydweithiau a chymunedau lleol. 161. Tra gall awdurdodau lleol ddewis darparu rhai mathau o wasanaethau ataliol eu hunain, gall eraill gael eu darparu neu eu trefnu'n fwy effeithiol ar y cyd â phartneriaid lleol eraill, gan gynnwys y trydydd sector. 188. Mae gan ofalwyr rôl allweddol yn yr ymagweddiad o wasanaeth ataliol o fewn ardal llywodraeth leol. Mae gofalwyr eu hunain yn darparu ffurf o wasanaeth ataliol. 189. Dylai awdurdodau lleol felly helpu i sicrhau bod gofalwyr yn gallu byw eu bywydau eu hunain mor annibynnol â phosib. Mae hyn yn cynnwys bod yn ymwybodol o anghenion a deilliannau iechyd a llesiant y gofalwr, a'r gwasanaethau sydd ar gael yn lleol i ddiwallu'r anghenion â'r deilliannau hynny, gan gynnal rôl ataliol y gofalwr parthed gofalu a chynnig cefnogaeth i eraill.
15
Rhan 2 : Mentrau cymdeithasol / cydweithredol a'r trydydd sector
Dyletswydd i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd a'r trydydd sector Rhaid i awdurdodau lleol gymryd ymagwedd ragweithiol i gynllunio a chyflwyno modelau a fydd yn bodloni anghenion llesiant pawb gan gynnwys gofalwyr Bwriadwyd tyfu'r ystod o fodelau nid er elw yn y sector gofal cymdeithasol, yn enwedig mudiadau lleol a arweinir gan ddefnyddwyr Y Ddeddf, Rhan 2, Adran 16 Hyrwyddo mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd, gwasanaethau dan arweiniad defnyddwyr a'r trydydd sector Mae Rhan2 o'r Côd Ymarfer, Pennod 4, yn ymwneud â Mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd a'r trydydd sector. 205. Rhaid i'r awdurdod lleol hyrwyddo cyfranogiad y bobl hynny y darperir y gwasanaethau gofal a chefnogaeth ataliol ar eu cyfer, wrth ddylunio a gweithredu'r ddarpariaeth honno.
16
“Caf dri diwrnod o fynediad i'r ganolfan ddydd ond dw i ond yn gallu mynd â Mam yno unwaith yr wythnos” “Y cyfan rydyn ni am ei gael yw ymweliadau rheolaidd gan weithwyr gofal a'n hymweliad yn y bore am 8am yn hytrach na 6.40am” Gofalwr Rhan 3
17
Egwyddorion Cyffredin Asesiadau
Ymhlith egwyddorion cyffredin asesiadau, mae'r canlynol: Dylid cydnabod y rôl sydd gan ofalwyr di-dâl, rhieni, partneriaid ac aelodau eraill o'r teulu yng ngofal a chymorth unigolyn a dylid cefnogi a chofnodi'r rhain yn briodol Mae Rhan 3 o'r Ddeddf yn ymwneud ag Asesu Anghenion Unigolion Mae'r Rheoliadau ar gyfer Rhan 3, Asesu Anghenion Unigolion, i'w gweld fan yma Mae Rhan 3 o'r Côd Ymarfer ar Asesu Anghenion Unigolion i'w weld fan yma Caiff yr egwyddorion cyffredin eu hamlinellu'n llawn ym mharagraff 53 o'r Côd Ymarfer
18
Dyletswydd Asesu (Gofalwyr)
Rhaid i awdurdod lleol cynnig asesiad i: Unrhyw ofalwr lle mae'n ymddangos i'r awdurdod y gall fod y gofalwr angen cymorth Mae hwn yn newid pwysig oherwydd yn flaenorol, ni allai gofalwr ond wneud cais am asesiad n.b. Ni ellir ystyried asesiadau gofalwyr ar wahan i asesiad priodol o'r unigolyn maen nhw'n gofalu amdano. Mae'r cyflwyniad hwn yn cyfeirio'n bennaf ar Asesiadau Gofalwyr OND er mwyn cynnig cymorth i ofalwyr, mae'n hanfodol bod y sawl maen nhw'n gofalu amdanynt yn derbyn gofal a chymorth perthnasol dan y Ddeddf – fydd yn aml (ond ddim bob amser) yn gofyn am asesiad priodol o'u hanghenion.
19
Dyletswydd Asesu (Gofalwyr)
Daw'r ddyletswydd yn berthnasol os daw i'r amlwg i'r awdurdod lleol y gall y gofalwr fod angen cymorth. Mae'r ddyletswydd i asesu'n berthnasol beth bynnag fo barn yr awdurdod o'r lefel o gefnogaeth sydd ei hangen ar y gofalwr, yr adnoddau ariannol sydd ganddo neu ganddi neu adnoddau ariannol yr unigolyn sydd angen gofal.
20
Y Ddyletswydd i Asesu (Gofalwyr)
Rhaid i asesiad o ofalwr gynnwys: I ba raddau mae'r gofalwr yn gallu ac yn fodlon darparu'r gofal ac i barhau i ddarparu'r gofal Y deilliannau mae'r gofalwr yn dymuno eu cyflawni Yn yr asesiad, rhaid i'r awdurdod lleol gynnwys y gofalwr a, lle bo'n bosib, y person y mae'r gofalwr yn darparu gofal neu'n bwriadu ei ddarparu ar eu cyfer
21
Dyletswydd Asesu (Gofalwyr)
Rhaid i asesiad o ofalwr hefyd dynnu sylw at y canlynol: Oes gan y gofalwr awydd i weithio ac ydyn nhw'n cyfranogi, neu'n dymuno cyfranogi, mewn addysg, hyfforddiant neu weithgareddau hamdden? Rhaid i unigolyn deimlo eu bod yn bartner cyfartal yn eu perthynas â phroffesiynwyr. Rhan 1. Mae'r gofynion hyn wedi'u hamlinellu ym mharagraff 15 o'r Côd Ymarfer ar gyfer Rhan 3. Maw hyn yn perthyn i'r deilliannau llesiant a ddisgrifir yn Rhan 2 o'r Ddeddf sy'n cynnwys cyfeiriad ar addysg, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden. Rhan 2. Mae'r gofynion hyn wedi'u hamlinellu ym mharagraff 23 o'r Côd Ymarfer ar gyfer Rhan 3.
22
Cyfuno Asesiadau Gall awdudod lleol gyfuno asesiad o anghenion unigolyn ag asesiad anghenion ei ofalwr os ystyrir hynny i fod o fudd… Serch hynny, ni all yr awdurdod lleol ond gwneud hyn oni roddir cydsyniad dilys Mae'r gofynion hyn wedi'u hamlinellu ym mharagraff 37 o'r Côd Ymarfer ar gyfer Rhan 3. Serch hynny, mae'r Côd Ymarfer yn caniatáu'r canlynol
23
“Un o'r pethau anoddaf i ofalwyr sy'n rhieni, ar ben y trafferthion amlwg o ofalu am blentyn ag anableddau, yw peidio â chael eu hunaniaeth eu hunain na bodloni eu hanghenion eu hunain. Rydyn ni wastad ar waelod y rhestr. Mae gwasanaethau cymorth i ofalwyr yn cwrdd â'r anghenion hyn” Gofalwr Rhan 4
24
Rhan 4 Cynnwys: Cymhwyster
Cynllunio gofal a chymorth (gan gynnwys adolygiadau, dyletswyddau sy'n gorgyffwrdd, cludadwyedd) Taliadau uniongyrchol
25
Rhan 4 – Bodloni Anghenion
Mae gan ofalwyr hawl gorfodadwy i gefnogaeth gan yr awdurdod lleol lle mae gofalwr yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd Wedyn, mae gan yr awdurdod ddyletswydd cyfreithiol i drefnu cymorth drwy gynllun gofal Mae Rhan 4 o'r Ddeddf yn ymwneud â Diwallu Anghenion Mae'r Rheoliadau ar gyfer Rhan 4, Diwallu Anghenion, i'w gweld fan yma Mae Rhan 4 o'r Côd Ymarfer ar Ddiwallu Anghenion i'w weld fan yma
26
Rhan 4 – Meini prawf cymhwysedd
Rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad os yw'n amddangos bod gofalwr angen cymorth Caiff cymhwysedd ei benderfynu yn sgil y broses asesu Rhaid rhoi sylw priodol i lesiant gofalwyr yn ogystal â'r deilliannau personol yr hoffen nhw eu cyflawni Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i benderfynu os yw unrhyw angen a asesir yn cwrdd â'r meini prawf ar gyfer cymhwysedd, a'r hyn y gellir ei wneud i ddiwallu'r anghenion hynny a sut gellir cyflawni deilliannau personol. Wrth fynd ati i benderfynu ar gymhwysedd, RHAID i'r awdurdod lleol sicrhau bod y gofalwr yn rhan o'r broses (gallant wahodd rhywun o'u dewis i'w cynorthwyo). Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod y gofalwr yn cael ei gynnwys fel partner llawn mewn asesu i ba raddau maen nhw'n gallu diwallu eu deilliannau personol. Rhaid iddo sicrhau bod gallu gofalwr i ddarparu gofal yn gynaliadwy a'u bod yn cydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol i hybu eu llesiant, gan gynnwys eu cynorthwyo i gael mynediad i wasanaethau cymunedol drwy wybodaeth, cyngor a chymorth. Wrth asesu'r person anabl, os oes angen an hynny, rhaid i'r awdurdod nodi holl anghenion y person anabl, gan gynnwys y rheiny a ystyrid i fod yn gymwys pe na bai'r gofalwr yn cwrdd â'r anghenion hynny.
27
Rhan 4 – Meini prawf cymhwysedd
Mae anghenion gofalwr yn bodloni meini prawf ar gyfer cymorth: a) os mae'r angen yn deillio o ganlyniad i ddarparu gofal am oedolyn neu blentyn b) os nad oes modd i'r gofalwr fodloni'r angen i) os yw ar ei ben ei hun ii) os gall ddibynnu ar gymorth eraill sy'n fodlon darparu'r gefnogaeth honno iii) â chymorth gwasanaethau yn y gymuned sydd ar gael i'r gofalwr, ac c) mae'r gofalwr yn anhebygol o gyrraedd un neu fwy o'u deilliannau personol sy'n perthyn i'r deilliannau penodol yn Rhan 3 y Ddeddf Ni ddylid defnyddio'r meini prawf ar gyfer cymhwysedd fel arf i orfodi gofalwyr i ddangos eu bod wedi rhoi cynnig ar bob math arall o gefnogaeth cyn bod yn gymwys i dderbyn cymorth gan yr awdurdod lleol. Rhaid i'r ymarferwr gofnodi sut caiff y deilliannau personol eu cyflawni ar yr arf asesu a chymhwysedd. Mae hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw anghenion a gaiff eu diwallu drwy wasanaethau eraill a'r ddarpariaeth o wybodaeth, cyngor a chymorth.
28
Rhan 4 – Meini prawf cymhwysedd
Weithiau gall fod yn anodd gwahanu anghenion gofalwr o anghenion y person y maent yn gofalu amdano. Serch hynny, wrth asesu cymhwysedd unigolyn sydd ag anghenion gofal a chymorth, rhaid i'r awdurdod lleol drafod â'r gofalwr (ystyried a chofnodi) y gofal y maent yn gallu ei ddarparu ac yn fodlon ei ddarparu. Ni ddylid defnyddio'r meini prawf ar gyfer cymhwysedd fel arf i orfodi gofalwyr i ddangos eu bod wedi rhoi cynnig ar bob math arall o gefnogaeth cyn bod yn gymwys i dderbyn cymorth gan yr awdurdod lleol. Rhaid i'r ymarferwr gofnodi sut caiff y deilliannau personol eu cyflawni ar yr arf asesu a chymhwysedd. Mae hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw anghenion a gaiff eu diwallu drwy wasanaethau eraill a'r ddarpariaeth o wybodaeth, cyngor a chymorth.
29
Rhan 4 – Cynlluniau cymorth i ofalwyr
Mae'n ddyletswydd ar yr awdurdod lleol i baratoi cynllun cymorth ar gyfer gofalwr sydd wedi cael ei asesu i fod ag anghenion cymwys, a'i adolygu'n gyson Gall yr awdurdod lleol fodloni anghenion cymorth gofalwr drwy ddarparu gofal a chymorth mewn cynllun i'r person anabl Rhaid bod unigolyn wedi'i bennu i gydlynu, paratoi, adolygu a chyflwyno'r cynllun Rhaid datblygu'r cynllun cymorth mewn partneriaeth â'r gofalwr a sicrhau bod cytundeb o ran dealltwriaeth ynglŷn â sut caiff anghenion eu diwallu ac y cyflawnir deilliannau personol y gofalwyr. Rôl y cydlynydd fyd monitro darpariaeth y gwasanaethau a'r cymorth lle cytunir y bydd angen am hyn. Rhaid i'r awdurdod lleol roi copi o'r cynllun cymorth i'r gofalwr Gellir rheoli cynllun cymorth drwy ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol Rhaid i gynllun cymorth gynnwys dyddiad eglur ar gyfer adolygiad, na all fod yn fwy na 12 mis Ni ellir cau cynllun cymorth heb adolygiad Hyd yn oed os oes gan ofalwr gynllun cymorth, rhaid iddynt barhau i dderbyn cefnogaeth i gael gafael ar yr wybodaeth, cyngor a gwasanaeth cymorth, yn ogystal â gwasanaethau cymunedol ac ataliol Rhaid i'r awdurdod lleol wneud trefniadau i adolygu neu ail-asesu'n brydlon mewn achosion lle nad yw'n ymddangos bod y cynllun cyfredol yn cwrdd â gofynion. Os nad yw gofalwr bellach yn gallu neu'n fodlon darparu cymorth i'r person anabl, bydd angen ail-asesu cynllun y person anabl, a hynny ar frys, a chanfod os yw eu hanghenion yn cael eu diwallu drwy wasanaethau eraill.
30
Rhan 4 – Taliadau Uniongyrchol
Rhaid ystyried taliadau uniongyrchol fel rhan annatod o'r broses gynllunio gofal, ac ni ddylid bellach eu gweld fel ystyriaeth eilaidd i gwrdd â gofynion cymorth gofalwr Rhaid i'r awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth briodol i alluogi gofalwyr i benderfynu os ydynt am gael taliad uniongyrchol am unrhyw gymorth yr ystyrir hwy i fod yn gymwys i'w dderbyn. Mae newidiadau yn y rheoliadau yn y Ddeddf yn ei gwneud yn haws i ddefnyddio taliadau uniongyrchol mewn ffyrdd blaengar a chreadigol fel dull o alluogi pobl i gyflawni eu deilliannau llesiant personol. Mae hyn yn galluogi unigolion i gynnal eu hannibyniaeth, ynghyd â mwy o ddewis a llais cryfach o ran sut i ddiwallu eu hanghenion cymorth unigol. Bwriadwyd y darpariaethau newydd i wneud taliadau uniongyrchol yn fwy hyblyg, yn llai biwrocrataidd ac wedi'u canoli ar y person. RHAID i daliadau uniongyrchol fod ar gael ym mhob achos lle maen nhw'n galluogi deilliannau i gael eu cyflawni. Rhaid i ymarferwyr fod yn flaengar a chreadigol, gan weithio mewn partneriaeth â gofalwyr ac eraill i alluogi'r gofalwr i gyflawni'r deilliannau sy'n bwysig iddyn nhw. Ni all yr awdurdod lleol wrthod taliad uniongyrchol ar sail y ffaith fod y gofalwr yn ansicr ynglŷn â rheoli'r arian yma neu ei fod yn methu ei reoli. Ni ellir ond gwrthod taliadau uniongyrchol mewn achosion, yn dilyn archwilio manwl, ei bod yn ymddangos na fyddent yn sicrhau'r deilliannau llesiant angenrheidiol. Cynhelir adolygiad chwe mis ar ôl gwneud y taliad cyntaf, a phob 12 mis ar ôl hynny, oni fydd yr awdurdod lleol, y derbynnydd neu berson addas yn ystyried hynny i fod yn angenrheidiol.
31
Rhan 4 – Taliadau Uniongyrchol
Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod taliadau uniongyrchol ar gael mewn achos lle mae gofalwr yn mynegi dymuniad i'w cael a lle maent yn galluogi gofalwr i gyflawni eu deilliannau personol a bodloni eu hanghenion cymorth cymwys Ni all yr awdurdod lleol wrthod taliad uniongyrchol ar sail y ffaith fod y gofalwr yn ansicr ynglŷn â rheoli'r arian yma neu ei fod yn methu ei reoli. Ni ellir ond gwrthod taliadau uniongyrchol mewn achosion, yn dilyn archwilio manwl, ei bod yn ymddangos na fyddent yn sicrhau'r deilliannau llesiant angenrheidiol. Cynhelir adolygiad chwe mis ar ôl gwneud y taliad cyntaf, a phob 12 mis ar ôl hynny, oni fydd yr awdurdod lleol, y derbynnydd neu berson addas yn ystyried hynny i fod yn angenrheidiol.
32
“Mae talu am ofal yn ddrud ac mae hynny wedi gwanhau fy ngallu i gyllido fy henoed beth bynnag fo cyflwr fy iechyd” Gofalwr Rhan 5
33
Rhan 4 a 5 Codi Ffioedd ac Asesiadau Ariannol
Codir tâl ar ddefnyddwyr presennol y gwasanaeth dan y trefniadau cyfredol nes i gynlluniau gofal gael eu hadolygu neu eu diweddaru. Ni all awdurdodau lleol godi tâl ar y canlynol: rhiant neu warchodwr am ofal a chymorth y mae eu plentyn yn ei gael dan Ran 4 y Ddeddf cymorth i blentyn sy'n ofalwr (dan 18 oed) Mae Rhan 5 o'r Ddeddf yn ymwneud â Chodi Ffioedd ac Asesiadau Ariannol Mae'r Rheoliadau ar gyfer Rhan 5 Codi Ffioedd ac Asesiadau Ariannol ar gael fan yma Mae Rhan 5 o'r Côd Ymarfer ar Godi Ffioedd ac Asesiadau Ariannol ar gael fan yma RHAID i awdurdodau lleol, pan fyddant yn ymarfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, weithredu yn unol â gofynion y Côd. NID YW Adran 147 (eithriadau i ofynion y Côd) yn berthnasol i unrhyw ofynion a gynhwysir yn y Côd. Dylid ystyried cyfeiriadau yn y Côd ac atodlenni at 'ofal a chefnogaeth' i gynnwys cyfeiriad at 'gefnogaeth i ofalwyr'
34
Codi tâl am gymorth i oedolion sy'n gofalu
Pan mae gan oedolyn (18+) sy'n gofalu anghenion cymorth cymwys, mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd, neu bŵer mewn rhai achosion, i drefnu cymorth i gwrdd eu hanghenion Ni chaiff awdurdod lleol godi tâl ar ofalwr sy'n oedolyn am ofal a chymorth a ddarperir yn uniongyrchol i'r person y maent yn gofalu amdano Yn ogystal â hyn, nid oes gofyn i awdurdodau lleol godi tâl ar oedolion sy'n gofalu am gymorth ac mewn llawer o achosion, byddai gwneud hynny'n economi ffug Wrth wneud penderfyniad ynglŷn â chodi tâl, a gosod beth fyddai lefel briodol ar gyfer tâl, RHAID i awdurdod lleol ystyried sut mae'n bwriadu mynegi'r ffordd mae'n gosod gwerth ar ofalwyr o fewn y gymuned leol fel partneriaid mewn gofal, a chydnabod y cyfraniad sylweddol a wneir gan ofalwyr. Mae gofalwyr yn helpu i gynnal iechyd a llesiant y sawl maen nhw'n gofalu amdano, maent yn cynorthwyo annibyniaeth y person hwnnw ac yn eu galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain yn hwy. Mae gofalwyr yn cwrdd ag anghenion cymwys yr unigolyn y byddai gofyn i'r awdrudod lleol fel arall eu diwallu; dyma pam bod RHAID i awdurdodau lleol ystyried yn ofalus beth fyddai effaith tebygol codi tâl ar barodrwydd y gofalwr i barhau i ddarparu gofal.
35
Codi tâl am gymorth i oedolion sy'n gofalu
Rhaid i awdurdodau lleol ystyried effaith tebygol unrhyw daliadau, yn enwedig eu parodrwydd a'u gallu i barhau â'u cyfrifoldebau gofalu Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau nad yw unrhyw daliadau a godir yn effeithio'n negyddol ar allu gofalwr i edrych ar ôl eu hiechyd a'u llesiant eu hunain, yn ogystal â'u gallu i ofalu'n effeithiol ac yn ddiogel Wrth ystyried a fyddant yn codi tâl neu'n gofyn am gyfraniad, rhaid i awdurdodau lleol ystyried lefel y tâl y mae'n bwriadu ei godi a'r effaith y bydd hyn yn ei gael ar allu gofalwyr i ymgymryd â'u rôl gofalu Wrth wneud penderfyniad ynglŷn â chodi tâl, a gosod beth fyddai lefel briodol ar gyfer tâl, RHAID i awdurdod lleol ystyried sut mae'n bwriadu mynegi'r ffordd mae'n gosod gwerth ar ofalwyr o fewn y gymuned leol fel partneriaid mewn gofal, a chydnabod y cyfraniad sylweddol a wneir gan ofalwyr. Mae gofalwyr yn helpu i gynnal iechyd a llesiant y sawl maen nhw'n gofalu amdano, maent yn cynorthwyo annibyniaeth y person hwnnw ac yn eu galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain yn hwy. Mae gofalwyr yn cwrdd ag anghenion cymwys yr unigolyn y byddai gofyn i'r awdurdod lleol fel arall eu diwallu; dyma pam bod RHAID i awdurdodau lleol ystyried yn ofalus beth fyddai effaith tebygol codi tâl ar barodrwydd y gofalwr i barhau i ddarparu gofal.
36
“Rydw i’n teimlo nad ydw i’n gallu cwyno”
Gofalwr Rhan 10
37
Rhan 10 – Cwynion, Sylwadau a Gwasanaethau Eiriolaeth
Mae Rhan 10 – Cwynion ac eiriolaeth mor berthnasol i ofalwyr ag y mae i'r bobl y maent yn gofalu amdanynt Mae gweithdrefnau cwynion presennol yn berthnasol – datrysiad lleol, archwilio ffurfiol, Ombwdsmon Cymru Nid oes unrhyw beth yn y Ddeddf newydd sy'n gwneud caniatáu ar gyfer apeliadau os yw person yn anfodlon â chanlyniad y gŵyn Mae Rhan 10 o'r Ddeddf yn ymwneud â Chwynion, Sylwadau a Gwasanaethau Eiriolaeth Mae gan Lywodraeth Cymru'r pŵer i wneud rheoliadau ond nid oes ar hyn o bryd unrhyw reoliadau parthed cwynion Mae Rhan 10 o'r Côd Ymarfer ar Eiriolaeth i'w weld fan yma
38
“Sut ydym yn mynd i sicrhau ein bod yn cyrraedd gofalwyr ac yn eu cynorthwyo yn y gymuned? Heb systemau go iawn i gefnogi gofalwyr, caiff llawer o bobl eu hynysu a'u gadael ar eu pen eu hunain” Gofalwr Crynodeb
39
Crynodeb Mae'r Ddeddf yn cynnwys newidiadau sylweddol i ofalwyr, gan gynnwys hawliau newydd a dyletswyddau i awdurdodau lleol Diffiniad newydd ehangach o ofalwr Dyletswydd i gynnig asesiad o'u hanghenion eu hunain Dyletswydd gyfreithiol i fodloni anghenion dilys gofalwr yn dilyn asesiad
40
Crynodeb Mae gofalwyr wrth galon y Ddeddf newydd, sy'n darparu cyfle sylweddol i'w cefnogi fel partneriaid llawn Mae gofalwyr yn cyfrannu 96% o ofal yn y gymuned yng Nghymru a bydd edrych ar ôl eu llesiant yn hollbwysig er mwyn darparu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy
41
Adnodd hyfforddi DIOLCH
Cefnogi gofalwyr a chyflawni dyletswyddau newydd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Adnodd hyfforddi DIOLCH
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.