Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
1
Tamaid i Gnoi Cil Dysgu am… Dir Cynradd
2
Dinesydd Byd-eang gweithgar!
Dysgu Meddwl Gweithredu
3
Ein hamcanion dysgu: Deall pam fod tir yn bwysig, a phwy sydd â’r mwyaf o reolaeth drosto Adnabod effaith prynu ardaloedd mawr o dir Archwilio materion tegwch, grym a chynaladwyedd.
4
Pe bai gennych dir, beth fyddech chi’n ei wneud?
Dewiswch eich 5 angen sylfaenol -
5
Mater pwysig: dim digon o dir?
Yn Guatemala, wyddoch chi mai 8% o ffermwyr sydd berchen bron i 80% o’r tir? 8% o ffermwyr berchen cymaint â hyn o dir. Mae gan weddill y ffermwyr gymaint â hyn o dir.
6
Ynys Tyfu Mae Ynys Tyfu yn wlad ddychmygol sy’n agos i’r cyhydedd.
Nid oes llawer o dir gwastad, ffrwythlon. Mae’r mwyafrif o bobl sy’n byw ar yr ynys yn tyfu bwyd ar y tir, i’w fwyta eu hunain, neu i’w werthu er mwyn cael arian i brynu bwyd gwahanol o rywle arall.
7
Ynys Tyfu: TASG Mae’r llywodraeth yn penderfynu sut i rannu’r tir ar Ynys Tyfu. Eich tasg: Fel grŵp o arbenigwyr, rydych wedi derbyn cais gan y llywodraeth i’w cynghori sut y dylid rhannu’r tir er lles yr ynys a’r cymunedau sy’n byw yn y pentrefi. Defnyddiwch y cardiau cymeriad i’ch helpu i lunio cyflwyniad er mwyn dweud pam ddylai’ch grŵp gael cyfran o’r tir.
8
Beth sy’n digwydd i Ynys Tyfu?
Pwy ddylai gael y tir? Cyfanswm y dosbarth Y dyn busnes cyfoethog Y busnes rhyngwladol Y ffermwr lleol
9
Beth yw’ch barn chi? Pwy fydd yn well eu byd ar yr ynys nawr?
Pwy fydd yn waeth eu byd ar yr ynys nawr? Sut fydd yr ynys yn cyflawni’r 5 angen sylfaenol nawr? Sut fydd y 5 angen sylfaenol yn cael eu cyflawni yn y dyfodol? Ydi hon yn sefyllfa deg?
10
Enghraifft go iawn… Tanzania
© Aubrey Wade/Oxfam © Aubrey Wade/Oxfam © Aubrey Wade/Oxfam Ffynhonnell: Land Matrix Partnership © Aubrey Wade/Oxfam © Aubrey Wade/Oxfam
11
Sicrhau newid… Pwy oedd â’r grym i benderfynu beth fyddai’n digwydd i’r tir? Pa grŵp â llawer o rym oedd yn gofyn am y tir? Felly pwy sy’n medru NEWID y ffordd mae tir yn cael ei rannu, ac amddiffyn ffermwyr bach? Llywodraethau sy’n medru deddfu Busnesau sy’n medru ystyried hawliau defnyddwyr tir a gwneud penderfyniadau moesegol Y cyhoedd sy’n medru dweud wrth lywodraethau a busnesau beth yw eu dymuniad
12
Sicrhau newid… Os oes un gennych, llenwch ran o’ch siart wal!
(need to cut the English wallchart, and paste the Welsh version)
13
Class for change A phan fyddwch wedi dysgu am y system fwyd, wedi meddwl sut y gall newid, ac wedi cynllunio a gweithredu eich hun, rhannwch yr hyn a ddysgwyd ar Gofod ar gyfer dinasyddion byd-eang gweithgar! Dysgu Meddwl Gweithredu Rhannu
14
Telerau ac amodau Hawlfraint © Oxfam GB Gallwch ddefnyddio’r adnoddau a ddarperir at ddibenion addysgiadol. Sicrhewch fod y ffordd yr ydych yn defnyddio’r deunydd yn gyson gyda’r holl wybodaeth cyd-destun a ddarperir, ac mae angen cydnabod unrhyw luniau a ddefnyddir gyda’r awdur a enwir ac Oxfam. Mae’r holl wybodaeth berthnasol i’r lluniau hyn yn perthyn i ddyddiad ac amser gwaith y prosiect.
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.