Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
1
Llefaru Unigol Bl. 2 ac iau
Dwi’n hoffi … Dwi’n hoffi’r haul a’r tywydd braf A mynd i lan y môr bob haf, Cael nofio yn y môr mawr glas, Gwneud castell tywod, rhedeg ras. Dwi’n hoffi cerdded yn y coed A’r dail yn crensian dan fy nhroed, Cael picnic gyda Dad a Mam A chwarae cuddio gyda Sam.
2
Llefaru Unigol Bl. 2 ac iau
I like …. I like the sun and warm weather And going to the seaside every summer, Swimming in the big blue sea, Making sandcastles, running races. I like walking in the woods And the leaves crunching underfoot, Having a picnic with Dad a Mam And playing hide and seek with Sam.
3
Llefaru Unigol Bl. 3 a 4 Bwyd Bwyta brecwast mawr bob bore -
Creision ŷd, cig moch ac wya, Tost a mêl a iogwrt mefus - Dyna frecwast hyfryd, blasus. Cig a moron, tatws, grefi – Dyna’r bwydydd dw i’n eu hoffi; Wedyn, pwdin afal melys – Dyna ginio hyfryd, blasus. Amser swper, brechdan facwn Ac fel trît, mae teisen lemwn, Llefrith oer a ffrwythau iachus – Dyna swper hyfryd, blasus.
4
Llefaru Unigol Bl. 3 a 4 Food Eating a big breakfast every morning -
Cornflakes, bacon and eggs, Toast and honey and strawberry yoghurt - That is a lovely, tasty breakfast. Meat and carrots, potatoes, gravy – They are the foods I like; Then, sweet apple pudding – That is a lovely, tasty dinner. Supper time, bacon sandwich And as a treat, there is lemon cake, Cold milk and healthy fruit – That is a lovely, tasty supper.
5
Llefaru Unigol Bl.5 a 6 Antur Dwi wedi sgio lawr mynydd uchel,
ac wedi nofio ar draws y Môr Tawel. Dwi wedi gleidio o ochrau’r Wyddfa, a rhedeg marathon drwy’r Sahara. Mi fum fel aderyn yn lledu adenydd mewn naid o awyren uwch Seland Newydd. Mi wnes i naid bynji o bont yn Awstralia, a marchogaeth ceffylau ar draws yr India. Mewn anialwch neu awyr, ar fôr ac ar fynydd, be ydy’r gwahaniaeth rhwng dychymyg a chelwydd?
6
Llefaru Unigol Bl.5 a 6 Adventure I have skied down high mountains,
and swam across the Dead Sea. I have glided from the slopes of Snowdon, and run a marathon through the Sahara. I was like a bird spreading its wings in a jump from an aeroplane above New Zealand. I did a bungee jump from a bridge in Australia, and rode on horseback across India. In the desert or sky, on the sea or on the mountain, what is the difference between imagination and a lie?
7
Grŵp Llefaru Bl. 6 ac iau Rap Rheolau Rheolau, rheolau, Rheolau o hyd, Rheolau, rheolau o’m cwmpas i gyd. Peidiwch ymladd yn yr ysgol, Peidiwch neidio dros y llwyn Peidiwch tynnu llun â beiro, Peidiwch meiddio pigo’ch trwyn Peidiwch bwyta dim cyn cinio, Peidiwch rolio yn y mwd, Peidiwch rhedeg yn y dosbarth, Peidiwch cuddio dan eich hwd.
8
Grŵp Llefaru Bl. 6 ac iau Peidiwch meiddio taflu sbwriel, Peidiwch poeri ar y llawr, Peidiwch neidio i’r pwll nofio, Peidiwch gwneud graffiti mawr. Peidiwch gweiddi yn y gampfa, Peidiwch dwdlan ar eich llyfrau, A pheidiwch, peidiwch, byth da chi Ȃ THORRI Y RHEOLAU
9
Grŵp Llefaru Bl. 6 ac iau Rules Rap Rules, rules, All we have is rules, Rules, rules wherever we go. Don’t fight in school, Don’t jump across the fence Don’t draw pictures with a pen, Don’t dare to pick your nose Don’t eat anything before dinner, Don’t roll in the mud, Don’t run in class, Don’t hide under your hood.
10
Grŵp Llefaru Bl. 6 ac iau Don’t dare throw litter, Don’t spit on the floor, Don’t jump into the swimming pool, Don’t do graffiti. Don’t shout in the gym, Don’t doodle on your books, And don’t ever BREAK THE RULES
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.