Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Gweledigaeth ac athroniaeth: Mynediad i’r cwricwlwm i bawb

Similar presentations


Presentation on theme: "Gweledigaeth ac athroniaeth: Mynediad i’r cwricwlwm i bawb"— Presentation transcript:

1

2 Gweledigaeth ac athroniaeth: Mynediad i’r cwricwlwm i bawb
Yn creu system deg a chyfartal ar gyfer dysgwyr o bob math ar sail egwyddorion y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Safonau Addysgu Proffesiynol newydd. Yn rhoi dysgwyr wrth galon dysgu trwy brosesau cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd gweithwyr proffesiynol â dyheadau uchel yn defnyddio ystod o ddulliau addysgeg i greu system unedig sy’n cefnogi dysgwyr o enedigaeth hyd at 25 oed. Bydd ysgolion yn cydweithio â phartneriaid i greu agweddau holistaidd at ddysgu. Bydd gan gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol (ADY) sgiliau uwch a byddant yn cynghori athrawon am ddulliau addysgu gwahaniaethol ac yn cyfrannu at hyfforddiant mewn swydd. Bydd athrawon o ansawdd uchel yn darparu profiadau dysgu cyfoethog go iawn sy’n cwmpasu’r pedwar diben ar draws pob un o’r chwe maes dysgu a phrofiad i hyrwyddo cynnydd dysgwyr drwy’r camau dysgu nesaf. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni eu potensial i’r eithaf ac yn caniatáu i bob dysgwr fwynhau teithiau dysgu personol llwyddiannus.

3 Sut mae’n wahanol? Mae’n ailddiffinio ADY yng nghyd-destun ysgolion unigol, e.e. trwy gynllunio’r cwricwlwm yn briodol yn hytrach nag ymyrryd ar wahân. Rhyddid i wireddu taith cwricwlwm ar gyfer pob grŵp o ddysgwyr a dysgwyr unigol. Bydd gwybodaeth am ADY dysgwyr yn llywio’r gwaith o gynllunio’r cwricwlwm ar lefel ysgol. Bydd dysgu wedi’i bersonoli yn galluogi’r cydlynydd ADY ac athrawon i gynllunio teithiau dysgu holistaidd llwyddiannus ar gyfer dysgwyr o bob math tuag at bedwar diben y cwricwlwm.

4 Sut mae’n wahanol? Mae canolbwyntio ar ddatganiadau yr hyn sy’n bwysig ar gyfer dysgwyr unigol yn arwain at gyfleoedd hyblyg i gyflwyno ‘Beth sy’n bwysig iddynt ac ar eu cyfer’ mewn cynlluniau datblygu unigol (CDU). Pwyslais ar Asesu ar gyfer Dysgu. Bydd profiadau uniongyrchol a chyd-destunau dysgu dilys yn arwain at ymyraethau ystyrlon.

5 Sut gyrhaeddon ni yma? Dull gweithredu
Mae pob grŵp maes dysgu a phrofiad wedi cynnwys athrawon ADY fel rhan o’r gwaith datblygu ers y dechrau. Sefydlwyd grŵp ADY arloesi’r cwricwlwm ym mis Medi i drafod materion yn ymwneud â meysydd dysgu a phrofiad. Cynllun gwaith wedi’i greu i fynd i’r afael â meysydd i’w datblygu, e.e. Asesu. Sicrhau bod mynediad i’r cwricwlwm yn glir. Canllawiau ADY ategol wedi’u llunio. Bydd gwaith y grŵp arloesi ADY yn parhau hyd at dymor yr haf 2019.

6 Sut gyrhaeddon ni yma? Cydweithio
Cyfeirio at: Deddf ADY. Safonau Addysgu Proffesiynol. Sefydlu llwybrau fel bod modd i’r grŵp arloesi ADY gydweithio ag: Estyn. Cynrychiolwyr polisi Llywodraeth Cymru. Deialog broffesiynol rhwng athrawon mewn lleoliadau arbennig a chydlynwyr ADY prif ffrwd. Gweithredu ar adborth gan ysgolion grŵp arloesi, rhanddeiliaid, meysydd dysgu a phrofiad eraill, ac ati. Sefydlu partneriaethau newydd â’r: Grwpiau’r Cyfnod Sylfaen ac asesu.

7 Ystyriaethau i ysgolion
Hyrwyddo rôl y cydlynydd ADY yn unol â’r Ddeddf ADY. Archwilio cysondeb rhwng anghenion dysgwyr sydd ag ADY a chyfleoedd dysgu proffesiynol ar gyfer pob aelod o staff. Defnyddio adnodd parodrwydd ADY i nodi’ch camau nesaf. Neilltuo amser ar gyfer arbrofi addysgegol. Sicrhau bod mynediad hwylus ar gael i gymorth arbenigol a phartneriaethau lleol a rhanbarthol er mwyn nodi anghenion a dulliau cymorth yn gynnar. Gall gwasanaethau cymorth allanol gynnwys gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cynghori a thimau allgymorth, gwaith ysgol i ysgol, prosiectau a gwasanaethau cymunedol.

8 Cyfuno diwygiadau cenedlaethol
Diwygio ADY Cenhadaeth ein cenedl Safonau proffesiynol

9 Diwygiadau cenedlaethol: Synergedd
Dysgu cyfunol DEDDF ADY Gwaith partneriaeth amlasiantaeth Darpariaeth gynhwysol Gwahaniaethu Cyfranogiad dysgwyr Cynlluniau datblygu unigol (CDUau) Allwedd Testun du: perthnasol i ddiwygiadau o bob math Testun gwyrdd: perthnasol i ddiwygiadau’r cwricwlwm Testun coch: perthnasol i’r Ddeddf ADY Testun glas: perthnasol i ddiwygiadau Safonau Proffesiynol Mynediad i’r cwricwlwm i bawb: Dull gweithredu Cymru Cydweithio Dimensiwn Cymreig DYSGU PROFFESIYNOL Disgwyliadau uchel Adnabod eich ysgol yn dda Gwerthoedd ac ymagweddau CWRICWLWM I GYMRU 2022 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) Pedwar diben y cwricwlwm Dathlu llwyddiant Profiadau dysgu dilys Safonau Proffesiynol Llais y disgybl Safonau Estyn Addysgeg


Download ppt "Gweledigaeth ac athroniaeth: Mynediad i’r cwricwlwm i bawb"

Similar presentations


Ads by Google