Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
Published byErlin Irawan Modified over 5 years ago
1
Arolwg ar Chwaraeon Ysgol ac Arolwg Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Egnïol AB 2018
2
Cyflwyno’r cefndir
3
Beth yw’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol?
Mae’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol yn arolwg ar-lein ar ddisgyblion 7-18 oed ac athrawon sy’n gyfrifol am gyflwyno addysg gorfforol (AG) a chwaraeon ysgol. Mae pob ysgol yng Nghymru sydd â disgyblion 7 oed a hŷn yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg, gan gynnwys ysgolion arbennig ac ysgolion annibynnol. Hefyd mae’r arolwg yn agored i ddisgyblion mewn colegau chweched dosbarth ac AB drwy gyfrwng yr Arolwg ar Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Egnïol AB.
4
Penawdau o Arolwg 2015 Mwy na 116,000 o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan yn Arolwg ar Chwaraeon Ysgol 2015 Bron i 1000 o ysgolion wedi cymryd rhan
5
Title of slide Bullet point one Bullet point two Bullet point three
Bullet point four Bullet point five Headline results from 2013
6
Title of slide Bullet point one Bullet point two Bullet point three
Bullet point four Bullet point five Headline results from 2013
7
Nodau ar gyfer 2018
8
Nodau ar gyfer 2018 Pob ysgol a choleg sy’n cymryd rhan yn gymwys am adroddiad unigol, teilwredig ar eu canlyniadau. Rydyn ni eisiau i bob awdurdod lleol yng Nghymru dderbyn ystadegau lefel leol o ansawdd uchel. Ein nod ni yw cynnal neu gynyddu nifer yr ymatebion a dderbyniwyd yn 2015 (116,000). Mae ein tystiolaeth o wir werth wrth i ni barhau i wrando ar farn disgyblion ac athrawon.
9
Nodau ar gyfer 2018 Ein nod ni yw sicrhau bod yr arolwg yn agored i gymaint o bobl ifanc â phosib. Mae pob ymateb yn bwysig – dim ots os yw disgybl yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ai peidio ar hyn o bryd. Rydyn ni eisiau gwella hygyrchedd a rhoi sylw i faterion cydraddoldeb. Rydyn ni eisiau i fwy o ddisgyblion gael cyfle i gymryd rhan drwy gyfrwng gwella adnoddau a chefnogaeth gyda’r holiadur. Bydd ymateb sy’n cynrychioli poblogaeth yr ysgol yn rhoi data o ansawdd gorau i ysgolion a phartneriaid sy’n gweithio ar draws y sector chwaraeon.
10
Cynulleidfaoedd allweddol
Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru – sylfaen i ddylanwadu ar bolisi chwaraeon, monitro a thracio tueddiadau cymryd rhan a’r ddarpariaeth ledled Cymru. Ysgolion ac Arolygwyr Estyn– mae’n darparu tystiolaeth o sut mae chwaraeon ac AG yn yr ysgol yn cyfrannu at les disgyblion. Awdurdodau Lleol/Rhanbarthau/Consortia – data fel sail i gynllunio a darparu yn lleol. Cyrff Rheoli Cenedlaethol – gwybodaeth benodol am chwaraeon fel sail i gynllunio lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Disgyblion a Llysgenhadon Ifanc - mae gwrando ar ein cynulleidfa darged yn hanfodol er mwyn gwella’r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.
11
Y llinell amser
13
Gofynion TG Mae’r gofynion technegol ar gyfer llenwi’r arolwg fel a ganlyn: Cyswllt dibynadwy â’r Rhyngrwyd. Gallu derbyn negeseuon e-bost swmp a ddefnyddir ar gyfer gwahoddiadau a negeseuon atgoffa’r arolwg. Y porwr sy’n cael ei argymell yw Internet Explorer fersiwn 7 ac uwch, Firefox neu unrhyw borwr sy’n gweithio gyda HTML 4.0 Transitional. Porwr wedi’i alluogi gan Javascript i ganiatáu ar gyfer y nodweddion deinamig yn yr holiadur.
14
Gwybodaeth am Arweinwyr Lleol
Bydd yr Arweinwyr Lleol yn cael mynediad at y canlynol: Y dolenni unigryw ar gyfer pob ysgol i gael mynediad i’w holiaduron ar-lein. Bydd un ddolen i bob ysgol ar gyfer y disgyblion ac un ddolen ar gyfer yr athrawon. Manylion mewngofnodi ar gyfer mynd i mewn i’r system fonitro fyw. Gellir defnyddio hon i wirio nifer yr ymatebion gan ysgolion ac awdurdodau lleol ar unrhyw adeg tra mae’r arolwg yn fyw. Gellir lawrlwytho adroddiadau cryno ar gynnydd. Diweddariadau wythnosol ar e-bost gan dîm Gwybodaeth Chwaraeon Cymru, gyda chyngor ar ble fydd angen targedu cefnogaeth o bosib, i roi hwb i ymatebion.
15
Proses a Llinell Amser – Arolwg ar Chwaraeon Ysgol
Cyn y Pasg, bydd ysgolion yn derbyn neges e-bost gan Beaufort Research gyda manylion am sut i fynd i mewn i’r arolwg a chyfarwyddyd o ran sampl ofynnol. Bydd dolenni’r arolwg yn cael eu hanfon at ysgolion erbyn Ebrill 16eg. Mae’r arolwg yn agor ar Ebrill 16eg ac yn cau ddiwedd tymor yr haf. Awst i Hydref – pwysoli’r data, eu dadansoddi, datblygu a chreu adroddiadau. Hydref 2018 – Dosbarthu’r canlyniadau.
16
Proses a Llinell Amser – Arolwg AB
Ar Fawrth 12fed bydd colegau’n derbyn neges e-bost gan Beaufort Research yn manylu ar eu sampl ofynnol. Bydd dolenni’r arolwg yn cael eu hanfon at golegau ar Fawrth 19eg. Mae’r arolwg yn agor ar Fawrth 19eg ac yn cau ddiwedd tymor yr haf. Awst i Hydref – pwysoli’r data, eu dadansoddi, datblygu a chreu adroddiadau. Hydref 2018 – Dosbarthu’r canlyniadau.
17
Manteision cymryd rhan - Ysgolion
18
Estyn Mae Estyn yn cydnabod bod canlyniadau’r arolwg yn gyfraniad defnyddiol at werthusiad o les dysgwyr. Hefyd caiff y canlyniadau eu derbyn fel tystiolaeth yn asesiad hunanarfarnu ysgol.
19
Estyn “Yn allweddol i hunanarfarnu effeithiol mae defnyddio’r wybodaeth a’r data cywir. Dyma pam mae Estyn yn cydnabod yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol fel ffynhonnell werthfawr o bosib o wybodaeth ar gyfer hunanarfarniad. Drwy ddefnyddio’r wybodaeth hon, gall ysgolion gynllunio sut i gryfhau eu darpariaeth a gwella safonau cyrhaeddiad disgyblion.”
20
Adroddiadau teilwredig i ysgolion
Bydd ysgolion sy’n sicrhau eu nifer targed o ymatebion ac sydd â sampl gytbwys yn derbyn adroddiad teilwredig ar eu canlyniadau ar gyfer cynllunio ac arolygon. Gellir defnyddio’r data yn yr adroddiad i ddangos y canlynol: Lefel yr ymgysylltu mewn AG a chwaraeon. Cyfranogiad a mwynhad y disgyblion wrth ddysgu. Ydi darpariaeth yr ysgol yn diwallu anghenion yr holl ddysgwyr? Oes cysylltiadau’n cael eu gwneud â’r gymuned leol? Tystiolaeth o lais y disgybl, gweithio gyda’r dysgwr a rhoi cyfrifoldeb iddo. Monitro cynnydd dros amser.
21
Beth allwn ni ei ddysgu am les disgyblion?
Agweddau at gadw’n iach a diogel: Beth yw barn y disgyblion am gyfraniad AG a chwaraeon at fod yn iach a chael ffordd o fyw gytbwys? Sut mae’r disgyblion yn teimlo am gymryd rhan mewn AG a Chwaraeon? Ydyn nhw’n hapus yn cymryd rhan? Cyfranogiad a mwynhad wrth ddysgu: Ydi’r disgyblion yn mwynhau AG, chwaraeon a gweithgarwch corfforol? Oes gwahaniaethau yn ôl oedran, rhyw, ethnigrwydd neu anabledd? Ydi’r disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol?
22
Beth allwn ni ei ddysgu am les disgyblion?
Cyfranogiad cymunedol a gwneud penderfyniadau: Oes tystiolaeth o lais y dysgwr? Ydi’r disgyblion yn teimlo bod rhywun yn gwrando ar eu barn am chwaraeon ac AG? Beth sy’n cymell eich disgyblion i gymryd rhan? Beth yw’r rhwystrau? Ydi’r disgyblion yn cymryd rhan mewn chwaraeon cymunedol trefnus a chwaraeon hamdden pan nad ydynt yn yr ysgol? Sgiliau cymdeithasol a bywyd: Ydi’r disgyblion yn hyderus i roi cynnig ar weithgareddau newydd?
23
Fy Ysgol Leol I Yn 2018, bydd wyth dangosydd o’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol yn rhan o wefan Fy Ysgol Leol I Llywodraeth Cymru: Canran y disgyblion sydd ‘wedi gwirioni ar chwaraeon’ ac sy’n cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos mewn chwaraeon clwb allgyrsiol neu gymunedol. Canran y disgyblion sy’n mwynhau gwersi AG. Canran y disgyblion sy’n mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon mewn clybiau ar ôl ysgol neu amser cinio. Canran y disgyblion sy’n hyderus i roi cynnig ar weithgareddau newydd. Canran y disgyblion sy’n meddwl bod gwersi AG a chwaraeon yn eu helpu i fyw yn iach. Canran y disgyblion sy’n teimlo’n gyfforddus yn cymryd rhan mewn gwersi AG a chwaraeon ysgol. Canran y disgyblion sy’n teimlo bod syniadau’r disgyblion ar gyfer AG a chwaraeon ysgol yn cael sylw. Y munudau yr wythnos ar gyfartaledd a neilltuir i AG y cwricwlwm.
24
Manteision cymryd rhan - Colegau
25
Adroddiadau teilwredig i golegau
Bydd colegau sy’n sicrhau eu nifer targed o ymatebion ac sydd â sampl gytbwys yn derbyn adroddiad teilwredig ar eu canlyniadau ar gyfer cynllunio ac arolygon. Gellir defnyddio’r data yn yr adroddiad i ddangos y canlynol: Lefel yr ymgysylltu mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Cyfranogiad a mwynhad y myfyrwyr mewn chwaraeon. Tystiolaeth o lais y myfyriwr, gweithio gyda’r dysgwr a rhoi cyfrifoldeb iddo. Gwybodaeth am alw cudd. Monitro cynnydd dros amser.
26
Manteision cymryd rhan – Awdurdodau Lleol
27
Adroddiadau Awdurdodau Lleol
Bydd yr awdurdodau lleol sy’n sicrhau nifer digonol o ymatebion i’r arolwg yn cael adroddiad teilwredig ar ganfyddiadau’r arolwg. Hefyd bydd yr Awdurdodau Lleol cymwys yma’n cael graffeg gwybodaeth a chyfres o dablau data gyda chanlyniadau ar gyfer eu hysgolion, yr ALl, eu rhanbarth a Chymru.
28
Adroddiadau teilwredig
Bydd Chwaraeon Cymru’n darparu adroddiadau i awdurdodau lleol i gynnwys gwybodaeth am y canlynol: Cyfranogiad mewn chwaraeon allgyrsiol a chymunedol trefnus – faint o ddisgyblion yn yr awdurdod sydd wedi gwirioni ar chwaraeon? Oes gwahaniaethau yn ôl oedran, rhyw a lefel cyni? Barn disgyblion am chwaraeon ysgol a chymunedol. Pa chwaraeon maen nhw eisiau mwy ohonynt? Beth yw’r rhwystrau sy’n atal cymryd rhan, a beth fyddai’n annog pobl ifanc i wneud mwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol? Crynodebau o’r prif ystadegau a’r cynnydd tuag at y Strategaeth Chwaraeon Cymunedol, yn cael eu cyflwyno yn ôl nodweddion gwarchodedig os yw hynny’n bosib.
29
Adnoddau Cefnogi
30
Adnoddau eirioli a chefnogi
Ewch i’r wefan am ragor o adnoddau, gan gynnwys y canlynol: Astudiaethau achos arfer gorau Astudiaethau achos ‘Sut i’ Graffeg Gwybodaeth Cwestiynau Cyffredin Nodiadau cyfarwyddyd i ysgolion, colegau a staff cefnogi Blogiau
31
Cysylltu â ni Mwy o wybodaeth am yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol ar gael yn Mae posib cael y wybodaeth ddiweddaraf am waith Chwaraeon Cymru ar: Ein gwefan ni Facebook
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.