Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Sleid i’r ATHRO yn unig PowerPoint yw hwn sy’n dangos beth yw’r opsiwn arteffact i chi, a’r myfyrwyr. Cofiwch nad oes raid i’r myfyrwyr wneud hyn – mae.

Similar presentations


Presentation on theme: "Sleid i’r ATHRO yn unig PowerPoint yw hwn sy’n dangos beth yw’r opsiwn arteffact i chi, a’r myfyrwyr. Cofiwch nad oes raid i’r myfyrwyr wneud hyn – mae."— Presentation transcript:

1 Sleid i’r ATHRO yn unig PowerPoint yw hwn sy’n dangos beth yw’r opsiwn arteffact i chi, a’r myfyrwyr. Cofiwch nad oes raid i’r myfyrwyr wneud hyn – mae hyn er mwyn i ni allu newid y canlyniad posibl i’r myfyrwyr hynny sy’n cael trafferth ysgrifennu traethodau. .. Adnoddau Arteffact Gwybodaeth am y sleidiau Sleid 2– Edrych ar y gwahaniaeth rhwng y projectau ysgrifenedig. Dangosir y trywydd arteffact mewn lliw oren. Sleid 4 –6 Syniadau posibl i feddwl am deitl. Myfyrwyr i feddwl beth allan nhw greu, dylunio, cynhyrchu sydd â chysylltiad â’u dyheadau gyrfa/diddordebau. Dim ond syniadau yw’r rhain, gallan nhw feddwl am unrhyw beth arall, cyn belled â bod modd ei wneud ar y cyfrifiadur. Sleid 7 – 11 Sut i ysgrifennu’r cyflwyniad – maent eisoes wedi cael profiad o beth i’w ysgrifennu, ond mae’r sleidiau hyn yn rhoi cymorth iddynt ail ysgrifennu ar gyfer eu syniad newydd am broject. Sleid 12 – 15 – Sut i ysgrifennu 3 nod a 2 amcan ar gyfer pob nod. Mae hefyd canllaw ar ferfau ar sleid 15 i helpu gyda dechrau brawddegau. Sleid 16 – Gofynnwch i’r myfyrwyr agor a chadw’r ddogfen “Project Arteffact Unigol” newydd o dan eu henw defnyddiwr. Dyma fydd strwythur sylfaenol y project. Mae angen iddynt gwblhau’r syniadau cychwynnol, y teitl, y cyflwyniad, y nodau a’r amcanion. Gwaith cartref – erbyn y wers nesaf – cwblhau’r teitl, y cyflwyniad, y nodau a’r amcanion os nad ydynt wedi gwneud, er mwyn i chi egluro i’r dosbarth cyfan sut i ysgrifennu rhesymeg yn y wers nesaf.

2 Gwers: Project Arteffact Unigol

3 Beth yw’r gwahaniaeth rhwng adroddiad ymchwiliad ac arteffact?
Y deilliant sy’n wahanol - Rydych chi’n dylunio a chynhyrchu rhywbeth

4 Dewis beth rydych chi am ei greu

5 SYNIADAU…. Ideas…….. Creu, Dylunio, Cynhyrchu, Gwneud …… ……….
ar y cyfrifiadur Llyfr darllen Canllaw Llyfr cyfarwyddiadau Gwefan Llyfryn gwybodaeth Sgript drama Fideo Pecyn busnes (sefydlog) Apiau Cyfansoddiad cerddorol Jingl Clawr DVD / CD Cylchgrawn Llyfr ryseitiau Ymgyrch Animeiddiad Ideas…….. UNRHYW SYNIADAU ERAILL y gallwch eu creu gan ddefnyddio cyfrifiadur?

6 Enghreifftiau o deitlau ar brojectau:
Creu…….. Creu llyfr stori ar y ……. Dylunio taflen gymorth ar y …... Dylunio a chreu……… E.e. Dyluniwch a chreu eitem i'w hongian ar wal yn dynodi Diwylliant Cymru. Dyma ddatganiad ymchwil ar gyfer ymchwil ysgrifenedig a chynhyrchu arteffact

7 Ysgrifennu cyflwyniad am eich syniad
Y Dechrau

8 Arteffact – Sut i ysgrifennu eich cyflwyniad
Cyhoeddi eich arteffact  Gallwch ddechrau eich cyflwyniad gyda rhai brawddegau sy’n cyhoeddi testun eich papur ac...

9 Arteffact – Sut i ysgrifennu eich cyflwyniad
2. Ysgrifennu pam eich bod chi wedi dewis creu eich arteffact. Pam ddewisoch chi’r testun? Beth ydych chi’n gobeithio ei ddarganfod/greu? Pam? Beth yw’r rheswm dros y teitl?

10 Arteffact – Sut i ysgrifennu cyflwyniad
3. Beth fyddwch chi’n ymchwilio Rhowch syniad o’r math o waith ymchwil y byddwch chi’n ei wneud i helpu cynhyrchu eich arteffact. Pa wybodaeth y mae angen i chi gael gafael arni i helpu deall pam eich bod chi’n creu eich arteffact? Sut fyddai’r ymchwil yn eich helpu chi i ddatblygu eich syniad?

11 Enghraifft Teitl “Dylunio a chreu ‘edrychiad o gyfnod y 1920au”
Cyflwyniad Ar gyfer fy mhroject, rydw i wedi penderfynu creu edrychiad ar fodel o gyfnod arbennig. Rydw i wedi dewis gwneud hyn oherwydd mae gen i ddiddordeb mewn ffasiwn, gwallt a cholur o wahanol gyfnodau mewn hanes. Mae gen i ddiddordeb gwybod sut allwch chi ‘nabod ym mha gyfnod mae ffilm neu raglen deledu wedi’i gosod, dim ond wrth edrych ar ddillad a gwallt cymeriad. Rydw i eisoes wedi cwblhau rhywfaint o ymchwil ar wahanol gyfnodau i allu fy helpu i ddewis ar ba gyfnod i seilio fy mhroject. Rydw i wedi dewis y 1920au oherwydd mai “Boardwalk Empire” yw fy hoff gyfres deledu, sef drama gyfnod am dor-cyfraith. Fe’i broliwyd am ei steil weledol a’i phwyslais ar ffigyrau hanesyddol. Roeddwn i hefyd yn hoff o’r ffilm The Great Gatsby, wedi’i gosod yn y 1920au. Yn yr 1920au, dechreuodd ferched wisgo dillad llachar iawn a thorri eu gwallt yn fyr. Roedd merched yn llai gwylaidd ac yn gwisgo sgerti byrrach yn y cyfnod hwn. Roedd y colur, y gwallt, a’r ffasiwn i gyd yn greadigol iawn ac yn wahanol iawn i gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf. Y steiliau gwallt, rhan fwyaf, oedd bob, tonnau lled bys, rholiau yn y cefn, gydag ategolion fel plu, bandiau gwallt a broetshis. Roedd y ffrogiau yn fwy llac o gymharu â’r rheiny sy’n cael eu gwisgo heddiw.

12 Beth ydych chi’n bwriadu ei wneud, a sut ydych chi am wneud hyn?

13 Beth yw’r NODAU a’r AMCANION?
3 x NOD: Beth yw nodau cyffredinol y project? Beth ydych chi’n ceisio ei gyflawni? 2 x AMCAN (fesul nod): Sut ydych chi am gyflawni eich nod? Beth wnewch chi i helpu ateb eich nod?

14 Enghraifft Teitl “Dylunio a chreu ‘edrychiad’ o gyfnod y 1920au”
Nodau ac Amcanion Nod 1 Dadansoddi steiliau colur, gwallt a ffasiwn o’r 1920au Deall cyd-destun hanesyddol cyfnod yr 1920au ar golur, gwallt a ffasiwn. Edrych ar golur a gwallt poblogaidd yn yr 1920au. Nod 2 Datblygu ‘edrychiad’ o’r 1920au Dangos y syniadau allweddol ar gyfer edrychiad o’r 1920au ar ffurf bwrdd syniadau. Dylunio ‘brasfodel’ o fy syniad gorffenedig ar gyfer edrychiad o’r 1920au. Nod 3 Cyflwyno fy nehongliad i o edrychiad o’r 1920au ar fodel. Rhoi cynnig ar y technegau a ddefnyddiaf i gynhyrchu’r edrychiad, a’u mireinio. Steilio model gydag edrychiad o’r 1920au.

15 Berfau addas This slide is to be used to show stundents what action verbs they could use when writing up their aims and objectives. This is from the delivery handbook on page 33 (

16 Gweithgaredd – Cychwyn ar eich project
Agorwch a chadw eich dogfen broject “Project Arteffact Unigol” Gorffennwch y syniadau cychwynnol, y teitl, y cyflwyniad, y nodau ac amcanion y ddogfen. Gall hyn gymryd 2 wers. Mae canllaw i’ch helpu yn yr un ffolder “Canllaw Crynhoi Project Arteffact” Defnyddiwch hwn i’ch helpu chi gwblhau’r adrannau.


Download ppt "Sleid i’r ATHRO yn unig PowerPoint yw hwn sy’n dangos beth yw’r opsiwn arteffact i chi, a’r myfyrwyr. Cofiwch nad oes raid i’r myfyrwyr wneud hyn – mae."

Similar presentations


Ads by Google