Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
1
Clefyd y Llengfilwyr Introduction
Usually have corporate induction every month – but have been revamping it and have reduced it to being half a day
2
Beth yw Clefyd y Llengfilwyr?
Mae Legionellosis yn derm cyfunol ar gyfer clefydau a achosir gan y bacteria legionella gan gynnwys y mwyaf difrifol sef Clefyd y Llengfilwyr, ynghyd â’r cyflyrau llai difrifol fel clefyd Pontiac a chlefyd Lochgoilhead. Gall Clefyd y Llengfilwyr fod yn fath angheuol o niwmonia ac mae pawb yn agored i’r haint.
3
RISG Mae’r risg yn cynyddu gydag oedran ond mae risg uwch i rai pobl, gan gynnwys: pobl dros 45 oed Ysmygwyr a phobl sy’n yfed yn drwm Pobl sy’n dioddef anhwylder resbiradol cronig neu glefyd yr arennau Clefyd siwgr, clefyd yr ysgyfaint a chlefyd y galon Unrhyw un sydd â system imiwnedd diffygiol Mae’r bacteriwm Legionella pneumophila a bacteria cysylltiedig yn gyffredin mewn ffynonellau dŵr naturiol megis afonydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr ond mae’r lefelau’n isel fel arfer. Gellir hefyd dod o hyd iddynt mewn systemau dŵr sydd wedi’u hadeiladu’n bwrpasol megis tyrau oeri cyddwysyddion anweddu, systemau dŵr poeth ac oer a phyllau spa.
4
Oes yna risgiau Legionella yn fy ngweithle?
Gall unrhyw system ddŵr, gyda’r amodau amgylcheddol cywir, fod yn ffynhonnell ar gyfer twf bacteria legionella. Mae yna risg resymol o legionella os yw eich system ddŵr: yn un sydd â tymheredd dŵr o rhwng 20 a 45°C yn creu a/neu’n teaenu defnynnau y mae modd i aer fynd drwyddynt e.e. erosol sy’n cael ei greu gan dŵr oeri neu ffynonellau dŵr unrhyw beth sy’n storio neu’n ail gylchredeg dŵr tebygol o gynnwys ffynhonnell o faetholion er mwyn i’r organeb allu tyfu e.e. rhwd, llaid, defnydd organig a bioffilmiau Mae’r mathau mwyaf cyffredin o legionella yn bodoli mewn systemau dŵr sydd wedi eu gwneud gan ddyn, gan gynnwys: Tyrau oeri a chyddwysyddion anweddu Systemau dŵr poeth ac oer Pyllau spa
5
Symptomau Mae symptomau Clefyd y Llengfilwyr yn debyg iawn i rai ffliw: tymheredd uchel, gwres a theimlo’n oer; tagu; poen yn y cyhyrau; cur pen; sy’n arwain at niwmonia, ac ar adegau prin dolur rhydd ac arwyddion o ddryswch meddyliol Nid yw Clefyd y Llengfilwyr yn trosglwyddo o berson i berson. Beth i’w wneud Os ydych yn amau bod eich salwch wedi ei achosi gan eich gwaith, dylech hysbysu eich rheolwr am hyn, yn ogystal â’ch cynrychiolydd iechyd a diogelwch. Mae gofyniad cyfreithiol ar weithwyr i riportio achosion o Glefyd y Llengfilwyr a allai fod wedi eu caffael ar eu heiddo i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
6
Rheoli legionella mewn systemau dŵr poeth ac oer
Defnyddio rheoliadau tymheredd Y prif ddull a ddefnyddir i reoli’r risg gan Legionella yw rheoli tymheredd y dŵr. Fe ddylai gwasanaethau dŵr gael eu gweithredu ar dymereddau sy’n atal datblygiad Legionella: Fe ddylai silindrau storio dŵr poeth (caloriffyddion) storio dŵr ar dymheredd o 60°C neu uwch Dylid dosbarthu dŵr poeth ar 50°C neu uwch (mae angen i falfiau cymysg thermostatig gael eu gosod mor agos â phosibl i allfeydd, lle gall fod mae risg o sgaldio). Dylid storio a dosbarthu dŵr oer ar dymheredd is na 20°C. Fe ddylai unigolyn cymwys wirio, archwilio a glanhau’r system
7
Mae copi llawn o Bolisi Rheoli Legionella y Cyngor ar gael ar MonITor.
Mae mwy o wybodaeth ar Legionella ac amrywiaeth i faterion iechyd a diogelwch eraill i’w gweld ar wefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac ar dudalennau MonITor y Cyngor. .
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.