Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Mae’r adran nodiadau yn y cyflwyniad hwn yn cynnwys gwybodaeth dechnegol yn ymwneud â’r sleid gyfatebol i gynorthwyo dealltwriaeth y defnyddiwr. Mae’r.

Similar presentations


Presentation on theme: "Mae’r adran nodiadau yn y cyflwyniad hwn yn cynnwys gwybodaeth dechnegol yn ymwneud â’r sleid gyfatebol i gynorthwyo dealltwriaeth y defnyddiwr. Mae’r."— Presentation transcript:

1 Mae’r adran nodiadau yn y cyflwyniad hwn yn cynnwys gwybodaeth dechnegol yn ymwneud â’r sleid gyfatebol i gynorthwyo dealltwriaeth y defnyddiwr. Mae’r adran nodiadau yn cynnwys y penawdau canlynol: Y diffiniad o'r dangosydd Cafeatau Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod Rhagor o wybodaeth Cyfeiriadau

2 © 2019 Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gellir atgynhyrchu'r deunydd a gynhwysir yn y ddogfen hon o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored (OGL) ar yr amod y caiff ei wneud yn gywir ac ni chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Dylid nodi cydnabyddiaeth i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r hawlfraint yn y trefniant teipograffyddol, dyluniad a chynllun yn perthyn i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r adran nodiadau yn y cyflwyniad hwn yn cynnwys gwybodaeth dechnegol yn ymwneud â’r sleid gyfatebol i gynorthwyo dealltwriaeth y defnyddiwr. Mae’r adran nodiadau yn cynnwys y penawdau canlynol: Y diffiniad o'r dangosydd Cafeatau Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod Rhagor o wybodaeth Cyfeiriadau 2 Gordewdra yng Nghymru

3 Cyflwyniad Cynnwys Cyflwyniad Cyflwyniad 3-8
Mae'r adroddiad Gordewdra yng Nghymru yn rhoi trosolwg o gyffredinolrwydd gordewdra yng Nghymru a'i ganlyniadau iechyd. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ar yr ymddygiadau iechyd sy'n gysylltiedig â gordewdra a barn pobl ar fwyd a gwariant. Crëwyd yr adroddiad hwn i gefnogi strategaeth ‘Pwysau Iach: Cymru Iach’ Llywodraeth Cymru a’r ymgynghoriad ategol. Mae hefyd yn anelu at lywio cynllunio pwysau iach strategol yn y dyfodol. Lle y bo'n bosibl, mae'n cynnwys data iechyd ar draws cwrs bywyd, o blant oedran derbyn i bobl ifanc ac oedolion. Cynhwysir negeseuon allweddol sy'n ymwneud â phob dangosydd ym maner y sleid. Mae'r adrannau nodiadau yn rhoi canllawiau pellach ar y diffiniad o'r dangosydd, unrhyw amodau, a'r dulliau a'r ffynonellau data a ddefnyddiwyd. Cynnwys Mae’r adran nodiadau yn y cyflwyniad hwn yn cynnwys gwybodaeth dechnegol yn ymwneud â’r sleid gyfatebol i gynorthwyo dealltwriaeth y defnyddiwr. Mae’r adran nodiadau yn cynnwys y penawdau canlynol: Y diffiniad o'r dangosydd Cafeatau Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod Rhagor o wybodaeth Cyfeiriadau Cyflwyniad 3-8 Mynychder bod yn rhy drwm neu'n ordew 9-26 Baich clefydau 27-33 Yr amgylchedd bwyd a diod: Bwyta ffrwythau a llysiau 34-42 Bwyta yn y cartref 43-47 Yfed alcohol 48-52 Gwariant ar fwyd a diod 53-57 Agweddau at fwyd 58-63 Gweithgarwch corfforol 64-69 Cyflwyniad

4 Negeseuon allweddol (1)
Mynychder a baich clefydau Mae dros chwarter y plant yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew, gan gynnwys 12.4% sy'n ordew. Ychydig iawn o newid a gafwyd yn y mynychder ers 2012/13 er y bu cynnydd yn y cyfnod mwyaf diweddar. Mae gan Gymru ganran uwch o bobl ifanc sy'n hunan-adrodd eu bod dros bwysau neu'n ordew o'i gymharu â Lloegr, 10% yn uwch ymhlith bechgyn a 6% yn uwch ymhlith merched. Mae bron 60% o oedolion yng Nghymru ar hyn o bryd dros bwysau neu'n ordew, a 24% yn ordew. Ceir tystiolaeth o duedd ar i fyny yn y blynyddoedd diwethaf. Amcangyfrifir y bydd canran yr oedolion sydd dros bwysau neu'n ordew yn cynyddu i tua 64% erbyn 2030 os bydd y patrwm presennol yn parhau. Mae mynychder gordewdra ymhlith plant 4-5 oed 6% yn uwch yn y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru o gymharu â'r lleiaf difreintiedig; mae hyn yn codi i 13% o wahaniaeth ymhlith oedolion. BMI uchel yw un o'r tri phrif ffactor risg uchaf ar gyfer blynyddoedd bywyd wedi'u haddasu gan anabledd (DALYs), 1.6 gwaith cyfraniad y defnydd o alcohol. BMI uchel yw'r prif ffactor risg ar gyfer blynyddoedd yn byw ag anabledd (YLD). Mae'r tri phrif ffactor risg yn uniongyrchol gysylltiedig â diet a gordewdra. Cyflwyniad

5 Negeseuon allweddol (2)
Yr amgylchedd bwyd a diod Mae mynychder gordewdra 7% yn uwch mewn oedolion sy'n bwyta dim dogn o ffrwythau na llysiau o'i gymharu â'r rhai sy'n bwyta pum dogn neu fwy o ffrwythau neu lysiau. Mae llai na thraean o bobl ifanc yng Nghymru yn adrodd eu bod yn bwyta dogn o lysiau unwaith y dydd. Mae llai na chwarter yr oedolion yng Nghymru yn adrodd eu bod yn bwyta pum dogn o ffrwythau a llysiau y dydd. Mae bron 10% o oedolion yn paratoi bwyd eu hunain lai nag unwaith yr wythnos; adroddodd dros 20% eu bod yn bwyta prydau parod o leiaf unwaith yr wythnos. Gwariodd trigolion Cymru 18% yn llai ar ffrwythau a llysiau yn , o'i gymharu â Dywedodd un o bob deg o drigolion Cymru na allant bob amser fforddio bwyta diet cytbwys. Roedd un o bob ugain o drigolion Cymru yn aml yn poeni y byddent yn rhedeg allan o fwyd cyn cael digon o arian i brynu mwy. Mae tua un o bob pump o oedolion yng Nghymru yn adrodd eu bod yn yfed uwchlaw'r canllawiau, gyda chyfraddau uwch yn yr ardaloedd llai difreintiedig. Nid yw bod dros bwysau/yn ordew yn gysylltiedig ag yfed uwchlaw'r canllawiau a argymhellir o alcohol ond mae'n arwyddocaol gysylltiedig ag yfed risg uchel. Cyflwyniad

6 Negeseuon allweddol (3)
Gweithgarwch corfforol Mae mynychder gordewdra yn sylweddol is ymhlith y rhai sy'n adrodd eu bod yn bodloni'r canllawiau gweithgarwch corfforol. Mae llai nag ugain y cant o bobl ifanc yn gorfforol egnïol am 60 munud bob dydd; mae'r gyfradd ymhlith merched yn hanner yr hyn ydyw ymhlith bechgyn. Mae 54% o oedolion yn ymgymryd â'r 150 munud o weithgarwch corfforol yr wythnos a argymhellir; fodd bynnag, mae'r gyfradd ar gyfer menywod yn is nag ar gyfer dynion ar draws pob oedran. Mae canran yr oedolion sy'n bodloni'r canllawiau gweithgarwch corfforol 15% yn uwch yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig o'u cymharu â'r ardaloedd mwyaf difreintiedig. Cyflwyniad

7 Da i wybod (1) Geirfa Cyflwyniad
BMI – Mynegai Màs y Corff, sef gwerth sy'n deillio o bwysau a thaldra unigolyn. Diffinnir y BMI fel y pwysau wedi'u rhannu gan sgwâr taldra'r corff a chaiff ei fynegi mewn unedau kg/m2. Defnyddir BMI yn gyffredin mewn iechyd y cyhoedd i benderfynu ar gyffredinolrwydd o fod dros bwysau neu'n ordew (BMI 25+) ac oedolion gordew (BMI 30+) ac fel ffactor risg ar gyfer nifer o faterion iechyd. Fodd bynnag, nid yw BMI yn gallu gwahaniaethu rhwng màs corff tenau a brasterog ac nid yw'n casglu gwybodaeth ar ddosbarthiad braster ar draws y corff; gall y ddau ffactor hyn ddylanwadu ar yr effaith ar iechyd, a gall amrywio yn ôl rhyw, oedran ac ethnigrwydd. YLD – blynyddoedd yn byw ag anabledd, mae nifer yr achosion o ddigwyddiadau yn ystod y cyfnod yn cael ei luosi â hyd cyfartalog y clefyd a ffactor pwysau sy'n adlewyrchu difrifoldeb y clefyd ar raddfa o 0 (iechyd perffaith) i 1 (wedi marw). YLL – blynyddoedd bywyd a gollir, nifer y blynyddoedd o fywyd a gollir oherwydd marwolaethau cynamserol. DALYs – blynyddoedd bywyd wedi'u haddasu gan anabledd, swm y blynyddoedd bywyd a gollwyd (YLL) a blynyddoedd yn byw ag anabledd (YLD). Gellir meddwl am DALY fel un flwyddyn a gollwyd o fywyd "iach". Gellir ystyried swm y DALYs hyn ar draws y boblogaeth fel ffordd o fesur y bwlch rhwng statws iechyd cyfredol a sefyllfa iechyd ddelfrydol lle mae'r boblogaeth gyfan yn byw i oedran hŷn, yn rhydd rhag clefyd ac anabledd. Amddifadedd – Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2014, sy'n fesur ar sail ardal yn hytrach nag ar sail unigolion. Felly, nid yw pawb sy'n byw mewn ardal ddifreintiedig o reidrwydd yn byw mewn amgylchiadau difreintiedig ac, yn yr un modd, efallai y bydd rhai pobl sy'n byw mewn ardal a ddynodir yn un lleiaf difreintiedig yn profi amddifadedd. Cyflwyniad

8 Da i wybod (2) Data arolwg Rhagamcanion Cyflwyniad
Mae rhan fwyaf y mewnbynnau sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn yn defnyddio data hunan-adrodd o amrywiaeth o arolygon e.e. Arolwg Cenedlaethol Cymru, Arolwg Iechyd Cymru, Ymddygiadau iechyd plant oedran ysgol (HBSC) a'r arolwg ‘Food and You’. Ceir tystiolaeth i ddangos bod rhai pobl yn tueddu i danadrodd am eu pwysau a/neu oradrodd am eu taldra gan arwain at danamcangyfrif mynychder bod dros bwysau a gordewdra. Gall ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i'w fesur, gan efallai y bydd rhai gwahaniaethau rhwng yr hyn y mae pobl yn ei adrodd a'r hyn y maent yn ei wneud. Er enghraifft, gallai lefelau o weithgarwch corfforol gael eu goramcangyfrif a'r defnydd o alcohol ei dan amcangyfrif. Daeth Arolwg Iechyd Cymru i ben yn 2015 a chafodd ei ddisodli gan Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2016/17. Ni ellir cymharu'r canlyniadau o'r ddau arolwg hyn oherwydd newidiadau yn y fethodoleg. Rhagamcanion Rhagamcanion yw amcangyfrifon yn seiliedig ar ragdybiaethau gwahanol am y dyfodol. Mae rhagamcanion yn tybio bod y rhagamcanion o'r boblogaeth yn adlewyrchiad cywir o newid yn y boblogaeth yn y dyfodol. Mae rhagamcanion tymor byr yn arwyddion rhesymol o'r cyfeiriad cyffredinol dros y tair blynedd nesaf os bydd y patrwm yn y data a welwyd yn parhau. Rhaid ystyried rhagolygon tymor hwy yn ofalus iawn oherwydd y tebygolrwydd y bydd tueddiadau a welwyd yn y gorffennol yn newid. Cyflwyniad

9 Mynychder bod dros bwysau neu'n ordew
Gordewdra yng Nghymru

10 Mae dros chwarter y plant yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew, yn cynnwys 12.4% sy'n ordew. Ychydig iawn o newid a gafwyd yn y mynychder ers 2012/13 er y bu cynnydd yn y cyfnod mwyaf diweddar. Y diffiniad o'r dangosydd: Dros bwysau neu'n ordew - Canran y plant 4 i 5 oed sydd yn yr 85ain canradd ac uchod yn ôl graddfa cyfeirnod twf Prydain 1990 (UK90)1. Gordew - Canran y plant 4 i 5 oed sydd yn yr 95ain canradd ac uchod yn ôl graddfa cyfeirio twf 1990 Prydain (UK90)1. Mae Rhaglen Mesur Plant Cymru yn mesur yn wrthrychol taldra a phwysau pob plentyn sy'n bodloni'r meini prawf canlynol: Byw yng Nghymru ac yn mynychu dosbarth derbyn mewn ysgol yng Nghymru. Mae pumed pen-blwydd y plentyn yn syrthio rhwng 1 Medi a 31 Awst yn y grŵp blwyddyn. Nid yw eu rhieni wedi eu heithrio o'r rhaglen. Cafodd y BMI ei gyfrifo gan ddefnyddio dull a gynigiwyd gan Keys et al2. Cafeatau: Mae'n cynnwys plant nad oedd eu rhieni wedi'u heithrio o'r rhaglen (94.1% a fesurwyd yn ). Nid yw'n cynnwys plant sy'n gwisgo cast plastr a phlant na ellir eu pwyso am resymau iechyd. Nid yw graddfa cyfeirnod twf Prydain 1990 (UK90) yn cynnwys lleiafrifoedd ethnig ac mae amrywiadau hysbys mewn patrymau twf rhwng plant o wahanol grwpiau ethnig. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Rhaglen Mesur Plant, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru Cymru 2012/13 i (blwyddyn academaidd) Rhagor o wybodaeth: Ceir rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Mesur Plant yma: Cyfeiriadau: Cole, T.J. et al Body mass index reference curves for the UK. Archives of Disease in Childhood. 1995; 73: 25‐9. Cited in Dinsdale H, Ridler C, Ells L J. A simple guide to classifying body mass index in children Oxford: National Obesity Observatory. 2. Keys, A. et al Indices of relative weight and obesity. Journal of Chronic Diseases. 1972; 25: Mynychder bod dros bwysau neu'n ordew

11 Mae mynychder bod dros bwysau neu'n ordew yn sylweddol is yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig ar gyfer plant 4-5 oed, mae'r mynychder 8% yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Y diffiniad o'r dangosydd: Dros bwysau neu'n ordew - Canran y plant 4 i 5 oed sydd yn yr 85ain canradd ac uchod yn ôl graddfa cyfeirnod twf Prydain 1990 (UK90)1. Mae amddifadedd yn cael ei ddosbarthu yn ôl pumedau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014, yn seiliedig ar god post preswylfa'r plentyn. Mae Rhaglen Mesur Plant Cymru yn mesur yn wrthrychol taldra a phwysau pob plentyn sy'n bodloni'r meini prawf canlynol: Byw yng Nghymru ac yn mynychu dosbarth derbyn mewn ysgol yng Nghymru. Mae pumed pen-blwydd y plentyn yn syrthio rhwng 1 Medi a 31 Awst yn y grŵp blwyddyn. Nid yw eu rhieni wedi eu heithrio o'r rhaglen. Cafeatau: Mae'n cynnwys plant nad oedd eu rhieni wedi'u heithrio o'r rhaglen (94.1% a fesurwyd yn ). Nid yw'n cynnwys plant sy'n gwisgo cast plastr a phlant na ellir eu pwyso am resymau iechyd. Nid yw graddfa cyfeirnod twf Prydain 1990 (UK90) yn cynnwys lleiafrifoedd ethnig ac mae amrywiadau hysbys mewn patrymau twf rhwng plant o wahanol grwpiau ethnig. Nid yw pawb sy'n byw mewn ardal a ddosberthir fel un ddifreintiedig yn byw mewn amgylchiadau difreintiedig, ac ar y llaw arall nid yw pawb sy'n byw mewn ardal yn y cwintel lleiaf difreintiedig yn byw mewn amgylchiadau cyfoethog. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Rhaglen Mesur Plant, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014, Llywodraeth Cymru Cymru yn ôl pumed amddifadedd 2016/17 (blwyddyn academaidd) Rhagor o wybodaeth: Ceir rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Mesur Plant yma: Cyfeiriadau: 1. Cole, T.J. et al Body mass index reference curves for the UK. Archives of Disease in Childhood. 1995; 73: 25‐9. Cited in Dinsdale H, Ridler C, Ells L J. A simple guide to classifying body mass index in children Oxford: National Obesity Observatory. 2. Keys, A. et al Indices of relative weight and obesity. Journal of Chronic Diseases. 1972; 25: Mynychder bod dros bwysau neu'n ordew

12 Mae mynychder gordewdra mewn plant 4-5 oed yn cynyddu gydag amddifadedd. Mae 1.7 gwaith yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig na'r ardaloedd lleiaf difreintiedig. Y diffiniad o'r dangosydd: Gordew - Canran y plant 4 i 5 oed sydd yn yr 95ain canradd ac uchod yn ôl graddfa graddfa cyfeirnod twf Prydain 1990 (UK90)1. Mae amddifadedd yn cael ei ddosbarthu yn ôl pumedau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014, yn seiliedig ar god post preswylfa'r plentyn. Mae Rhaglen Mesur Plant Cymru yn mesur yn wrthrychol taldra a phwysau pob plentyn sy'n bodloni'r meini prawf canlynol: Byw yng Nghymru ac yn mynychu dosbarth derbyn mewn ysgol yng Nghymru. Mae pumed pen-blwydd y plentyn yn syrthio rhwng 1 Medi a 31 Awst yn y grŵp blwyddyn. Nid yw eu rhieni wedi eu heithrio o'r rhaglen. Cafeatau: Mae'n cynnwys plant nad oedd eu rhieni wedi'u heithrio o'r rhaglen (94.1% a fesurwyd yn ). Nid yw'n cynnwys plant sy'n gwisgo cast plastr a phlant na ellir eu pwyso am resymau iechyd. Nid yw graddfa cyfeirnod twf Prydain 1990 (UK90) yn cynnwys lleiafrifoedd ethnig ac mae amrywiadau hysbys mewn patrymau twf rhwng plant o wahanol grwpiau ethnig. Nid yw pawb sy'n byw mewn ardal a ddosberthir fel un ddifreintiedig yn byw mewn amgylchiadau difreintiedig, ac ar y llaw arall nid yw pawb sy'n byw mewn ardal yn y cwintel lleiaf difreintiedig yn byw mewn amgylchiadau cyfoethog. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Rhaglen Mesur Plant, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014, Llywodraeth Cymru Cymru yn ôl pumed amddifadedd 2016/17 (blwyddyn academaidd) Rhagor o wybodaeth: Ceir rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Mesur Plant yma: Cyfeiriadau: Cole, T.J. et al Body mass index reference curves for the UK. Archives of Disease in Childhood. 1995; 73: 25‐9. Cited in Dinsdale H, Ridler C, Ells L J. A simple guide to classifying body mass index in children Oxford: National Obesity Observatory. Keys, A. et al Indices of relative weight and obesity. Journal of Chronic Diseases. 1972; 25: Mynychder bod dros bwysau neu'n ordew

13 Mae gan Gymru ganran uwch o bobl ifanc yn hunan-adrodd eu bod dros bwysau neu'n ordew o'i gymharu â Lloegr, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon. Mae cyfraddau yn uwch ar y cyfan mewn bechgyn na merched. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran y plant 15 oed yn hunan-adrodd eu bod dros bwysau neu'n ordew Gofynnwyd i bobl ifanc faint y maen nhw'n pwyso heb ddillad a pha mor dal ydynt heb esgidiau, ac i gofnodi'r rhain mewn unedau priodol i'w gwlad (centimetrau yn erbyn modfeddi, pwysi yn erbyn cilogramau). Cafodd y data hyn eu hail-godio mewn centimetrau a chilogramau, yn y drefn honno, i gyfrifo mynegai màs y corff (BMI) fel pwysau (kg) wedi'i rannu gan sgwâr daldra (m2). Mae'r dadansoddiad a gyflwynir yn defnyddio safonau BMI rhyngwladol ar gyfer pobl ifanc a fabwysiadwyd gan y Tasglu Gordewdra Rhyngwladol (IOTF), o'r enw'r torbwyntiau IOTF BMI1. Cafeatau: Cyfrifir data BMI o ffigurau taldra/pwysau wedi’u hunan-adrodd ac o faint sampl llai oherwydd lefelau uchel o ddiffyg ymateb, dylid eu trin yn ofalus. Mae'r defnydd o arolygon hunan-adrodd a weinyddir mewn ysgolion o dan amodau arholiad yn arbennig o briodol i natur y cwestiynau a ofynnwyd, gyda gwaith ymchwil blaenorol yn canfod bod pobl ifanc yn fwyaf tebygol o adrodd am ymddygiadau peryglus/sensitif yn gywir gyda'r fethodoleg hon. Fodd bynnag, mae posibilrwydd bod rhai o'r ymatebwyr yn rhoi ymatebion sy'n dderbyniol yn gymdeithasol, yn hytrach na rhai cywir. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Ymddygiadau iechyd plant oedran ysgol (HBSC), Llywodraeth Cymru Cymru, Lloegr, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon 2013/14 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am y HBSC yma: Cyfeiriadau: 1. Cole. T.J et al. Extended international (IOTF) body mass index cut-offs for thinness, overweight and obesity. Pediatric Obesity. 2012; 7(4): Mynychder bod dros bwysau neu'n ordew

14 Ceir amrywiadau daearyddol sylweddol mewn cyfraddau gordewdra ymhlith pobl ifanc. Mae'r ganran uchaf o fechgyn a merched ifanc oed sy'n hunan- adrodd eu bod dros bwysau neu yn ordew ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran y plant 15 oed yn hunan-adrodd eu bod dros bwysau neu'n ordew Gofynnwyd i bobl ifanc faint y maen nhw'n pwyso heb ddillad a pha mor dal ydynt heb esgidiau, ac i gofnodi'r rhain mewn unedau priodol i'w gwlad (centimetrau yn erbyn modfeddi, pwysi yn erbyn cilogramau). Cafodd y data hyn eu hail-godio mewn centimetrau a chilogramau, yn y drefn honno, i gyfrifo mynegai màs y corff (BMI) fel pwysau (kg) wedi'i rannu gan sgwâr daldra (m2). Mae'r dadansoddiad a gyflwynir yn defnyddio safonau BMI rhyngwladol ar gyfer pobl ifanc a fabwysiadwyd gan y Tasglu Gordewdra Rhyngwladol (IOTF), o'r enw'r torbwyntiau IOTF BMI1. Cafeatau: Cyfrifir data BMI o ffigurau taldra/pwysau wedi’u hunan-adrodd ac o faint sampl llai oherwydd lefelau uchel o ddiffyg ymateb, dylid eu trin yn ofalus. Mae'r defnydd o arolygon hunan-adrodd a weinyddir mewn ysgolion o dan amodau arholiad yn arbennig o briodol i natur y cwestiynau a ofynnwyd, gyda gwaith ymchwil blaenorol yn canfod bod pobl ifanc yn fwyaf tebygol o adrodd am ymddygiadau peryglus/sensitif yn gywir gyda'r fethodoleg hon. Fodd bynnag, mae posibilrwydd bod rhai o'r ymatebwyr yn rhoi ymatebion sy'n dderbyniol yn gymdeithasol, yn hytrach na rhai cywir. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Ymddygiadau iechyd plant oedran ysgol (HBSC), Llywodraeth Cymru Byrddau iechyd Cymru 2013/14 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am y HBSC yma: Cyfeiriadau: 1. Cole. T.J et al. Extended international (IOTF) body mass index cut-offs for thinness, overweight and obesity. Pediatric Obesity. 2012; 7(4): Mynychder bod dros bwysau neu'n ordew

15 Mae canran yr oedolion yn adrodd eu bod dros bwysau neu'n ordew yn uwch ymhlith dynion na menywod ar gyfer pob grŵp oedran. Y diffiniad o'r dangosydd: Y ganran o oedolion 16+ oed oedd yn hunan-adrodd bod ganddynt Fynegai Màs Corff (BMI) o 25 + yn ôl rhyw a grŵp oedran 10 mlynedd Gofynnodd yr arolwg i oedolion adrodd am eu taldra a'u pwysau. Er mwyn diffinio bod dros bwysau neu'n ordew, mae angen mesuriad sy'n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau mewn pwysau yn sgil taldra. Cyfrifir BMI fel pwysau (kg) wedi'i rannu â thaldra sgwâr (m2). Cafeatau: Mae taldra a phwysau yn cael eu hunan-adrodd, a cheir tystiolaeth i ddangos bod rhai pobl yn tueddu i danadrodd am eu pwysau a/neu oradrodd am eu taldra gan arwain at danamcangyfrif cyffredinolrwydd bod dros bwysau a gordewdra. Nid yw BMI yn gwahaniaethu rhwng màs o ganlyniad i fraster ar y corff ac o ganlyniad i gorff cyhyrog, ac nid yw chwaith yn ystyried dosbarthiad braster. Gall ethnigrwydd effeithio ar BMI. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC), Llywodraeth Cymru Cymru 2016/17 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am yr ACC yma: Mynychder bod dros bwysau neu'n ordew

16 Mae mynychder bod dros bwysau neu’n ordew, ac oedolion gordew yn cynyddu gydag amddifadedd. Mae gwahaniaeth o 12% yn y cyffredinolrwydd rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Y diffiniad o'r dangosydd: Dros bwysau neu'n ordew – Y ganran wedi'i safoni o ran oedran o oedolion 16+ oed oedd yn hunan-adrodd bod ganddynt Fynegai Màs Corff (BMI) o 25+ Gordew – Y ganran wedi'i safoni o ran oedran o oedolion 16+ oed oedd yn hunan-adrodd bod ganddynt Fynegai Màs Corff (BMI) o 30+ Gofynnodd yr arolwg i oedolion adrodd am eu taldra a'u pwysau. Er mwyn diffinio bod dros bwysau neu'n ordew, mae angen mesuriad sy'n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau mewn pwysau yn sgil taldra. Cyfrifir BMI fel pwysau (kg) wedi'i rannu â thaldra sgwâr (m2). Mae amddifadedd yn cael ei ddosbarthu yn ôl pumedau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014. Cafeatau: Mae taldra a phwysau yn cael eu hunan-adrodd, a cheir tystiolaeth i ddangos bod rhai pobl yn tueddu i danadrodd am eu pwysau a/neu oradrodd am eu taldra gan arwain at danamcangyfrif cyffredinolrwydd bod dros bwysau a gordewdra. Nid yw BMI yn gwahaniaethu rhwng màs o ganlyniad i fraster ar y corff ac o ganlyniad i gorff cyhyrog, ac nid yw chwaith yn ystyried dosbarthiad braster. Gall ethnigrwydd effeithio ar BMI. Nid yw pawb sy'n byw mewn ardal a ddosberthir fel un ddifreintiedig yn byw mewn amgylchiadau difreintiedig, ac ar y llaw arall nid yw pawb sy'n byw mewn ardal yn y cwintel lleiaf difreintiedig yn byw mewn amgylchiadau cyfoethog. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC), Llywodraeth Cymru Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014, Llywodraeth Cymru Cymru yn ôl pumed amddifadedd 2016/17 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am yr ACC yma: Mynychder bod dros bwysau neu'n ordew

17 Roedd canran is o oedolion mewn swyddi rheoli a phroffesiynol dros bwysau neu'n ordew.
Y diffiniad o'r dangosydd: Canran wedi'i safoni yn ôl oedran o oedolion 16+ oed yn hunan-adrodd eu bod dros bwysau neu'n ordew (BMI o 25+) neu'n ordew (BMI 30+) yn ôl Dosbarthiad Economaidd-Gymdeithasol Ystadegau Cenedlaethol (NS-SEC). Gofynnodd yr arolwg i oedolion adrodd am eu taldra a'u pwysau. Er mwyn diffinio bod dros bwysau neu'n ordew, mae angen mesuriad sy'n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau mewn pwysau yn sgil taldra. Cyfrifir BMI fel pwysau (kg) wedi'i rannu â thaldra sgwâr (m2). Cafeatau: Mae taldra a phwysau yn cael eu hunan-adrodd, a cheir tystiolaeth i ddangos bod rhai pobl yn tueddu i danadrodd am eu pwysau a/neu oradrodd am eu taldra gan arwain at danamcangyfrif cyffredinolrwydd bod dros bwysau a gordewdra. Nid yw BMI yn gwahaniaethu rhwng màs o ganlyniad i fraster ar y corff ac o ganlyniad i gorff cyhyrog, ac nid yw chwaith yn ystyried dosbarthiad braster. Gall ethnigrwydd effeithio ar BMI. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Iechyd Cymru (AIC), Llywodraeth Cymru Cymru 2015 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am AIC yma: Mynychder bod dros bwysau neu'n ordew

18 Mae'r tueddiad hanesyddol yn dangos cynnydd yn y ganran o oedolion dros bwysau neu’n ordew o 54.0% yn 2003/04 i 59.6% yn Bu cynnydd tebyg mewn gordewdra o 17.8% i 23.6% dros yr un cyfnod. Y diffiniad o'r dangosydd: Dros bwysau neu'n ordew – Y ganran wedi'i safoni o ran oedran o oedolion 16+ oed oedd yn hunan-adrodd bod ganddynt Fynegai Màs Corff (BMI) o 25+ Gordew – Y ganran wedi'i safoni o ran oedran o oedolion 16+ oed oedd yn hunan-adrodd bod ganddynt Fynegai Màs Corff (BMI) o 30+ Gofynnodd yr arolwg i oedolion adrodd am eu taldra a'u pwysau. Er mwyn diffinio bod dros bwysau neu'n ordew, mae angen mesuriad sy'n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau mewn pwysau yn sgil taldra. Cyfrifir BMI fel pwysau (kg) wedi'i rannu â thaldra sgwâr (m2). Cafeatau: Mae taldra a phwysau yn cael eu hunan-adrodd, a cheir tystiolaeth i ddangos bod rhai pobl yn tueddu i danadrodd am eu pwysau a/neu oradrodd am eu taldra gan arwain at danamcangyfrif cyffredinolrwydd bod dros bwysau a gordewdra. Nid yw BMI yn gwahaniaethu rhwng màs o ganlyniad i fraster ar y corff ac o ganlyniad i gorff cyhyrog, ac nid yw chwaith yn ystyried dosbarthiad braster. Gall ethnigrwydd effeithio ar BMI. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Iechyd Cymru (AIC), Llywodraeth Cymru Cymru 2003/04 i 2015 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am AIC yma: Mynychder bod dros bwysau neu'n ordew

19 Cynyddodd y bwlch rhwng y ganran o oedolion dros bwysau neu ordew yn yr ardaloedd lleiaf a mwyaf difreintiedig o 6.9 y cant yn 2003/04 i 9.2 yn 2015. Y diffiniad o'r dangosydd: Dros bwysau neu'n ordew – Y ganran wedi'i safoni o ran oedran o oedolion 16+ oed oedd yn hunan-adrodd bod ganddynt Fynegai Màs Corff (BMI) o 25+ Gofynnodd yr arolwg i oedolion adrodd am eu taldra a'u pwysau. Er mwyn diffinio bod dros bwysau neu'n ordew, mae angen mesuriad sy'n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau mewn pwysau yn sgil taldra. Cyfrifir BMI fel pwysau (kg) wedi'i rannu â thaldra sgwâr (m2). Mae amddifadedd yn cael ei ddosbarthu yn ôl pumedau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014. Cafeatau: Mae taldra a phwysau yn cael eu hunan-adrodd, a cheir tystiolaeth i ddangos bod rhai pobl yn tueddu i danadrodd am eu pwysau a/neu oradrodd am eu taldra gan arwain at danamcangyfrif cyffredinolrwydd bod dros bwysau a gordewdra. Nid yw BMI yn gwahaniaethu rhwng màs o ganlyniad i fraster ar y corff ac o ganlyniad i gorff cyhyrog, ac nid yw chwaith yn ystyried dosbarthiad braster. Gall ethnigrwydd effeithio ar BMI. Nid yw pawb sy'n byw mewn ardal a ddosberthir fel un ddifreintiedig yn byw mewn amgylchiadau difreintiedig, ac ar y llaw arall nid yw pawb sy'n byw mewn ardal yn y cwintel lleiaf difreintiedig yn byw mewn amgylchiadau cyfoethog. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Iechyd Cymru (AIC), Llywodraeth Cymru Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014, Llywodraeth Cymru Cymru 2003/04 i 2015 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am AIC yma: Mynychder bod dros bwysau neu'n ordew

20 Yn 2015 mi roedd y ganran uchaf o oedolion yn adrodd eu bod yn ordew yn y grŵp oedran Mae'r ganran o oedolion sy'n ordew wedi cynyddu yn yr holl grwpiau oedran ers 2005. Y diffiniad o'r dangosydd: Gordew – Y ganran o oedolion 16+ oed oedd yn hunan-adrodd bod ganddynt BMI o 30+ yn ôl grŵp oed 10 mlynedd Gofynnodd yr arolwg i oedolion adrodd am eu taldra a'u pwysau. Er mwyn diffinio bod dros bwysau neu'n ordew, mae angen mesuriad sy'n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau mewn pwysau yn sgil taldra. Cyfrifir BMI fel pwysau (kg) wedi'i rannu â thaldra sgwâr (m2). Cafeatau: Mae taldra a phwysau yn cael eu hunan-adrodd, a cheir tystiolaeth i ddangos bod rhai pobl yn tueddu i danadrodd am eu pwysau a/neu oradrodd am eu taldra gan arwain at danamcangyfrif cyffredinolrwydd bod dros bwysau a gordewdra. Nid yw BMI yn gwahaniaethu rhwng màs o ganlyniad i fraster ar y corff ac o ganlyniad i gorff cyhyrog, ac nid yw chwaith yn ystyried dosbarthiad braster. Gall ethnigrwydd effeithio ar BMI. Nid oedd gan 860 o gofnodion (6.0%) yn 2005/06 BMI wedi'i gyfrifo; nid oedd gan 1,299 (8.1%) o gofnodion yn 2010 BMI wedi'i gyfrifo; nid oedd gan 1,179 o gofnodion (8.6%) yn 2015 BMI wedi'i gyfrifo. Bydd rhai o'r cofnodion hyn oherwydd beichiogrwydd. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Iechyd Cymru (AIC), Llywodraeth Cymru Cymru 2005/06, 2010 a 2015 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am AIC yma: Mynychder bod dros bwysau neu'n ordew

21 Mae'r mynychder isaf o oedolion yn adrodd bod ganddynt bwysau iach mewn oedolion 55-64 oed.
Y diffiniad o'r dangosydd: Y ganran o oedolion 16+ oed yn hunan-adrodd bod ganddynt Fynegai Màs Corff (BMI) o: Dan bwysau – <18.5 Pwysau iach – 18.5 i <25  Dros bwysau – 25 i <30 Gordew – 30 i <40 Afiachus o ordew – 40+ Mae'r data ar gael yn ôl grŵp oedran 10 mlynedd Gofynnodd yr arolwg i oedolion adrodd am eu taldra a'u pwysau. Er mwyn diffinio bod dros bwysau neu'n ordew, mae angen mesuriad sy'n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau mewn pwysau yn sgil taldra. Cyfrifir BMI fel pwysau (kg) wedi'i rannu â thaldra sgwâr (m2). Cafeatau: Mae taldra a phwysau yn cael eu hunan-adrodd, a cheir tystiolaeth i ddangos bod rhai pobl yn tueddu i danadrodd am eu pwysau a/neu oradrodd am eu taldra gan arwain at danamcangyfrif cyffredinolrwydd bod dros bwysau a gordewdra. Nid yw BMI yn gwahaniaethu rhwng màs o ganlyniad i fraster ar y corff ac o ganlyniad i gorff cyhyrog, ac nid yw chwaith yn ystyried dosbarthiad braster. Gall ethnigrwydd effeithio ar BMI. Nid oedd gan 1,179 (8.6%) o gofnodion yn 2015 BMI wedi'i gyfrifo. Bydd rhai o'r cofnodion hyn oherwydd beichiogrwydd. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Iechyd Cymru (AIC), Llywodraeth Cymru Cymru 2015 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am AIC yma: Mynychder bod dros bwysau neu'n ordew

22 Mae'r dosbarthiad BMI mewn oedolion a arolygwyd yn 2015 yn amrywio o 12 i 79. Canran y boblogaeth sy'n adrodd eu bod yn afiachus o ordew (BMI o 40+) yw 2.5%, mae hyn yn cyfateb i tua 60,000 o bobl. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran y dosbarthiad o Fynegai Màs Corff (BMI) a hunan-adroddwyd mewn oedolion 16 + oed Gofynnodd yr arolwg i oedolion adrodd am eu taldra a'u pwysau. Er mwyn diffinio bod dros bwysau neu'n ordew, mae angen mesuriad sy'n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau mewn pwysau yn sgil taldra. Cyfrifir BMI fel pwysau (kg) wedi'i rannu â thaldra sgwâr (m2). Cafeatau: Mae taldra a phwysau yn cael eu hunan-adrodd, a cheir tystiolaeth i ddangos bod rhai pobl yn tueddu i danadrodd am eu pwysau a/neu oradrodd am eu taldra gan arwain at danamcangyfrif cyffredinolrwydd bod dros bwysau a gordewdra. Nid yw BMI yn gwahaniaethu rhwng màs o ganlyniad i fraster ar y corff ac o ganlyniad i gorff cyhyrog, ac nid yw chwaith yn ystyried dosbarthiad braster. Gall ethnigrwydd effeithio ar BMI. Nid oedd gan 1,179 (8.6%) o gofnodion yn 2015 BMI wedi'i gyfrifo. Bydd rhai o'r cofnodion hyn oherwydd beichiogrwydd. Cyfrifwyd nifer y bobl afiachus o ordew drwy gymhwyso'r cyffredinolrwydd i amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth ar gyfer personau 16+ oed. Nid yw'n cymryd i ystyriaeth amrywiaeth cyffredinolrwydd bod yn afiachus o ordew yn ôl oedran. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Iechyd Cymru (AIC), Llywodraeth Cymru Cymru 2015 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am AIC yma: Mynychder bod dros bwysau neu'n ordew

23 Ers 2003/04, mae mynegai màs y corff a hunan-adroddwyd yng Nghymru wedi cynyddu yn gyffredinol. Mae mynychder BMI pwysau iach (18.5 i <25) wedi gostwng ond mae BMI dros bwysau neu ordew (25+) wedi cynyddu. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran y dosbarthiad o Fynegai Màs Corff (BMI) a hunan-adroddwyd mewn oedolion 16 + oed Gofynnodd yr arolwg i oedolion adrodd am eu taldra a'u pwysau. Er mwyn diffinio bod dros bwysau neu'n ordew, mae angen mesuriad sy'n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau mewn pwysau yn sgil taldra. Cyfrifir BMI fel pwysau (kg) wedi'i rannu â thaldra sgwâr (m2). Cafeatau: Mae taldra a phwysau yn cael eu hunan-adrodd, a cheir tystiolaeth i ddangos bod rhai pobl yn tueddu i danadrodd am eu pwysau a/neu oradrodd am eu taldra gan arwain at danamcangyfrif mynychder bod dros bwysau a gordewdra. Nid yw BMI yn gwahaniaethu rhwng màs o ganlyniad i fraster ar y corff ac o ganlyniad i gorff cyhyrog, ac nid yw chwaith yn ystyried dosbarthiad braster. Gall ethnigrwydd effeithio ar BMI. Nid oedd gan 1,179 (8.6%) o gofnodion yn 2015 BMI wedi'i gyfrifo. Bydd rhai o'r cofnodion hyn oherwydd beichiogrwydd. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Iechyd Cymru (AIC), Llywodraeth Cymru Cymru 2003/04 a 2015 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am AIC yma: Mynychder bod dros bwysau neu'n ordew

24 Amcangyfrifir y bydd canran yr oedolion sydd dros bwysau neu'n ordew yn cynyddu i tua 64% erbyn 2030 os bydd y patrwm presennol yn parhau. Y diffiniad o'r dangosydd: Dros bwysau neu ordew - Canran yr oedolion 16+ oed sy'n hunan-adrodd bod ganddynt Fynegai Màs Corff (BMI) o 25+ Gofynnodd yr arolwg i oedolion adrodd am eu taldra a'u pwysau. Er mwyn diffinio bod dros bwysau neu'n ordew, mae angen mesuriad sy'n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau mewn pwysau yn sgil taldra. Cyfrifir BMI fel pwysau (kg) wedi'i rannu â thaldra sgwâr (m2). Cyfrifwyd y rhagamcaniad yn defnyddio dull allosod sy'n archwilio tueddiadau a chylchoedd hanesyddol, yna'n defnyddio technegau mathemategol i allosod i'r dyfodol. Cafeatau: Mae taldra a phwysau yn cael eu hunan-adrodd, a cheir tystiolaeth i ddangos bod rhai pobl yn tueddu i danadrodd am eu pwysau a/neu oradrodd am eu taldra gan arwain at danamcangyfrif mynychder bod dros bwysau a gordewdra. Nid yw BMI yn gwahaniaethu rhwng màs o ganlyniad i fraster ar y corff ac o ganlyniad i gorff cyhyrog, ac nid yw chwaith yn ystyried dosbarthiad braster. Gall ethnigrwydd effeithio ar BMI. Amcangyfrifon yw'r rhagamcanion mynychder dros bwysau neu'n ordew. Maent yn seiliedig ar ragdybiaethau gwahanol a allent fod yn wir yn y dyfodol ai peidio. Rhaid bod yn ofalus iawn wrth ddehongli'r canlyniadau hyn. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Iechyd Cymru (AIC), Llywodraeth Cymru Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC), Llywodraeth Cymru Rhagamcanion poblogaeth seiliedig ar 2014, Swyddfa Ystadegau Gwladol Cymru 2003/ /06 a a arsylwyd, 2016 i 2030 rhagamcanol Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am AIC yma: Mae rhagor o wybodaeth am ACC yma: Ceir manylion llawn am y dull rhagamcanu yma: Mynychder bod dros bwysau neu'n ordew

25 Er mwyn cynnal y mynychder presennol (~ 58%), yna byddai angen tua 160,000 yn llai o oedolion dros bwysau neu ordew erbyn 2030 o'i gymharu â'r mynychder rhagamcanol. Y diffiniad o'r dangosydd: Dros bwysau neu ordew - Canran yr oedolion 16+ oed sy'n hunan-adrodd bod ganddynt Fynegai Màs Corff (BMI) o 25+ Mae mynychder targed damcaniaethol o 58% wedi'i bennu ar gyfer 2030 i ddangos y newid yn y boblogaeth sy'n gysylltiedig â chynnal y mynychder presennol o fod dros bwysau neu'n ordew. Gofynnodd yr arolwg i oedolion adrodd am eu taldra a'u pwysau. Er mwyn diffinio bod dros bwysau neu'n ordew, mae angen mesuriad sy'n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau mewn pwysau yn sgil taldra. Cyfrifir BMI fel pwysau (kg) wedi'i rannu â thaldra sgwâr (m2). Cyfrifwyd y rhagamcaniad yn defnyddio dull allosod sy'n archwilio tueddiadau a chylchoedd hanesyddol, yna'n defnyddio technegau mathemategol i allosod i'r dyfodol. Cafeatau: Mae taldra a phwysau yn cael eu hunan-adrodd, a cheir tystiolaeth i ddangos bod rhai pobl yn tueddu i danadrodd am eu pwysau a/neu oradrodd am eu taldra gan arwain at danamcangyfrif mynychder bod dros bwysau a gordewdra. Nid yw BMI yn gwahaniaethu rhwng màs o ganlyniad i fraster ar y corff ac o ganlyniad i gorff cyhyrog, ac nid yw chwaith yn ystyried dosbarthiad braster. Gall ethnigrwydd effeithio ar BMI. Amcangyfrifon yw'r rhagamcanion mynychder dros bwysau neu'n ordew. Maent yn seiliedig ar ragdybiaethau gwahanol a allent fod yn wir yn y dyfodol ai peidio. Rhaid bod yn ofalus iawn wrth ddehongli'r canlyniadau hyn. Cyfrifwyd y gwahaniaeth rhagamcanol yn y boblogaeth drwy gymhwyso'r mynychder rhagamcanol a tharged i ffigurau rhagamcanol y boblogaeth ar gyfer personau 16+ oed. Nid yw'n cymryd i ystyriaeth amrywiaeth mynychder bod dros bwysau neu'r ordew yn ôl oedran. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Iechyd Cymru (AIC), Llywodraeth Cymru Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC), Llywodraeth Cymru Rhagamcanion poblogaeth seiliedig ar 2014, Swyddfa Ystadegau Gwladol Cymru 2003/ /06 a a arsylwyd, 2016 i 2030 rhagamcanol Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am AIC yma: Mae rhagor o wybodaeth am ACC yma: Ceir manylion llawn am y dull rhagamcanu yma: Mynychder bod dros bwysau neu'n ordew

26 Er mwyn lleihau'r mynychder presennol gan 5% erbyn 2030, byddai angen tua 300,000 yn llai o oedolion dros bwysau neu ordew erbyn 2030 o'i gymharu â'r mynychder rhagamcanol. Y diffiniad o'r dangosydd: Dros bwysau neu ordew - Canran yr oedolion 16+ oed sy'n hunan-adrodd bod ganddynt Fynegai Màs Corff (BMI) o 25+ Mae mynychder targed damcaniaethol o 53% wedi'i bennu ar gyfer 2030 i ddangos y newid yn y boblogaeth sy'n gysylltiedig â lleihau'r mynychder presennol o fod dros bwysau neu'n ordew gan ~5%. Gofynnodd yr arolwg i oedolion adrodd am eu taldra a'u pwysau. Er mwyn diffinio bod dros bwysau neu'n ordew, mae angen mesuriad sy'n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau mewn pwysau yn sgil taldra. Cyfrifir BMI fel pwysau (kg) wedi'i rannu â thaldra sgwâr (m2). Cyfrifwyd y rhagamcaniad yn defnyddio dull allosod sy'n archwilio tueddiadau a chylchoedd hanesyddol, yna'n defnyddio technegau mathemategol i allosod i'r dyfodol. Cafeatau: Mae taldra a phwysau yn cael eu hunan-adrodd, a cheir tystiolaeth i ddangos bod rhai pobl yn tueddu i danadrodd am eu pwysau a/neu oradrodd am eu taldra gan arwain at danamcangyfrif mynychder bod dros bwysau a gordewdra. Nid yw BMI yn gwahaniaethu rhwng màs o ganlyniad i fraster ar y corff ac o ganlyniad i gorff cyhyrog, ac nid yw chwaith yn ystyried dosbarthiad braster. Gall ethnigrwydd effeithio ar BMI. Amcangyfrifon yw'r rhagamcanion mynychder dros bwysau neu'n ordew. Maent yn seiliedig ar ragdybiaethau gwahanol a allent fod yn wir yn y dyfodol ai peidio. Rhaid bod yn ofalus iawn wrth ddehongli'r canlyniadau hyn. Cyfrifwyd y gwahaniaeth rhagamcanol yn y boblogaeth drwy gymhwyso'r mynychder rhagamcanol a tharged i ffigurau rhagamcanol y boblogaeth ar gyfer personau 16+ oed. Nid yw'n cymryd i ystyriaeth amrywiaeth mynychder bod dros bwysau neu'r ordew yn ôl oedran. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Iechyd Cymru (AIC), Llywodraeth Cymru Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC), Llywodraeth Cymru Rhagamcanion poblogaeth seiliedig ar 2014, Swyddfa Ystadegau Gwladol Cymru 2003/ /06 a a arsylwyd, 2016 i 2030 rhagamcanol Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am AIC yma: Mae rhagor o wybodaeth am ACC yma: Ceir manylion llawn am y dull rhagamcanu yma: Mynychder bod dros bwysau neu'n ordew

27 Baich clefydau Gordewdra yng Nghymru

28 Mynegai Màs y Corff (BMI) uchel yw un o'r tri phrif ffactor risg uchaf ar gyfer blynyddoedd bywyd wedi'u haddasu gan anabledd (DALYs), 1.6 gwaith cyfraniad y defnydd o alcohol. Y diffiniad o'r dangosydd: 20 prif ffactor risg a nodwyd ar gyfer blynyddoedd bywyd wedi'u haddasu gan anabledd (DALYs) a gollwyd ar gyfer personau o bob oedran. DALYs yw swm y blynyddoedd o fywyd a gollwyd (YLLs) a'r blynyddoedd yn byw ag anabledd (YLDs). Diffinnir DALYs hefyd fel blynyddoedd o fywyd iach a gollwyd Mae'r Global Burden of Disease Study 2016 (GBD 2016) yn rhoi amcangyfrifon o ragamcanion clefydau y gellir eu cymharu'n rhyngwladol. Cafeatau: Mae'r adroddiad yn darparu amcangyfrifon wedi eu modelu nid mesuriadau uniongyrchol ac ni ddylid felly cymharu'r canlyniadau ag unrhyw fesurau uniongyrchol a adroddwyd ar gyfer Cymru. Bydd ansicrwydd o ran unrhyw rai o'r data crai neu'r paramedrau a ddefnyddiwyd yn y model yn arwain at amwysedd yn yr amcangyfrifon eu hunain. Mae'r safleoedd a ddarperir yn arwydd yn unig o gyfraniad cymharol gwahanol ffactorau risg i faich clefydau a bydd sicrwydd y safle yn dibynnu ar gryfder tystiolaeth sylfaenol. Mae'r dull a ddefnyddiwyd yn priodoli DALYs i'r ffactorau risg yn seiliedig ar yr amodau y gwyddys eu bod yn gysylltiedig â hwy, felly ceir cyfnod o oedi rhwng y ffactorau risg yn digwydd a'r amlygiad o effaith ar iechyd a all fod yn sylweddol mewn rhai achosion. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Global Health Data Exchange, Institute for Health Metrics and Evaluation Cymru 2016 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am y GBD yma: Baich clefydau

29 BMI uchel yw un o'r tri phrif ffactor risg ar gyfer blynyddoedd bywyd wedi'u haddasu gan anabledd (DALYs) ar draws y tri grŵp oedran. Mae ffactorau risg eraill sy'n gysylltiedig â diet a gordewdra hefyd yn flaenllaw yn y 10 uchaf. Y diffiniad o'r dangosydd: 10 prif ffactor risg a nodwyd ar gyfer blynyddoedd bywyd wedi'u haddasu gan anabledd (DALYs) gan grwpiau oedran 15-49, DALYs yw swm y blynyddoedd o fywyd a gollwyd (YLLs) a'r blynyddoedd yn byw ag anabledd (YLDs). Diffinnir DALYs hefyd fel blynyddoedd o fywyd iach a gollwyd Mae'r Global Burden of Disease Study 2016 (GBD 2016) yn rhoi amcangyfrifon o ragamcanion clefydau y gellir eu cymharu'n rhyngwladol. Cafeatau: Mae'r adroddiad yn darparu amcangyfrifon wedi eu modelu nid mesuriadau uniongyrchol ac ni ddylid felly cymharu'r canlyniadau ag unrhyw fesurau uniongyrchol a adroddwyd ar gyfer Cymru. Bydd ansicrwydd o ran unrhyw rai o'r data crai neu'r paramedrau a ddefnyddiwyd yn y model yn arwain at amwysedd yn yr amcangyfrifon eu hunain. Mae'r safleoedd a ddarperir yn arwydd yn unig o gyfraniad cymharol gwahanol ffactorau risg i faich clefydau a bydd sicrwydd y safle yn dibynnu ar gryfder tystiolaeth sylfaenol. Mae'r dull a ddefnyddiwyd yn priodoli DALYs i'r ffactorau risg yn seiliedig ar yr amodau y gwyddys eu bod yn gysylltiedig â hwy, felly ceir cyfnod o oedi rhwng y ffactorau risg yn digwydd a'r amlygiad o effaith ar iechyd a all fod yn sylweddol mewn rhai achosion. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Global Health Data Exchange, Institute for Health Metrics and Evaluation Cymru 2016 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am y GBD yma: Baich clefydau

30 Mae BMI uchel yn cyfrannu 9% o'r ffactorau risg hysbys ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd (CVD), neoplasmau a chlefydau anadlol cronig. Mae'r rhan fwyaf o'r ffactorau risg hysbys ar gyfer CVD yn gysylltiedig â diet a gordewdra. Y diffiniad o'r dangosydd: Ffactorau risg a nodwyd ar gyfer y tri achos gyda'r nifer mwyaf o Flynyddoedd Bywyd wedi'u Haddasu gan Anabledd (DALYs) ar gyfer personau o bob oed. DALYs yw swm y blynyddoedd o fywyd a gollwyd (YLLs) a'r blynyddoedd yn byw ag anabledd (YLDs). Diffinnir DALYs hefyd fel blynyddoedd o fywyd iach a gollwyd Mae'r Global Burden of Disease Study 2016 (GBD 2016) yn rhoi amcangyfrifon o ragamcanion clefydau y gellir eu cymharu'n rhyngwladol. Cafeatau: Mae'r adroddiad yn darparu amcangyfrifon wedi eu modelu nid mesuriadau uniongyrchol ac ni ddylid felly cymharu'r canlyniadau ag unrhyw fesurau uniongyrchol a adroddwyd ar gyfer Cymru. Bydd ansicrwydd o ran unrhyw rai o'r data crai neu'r paramedrau a ddefnyddiwyd yn y model yn arwain at amwysedd yn yr amcangyfrifon eu hunain. Mae'r safleoedd a ddarperir yn arwydd yn unig o gyfraniad cymharol gwahanol ffactorau risg i faich clefydau a bydd sicrwydd y safle yn dibynnu ar gryfder tystiolaeth sylfaenol. Mae'r dull a ddefnyddiwyd yn priodoli DALYs i'r ffactorau risg yn seiliedig ar yr amodau y gwyddys eu bod yn gysylltiedig â hwy, felly ceir cyfnod o oedi rhwng y ffactorau risg yn digwydd a'r amlygiad o effaith ar iechyd a all fod yn sylweddol mewn rhai achosion. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Global Health Data Exchange, Institute for Health Metrics and Evaluation Cymru 2016 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am y GBD yma: Sylwer: Mae cyfanswm nifer a chyfran y DALYs y gellir eu priodoli i ffactorau risg hysbys yn amrywio'n sylweddol yn ôl achos. Baich clefydau

31 Meddu ar BMI uchel yw'r prif ffactor risg ar gyfer blynyddoedd yn byw ag anabledd (YLD). Mae'r tri phrif ffactor risg yn uniongyrchol gysylltiedig â diet a gordewdra. Y diffiniad o'r dangosydd: 20 prif ffactor risg a nodwyd ar gyfer blynyddoedd yn byw ag anabledd (YLDs). Cyfrifir YLDs drwy luosi mynychder anhwylder gan y colli iechyd tymor byr neu hirdymor sy'n gysylltiedig â'r anabledd hwnnw (pwysau'r anabledd)1. Mae'r Global Burden of Disease Study 2016 (GBD 2016) yn rhoi amcangyfrifon o ragamcanion clefydau y gellir eu cymharu'n rhyngwladol. Cafeatau: Mae'r adroddiad yn darparu amcangyfrifon wedi eu modelu nid mesuriadau uniongyrchol ac ni ddylid felly cymharu'r canlyniadau ag unrhyw fesurau uniongyrchol a adroddwyd ar gyfer Cymru. Bydd ansicrwydd o ran unrhyw rai o'r data crai neu'r paramedrau a ddefnyddiwyd yn y model yn arwain at amwysedd yn yr amcangyfrifon eu hunain. Mae'r safleoedd a ddarperir yn arwydd yn unig o gyfraniad cymharol gwahanol ffactorau risg i faich clefydau a bydd sicrwydd y safle yn dibynnu ar gryfder tystiolaeth sylfaenol. Mae'r dull a ddefnyddiwyd yn priodoli YLDs i'r ffactorau risg yn seiliedig ar yr amodau y gwyddys eu bod yn gysylltiedig â hwy, felly ceir cyfnod o oedi rhwng y ffactorau risg yn digwydd a'r amlygiad o effaith ar iechyd a all fod yn sylweddol mewn rhai achosion. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Global Health Data Exchange, Institute for Health Metrics and Evaluation Cymru 2016 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am y GBD yma: Cyfeiriadau: 1. US Burden of Disease Collaborators. The state of US health, : burden of diseases, injuries, and risk factors. JAMA, 310(6): , 2013 Baich clefydau

32 Mae mynychder diabetes mewn personau 17+ oed a gofnodwyd mewn gofal sylfaenol wedi cynyddu o 6.0% i 7.3% yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ychydig yn unig o newid a fu yng nghyffredinolrwydd pwysedd gwaed uchel. Y diffiniad o'r dangosydd: Pwysedd gwaed uchel - canran y bobl o bob oed wedi'u cofrestru fel rhai sy'n cael eu trin ar gyfer pwysedd gwaed uchel ar gofrestr clefydau QOF. Diabetes - canran y personau 17 oed a throsodd wedi'u cofrestru fel rhai sy'n cael eu trin ar gyfer diabetes ar y gofrestr clefydau QOF. Noder bod hyn yn cynnwys diabetes math 1 a math 2. Mae mynychder yn cyfeirio at nifer yr achosion byw ar bwynt penodol mewn amser. Nid y nifer o achosion sydd newydd eu diagnosio/adrodd o'r cyflwr (achosion) ydyw. Cafeatau: Mynychder QOF yw'r rhain a dylid eu defnyddio fel procsi ar gyfer y mynychder gwirioneddol yn unig. Cyfrifir cyfraddau ar y boblogaeth meddygon teulu cofrestredig yn hytrach na'r boblogaeth breswyl. Mae QOF yn wirfoddol sy'n galluogi meddygfa deuluol i benderfynu a ddylid cyflwyno data. Fodd bynnag, oherwydd y dyfarniadau ariannol sydd ar gael drwy'r QOF mae'r mwyafrif helaeth o feddygfeydd yn cyflwyno data electronig bob blwyddyn. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau Meddygon Teulu (QOF), Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (echdynnwyd data o StatsCymru) Cymru 2009/10 i 2016/17 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am y QOF yma: Baich clefydau

33 Roedd canrannau sylweddol uwch o oedolion oedd yn hunan-adrodd eu bod yn ordew hefyd yn adrodd bod arnynt ddiabetes a/neu salwch cyhyrysgerbydol. Y diffiniad o'r dangosydd: Diabetes – Y ganran wedi'i safoni o ran oedran o oedolion 16+ oed a adroddodd bod diabetes arnynt yn ôl y rhai a adroddodd eu bod hefyd â Mynegai Màs Corff (BMI) o 30+. Noder bod hyn yn cynnwys diabetes math 1 a math 2. Anhwylderau cyhyrysgerbydol – Y ganran wedi'i safoni o ran oedran o oedolion 16+ oed a adroddodd bod salwch cyhyrysgerbydol arnynt yn ôl y rhai a adroddodd eu bod hefyd â Mynegai Màs Corff (BMI) o 30+. Yn yr arolwg gofynnwyd i oedolion adrodd am unrhyw gyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol neu salwch yn para neu y disgwylir iddynt bara 12 mis neu fwy. Gofynnodd yr arolwg i oedolion adrodd am eu taldra a'u pwysau. Er mwyn diffinio bod dros bwysau neu'n ordew, mae angen mesuriad sy'n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau mewn pwysau yn sgil taldra. Cyfrifir BMI fel pwysau (kg) wedi'i rannu â thaldra sgwâr (m2). Cafeatau: Mae taldra a phwysau yn cael eu hunan-adrodd, a cheir tystiolaeth i ddangos bod rhai pobl yn tueddu i danadrodd am eu pwysau a/neu oradrodd am eu taldra gan arwain at danamcangyfrif mynychder bod dros bwysau a gordewdra. Nid yw BMI yn gwahaniaethu rhwng màs o ganlyniad i fraster ar y corff ac o ganlyniad i gorff cyhyrog, ac nid yw chwaith yn ystyried dosbarthiad braster. Gall ethnigrwydd effeithio ar BMI. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC), Llywodraeth Cymru Cymru 2016/17 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am yr ACC yma: Baich clefydau

34 Yr amgylchedd bwyd a diod: Bwyta ffrwythau a llysiau
Gordewdra yng Nghymru

35 Mae llai na thraean o blant yng Nghymru yn hunan-adrodd eu bod yn bwyta dogn o lysiau unwaith y dydd; yn is na Lloegr, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran y plant 15 oed yn adrodd eu bod yn bwyta llysiau unwaith y dydd neu fwy. Gofynnwyd i bobl ifanc adrodd pa mor aml roeddent wedi bwyta llysiau yn yr wythnos ddiwethaf, roedd yr opsiynau ymateb yn amrywio o byth i fwy nag unwaith y dydd. Cafeatau: Mae'r defnydd o arolygon hunan-adrodd a weinyddir mewn ysgolion o dan amodau arholiad yn arbennig o briodol i natur y cwestiynau a ofynnwyd, gyda gwaith ymchwil blaenorol yn canfod bod pobl ifanc yn fwyaf tebygol o adrodd am ymddygiadau peryglus/sensitif yn gywir gyda'r fethodoleg hon. Fodd bynnag, mae posibilrwydd bod rhai o'r ymatebwyr yn rhoi ymatebion sy'n dderbyniol yn gymdeithasol, yn hytrach na rhai cywir. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Ymddygiadau iechyd plant oedran ysgol (HBSC), Llywodraeth Cymru Cymru, Lloegr, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon 2013/14 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am yr HBSC yma: Bwyta ffrwythau a llysiau

36 Yn yr ardal gyda'r mynychder uchaf, merched ym BIP Hywel Dda oed, adroddodd llai na 50% eu bod yn bod yn bwyta un neu fwy o ddognau o lysiau bob dydd. Mae hyn yn gostwng i lai nag 20% o ferched a bechgyn ym BIP Cwm Taf. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran y plant oed yn adrodd eu bod yn bwyta llysiau unwaith y dydd neu fwy. Gofynnwyd i bobl ifanc adrodd pa mor aml roeddent wedi bwyta llysiau yn yr wythnos ddiwethaf, roedd yr opsiynau ymateb yn amrywio o byth i fwy nag unwaith y dydd. Cafeatau: Mae'r defnydd o arolygon hunan-adrodd a weinyddir mewn ysgolion o dan amodau arholiad yn arbennig o briodol i natur y cwestiynau a ofynnwyd, gyda gwaith ymchwil blaenorol yn canfod bod pobl ifanc yn fwyaf tebygol o adrodd am ymddygiadau peryglus/sensitif yn gywir gyda'r fethodoleg hon. Fodd bynnag, mae posibilrwydd bod rhai o'r ymatebwyr yn rhoi ymatebion sy'n dderbyniol yn gymdeithasol, yn hytrach na rhai cywir. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Ymddygiadau iechyd plant oedran ysgol (HBSC), Llywodraeth Cymru Byrddau iechyd Cymru 2013/14 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am yr HBSC yma: Bwyta ffrwythau a llysiau

37 Mae llai na chwarter yr oedolion yn nodi eu bod yn bwyta’r nifer o ddarnau o ffrwythau a llysiau a argymhellir. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran yr oedolion 16+ oed a nododd eu bod wedi bwyta pum darn neu fwy o ffrwythau neu lysiau'r diwrnod blaenorol yn ôl rhyw a grŵp oedran 10 mlynedd. Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn gofyn i ymatebwyr ynghylch amrywiaeth o eitemau bwyd i bennu'r cyfansymiau o ffrwythau, llysiau a gorbys a fwytawyd y diwrnod blaenorol. Ar gyfer pob eitem o fwyd, gofynnwyd i'r ymatebwyr a oeddent wedi ei fwyta, ac os felly, faint oeddent wedi ei fwyta. Rhoddwyd mesurau bob dydd ar gyfer pob eitem o fwyd: er enghraifft, maint llwy fwrdd o lysiau, powlenni bach o salad, neu ffrwythau maint canolig (fel afal). Roedd pob cwestiwn yn rhoi diffiniad o ba fwydydd oedd i'w cynnwys. Seiliwyd y cwestiynau a'r dadansoddiad ar y cysyniad o ddognau o 80g yr un a throswyd yr wybodaeth a gasglwyd yn ddognau safonol yn y cam dadansoddi. Cafeatau: Mae data ACC wedi'u hunan-adrodd. Gall ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i'w fesur ac efallai y bydd y mynychder a hunan-adroddwyd o ran bwyta'n iach yn destun tuedd yr ymatebydd h.y. goramcangyfrif neu danamcangyfrif ymddygiad i roi ymateb mwy ffafriol. Fodd bynnag, mae data arolwg yn dal i ddarparu ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau ar gyfer yr ymddygiadau hyn rhwng grwpiau gwahanol a thros amser. Gofynnwyd i'r ymatebwyr am eu hymddygiad ar y diwrnod blaenorol, felly efallai na fydd hyn yn adlewyrchu patrymau bwyta cyffredinol. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC), Llywodraeth Cymru Cymru 2016/17 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am yr ACC yma: Bwyta ffrwythau a llysiau

38 Mae tua 20% o oedolion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn bwyta’r nifer a argymhellir o ddognau o ffrwythau a llysiau bob dydd, sy'n sylweddol is na chyfartaledd Cymru. Y diffiniad o'r dangosydd: Y ganran wedi'i safoni yn ôl oedran o oedolion 16+ oed a ddywedodd eu bod wedi bwyta pump neu fwy o ddognau o ffrwythau a llysiau y diwrnod blaenorol. Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn gofyn i ymatebwyr ynghylch amrywiaeth o eitemau bwyd i bennu'r cyfansymiau o ffrwythau, llysiau a gorbys a fwytawyd y diwrnod blaenorol. Ar gyfer pob eitem o fwyd, gofynnwyd i'r ymatebwyr a oeddent wedi ei fwyta, ac os felly, faint oeddent wedi ei fwyta. Rhoddwyd mesurau bob dydd ar gyfer pob eitem o fwyd: er enghraifft, maint llwy fwrdd o lysiau, powlenni bach o salad, neu ffrwythau maint canolig (fel afal). Roedd pob cwestiwn yn rhoi diffiniad o ba fwydydd oedd i'w cynnwys. Seiliwyd y cwestiynau a'r dadansoddiad ar y cysyniad o ddognau o 80g yr un a throswyd yr wybodaeth a gasglwyd yn ddognau safonol yn y cam dadansoddi. Mae amddifadedd yn cael ei ddosbarthu yn ôl pumedau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014. Cafeatau: Mae data ACC wedi'u hunan-adrodd. Gall ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i'w fesur ac efallai y bydd y mynychder a hunan-adroddwyd o ran bwyta'n iach yn destun tuedd yr ymatebydd h.y. goramcangyfrif neu danamcangyfrif ymddygiad i roi ymateb mwy ffafriol. Fodd bynnag, mae data arolwg yn dal i ddarparu ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau ar gyfer yr ymddygiadau hyn rhwng grwpiau gwahanol a thros amser. Gofynnwyd i'r ymatebwyr am eu hymddygiad ar y diwrnod blaenorol, felly efallai na fydd hyn yn adlewyrchu patrymau bwyta cyffredinol. Nid yw pawb sy'n byw mewn ardal a ddosberthir fel un ddifreintiedig yn byw mewn amgylchiadau difreintiedig, ac ar y llaw arall nid yw pawb sy'n byw mewn ardal yn y cwintel lleiaf difreintiedig yn byw mewn amgylchiadau cyfoethog. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC), Llywodraeth Cymru Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014, Llywodraeth Cymru Cymru yn ôl pumed amddifadedd 2016/17 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am yr ACC yma: Bwyta ffrwythau a llysiau

39 Bwyta ffrwythau amrwd sydd fwyaf cyffredin ymhlith unigolion sy'n bwyta ffrwythau a llysiau bob dydd; ar gyfer y rhai sy'n bwyta ffrwythau a llysiau yn llai aml, mae bwyta llysiau (amrwd neu wedi'u coginio) yn fwy cyffredin. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran yr oedolion 16+ oed a adroddodd eu bod yn bwyta ffrwythau amrwd, llysiau (yn cynnwys salad) neu lysiau wedi'u coginio. Gofynnwyd cwestiynau ar wahân i'r ymatebwyr ynghylch pa mor aml y maent yn bwyta ffrwythau amrwd, llysiau amrwd a llysiau wedi'u coginio. Roedd opsiynau ymateb yn yr arolwg yn amrywio o byth i o leiaf unwaith y dydd. Cafeatau: Mae'r data FDS wedi'u hunan-adrodd fel rhan o gyfweliad yr arolwg. Gall ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i'w fesur ac efallai y bydd y mynychder a hunan-adroddwyd o ran bwyta'n iach yn destun tuedd yr ymatebydd h.y. goramcangyfrif neu danamcangyfrif ymddygiad i roi ymateb mwy ffafriol. Fodd bynnag, mae data arolwg yn dal i ddarparu ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau ar gyfer yr ymddygiadau hyn rhwng grwpiau gwahanol a thros amser. Mae'r data yn seiliedig ar sampl o 1,099 o bersonau dros y tri chyfnod o gasglu data yng nghamau 2-4 yr arolwg. Cyfunwyd haenau gydag unedau samplo sylfaenol sengl gyda haenau o gyfansoddiad incwm aelwyd tebyg er mwyn cynhyrchu cyfyngau hyder yn STATA. Er bod hyn yn debygol o fod wedi lleihau maint y cyfyngau hyder ychydig, mae'r effaith gyffredinol ar y data yn fach iawn. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Food and You (FDS), Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru 2012, 2014 a 2016 (camau arolwg 2-4) Rhagor o wybodaeth: Ceir rhagor o wybodaeth am yr FDS yma: Bwyta ffrwythau a llysiau

40 Mae gwahaniaeth sylweddol mewn gordewdra yn ôl bwyta ffrwythau a llysiau, gyda chyfraddau mewn oedolion nad ydynt yn bwyta unrhyw ddognau 7% yn uwch na'r rheiny sy'n bwyta 5+. Mae hyn yn llai amlwg ar gyfer oedolion dros bwysau/ordew. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran wedi'i safoni yn ôl oedran o oedolion 16+ oed yn hunan-adrodd eu bod dros bwysau neu'n ordew (BMI o 25+) neu'n ordew (BMI o 30+) yn ôl cyfrannau o ffrwythau a llysiau a fwytawyd (wedi'u grwpio). Gofynnodd yr arolwg i oedolion adrodd am eu taldra a'u pwysau. Er mwyn diffinio bod dros bwysau neu'n ordew, mae angen mesuriad sy'n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau mewn pwysau yn sgil taldra. Cyfrifir BMI fel pwysau (kg) wedi'i rannu â thaldra sgwâr (m2). Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn gofyn i ymatebwyr ynghylch amrywiaeth o eitemau bwyd i bennu'r cyfansymiau o ffrwythau, llysiau a gorbys a fwytawyd y diwrnod blaenorol. Ar gyfer pob eitem o fwyd, gofynnwyd i'r ymatebwyr a oeddent wedi ei fwyta, ac os felly, faint oeddent wedi ei fwyta. Rhoddwyd mesurau bob dydd ar gyfer pob eitem o fwyd: er enghraifft, maint llwy fwrdd o lysiau, powlenni bach o salad, neu ffrwythau maint canolig (fel afal). Roedd pob cwestiwn yn rhoi diffiniad o ba fwydydd oedd i'w cynnwys. Seiliwyd y cwestiynau a'r dadansoddiad ar y cysyniad o ddognau o 80g yr un a throswyd yr wybodaeth a gasglwyd yn ddognau safonol yn y cam dadansoddi. Cafeatau: Mae taldra a phwysau yn cael eu hunan-adrodd, a cheir tystiolaeth i ddangos bod rhai pobl yn tueddu i danadrodd am eu pwysau a/neu oradrodd am eu taldra gan arwain at danamcangyfrif mynychder bod dros bwysau a gordewdra. Nid yw BMI yn gwahaniaethu rhwng màs o ganlyniad i fraster ar y corff ac o ganlyniad i gorff cyhyrog, ac nid yw chwaith yn ystyried dosbarthiad braster. Gall ethnigrwydd effeithio ar BMI. Mae data ACC wedi'u hunan-adrodd. Gall ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i'w fesur ac efallai y bydd y mynychder a hunan-adroddwyd o ran bwyta'n iach yn destun tuedd yr ymatebydd h.y. goramcangyfrif neu danamcangyfrif ymddygiad i roi ymateb mwy ffafriol. Fodd bynnag, mae data arolwg yn dal i ddarparu ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau ar gyfer yr ymddygiadau hyn rhwng grwpiau gwahanol a thros amser. Gofynnwyd i'r ymatebwyr am eu hymddygiad ar y diwrnod blaenorol, felly efallai na fydd hyn yn adlewyrchu patrymau bwyta cyffredinol. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC), Llywodraeth Cymru Cymru 2016/17 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am yr ACC yma: Bwyta ffrwythau a llysiau

41 Amcangyfrifir y bydd canran yr oedolion sy'n bwyta llai na phum dogn o ffrwythau a llysiau y dydd yn cynyddu i 74% erbyn 2025 os na fydd dim yn newid a bod y patrwm presennol yn parhau. Y diffiniad o'r dangosydd: Y canran o oedolion 16+ oed a adroddodd eu bod wedi bwyta llai na phum dogn o ffrwythau a llysiau y diwrnod blaenorol. Mae AIC yn gofyn i ymatebwyr ynghylch amrywiaeth o eitemau bwyd i bennu'r cyfansymiau o ffrwythau, llysiau a gorbys a fwytawyd y diwrnod blaenorol. Ar gyfer pob eitem o fwyd, gofynnwyd i'r ymatebwyr a oeddent wedi ei fwyta, ac os felly, faint oeddent wedi ei fwyta. Rhoddwyd mesurau bob dydd ar gyfer pob eitem o fwyd: er enghraifft, maint llwy fwrdd o lysiau, powlenni bach o salad, neu ffrwythau maint canolig (fel afal). Roedd pob cwestiwn yn rhoi diffiniad o ba fwydydd oedd i'w cynnwys. Seiliwyd y cwestiynau a'r dadansoddiad ar y cysyniad o ddognau o 80g yr un a throswyd yr wybodaeth a gasglwyd yn ddognau safonol yn y cam dadansoddi. Cyfrifwyd y rhagamcaniad yn defnyddio dull allosod sy'n archwilio tueddiadau a chylchoedd hanesyddol, yna'n defnyddio technegau mathemategol i allosod i'r dyfodol. Cafeatau: Mae data Arolwg Iechyd Cymru wedi'u hunan-adrodd. Gall ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i'w fesur ac efallai y bydd y mynychder a hunan-adroddwyd o ran bwyta'n iach yn destun tuedd yr ymatebydd h.y. goramcangyfrif neu danamcangyfrif ymddygiad i roi ymateb mwy ffafriol. Fodd bynnag, mae data arolwg yn dal i ddarparu ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau ar gyfer yr ymddygiadau hyn rhwng grwpiau gwahanol a thros amser. Gofynnwyd i'r ymatebwyr am eu hymddygiad ar y diwrnod blaenorol, felly efallai na fydd hyn yn adlewyrchu patrymau bwyta cyffredinol. Mae'r rhagamcanion ar gyfer bwyta ffrwythau a llysiau yn amcangyfrifon. Maent yn seiliedig ar ragdybiaethau gwahanol a allent fod yn wir yn y dyfodol ai peidio. Rhaid bod yn ofalus iawn wrth ddehongli'r canlyniadau hyn. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Iechyd Cymru (AIC), Llywodraeth Cymru Rhagamcanion poblogaeth seiliedig ar 2014, Swyddfa Ystadegau Gwladol Cymru 2008/2010 i a arsylwyd, 2016 i 2025 a ragamcenir Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am AIC yma: Ceir manylion llawn am y dull rhagamcanu yma: Bwyta ffrwythau a llysiau

42 Mae’r siwgr sy’n cael ei fwyta dair gwaith yn uwch na’r hyn a argymhellir ar gyfer y glasoed a dwywaith yn uwch ar gyfer plant ac oedolion. Mae gan ymatebwyr o bob oed ganran uwch o fraster dirlawn nag yr argymhellir. Y diffiniad o'r dangosydd: Siwgr rhydd - Maint dyddiol ar gyfartaledd y siwgr rhydd fel canran o egni bwyd person 1.5 ac yn hŷn. Diffinnir siwgr rhydd fel siwgr nad yw’n cael ei ganfod yn naturiol mewn ffrwythau a llysiau cyflawn, ac mewn llaeth a chynnyrch llaeth. Asidau brasterog dirlawn – Maint dyddiol ar gyfartaledd yr asidau brasterog dirlawn fel canran o egni bwyd person 4 oed ac yn hŷn. Cafeatau: Mae'r NDNS yn dibynnu ar ddata wedi'u hunan-adrodd ar gyfer cymeriant bwyd gan ddefnyddio dyddiadur bwyd. Gall ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i'w fesur ac efallai y bydd y mynychder a hunan-adroddwyd o ran bwyta'n iach yn destun tuedd yr ymatebydd h.y. goramcangyfrif neu danamcangyfrif ymddygiad i roi ymateb mwy ffafriol. Fodd bynnag, mae data arolwg yn dal i ddarparu ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau ar gyfer yr ymddygiadau hyn rhwng grwpiau gwahanol a thros amser. Adroddir y dyddiadur bwyd dros bedwar diwrnod yn olynol. Y bwriad yw sicrhau y cynrychiolir pob diwrnod o'r wythnos yn gyfartal gan fod yr egni a'r maetholion a fwyteir yn debygol o newid yn ôl y diwrnod o'r wythnos. Fodd bynnag, roedd cyfran ychydig yn uwch o ymatebion ar gyfer diwrnodau'r penwythnos yn y data. Mae'r data yn seiliedig ar sampl o 852 o bersonau dros y cyfnod o gasglu data yng nghamau 2-5 yr arolwg. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: National Diet and Nutrition Survey (NDNS), Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru 2009/ /13 (arolwg camau 2-5) Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am NDNS yma: Cyfeiriadau: 1. Science Media Culture. Sugar and health. London, United Kingdom. Available at: [Accessed 17th September 2018] Bwyta ffrwythau a llysiau

43 Yr amgylchedd bwyd a diod: Bwyta yn y cartref
Gordewdra yng Nghymru

44 Adroddodd bron i ddwy ran o dair o ymatebwyr eu bod yn paratoi bwyd iddyn nhw'u hunain neu i eraill o leiaf unwaith y dydd. Mae bron 10% yn paratoi bwyd llai nag unwaith yr wythnos. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran yr oedolion 16+ a adroddodd eu bod yn coginio neu'n paratoi bwyd iddyn nhw'u hunain neu eraill. Roedd opsiynau ymateb yn yr arolwg yn amrywio o byth i o leiaf unwaith y dydd. Cafeatau: Mae'r data FDS wedi'u hunan-adrodd fel rhan o gyfweliad yr arolwg. Gall ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i'w fesur ac efallai y bydd y mynychder a hunan-adroddwyd o ran bwyta'n iach yn destun tuedd yr ymatebydd h.y. goramcangyfrif neu danamcangyfrif ymddygiad i roi ymateb mwy ffafriol. Fodd bynnag, mae data arolwg yn dal i ddarparu ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau ar gyfer yr ymddygiadau hyn rhwng grwpiau gwahanol a thros amser. Mae'r data yn seiliedig ar sampl o 492 o bersonau dros y cyfnod o gasglu data yng ngham 4 yr arolwg (2016). Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Food and You (FDS), Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru 2016 (cam yr arolwg 4) Rhagor o wybodaeth: Ceir rhagor o wybodaeth am yr FDS yma: Bwyta yn y cartref

45 Adroddodd tua dwy ran o dair o oedolion eu bod yn bwyta prydau parod unwaith y mis neu lai. Fodd bynnag, adroddodd dros un rhan o bump o'r ymatebwyr eu bod yn bwyta prydau parod o leiaf unwaith yr wythnos. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran yr oedolion 16+ oed a adroddodd eu bod yn bwyta prydau parod. Gofynnodd yr arolwg i oedolion pa mor aml yr oeddent yn bwyta prydau parod, roedd opsiynau ymateb yn amrywio o byth i o leiaf unwaith y dydd. Cafeatau: Mae'r data FDS wedi'u hunan-adrodd fel rhan o gyfweliad yr arolwg. Gall ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i'w fesur ac efallai y bydd y mynychder a hunan-adroddwyd o ran bwyta'n iach yn destun tuedd yr ymatebydd h.y. goramcangyfrif neu danamcangyfrif ymddygiad i roi ymateb mwy ffafriol. Fodd bynnag, mae data arolwg yn dal i ddarparu ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau ar gyfer yr ymddygiadau hyn rhwng grwpiau gwahanol a thros amser. Mae'r data yn seiliedig ar sampl o 492 o bersonau dros y cyfnod o gasglu data yng ngham 4 yr arolwg (2016). Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Food and You (FDS), Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru 2016 (cam yr arolwg 4) Rhagor o wybodaeth: Ceir rhagor o wybodaeth am yr FDS yma: Bwyta yn y cartref

46 Roedd 6 o bob 10 ymatebydd wedi bwyta bwyd parod o fwyty, siop cludfwyd, neu fwyty bwyd cyflym yn y mis blaenorol. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran yr oedolion 16+ oed a adroddwyd eu bod wedi bwyta cludfwyd o fwyty, siop cludfwyd, neu fwyty bwyd cyflym yn y mis blaenorol. Cafeatau: Mae'r data FDS wedi'u hunan-adrodd fel rhan o gyfweliad yr arolwg. Gall ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i'w fesur ac efallai y bydd y mynychder a hunan-adroddwyd o ran bwyta'n iach yn destun tuedd yr ymatebydd h.y. goramcangyfrif neu danamcangyfrif ymddygiad i roi ymateb mwy ffafriol. Fodd bynnag, mae data arolwg yn dal i ddarparu ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau ar gyfer yr ymddygiadau hyn rhwng grwpiau gwahanol a thros amser. Mae'r data yn seiliedig ar sampl o 492 o bersonau dros y cyfnod o gasglu data yng ngham 4 yr arolwg (2016). Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Food and You (FDS), Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru 2016 (cam yr arolwg 4) Rhagor o wybodaeth: Ceir rhagor o wybodaeth am yr FDS yma: Bwyta yn y cartref

47 Nododd bron dwy ran o dair o oedolion eu bod wedi bwyta brecwast gartref ar bum neu fwy o ddiwrnodau yn yr wythnos flaenorol. Dywedodd un o bob ugain o oedolion nad oeddent byth yn bwyta brecwast. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran yr oedolion 16+ oed a adroddodd pa mor aml yr oeddent yn bwyta brecwast gartref. Gofynnodd yr arolwg i oedolion sawl gwaith yr oeddent wedi bwyta brecwast gartref yn y saith diwrnod diwethaf, roedd opsiynau ymateb yn amrywio o byth yn bwyta brecwast i saith diwrnod. Cafeatau: Mae'r data FDS wedi'u hunan-adrodd fel rhan o gyfweliad yr arolwg. Gall ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i'w fesur ac efallai y bydd y mynychder a hunan-adroddwyd o ran bwyta'n iach yn destun tuedd yr ymatebydd h.y. goramcangyfrif neu danamcangyfrif ymddygiad i roi ymateb mwy ffafriol. Fodd bynnag, mae data arolwg yn dal i ddarparu ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau ar gyfer yr ymddygiadau hyn rhwng grwpiau gwahanol a thros amser. Mae'r data yn seiliedig ar sampl o 1,099 o bersonau dros y tri chyfnod o gasglu data yng nghamau 2-4 yr arolwg. Cyfunwyd haenau gydag unedau samplo sylfaenol sengl gyda haenau o gyfansoddiad incwm aelwyd tebyg er mwyn cynhyrchu cyfyngau hyder yn STATA. Er bod hyn yn debygol o fod wedi lleihau maint y cyfyngau hyder ychydig, mae'r effaith gyffredinol ar y data yn fach iawn. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Food and You (FDS), Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru 2012, 2014 a 2016 (camau'r arolwg 2-4) Rhagor o wybodaeth: Ceir rhagor o wybodaeth am yr FDS yma: Bwyta yn y cartref

48 Yr amgylchedd bwyd a diod: Yfed alcohol
Gordewdra yng Nghymru

49 Mae gan Gymru ganran uwch o ferched yn adrodd eu bod yn yfed alcohol o leiaf unwaith yr wythnos na Lloegr, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon. Dim ond yr Alban oedd â chanran uwch o fechgyn. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran y plant 15 oed a adroddodd eu bod yn yfed alcohol o leiaf unwaith yr wythnos. Gofynnwyd i bobl ifanc pa mor aml y maent yn yfed unrhyw ddiod alcoholig a rhoddwyd rhestr o ddiodydd iddynt: seidr, cwrw, gwin, gwirodydd, alcopops neu unrhyw ddiod arall sy'n cynnwys alcohol. Roedd yr opsiynau ymateb yn amrywio o byth i bob dydd. Mae'r canfyddiadau a gyflwynir yma yn dangos y canrannau'n adrodd eu bod yn yfed unrhyw ddiod alcoholig o leiaf bob wythnos. Cafeatau: Mae'r defnydd o arolygon hunan-adrodd a weinyddir mewn ysgolion o dan amodau arholiad yn arbennig o briodol i natur y cwestiynau a ofynnwyd, gyda gwaith ymchwil blaenorol yn canfod bod pobl ifanc yn fwyaf tebygol o adrodd am ymddygiadau peryglus/sensitif yn gywir gyda'r fethodoleg hon. Fodd bynnag, mae posibilrwydd bod rhai o'r ymatebwyr yn rhoi ymatebion sy'n dderbyniol yn gymdeithasol, yn hytrach na rhai cywir. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Ymddygiadau iechyd plant oedran ysgol (HBSC), Llywodraeth Cymru Cymru, Lloegr, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon 2013/14 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am yr HBSC yma: Yfed alcohol

50 Mae canran y bechgyn a merched yn adrodd eu bod yn yfed alcohol o leiaf unwaith yr wythnos ym BIP Cwm Taf yn sylweddol uwch na gwerth Cymru. Dim ond bechgyn ym BIP ABM sydd â chanran arwyddocaol is. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran y plant oed a adroddodd eu bod yn yfed alcohol o leiaf unwaith yr wythnos. Gofynnwyd i bobl ifanc pa mor aml y maent yn yfed unrhyw ddiod alcoholig a rhoddwyd rhestr o ddiodydd iddynt: seidr, cwrw, gwin, gwirodydd, alcopops neu unrhyw ddiod arall sy'n cynnwys alcohol. Roedd yr opsiynau ymateb yn amrywio o byth i bob dydd. Mae'r canfyddiadau a gyflwynir yma yn dangos y canrannau'n adrodd eu bod yn yfed unrhyw ddiod alcoholig o leiaf bob wythnos. Cafeatau: Mae'r defnydd o arolygon hunan-adrodd a weinyddir mewn ysgolion o dan amodau arholiad yn arbennig o briodol i natur y cwestiynau a ofynnwyd, gyda gwaith ymchwil blaenorol yn canfod bod pobl ifanc yn fwyaf tebygol o adrodd am ymddygiadau peryglus/sensitif yn gywir gyda'r fethodoleg hon. Fodd bynnag, mae posibilrwydd bod rhai o'r ymatebwyr yn rhoi ymatebion sy'n dderbyniol yn gymdeithasol, yn hytrach na rhai cywir. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Ymddygiadau iechyd plant oedran ysgol (HBSC), Llywodraeth Cymru Byrddau iechyd Cymru 2013/14 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am yr HBSC yma: Yfed alcohol

51 Mae tua 1 o bob 5 o oedolion yng Nghymru yn adrodd eu bod yn yfed uwchlaw'r canllawiau. Mae'r ganran yn sylweddol uwch yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Y diffiniad o'r dangosydd: Y ganran wedi'i safoni yn ôl oedran o oedolion 16+ oed a adroddodd eu bod yn yfed uwchlaw'r canllawiau (cyfartaledd defnydd wythnosol uwchlaw 14 uned). Gofynnwyd i'r ymatebwyr nodi pa mor aml yr oeddent wedi yfed bob math o alcohol yn ystod y 12 mis diwethaf, a faint yr oeddent yn ei yfed fel arfer; gofynnwyd iddynt hefyd sawl mesur o bob math o alcohol yr oeddent wedi eu hyfed ar eu diwrnod yfed trymaf yr wythnos flaenorol. Cyfrifwyd y defnydd wythnosol o bob math o ddiod drwy luosi'r unedau a yfwyd fel arfer ar ddiwrnod pan oedd y math hwnnw o alcohol yn cael ei yfed gan ffracsiwn yn cynrychioli pa mor aml yr oedd yn cael ei yfed. Cafodd y canlyniadau ar gyfer pob math o ddiod eu hadio at ei gilydd roi ffigur cyffredinol wythnosol. Mae amddifadedd yn cael ei ddosbarthu yn ôl pumedau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014. Cafeatau: Mae data ACC wedi'u hunan-adrodd. Gall ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i'w fesur ac efallai y bydd y mynychder a hunan-adroddwyd o ran bwyta'n iach yn destun tuedd yr ymatebydd h.y. goramcangyfrif neu danamcangyfrif ymddygiad i roi ymateb mwy ffafriol. Fodd bynnag, mae data arolwg yn dal i ddarparu ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau ar gyfer yr ymddygiadau hyn rhwng grwpiau gwahanol a thros amser. Mae data o'r arolwg yn adlewyrchu dim ond yr wythnos cyn yr arolwg ac felly gellir effeithio arnynt gan ddigwyddiadau nad ydynt yn digwydd yn wythnosol, e.e. dathliadau pen-blwydd. Gall hefyd fod yn anodd i amcangyfrif faint o alcohol sy'n cael ei arllwys heb fesurydd. Gwyddys bod data arolwg ar alcohol yn cael eu tanamcangyfrif. Nid yw pawb sy'n byw mewn ardal a ddosberthir fel un ddifreintiedig yn byw mewn amgylchiadau difreintiedig, ac ar y llaw arall nid yw pawb sy'n byw mewn ardal yn y cwintel lleiaf difreintiedig yn byw mewn amgylchiadau cyfoethog. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC), Llywodraeth Cymru Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014, Llywodraeth Cymru Cymru yn ôl pumed amddifadedd 2016/17 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am yr ACC yma: Yfed alcohol

52 Nid yw bod dros bwysau / gordewdra yn gysylltiedig ag yfed uwchlaw'r canllawiau a argymhellir o alcohol ond mae'n arwyddocaol gysylltiedig ag yfed risg uchel. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran wedi'i safoni yn ôl oedran o oedolion 16+ oed yn hunan-adrodd eu bod dros bwysau neu'n ordew (BMI o 25+) yn ôl yfed uwchlaw'r canllawiau (cyfartaledd defnydd wythnosol uwchlaw 14 uned). Canran wedi'i safoni yn ôl oedran o oedolion 16+ oed yn hunan-adrodd eu bod dros bwysau neu'n ordew (BMI o 25+) yn ôl yfed risg uchel (cyfartaledd defnydd wythnosol uwchlaw 50 uned i ddynion a 35 uned i fenywod). Gofynnodd yr arolwg i oedolion adrodd am eu taldra a'u pwysau. Er mwyn diffinio bod dros bwysau neu'n ordew, mae angen mesuriad sy'n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau mewn pwysau yn sgil taldra. Cyfrifir BMI fel pwysau (kg) wedi'i rannu â thaldra sgwâr (m2). Gofynnwyd i'r ymatebwyr nodi pa mor aml yr oeddent wedi yfed bob math o alcohol yn ystod y 12 mis diwethaf, a faint yr oeddent yn ei yfed fel arfer; gofynnwyd iddynt hefyd sawl mesur o bob math o alcohol yr oeddent wedi eu hyfed ar eu diwrnod yfed trymaf yr wythnos flaenorol. Cyfrifwyd y defnydd wythnosol o bob math o ddiod drwy luosi'r unedau a yfwyd fel arfer ar ddiwrnod pan oedd y math hwnnw o alcohol yn cael ei yfed gan ffracsiwn yn cynrychioli pa mor aml yr oedd yn cael ei yfed. Cafodd y canlyniadau ar gyfer pob math o ddiod eu hadio at ei gilydd roi ffigur cyffredinol wythnosol. Cafeatau: Mae taldra a phwysau yn cael eu hunan-adrodd, a cheir tystiolaeth i ddangos bod rhai pobl yn tueddu i danadrodd am eu pwysau a/neu oradrodd am eu taldra gan arwain at danamcangyfrif mynychder o ran bod dros bwysau a gordew. Nid yw BMI yn gwahaniaethu rhwng màs o ganlyniad i fraster ar y corff ac o ganlyniad i gorff cyhyrog, ac nid yw chwaith yn ystyried dosbarthiad braster. Gall ethnigrwydd effeithio ar BMI. Mae data Arolwg Cenedlaethol Cymru wedi'u hunan-adrodd. Gall ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i'w fesur ac efallai y bydd y mynychder a hunan-adroddwyd o ran bwyta'n iach yn destun tuedd yr ymatebydd h.y. goramcangyfrif neu danamcangyfrif ymddygiad i roi ymateb mwy ffafriol. Fodd bynnag, mae data arolwg yn dal i ddarparu ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau ar gyfer yr ymddygiadau hyn rhwng grwpiau gwahanol a thros amser. Mae data o'r arolwg yn adlewyrchu dim ond yr wythnos cyn yr arolwg ac felly gellir effeithio arnynt gan ddigwyddiadau nad ydynt yn digwydd yn wythnosol, e.e. dathliadau pen-blwydd. Gall hefyd fod yn anodd i amcangyfrif faint o alcohol sy'n cael ei arllwys heb fesurydd. Gwyddys bod data arolwg ar alcohol yn cael eu tanamcangyfrif. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC), Llywodraeth Cymru Cymru 2016/17 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am yr ACC yma: Yfed alcohol

53 Yr amgylchedd bwyd a diod: Gwariant ar fwyd a diod
Gordewdra yng Nghymru

54 O gymharu â Lloegr, mae canran uwch o wariant aelwydydd yng Nghymru ar fwyd a diodydd di-alcohol. Fodd bynnag, gall y gwariant absoliwt fod yn is. Y diffiniad o'r dangosydd: Cyfartaledd gwariant wythnosol aelwydydd ar fwyd a diodydd di-alcohol fel canran o wariant yr aelwyd. Gofynnodd yr arolwg i oedolion gofnodi eu holl bryniannau am bythefnos mewn dyddiadur. Mae'r dyddiadur oedolyn (personau 16+ oed) wedi'i rannu'n 10 adran (6 ar gyfer gwariant dyddiol a 4 ar gyfer cyfnod cyfan defnyddio'r dyddiadur). Cofnodir pob eitem a brynir yn yr adran briodol a'r swm a dalwyd. Cyhoeddir dyddiadur symlach i blant 7 i 15 oed i ddarparu manylion ar eitemau bwyd a diod a brynwyd dros yr un cyfnod. Cafeatau: Nid yw'r cyfanswm gwariant yn cynnwys taliadau llog morgais, treth gyngor ac ardrethi Gogledd Iwerddon. Y gyfradd ymateb gyffredinol ar gyfer yr arolwg yn 2017 oedd 45% ym Mhrydain. Gwelwyd gostyngiad hirdymor mewn ymateb i'r arolwg Costau Byw a Bwyd, yn gyffredin ag arolygon cymdeithasol eraill. Defnyddir pwysoliad diffyg ymateb i helpu i liniaru tuedd diffyg ymateb. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Data Gwariant Teuluoedd, Swyddfa Ystadegau Gwladol Y Deyrnas Unedig, Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon i (blwyddyn galendr hyd a'r flwyddyn ariannol ymlaen) Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am Ddata Gwariant Teuluoedd yma: Gwariant ar fwyd a diod

55 Wedi addasu ar gyfer chwyddiant, gwariodd trigolion Cymru 18% yn llai ar ffrwythau a llysiau yn , o'i gymharu â Y diffiniad o'r dangosydd: Gwariant cyfartalog wythnosol aelwydydd ar fwyd a diodydd di-alcohol yng Nghymru yn ôl y math o fwyd a diod. Gofynnodd yr arolwg i oedolion gofnodi eu holl bryniannau am bythefnos mewn dyddiadur. Mae'r dyddiadur oedolyn (personau 16+ oed) wedi'i rannu'n 10 adran (6 ar gyfer gwariant dyddiol a 4 ar gyfer cyfnod cyfan defnyddio'r dyddiadur). Cofnodir pob eitem a brynir yn yr adran briodol a'r swm a dalwyd. Cyhoeddir dyddiadur symlach i blant 7 i 15 oed i ddarparu manylion ar eitemau bwyd a diod a brynwyd dros yr un cyfnod. Cafeatau: Mae'r ffigurau wedi'u haddasu ar gyfer chwyddiant y flwyddyn 2015 yn defnyddio cyfartaleddau blynyddol y Mynegai Chwyddiant Prisiau Defnyddwyr. Roedd categorïau gwariant teuloedd wedi'u cyfateb mor agos â phosibl â chategorïau'r Mynegai Chwyddiant Prisiau Defnyddwyr. Y gyfradd ymateb gyffredinol ar gyfer yr arolwg yn 2017 oedd 45% ym Mhrydain. Gwelwyd gostyngiad hirdymor mewn ymateb i'r arolwg Costau Byw a Bwyd, yn gyffredin ag arolygon cymdeithasol eraill. Defnyddir pwysoliad diffyg ymateb i helpu i liniaru tuedd diffyg ymateb. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Data Gwariant Teuluoedd, Swyddfa Ystadegau Gwladol Cymru i (blwyddyn galendr hyd a'r flwyddyn ariannol ymlaen) Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am Ddata Gwariant Teuluoedd yma: Gwariant ar fwyd a diod

56 Wedi addasu ar gyfer chwyddiant, gwariodd trigolion Cymru 48% yn llai ar yfed alcohol oddi cartref yn , o'i gymharu â Y diffiniad o'r dangosydd: Gwariant cyfartalog wythnosol aelwydydd ar fwyta ac yfed allan yng Nghymru yn ôl math o weithgaredd. Gofynnodd yr arolwg i oedolion gofnodi eu holl bryniannau am bythefnos mewn dyddiadur. Mae'r dyddiadur oedolyn (personau 16+ oed) wedi'i rannu'n 10 adran (6 ar gyfer gwariant dyddiol a 4 ar gyfer cyfnod cyfan defnyddio'r dyddiadur). Cofnodir pob eitem a brynir yn yr adran briodol a'r swm a dalwyd. Cyhoeddir dyddiadur symlach i blant 7 i 15 oed i ddarparu manylion ar eitemau bwyd a diod a brynwyd dros yr un cyfnod. Cafeatau: Mae'r ffigurau wedi'u haddasu ar gyfer chwyddiant y flwyddyn 2015 yn defnyddio cyfartaleddau blynyddol y Mynegai Chwyddiant Prisiau Defnyddwyr. Roedd categorïau gwariant teuloedd wedi'u cyfateb mor agos â phosibl â chategorïau'r Mynegai Chwyddiant Prisiau Defnyddwyr. Y gyfradd ymateb gyffredinol ar gyfer yr arolwg yn 2017 oedd 45% ym Mhrydain. Gwelwyd gostyngiad hirdymor mewn ymateb i'r arolwg Costau Byw a Bwyd, yn gyffredin ag arolygon cymdeithasol eraill. Defnyddir pwysoliad diffyg ymateb i helpu i liniaru tuedd diffyg ymateb. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Data Gwariant Teuluoedd, Swyddfa Ystadegau Gwladol Cymru i (blwyddyn galendr hyd a'r flwyddyn ariannol ymlaen) Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am Ddata Gwariant Teuluoedd yma: Gwariant ar fwyd a diod

57 Gwariodd trigolion Cymru 10% yn llai ar yfed alcohol yn y cartref yn o'i gymharu â , gyda'r gostyngiad mwyaf i'w weld mewn gwinoedd. Bu peth cynnydd mewn gwariant ers Y diffiniad o'r dangosydd: Gwariant cyfartalog wythnosol aelwydydd ar alcohol a yfir gartref yn ôl y math o alcohol. Gofynnodd yr arolwg i oedolion gofnodi eu holl bryniannau am bythefnos mewn dyddiadur. Mae'r dyddiadur oedolyn (personau 16+ oed) wedi'i rannu'n 10 adran (6 ar gyfer gwariant dyddiol a 4 ar gyfer cyfnod cyfan defnyddio'r dyddiadur). Cofnodir pob eitem a brynir yn yr adran briodol a'r swm a dalwyd. Cyhoeddir dyddiadur symlach i blant 7 i 15 oed i ddarparu manylion ar eitemau bwyd a diod a brynwyd dros yr un cyfnod. Cafeatau: Mae'r ffigurau wedi'u haddasu ar gyfer chwyddiant y flwyddyn 2015 yn defnyddio cyfartaleddau blynyddol y Mynegai Chwyddiant Prisiau Defnyddwyr. Roedd categorïau gwariant teuloedd wedi'u cyfateb mor agos â phosibl â chategorïau'r Mynegai Chwyddiant Prisiau Defnyddwyr. Y gyfradd ymateb gyffredinol ar gyfer yr arolwg yn 2017 oedd 45% ym Mhrydain. Gwelwyd gostyngiad hirdymor mewn ymateb i'r arolwg Costau Byw a Bwyd, yn gyffredin ag arolygon cymdeithasol eraill. Defnyddir pwysoliad diffyg ymateb i helpu i liniaru tuedd diffyg ymateb. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Data Gwariant Teuluoedd, Swyddfa Ystadegau Gwladol Cymru i (blwyddyn galendr hyd a'r flwyddyn ariannol ymlaen) Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am Ddata Gwariant Teuluoedd yma: Gwariant ar fwyd a diod

58 Yr amgylchedd bwyd a diod: Agweddau at fwyd
Gordewdra yng Nghymru

59 Roedd un o bob pump o ymatebwyr wedi poeni y byddent yn rhedeg allan o fwyd cyn cael digon o arian i brynu mwy yn ystod y 12 mis blaenorol. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran yr oedolion 16+ oed a adroddodd a oeddent wedi poeni y byddent yn rhedeg allan o fwyd cyn cael digon o arian i brynu mwy yn ystod y 12 mis blaenorol. Y datganiad a roddwyd gerbron yr ymatebwyr oedd: "Rydw i/Rydym ni'n poeni a fydd fy/ein bwyd yn rhedeg allan cyn i mi/ni gael arian i brynu mwy". Cafeatau: Mae'r data yn seiliedig ar sampl o 492 o bersonau dros y cyfnod o gasglu data yng ngham 4 yr arolwg (2016). Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Food and You Survey (FDS), Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru 2016 (Cam yr arolwg 4) Rhagor o wybodaeth: Ceir rhagor o wybodaeth am yr FDS yma: Agweddau at fwyd

60 Adroddodd dros 10% o oedolion na allent fforddio bwyta prydau cytbwys ar ryw adeg yn ystod y 12 mis blaenorol. Adroddodd tua 2% o ymatebwyr fod hyn yn aml yn wir. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran yr oedolion 16+ oed a adroddodd nad oeddent yn gallu fforddio bwyta prydau cytbwys yn y 12 mis blaenorol. Y datganiad a roddwyd gerbron yr ymatebwyr oedd: "Nid oeddwn i/ni yn gallu fforddio bwyta prydau cytbwys". Cafeatau: Mae'r data yn seiliedig ar sampl o 492 o bersonau dros y cyfnod o gasglu data yng ngham 4 yr arolwg (2016). Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Food and You Survey (FDS), Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru 2016 (Cam yr arolwg 4) Rhagor o wybodaeth: Ceir rhagor o wybodaeth am yr FDS yma: Agweddau at fwyd

61 Cytunodd dros 90% o ymatebwyr yng Nghymru fod yr hyn yr ydych yn ei fwyta yn gwneud gwahaniaeth mawr i'ch iechyd. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran yr oedolion 16+ oed yn adrodd eu bod yn cytuno â'r cwestiwn "Mae beth rydych yn ei fwyta yn gwneud gwahaniaeth mawr i pa mor iach ydych chi" Cafeatau: Mae'r data yn seiliedig ar sampl o 728 o bersonau dros y tri chyfnod o gasglu data yng nghamau 1-3 yr arolwg. Cyfunwyd haenau gydag unedau samplo sylfaenol sengl gyda haenau o gyfansoddiad incwm aelwyd tebyg er mwyn cynhyrchu cyfyngau hyder yn STATA. Er bod hyn yn debygol o fod wedi lleihau maint y cyfyngau hyder ychydig, mae'r effaith gyffredinol ar y data yn fach iawn. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Food and You Survey (FDS), Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru 2010, 2012 a 2014 (Camau'r arolwg 1-3) Rhagor o wybodaeth: Ceir rhagor o wybodaeth am yr FDS yma: Agweddau at fwyd

62 Cytunodd y rhan fwyaf o ymatebwyr yng Nghymru bod arbenigwyr yn gwrthddweud ei gilydd dros pa fwydydd sy'n dda neu'n ddrwg i chi. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran yr oedolion 16+ oed yn adrodd eu bod yn cytuno â'r cwestiwn "Mae'r arbenigwyr yn gwrthddweud ei gilydd dros pa fwydydd sy'n dda neu'n ddrwg i chi“ Cafeatau: Mae'r data yn seiliedig ar sampl o 728 o bersonau dros y tri chyfnod o gasglu data yng nghamau 1-3 yr arolwg. Cyfunwyd haenau gydag unedau samplo sylfaenol sengl gyda haenau o gyfansoddiad incwm aelwyd tebyg er mwyn cynhyrchu cyfyngau hyder yn STATA. Er bod hyn yn debygol o fod wedi lleihau maint y cyfyngau hyder ychydig, mae'r effaith gyffredinol ar y data yn fach iawn. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Food and You Survey (FDS), Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru 2010, 2012 a 2014 (Camau'r arolwg 1-3) Rhagor o wybodaeth: Ceir rhagor o wybodaeth am yr FDS yma: Agweddau at fwyd

63 Dim ond 5.3% o oedolion a adroddodd mai dewis bwyd iach oedd y ffactor pwysicaf wrth benderfynu ble i fwyta allan. Glendid / hylendid a sgôr hylendid da oedd y prif ffactorau (50.5% o'r ymatebion). Y diffiniad o'r dangosydd: Canran yr oedolion 16+ oed yn adrodd y ffactorau a ystyrir y mwyaf pwysig wrth benderfynu ble i fwyta allan. Cafeatau: Mae'r data yn seiliedig ar sampl o 492 o bersonau dros y cyfnod o gasglu data yng ngham 4 yr arolwg (2016). Cafodd 21 o gyfranogwyr eu heithrio oherwydd ateb o 'Amherthnasol'. Mae hyn yn cynrychioli 4.3% o gyfanswm yr ymatebwyr. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Food and You Survey (FDS), Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru 2016 (Cam yr arolwg 4) Rhagor o wybodaeth: Ceir rhagor o wybodaeth am yr FDS yma: Agweddau at fwyd

64 Gweithgarwch corfforol
Gordewdra yng Nghymru

65 Mae canran y disgyblion 15 oed yn hunan-adrodd eu bod yn gorfforol egnïol am 60 munud bob dydd yn is yng Nghymru nag yn Lloegr. Mae gweithgarwch corfforol ar gyfer merched yn hanner yr hyn ydyw i fechgyn yng Nghymru. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran y plant 15 oed a ddywedodd eu bod yn gorfforol egnïol am o leiaf 60 munud bob dydd. Gofynnwyd i bobl ifanc adrodd nifer y dyddiau yn ystod yr wythnos diwethaf pan oeddent yn gorfforol egnïol am gyfanswm o 60 munud o leiaf. Cafeatau: Mae'r defnydd o arolygon hunan-adrodd a weinyddir mewn ysgolion o dan amodau arholiad yn arbennig o briodol i natur y cwestiynau a ofynnwyd, gyda gwaith ymchwil blaenorol yn canfod bod pobl ifanc yn fwyaf tebygol o adrodd am ymddygiadau peryglus/sensitif yn gywir gyda'r fethodoleg hon. Fodd bynnag, mae posibilrwydd bod rhai o'r ymatebwyr yn rhoi ymatebion sy'n dderbyniol yn gymdeithasol, yn hytrach na rhai cywir. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Ymddygiadau iechyd plant oedran ysgol (HBSC), Llywodraeth Cymru Cymru, Lloegr, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon 2013/14 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am yr HBSC yma: Gweithgarwch corfforol

66 Mae tua 1 o bob 5 bachgen yn hunan-adrodd ei fod yn gorfforol egnïol am 60 munud bob dydd. Fodd bynnag, dim ond 1 o bob 10 merch sy'n bodloni'r un canllawiau. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran y plant oed a adroddodd eu bod yn gorfforol egnïol am o leiaf 60 munud bob dydd. Gofynnwyd i bobl ifanc adrodd nifer y dyddiau yn ystod yr wythnos diwethaf pan oeddent yn gorfforol egnïol am gyfanswm o 60 munud o leiaf. Cafeatau: Mae'r defnydd o arolygon hunan-adrodd a weinyddir mewn ysgolion o dan amodau arholiad yn arbennig o briodol i natur y cwestiynau a ofynnwyd, gyda gwaith ymchwil blaenorol yn canfod bod pobl ifanc yn fwyaf tebygol o adrodd am ymddygiadau peryglus/sensitif yn gywir gyda'r fethodoleg hon. Fodd bynnag, mae posibilrwydd bod rhai o'r ymatebwyr yn rhoi ymatebion sy'n dderbyniol yn gymdeithasol, yn hytrach na rhai cywir. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Ymddygiadau iechyd plant oedran ysgol (HBSC), Llywodraeth Cymru Byrddau iechyd Cymru 2013/14 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am yr HBSC yma: Gweithgarwch corfforol

67 Mae canran yr oedolion yn adrodd eu bod yn bodloni'r canllawiau gweithgarwch corfforol yn uwch ymhlith dynion na menywod ar gyfer pob grŵp oedran. Y diffiniad o'r dangosydd: Canran yr oedolion 16+ oed a adroddodd eu bod yn bodloni canllawiau ar weithgarwch corfforol (150+ munud o weithgarwch corfforol cymedrol neu egnïol yn yr wythnos flaenorol) yn ôl oedran a rhyw. Gofynnodd yr arolwg i'r ymatebwyr ar ba ddiwrnodau yn yr wythnos flaenorol yr oeddent wedi cerdded, cwblhau rhywfaint o weithgarwch corfforol cymedrol a chwblhau rhywfaint o weithgarwch corfforol egnïol am o leiaf 10 munud ar y tro a faint o amser, ar gyfartaledd, y treuliwyd yn gwneud y gweithgareddau hyn. Gofynnwyd i ymatebwyr hefyd am eu cyflymdra cerdded a'r ymdrech gysylltiedig, cafodd cerdded ei gynnwys fel gweithgarwch cymedrol ar gyfer y rheini oedd yn cerdded ar gyflymder arferol oedd yn 'eithaf cyflym' neu'n 'gyflym'. Ar gyfer y rhai 65 oed a throsodd, roedd cerdded ar unrhyw gyflymder yn cael ei gynnwys os oedd yr ymdrech yn ddigon i wneud iddynt anadlu'n gyflymach, teimlo'n gynnes neu chwysu. Cafodd yr wybodaeth ei chyfuno i ddarparu amcangyfrif o'r nifer cyfwerth o funudau o weithgarwch cymedrol a wnaed yn ystod yr wythnos flaenorol. Dosbarthwyd y rhai â'r hyn oedd yn gyfwerth â 150 munud neu fwy o weithgaredd cymedrol fel rhai oedd yn bodloni'r canllawiau. Cafeatau: Mae data ACC wedi'u hunan-adrodd. Gall ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i'w fesur, gan efallai y bydd rhai gwahaniaethau rhwng yr hyn y mae pobl yn ei adrodd a'r hyn y maent yn ei wneud (er enghraifft, efallai y byddant yn tueddu o oramcangyfrif ei lefelau o weithgarwch corfforol). Fodd bynnag, mae data arolwg yn dal i ddarparu ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau ar gyfer yr ymddygiadau hyn rhwng grwpiau gwahanol a thros amser. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC), Llywodraeth Cymru Cymru 2016/17 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am yr ACC yma: Gweithgarwch corfforol

68 Mae'r oedolion yn adrodd eu bod yn bodloni'r canllawiau gweithgarwch corfforol yn cynyddu wrth i amddifadedd ostwng. Mae bwlch anghydraddoldeb o 15% rhwng yr ardaloedd lleiaf a mwyaf difreintiedig. Y diffiniad o'r dangosydd: Y ganran wedi'i safoni yn ôl oedran o oedolion 16+ oed yn adrodd eu bod yn bodloni'r canllawiau gweithgarwch corfforol (150+ munud o weithgarwch corfforol cymedrol neu egnïol yn yr wythnos flaenorol) Gofynnodd yr arolwg i'r ymatebwyr ar ba ddiwrnodau yn yr wythnos flaenorol yr oeddent wedi cerdded, cwblhau rhywfaint o weithgarwch corfforol cymedrol a chwblhau rhywfaint o weithgarwch corfforol egnïol am o leiaf 10 munud ar y tro a faint o amser, ar gyfartaledd, y treuliwyd yn gwneud y gweithgareddau hyn. Gofynnwyd i ymatebwyr hefyd am eu cyflymdra cerdded a'r ymdrech gysylltiedig, cafodd cerdded ei gynnwys fel gweithgarwch cymedrol ar gyfer y rheini oedd yn cerdded ar gyflymder arferol oedd yn 'eithaf cyflym' neu'n 'gyflym'. Ar gyfer y rhai 65 oed a throsodd, roedd cerdded ar unrhyw gyflymder yn cael ei gynnwys os oedd yr ymdrech yn ddigon i wneud iddynt anadlu'n gyflymach, teimlo'n gynnes neu chwysu. Cafodd yr wybodaeth ei chyfuno i ddarparu amcangyfrif o'r nifer cyfwerth o funudau o weithgarwch cymedrol a wnaed yn ystod yr wythnos flaenorol. Dosbarthwyd y rhai â'r hyn oedd yn gyfwerth â 150 munud neu fwy o weithgaredd cymedrol fel rhai oedd yn bodloni'r canllawiau. Mae amddifadedd yn cael ei ddosbarthu yn ôl pumedau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014. Cafeatau: Mae data ACC wedi'u hunan-adrodd. Gall ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i'w fesur, gan efallai y bydd rhai gwahaniaethau rhwng yr hyn y mae pobl yn ei adrodd a'r hyn y maent yn ei wneud (er enghraifft, efallai y byddant yn tueddu o oramcangyfrif ei lefelau o weithgarwch corfforol). Fodd bynnag, mae data arolwg yn dal i ddarparu ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau ar gyfer yr ymddygiadau hyn rhwng grwpiau gwahanol a thros amser. Nid yw pawb sy'n byw mewn ardal a ddosberthir fel un ddifreintiedig yn byw mewn amgylchiadau difreintiedig, ac ar y llaw arall nid yw pawb sy'n byw mewn ardal yn y cwintel lleiaf difreintiedig yn byw mewn amgylchiadau cyfoethog. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC), Llywodraeth Cymru Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014, Llywodraeth Cymru Cymru yn ôl pumed amddifadedd 2016/17 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am yr ACC yma: Gweithgarwch corfforol

69 Roedd canran uwch o oedolion oedd yn adrodd nad oeddent yn ymgymryd â gweithgarwch corfforol yn ordew. Roedd canran sylweddol is o oedolion oedd yn bodloni'r canllawiau gweithgarwch corfforol dros bwysau neu'n ordew. Y diffiniad o'r dangosydd: Y ganran wedi'i safoni yn ôl oedran o oedolion 16+ oed yn hunan-adrodd eu bod dros bwysau neu ordew (BMI o 25+) neu'n ordew (BMI o 30+) yn ôl gweithgarwch corfforol. Canllawiau ar gyfer gweithgarwch corfforol – 150+ munud o ymarfer corff cymedrol neu egnïol yn yr wythnos flaenorol Heb ymgymryd â gweithgarwch corfforol - llai na 30 munud o ymarfer corff cymedrol neu egnïol yn yr wythnos flaenorol Gofynnodd yr arolwg i oedolion adrodd am eu taldra a'u pwysau. Er mwyn diffinio bod dros bwysau neu'n ordew, mae angen mesuriad sy'n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau mewn pwysau yn sgil taldra. Cyfrifir BMI fel pwysau (kg) wedi'i rannu â thaldra sgwâr (m2). Gofynnodd yr arolwg i'r ymatebwyr ar ba ddiwrnodau yn yr wythnos flaenorol yr oeddent wedi cerdded, cwblhau rhywfaint o weithgarwch corfforol cymedrol a chwblhau rhywfaint o weithgarwch corfforol egnïol am o leiaf 10 munud ar y tro a faint o amser, ar gyfartaledd, y treuliwyd yn gwneud y gweithgareddau hyn. Gofynnwyd i ymatebwyr hefyd am eu cyflymdra cerdded a'r ymdrech gysylltiedig, cafodd cerdded ei gynnwys fel gweithgarwch cymedrol ar gyfer y rheini oedd yn cerdded ar gyflymder arferol oedd yn 'eithaf cyflym' neu'n 'gyflym'. Ar gyfer y rhai 65 oed a throsodd, roedd cerdded ar unrhyw gyflymder yn cael ei gynnwys os oedd yr ymdrech yn ddigon i wneud iddynt anadlu'n gyflymach, teimlo'n gynnes neu chwysu. Cafodd yr wybodaeth ei chyfuno i ddarparu amcangyfrif o'r nifer cyfwerth o funudau o weithgarwch cymedrol a wnaed yn ystod yr wythnos flaenorol. Dosbarthwyd y rhai â'r hyn oedd yn gyfwerth â 150 munud neu fwy o weithgaredd cymedrol fel rhai oedd yn bodloni'r canllawiau. Cafeatau: Mae taldra a phwysau yn cael eu hunan-adrodd, a cheir tystiolaeth i ddangos bod rhai pobl yn tueddu i danadrodd am eu pwysau a/neu oradrodd am eu taldra gan arwain at danamcangyfrif mynychder bod dros bwysau a gordewdra. Nid yw BMI yn gwahaniaethu rhwng màs o ganlyniad i fraster ar y corff ac o ganlyniad i gorff cyhyrog, ac nid yw chwaith yn ystyried dosbarthiad braster. Gall ethnigrwydd effeithio ar BMI. Mae data ACC wedi'u hunan-adrodd. Gall ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i'w fesur, gan efallai y bydd rhai gwahaniaethau rhwng yr hyn y mae pobl yn ei adrodd a'r hyn y maent yn ei wneud (er enghraifft, efallai y byddant yn tueddu o oramcangyfrif ei lefelau o weithgarwch corfforol). Fodd bynnag, mae data arolwg yn dal i ddarparu ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau ar gyfer yr ymddygiadau hyn rhwng grwpiau gwahanol a thros amser. Ffynhonnell y data, daearyddiaeth a chyfnod: Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC), Llywodraeth Cymru Cymru 2016/17 Rhagor o wybodaeth: Mae rhagor o wybodaeth am yr ACC yma: Gweithgarwch corfforol

70 Cyfarwyddiadau i gopïo sleid
I gopïo sleid i'w defnyddio mewn cyflwyniad: 1. De-gliciwch ar y sleid yr ydych yn dymuno ei chopïo o'r rhestr ar yr ochr chwith (y tab 'sleidiau') pan fydd mewn ymddangosiad arferol a dewiswch 'Copïo' o'r rhestr. Ewch i'ch cyflwyniad a de-gliciwch lle rydych am y sleid sydd wedi'i chopïo i ymddangos yn y tab 'sleidiau' a dewiswch 'gludo' o'r rhestr. Pan fydd yn cael ei gludo i'ch cyflwyniad bydd eicon clipfwrdd bach gyda saeth ddu yn ymddangos ger y gornel dde isaf ar y sleid sydd newydd gael ei gludo. Cliciwch ar y saeth i ddangos y gwymplen a dewiswch "Cadw Fformat y Ffynhonnell" o'r rhestr. Yna bydd y sleid yn ymddangos fel y gwelwyd yn y cyflwyniad gwreiddiol. Gordewdra yng Nghymru

71 Diolchiadau Aelodau'r prosiect
Tîm (dadansoddi ac ysgrifennu): Arthur Duncan-Jones, Rhys Gibbon, Mari Jones, Beth Patterson, Megan Luker, Rhian Hughes, James Allen Bwrdd y prosiect: Kirsty Little, Julie Bishop, Nathan Lester, Natalie Field, Nike Arowobusoye, Nathan Cook, Sian Price Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru Web: Gordewdra yng Nghymru


Download ppt "Mae’r adran nodiadau yn y cyflwyniad hwn yn cynnwys gwybodaeth dechnegol yn ymwneud â’r sleid gyfatebol i gynorthwyo dealltwriaeth y defnyddiwr. Mae’r."

Similar presentations


Ads by Google