Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Chwarae Teg? Defnyddio'r Gemau Olympaidd i edrych ar anghydraddoldeb.

Similar presentations


Presentation on theme: "Chwarae Teg? Defnyddio'r Gemau Olympaidd i edrych ar anghydraddoldeb."— Presentation transcript:

1 Chwarae Teg? Defnyddio'r Gemau Olympaidd i edrych ar anghydraddoldeb

2 Sesiwn Mathemateg Mesur y bylchau

3 GEMAU OLYMPAIDD RIO 2016 Bydd 10,500 o athletwyr o 206 gwlad yn cymryd rhan. Yn ystod 17 diwrnod y gemau bydd camp i ennill medalau. Am bob camp, bydd tair medal yn cael eu rhoi – aur, arian ac efydd. Faint o fedalau fydd yn cael eu rhoi i gyd yn ystod y gemau? Petai pob gwlad yn cymryd rhan ym mhob camp a phetai ganddyn nhw gyfle cyfartal i ennill medal, tua faint o fedalau y byddai pob gwlad yn disgwyl eu hennill?

4 ADNABOD BANERI O’r chwith i’r dde
Y rhes uchaf: Ethiopia, India, Periw, Vietnam, Y DU, Brasil Yr ail res: Ghana, China, Norwy, Pakistan, Ukrain, Nigeria Y drydedd res: México, Yr Eidal, De Affrica, Iran, Malawi Y bedwaredd res: Ffederasiwn Rwsia, Yr Unol Daleithiau, Tunisia, Chile, Bulgaria Y bumed res: Nepal, Mongolia, Awstralia, Y Pilipinas/Philipines, Bolivia Y chweched res: Yemen, Rwanda, Jamaica, Yr Almaen, Japan

5 NIFER YR ATHLETWYR Y Deyrnas Unedig 556 India 83 Ffederasiwn Rwsia 437
Sierra Leone 2 Brasil 267

6 BETH SY'N BWYSIG? Cyfeillgarwch Rhagoriaeth Penderfyniad Parch
Ffynhonnell y ddelwedd: Y Pwyllgor Rhyngwladol Olympaidd - Nodyn: At ddibenion golygyddol yn unig ac nid yw’r adnodd hwn yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol. Ysbrydoliaeth Dewrder Cydraddoldeb

7 INCWM GWLEDYDD Mae Banc y Byd yn dosbarthu pob gwlad i un o'r categorïau hyn: gwlad incwm isel (GII) gwlad incwm canolig is (GICI) gwlad incwm canolig uwch (GICU) gwlad incwm uchel (GIU) Ym mha grŵp mae pob un o'r gwledydd hyn, tybed? Incwm cyfartalog y person: Brasil ($11,530/£8.016), Y DU ($43,430/£30,533), Nepal ($730/£513), Nigeria ($2,970/£2,088) Ffynhonnell y data: Mae’r data hwn ar gyfer GNI y pen, dull Atlas ($UDA cyfredol), Banc y Byd (data o2014 neu 2013) data.worldbank.org/ Mae’r ffigurau’n gywir adeg cyhoeddi’r adnodd hwn. Brasil Y DU Nepal Nigeria GICU GIU GII GICI

8 AMSER MEDDWL Pa grŵp o wledydd sydd â'r canran uchaf o wledydd yn ennill o leiaf un fedal? Pa grŵp o wledydd sydd â'r canran isaf o wledydd yn ennill o leiaf un fedal? Yn eich barn chi, pam mae canran y gwledydd sy'n ennill o leiaf un fedal yn uwch yn y grwpiau gwledydd incwm uwch nag yn y grwpiau gwledydd incwm is? Yn ôl y data hyn, pa grŵp o wledydd sydd fwyaf tebygol o fod â gwlad sy'n ennill o leiaf un fedal? Pa grŵp o wledydd yw'r lleiaf tebygol o gynnwys gwlad sy'n ennill o leiaf un fedal? Pa ffactorau eraill a allai effeithio ar y cyfleoedd sydd gan wlad o ennill o leiaf un fedal?

9 CAMPAU OLYMPAIDD Maths sleid 9 Clocwedd o'r un uchaf ar y chwith
Gwybodaeth am y ddelwedd: Kristi Harrower, chwaraewr pêl-fasged Awstralia a chwaraewr i dîm Bendigo Spirit, yn driblo'r bêl ymlaen yn y gêm ragarweiniol hon yng Ngrŵp B Gemau Olympaidd Llundain yn erbyn Rwsia. Cydnabyddiaeth y ffotograff: &DCfrom Coulsdon, Llundain, y Deyrnas Unedih commons.wikimedia.org/wiki/File:Kristi_Harrower_-_London_2012_Olympics_Womens_Basketball_(Australia_v_Russia).jpg Trwyddedwyd o dan drwydded Creative Commons Attribution-Share Alike 2.0 Generic license: creativecommons.org/licenses/by/2.0/deed.en Gwybodaeth am y ddelwedd: Tîm Prydain Fawr ar gylchffordd Box Hill (ger Nower Wood, ar bwys Headley), Swydd Surrey, yn ystod Ras Ffordd y Dynion yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012. Cydnabyddiaeth y ffotograff: Paul Wilkinson commons.wikimedia.org/wiki/File:Team_GB_on_Box_Hill_circuit_(by_Nower_Wood,_near_Headley),_Surrey,_during_2012_Olympics_Mens_Road_Race.jpg Gwybodaeth am y ddelwedd: Park Taehwan o Korea, enillydd medal arian ras 400m Dull Rhydd Dynion yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012. Cydnabyddiaeth y ffotograff: Korea.net/Gwasanaeth Diwylliant a Gwybodaeth Korea (Pwyllgor Olympaidd Korea) commons.wikimedia.org/wiki/File:KOCIS_Korea_LondonOlympics_ParkTaehwan_02_( ).jpg Gwybodaeth am y ddelwedd: Tina Cook a Miners Frolic, yn cystadlu dros y DU, wrth ffens 9, yn ystod y cam trawsgwlad o'r gystadleuaeth Farchogaeth yn ystod Gemau Olympaidd 2012 ym Mharc Greenwich, Llundain. Cydnabyddiaeth y ffotograff: Henry Bucklow/Lazy Photography commons.wikimedia.org/wiki/File:Tina_Cook_Miners_Frolic_cross-country_London_Olympics_2012.jpg Trwyddedwyd o dan drwydded Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported license: creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0/deed.en Gwybodaeth am y ddelwedd: Tîm Saethyddiaeth Menywod Korea yng Ngemau Olympaidd Llundain commons.wikimedia.org/wiki/File:KOCIS_Korea_London_Olympic_Archery_Womenteam_18_( ).jpg Gwybodaeth am y ddelwedd: Usain Bolt ar ddechrau'r 200m yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012. Cydnabyddiaeth y ffotograff: Nick Webb commons.wikimedia.org/wiki/File:Usain_Bolt_2012_Olympics_start.jpg Gwybodaeth am y ddelwedd: Cleddyfaeth (dynion) yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012. Cydnabyddiaeth y ffotograff: Steve Fair, commons.wikimedia.org/wiki/File:Fencing_at_the_2012_Summer_Olympics_5557.jpg Gwybodaeth am y ddelwedd:  Gymnasteg rythmig yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012. Cydnabyddiaeth y ffotograff: cdephotos, commons.wikimedia.org/wiki/File:London_2012_Rhythmic_Gymnastics_-_Belarus.jpg

10 AMSER MEDDWL Pa gampau allai fod ag ychydig o athletwyr neu ddim athletwyr o gwbl o wledydd incwm is sy'n cymryd rhan ac yn ennill medalau? Pam rydych chi'n meddwl hyn? Pa gampau allai fod â mwy o athletwyr o wledydd incwm is yn cymryd rhan? Pam rydych chi'n meddwl hyn? Sut gallech chi ymchwilio i hyn?

11 ANGHYDRADDOLDEB RHWNG GWLEDYDD
Mae anghydraddoldeb rhwng gwledydd yn y byd. Mae hyn yn golygu nad yw pethau wedi'u rhannu'n deg rhwng gwledydd. Er enghraifft, mae rhai gwledydd yn gyfoethog ac mae eraill yn hynod o dlawd.

12 ANGHYDRADDOLDEB O FEWN GWLEDYDD
Hefyd mae anghydraddoldeb o fewn gwledydd. Mae hyn yn golygu nad yw pethau'n cael eu rhannu'n deg o fewn yr un wlad. Er enghraifft, efallai fod gan rai pobl fwy o arian nag eraill.

13 Ffynhonnell: A Tale of Two Britains: Inequality in the UK, Sarah Dransfield, Oxfam (2014)

14 SGORIO ANGHYDRADDOLDEB O FEWN GWLEDYDD
Gellir rhoi sgôr i wledydd (o'r enw mynegai Gini) i ddangos pa mor gydradd neu anghydradd maen nhw. Mae sgôr o 0 yn golygu bod y wlad yn hollol gydradd, fod gan bawb yn y wlad honno'r un faint o arian. Byddai hynny'n edrych yn debyg i hyn: Mewn gwirionedd, does dim un wlad yn edrych fel hyn.

15 SGORIO ANGHYDRADDOLDEB O FEWN GWLEDYDD
Mae sgôr o 100 yn golygu bod y wlad yn hollol anghydradd. Byddai hynny'n edrych yn debyg i hyn: 100 Mewn gwirionedd, diolch byth, does dim un wlad yn edrych fel hyn chwaith.

16 ANGHYDRADDOLDEB O FEWN GWLEDYDD
Beth rydych chi'n meddwl yw'r sgôr cydraddoldeb ar gyfer y DU? Beth rydych chi'n meddwl yw'r sgôr cydraddoldeb ar gyfer Brasil? Ble bydden nhw'n dod ar y siart isod? Hollol gydradd Hollol anghydradd Y DU Brasil

17 ANGHYDRADDOLDEB O GWMPAS Y BYD
Mae'r map hwn o'r byd yn dangos sut mae gwledydd y byd yn cymharu o ran anghydraddoldeb incwm yn ôl mynegai Gini. Mae'r gwledydd sy'n fwy cydradd wedi'u lliwio'n wyrdd. Mae'r gwledydd sy'n fwy anghydradd wedi'u lliwio'n binc, oren a choch. Ffynhonnell: The World Factbook, CIA, 2009: SGÔR TEGWCH

18 YSTYRIED ANGHYDRADDOLDEB
Nid mater o sut caiff arian ei rannu rhwng ac o fewn gwledydd yn unig yw anghydraddoldeb. Gall fod anghydraddoldeb hefyd yn y mathau o gyfleoedd sydd gan bobl yn eu bywyd. Clocwedd o’r llun uchaf ar y chwith Mynediad i ddŵr Gwybodaeth am y ddelwedd: Bachgen yn nôl dŵr o ffynnon yn Dargalar, Azerbaijan. Cydnabyddiaeth y ddelwedd: David Levene/Oxfam Mynediad i chwarae Gwybodaeth am y ddelwedd: Mae Lucas yn byw yn Macuscani, tref fach yn uchel ym mynyddoedd Periw. Cydnabyddiaeth y ddelwedd: Annie Bungeroth/Oxfam Mynediad i addysg Gwybodaeth am y ddelwedd: Myfyrwyr mewn ysgol i ferched ym mhentref Sanjar Bhatti, ardal Kambar Shahdad Kot, Rhanbarth Sindh, Pakistan. O’r chwith i’r dde: Gori Bhatt, Amna Khatoon Brohi aShazzia Bhatti. Cydnabyddiaeth y ddelwedd: Irina Werning/Oxfam Mynediad i ofal iechyd Gwybodaeth am y ddelwedd: Dr Amen Yagoub yn edrych ar Barka, 6 oed yng Nghlinig Iechyd Maddodha yn Sayoun, Yemen. Cydnabyddiaeth y ddelwedd: Abbie Trayler-Smith/Oxfam Mynediad i dechnoleg Gwybodaeth am y ddelwedd: Noorkishili Naing’isa, arweinydd menywod, yn derbyn galwad ar ei ffôn symudol wrth bori ei gwartheg yn Mairowa Chini, Ololosokwan, Ngorongoro, Tanzania. Cydnabyddiaeth y ddelwedd: Geoff Sayer/Oxfam


Download ppt "Chwarae Teg? Defnyddio'r Gemau Olympaidd i edrych ar anghydraddoldeb."

Similar presentations


Ads by Google