Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
1
LLITHRO A BAGLU YN Y GWAITH
Introduction Usually have corporate induction every month – but have been revamping it and have reduced it to being half a day
2
Llithro a baglu yw’r achos mwyaf cyffredin o anaf yn y gwaith
Llithro a baglu yw’r achos mwyaf cyffredin o anaf yn y gwaith. Ar gyfartaledd, dyma sy’n achosi 40 y cant o’r holl anafiadau mawr y ceir gwybod amdanynt a gallant hefyd arwain at fathau eraill o ddamweiniau difrifol, megis syrthio o uchder.
3
Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud?
Yn ôl Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 rhaid i gyflogwyr warchod iechyd a diogelwch yr holl weithwyr ac unrhyw un a allant gael eu heffeithio gan eu gwaith, i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol. Mae hyn yn cynnwys cymryd camau i reoli’r risg o lithro a baglu. Mae dyletswydd ar weithwyr i beidio â rhoi eu hunain neu eraill mewn perygl a rhaid iddynt ddefnyddio unrhyw offer diogelwch a ddarperir. Yn ôl Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith1999 rhaid i gyflogwyr asesu’r risgiau (gan gynnwys y risgiau sydd ynghlwm wrth lithro a baglu) a, lle mae angen, gymryd camau i roi sylw iddynt. Yn ôl Rheoliadau’r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992 rhaid i loriau fod yn addas, mewn cyflwr da ac yn rhydd o unrhyw rwystr. Dylai pobl fedru symud o gwmpas yn ddiogel.
4
Beth fedr gweithwyr ei wneud i osgoi llithro a baglu?
Mewn unrhyw weithle: Os byddwch yn cael damwain, neu bron â chael damwain, sicrhewch eich bod yn dweud wrth eich cyflogwr ar unwaith. Gallant ddefnyddio’r wybodaeth hon i atal unrhyw ddamweiniau yn y dyfodol. Os ydych yn gweld bod rhywbeth wedi gollwng ar y llawr, glanhewch o neu gwnewch drefniadau iddo gael ei lanhau. Rhowch wybod am unrhyw loriau neu fatiau sydd wedi eu difrodi. Gwnewch eich rhan i gadw’r gweithle’n daclus. Os ydych yn gweld eitemau ar y llawr lle gall rhywun faglu drostynt, symudwch nhw neu trefnwch iddynt gael eu symud neu i drefniadau diogelwch gael eu gwneud. Os ydych yn cael PPE, gwisgwch / defnyddiwch nhw ac edrychwch ar eu holau. Soniwch wrth eich cyflogwr am unrhyw ddiffygion neu ddifrod a threfnwch i gael rhai newydd Dywedwch wrth eich cyflogwr am unrhyw sefyllfa yn y gwaith sydd, yn eich barn chi, yn beryglus, neu os ydych yn sylwi bod rhywbeth o’i le gyda’r trefniadau iechyd a diogelwch.
5
Mae gwybodaeth bellach ar amrediad o faterion iechyd a diogelwch ar gael ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac ar dudalennau Monitor y Cyngor.
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.