Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Adroddiad Blynyddol 2011-2012 (Gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc) Annual Report 2011-2012 (Local authority education services.

Similar presentations


Presentation on theme: "Adroddiad Blynyddol 2011-2012 (Gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc) Annual Report 2011-2012 (Local authority education services."— Presentation transcript:

1 Adroddiad Blynyddol (Gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc) Annual Report (Local authority education services for children and young people)

2 Perfformiad a Rhagolygon Performance and Prospects
Mae perfformiad yn dda at ei gilydd mewn tri o’r wyth awdurdod lleol a arolygwyd gennym. Mae’n ddigonol mewn tri ac yn anfoddhaol mewn dau awdurdod. Mae’r rhagolygon gwella yn dda mewn tri awdurdod. Mae’r rhagolygon yn ddigonol mewn pedwar awdurdod ac yn anfoddhaol mewn un. Performance is good overall in three of the eight authorities we inspected. It is adequate in three and unsatisfactory in two authorities. Prospects for improvement are good in three authorities. Prospects are adequate in four authorities and unsatisfactory in one.

3 Gweithgarwch dilynol Follow-up activity
Yn gyfan gwbl, mae angen gweithgarwch dilynol ar bump awdurdod: mae angen mesurau arbennig ar un awdurdod; mae angen gwelliant sylweddol ar un awdurdod; a bydd Estyn yn cynnal ymweliadau monitro â thri awdurdod lle nad yw sawl agwedd ar eu gwaith yn well na digonol. In total, five authorities require follow-up activity: one authority requires special measures; one requires significant improvement; and Estyn will carry out monitoring visits to three authorities where many aspects of their work are no better than adequate.

4 Deilliannau Outcomes Mae safonau’n dda mewn tri awdurdod, yn ddigonol mewn tri ac yn anfoddhaol mewn dau. Standards are good in three authorities, adequate in three and unsatisfactory in two.

5 In the authorities with good standards:
Yn yr awdurdodau lle mae safonau’n dda: mae ysgolion yn perfformio’n dda o gymharu ag ysgolion tebyg ledled Cymru; mae’r bwlch rhwng lefelau perfformiad bechgyn a merched yn fach; mae cynnydd da rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd; mae sgorau darllen disgyblion yn gwella wrth iddynt symud trwy’r ysgol; ac mae gostyngiad yn nifer y disgyblion sy’n gadael yr ysgol heb gymhwyster. In the authorities with good standards: schools perform well when compared with other similar schools across Wales; the gap between the performance levels of boys and girls is small; progress between primary and secondary schools is good; pupils’ reading scores improve as they move through school; and the number of pupils leaving school without a qualification is getting less.

6 Yn yr awdurdodau lle mae safonau’n ddigonol neu’n anfoddhaol:
mae gormod o’u hysgolion yn y 25% isaf o gymharu ag ysgolion eraill tebyg yng Nghymru; ac nid yw’r awdurdodau hyn yn perfformio’n dda yn erbyn meincnodau Llywodraeth Cymru ar gyfer perfformiad gan ddefnyddio ystod o wybodaeth sy’n ystyried eu cyd-destun, fel hawl i brydau ysgol am ddim. In the authorities where standards are adequate or unsatisfactory: too many of their schools are in the bottom 25% in comparison with other similar schools in Wales; and these authorities do not perform well against the Welsh Government’s benchmarks for performance using a range of information that takes account of their context, such as entitlement to free school meals.

7 The percentage of pupils leaving Year 11 who are not in education, training or employment (NEET) is decreasing in most authorities inspected. However, in a few authorities the numbers are not decreasing quickly enough. Mae canran y disgyblion sy’n gadael Blwyddyn 11 nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth (NACH) yn gostwng yn y rhan fwyaf o awdurdodau a arolygwyd. Fodd bynnag, mewn ychydig o awdurdodau, nid yw’r niferoedd yn gostwng yn ddigon cyflym.

8 Mewn tri awdurdod lle mae lles yn dda:
mae disgyblion wedi ymateb yn dda i gymorth, arweiniad a chwnsela proffesiynol, sydd wedi gwella eu lles a’u deilliannau; mae presenoldeb disgyblion mewn ysgolion yn cymharu’n dda â phresenoldeb awdurdodau eraill sydd â chefndir cymdeithasol ac economaidd tebyg; ac mae ymgysylltu yn well ac fe gaiff llai o ddisgyblion eu gwahardd o’r ysgol. In three authorities where wellbeing is good: pupils have responded well to professional support, guidance and counselling, which have improved their wellbeing and outcomes; pupils’ attendance in schools compares well to that in other authorities that have a similar social and economic background; and engagement is better and fewer pupils are excluded from school.

9 Mewn pump o awdurdodau lle mae lles yn ddigonol neu’n anfoddhaol:
mae disgyblion yn colli gormod o ddiwrnodau o’r ysgol gan nad yw cyfraddau presenoldeb a gwaharddiadau cyfnod penodol yn gwella’n ddigon cyflym. In five authorities where wellbeing is adequate or unsatisfactory: pupils miss too many days from school because attendance and fixed-term exclusion rates are not improving quickly enough.

10 Darpariaeth Provision

11 Cymorth ar gyfer gwella ysgolion Support for school improvement
Mae’r cymorth ar gyfer gwella ysgolion yn rhagorol mewn un awdurdod, yn dda mewn un, yn ddigonol mewn pedwar ac yn anfoddhaol mewn un awdurdod. Support for school improvement is excellent in one authority, good in one, adequate in four and unsatisfactory in one.

12 Yn y ddau awdurdod y barnwyd eu bod yn dda neu’n well:
maent yn meddu ar wybodaeth fanwl am eu hysgolion ac yn cynnig her gadarn ac ymyrraeth effeithiol i dargedu gwelliannau mewn safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth. Pan fydd angen ymyrraeth, mae gweithredu cynnar yr awdurdod yn annog gwelliant cyflym; ac mae ganddynt swyddogion sy’n dwyn arweinwyr a rheolwyr mewn ysgolion i gyfrif ac yn eu herio’n gadarn i gyflawni eu cyfrifoldebau. Two authorities judged good or better have: a detailed knowledge of their schools and provide rigorous challenge and effective intervention to target improvements in standards, provision and leadership. Where intervention is needed, the early action of the authority prompts swift improvement; and officers who hold leaders and managers in schools to account and challenge them robustly to fulfil their responsibilities.

13 Mewn awdurdodau nad ydynt yn well na digonol:
nid yw’r gwasanaeth gwella ysgolion yn nodi pob ysgol sydd mewn perygl o danberfformio. O ganlyniad, mewn rhai awdurdodau, nid yw swyddogion yn ymwybodol o’r materion a nodwyd yn ystod arolygiadau ysgolion; nid ydynt wedi defnyddio eu pwerau llawn i fynd i’r afael â thanberfformio sylweddol yn gyflym; ac ni chaiff asesiadau athrawon ar ddiwedd cyfnodau allweddol ar draws ysgolion eu safoni na’u cymedroli’n ddigon cywir i adlewyrchu cyflawniadau disgyblion. In authorities that are no better than adequate: the school improvement service does not identify all schools at risk of underperformance. As a result, in a few authorities, officers are unaware of the issues identified during school inspections. they have not used their full powers to address significant underperformance quickly; and the end-of-key stage teacher assessments across schools are not standardised or moderated accurately enough to reflect pupils’ achievements.

14 Yn y rhan fwyaf o awdurdodau, mae gwaith swyddogion gwella ysgolion yn amrywio o ran ansawdd.
Yn aml, nid yw eu dull o reoli perfformiad yn ddigon trylwyr. Nid yw uwch reolwyr ac aelodau etholedig yn dwyn eu swyddogion i gyfrif yn ddigon da. In most authorities, the work of school improvement officers varies in quality. The management of their performance too often lacks rigour. Senior managers and elected members do not hold their officers to account well enough.

15 Cymorth ar gyfer ADY a chynhwysiant addysgol Support for ALN and educational inclusion
Mae gwasanaethau ADY yn dda mewn chwech o awdurdodau. Mae dau o wasanaethau ADY yn ddigonol. Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau yn paratoi’n dda ar gyfer y diwygiadau statudol o ran anghenion addysgol arbennig trwy ddatblygu ffyrdd eraill o ddarparu a rheoli cymorth. Six authorities have ALN services that are good. Two ALN services are adequate. Most authorities are preparing well for the statutory reforms of special educational needs by developing alternative ways of providing and managing support.

16 Mae gan y rhan fwyaf o awdurdodau feini prawf ar gyfer cynnig cymorth ychwanegol a’i dynnu’n ôl, ac mae ysgolion a rhieni yn deall hyn yn glir. Mewn rhai awdurdodau, mae cymorth ychwanegol wedi’i gyfyngu gan amser pan fydd angen, sy’n galluogi cymorth hyblyg a chost-effeithiol trwy flaenoriaethu adnoddau i’r meysydd lle mae’r angen mwyaf. Fodd bynnag, mae gormod o ysgolion yn gofyn am gymorth ychwanegol am nad oes ganddynt yr hyder i gymryd cyfrifoldeb am y disgyblion hyn. Most authorities have criteria for offering and withdrawing additional support, which are clearly understood by schools and parents. In a few authorities, additional support is time-limited when necessary, which allows for support that is flexible and cost effective by prioritising resources to areas of greatest need. However, too many schools request additional support because they still lack the confidence to take responsibility for these pupils.

17 Yn y ddau awdurdod nad ydynt yn well na digonol:
nid oes ganddynt drosolwg strategol o effeithiolrwydd ac effaith eu gwasanaethau cymorth; ac nid ydynt yn gwybod pa mor dda y mae’r holl ddysgwyr yn dod yn eu blaenau na ph’un a yw’r ddarpariaeth yn cynnig y gwerth gorau am arian. The two authorities that are no better than adequate: do not have a good strategic overview of the effectiveness and impact of their support services; and do not know how well all learners are progressing or whether the provision offers the best value for money.

18 Yn yr awdurdodau prin lle mae hyfforddiant a chymorth yn effeithiol:
maent yn datblygu gallu ysgolion yn llwyddiannus i ddarparu ar gyfer anghenion disgyblion heb ofyn am fwy o adnoddau; ac mae ychydig o wasanaethau arbenigol, fel y rhai ar gyfer awtistiaeth, dyslecsia a lleferydd ac iaith, yn monitro effeithiolrwydd eu hyfforddiant a’u darpariaeth yn ofalus ac yn dangos yn glir sut maent yn gwella deilliannau ar gyfer disgyblion. In the few authorities in which training and support are effective: they successfully develop the capacity of schools to provide for pupils’ needs without asking for further resources; and a few specialist services, such as those for autism, dyslexia and speech and language, carefully monitor the effectiveness of their training and provision and clearly demonstrate how they improve outcomes for pupils.

19 Hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a lles Promoting social inclusion and wellbeing
O’r saith awdurdod a arolygwyd, mae tri yn dda a phump yn ddigonol o safbwynt ansawdd eu gwasanaeth cynhwysiant cymdeithasol a lles. Of the seven authorities inspected, three are good, and five are adequate for the quality of their social inclusion and wellbeing service.

20 At ei gilydd, mae gan awdurdodau strategaethau a phrosiectau priodol i hyrwyddo cynhwysiant grwpiau sy’n agored i niwed. Fodd bynnag, nid yw mwyafrif yr awdurdodau yn arfarnu’r mentrau hyn yn ddigon effeithiol i ysgogi gwelliannau pellach er budd dysgwyr. Mewn hanner o’r awdurdodau, nid yw’r strategaethau i wella presenoldeb wedi cael digon o effaith eto. Overall, authorities have appropriate strategies and projects to promote the inclusion of vulnerable groups. However, the majority of authorities do not evaluate these initiatives effectively enough to bring about further improvements to benefit learners. In half the authorities, strategies to improve attendance have not yet had enough impact.

21 In authorities judged to be good:
Mewn awdurdodau y barnwyd eu bod yn dda: mae timau amlasiantaethol ac amlddisgyblaethol yn canolbwyntio ar anghenion dysgwyr a’u teuluoedd. mae’r strategaeth hon wedi gwella cyfraddau presenoldeb a safonau ar gyfer y disgyblion dan sylw mewn ysgolion uwchradd, ond nid yw wedi cael effaith gadarnhaol mewn ysgolion cynradd eto. In authorities judged to be good: multi-agency and multi-disciplinary teams focus on the needs of learners and their families. This strategy has improved both attendance rates and standards for the pupils concerned in secondary schools but has yet to have a positive effect in primary schools.

22 Yn y tri awdurdod y barnwyd eu bod yn dda:
mae trefniadau rheoli a chefnogi ymddygiad yn helpu ysgolion a staff o wahanol asiantaethau i weithio gyda’i gilydd i helpu teuluoedd i wella gallu plant a phobl ifanc i ddysgu. mae’r awdurdodau hyn yn canolbwyntio eu cymorth ar gyfer anghenion unigolion penodol trwy helpu teuluoedd i osod ffiniau ac amseroedd gwely cyson neu ddeall pam mae presenoldeb yn yr ysgol yn bwysig. In the three authorities judged to be good: behaviour management and support arrangements help schools and staff from different agencies to work together to help families improve children’s and young people’s capacity to learn. These authorities focus their support for particular individuals’ needs by helping families to set consistent boundaries and bedtimes or to understand why good attendance at school is important.

23 Mae llawer o awdurdodau yn gwella’r ffordd y maent yn defnyddio data i gynllunio gwasanaethau hefyd.
Mewn lleiafrif o awdurdodau, adroddir am waharddiadau yn fwy cyson, mae gwaith ataliol gwell gyda’r rhai sydd mewn perygl, a gwelwyd gostyngiadau mewn ceisiadau am gymorth pan fu ymyriadau yn aneffeithiol. Many authorities are also improving the way they use data to plan services. In a minority of authorities there is more consistent reporting of exclusions, better preventative work with those at risk and reductions in requests for support when interventions have been ineffective.

24 Mae trefniadau diogelu yn briodol yn y rhan fwyaf o awdurdodau a arolygwyd eleni.
Mae trefniadau addas ar gyfer cynnal gwiriadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol ar staff newydd a staff presennol ac i ddarparu hyfforddiant ar gyfer staff. Safeguarding arrangements are appropriate in most authorities inspected this year. There are suitable arrangements for carrying out criminal records bureau checks on new and existing staff and for providing training to staff.

25 In a minority of authorities:
Mewn lleiafrif o awdurdodau: mae swyddogion yn araf i roi gweithdrefnau priodol ar waith i ddiogelu dysgwyr neu fynd i’r afael â honiadau a materion a nodwyd. nid yw rhai awdurdodau wedi cwblhau gwiriadau gan y SCT a geirdaon. yn yr achosion hyn, mae gweithdrefnau yn aneglur ac efallai nad yw aelodau allweddol o staff, llywodraethwyr ac arweinwyr ysgol wedi cael hyfforddiant uwch. In a minority of authorities: officers are slow to put appropriate procedures in place to safeguard learners or to follow up on allegations and identified issues. A few authorities have not completed CRB and reference checks. In these instances, procedures are unclear and key members of staff, governors and school leaders may not have received advanced training.

26 Mynediad a lleoedd ysgol Access and school places
Mae tri awdurdod yn dda, pedwar yn ddigonol ac un yn anfoddhaol o ran ansawdd eu gwasanaeth mynediad a lleoedd ysgol. Three authorities are good, four are adequate and one is unsatisfactory for the quality of their access and school places service.

27 Mae tua hanner o’r awdurdodau a arolygwyd yn gwneud cynnydd da o ran lleihau nifer y lleoedd gwag mewn ysgolion. Yn yr awdurdodau eraill, mae nifer y lleoedd gwag yn parhau i fod yn uchel, cyfyngedig yw’r cytuno ar gamau gweithredu, ac mae cynnydd yn rhy araf. Caiff strategaethau i foderneiddio ysgolion eu gohirio a’u rhwystro oherwydd diffyg cymorth gan aelodau etholedig. Hyd yn oed pan gynlluniwyd i gael gwared ar leoedd gwag, anaml y ceir dadansoddiad llawn o fanteision y gostyngiad. About half of authorities inspected are making good progress in reducing surplus school places. In the other authorities, surplus capacity remains high, there is limited agreement on action and progress is too slow. Strategies to modernise schools are delayed and hindered because of the lack of support from elected members. Even when planning has been undertaken to remove surplus places, there is rarely a full analysis of the benefits of the reduction.

28 Mae gan dri awdurdod y barnwyd eu bod yn dda yr adnoddau a’r cyllid ar waith i gyflwyno cynlluniau cytûn i wneud eu hysgolion yn addas at eu diben. Mae bron pob awdurdod yn cynnig darpariaeth y blynyddoedd cynnar a darpariaeth chwarae sy’n bodloni’r galw a nodwyd. Mae rhai awdurdodau yn gwneud defnydd da o leoedd gwag mewn ysgolion cynradd i ddarparu lleoedd ar gyfer plant tair i bump oed. Three authorities judged to be good have the resources and finance in place to deliver agreed plans to make their schools fit for purpose. Nearly all authorities provide sufficient early years and play provision that meets identified demand. A few authorities make good use of surplus places in primary schools to provide places for three to five-year-olds.

29 Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau a arolygwyd yn cynnig ystod briodol o wasanaethau cymorth ieuenctid.
Mewn ychydig o awdurdodau lleol, mae gwasanaeth ieuenctid yr awdurdod lleol yn cefnogi gwasanaethau cymorth ieuenctid ehangach ac yn sicrhau ansawdd eu gwaith yn dda. Most authorities inspected have an appropriate range of youth support services. In a few local authorities, the local authority’s youth service supports wider youth support services and quality assures their work well.

30 Yn gyffredinol, mae partneriaid yn cyfarfod i gytuno ar gynlluniau ar gyfer gwasanaethau cymorth ieuenctid, ond nid ydynt yn cydlynu’r gwaith hwn yn ymarferol. Mae bylchau a dyblygu mewn darpariaeth ar gyfer y gwasanaethau hyn yn golygu gwerth gwael am arian. Nid oes gan y rhan fwyaf o awdurdodau drosolwg clir o ansawdd y gwasanaethau a gaiff pobl ifanc neu’r deilliannau dilynol. Generally, partners meet to agree plans for youth support services but fail to co-ordinate this work in practice. Gaps and duplication in provision for these services mean poor value for money. Most authorities lack a clear overview of the quality of the service that young people receive or the outcomes from them.

31 Arweinyddiaeth a rheolaeth Leadership and management
Dim ond mewn tri o’r awdurdodau lleol a arolygwyd y mae arweinyddiaeth a gwella ansawdd yn dda. Yn y pump sy’n weddill, mae meysydd pwysig i’w gwella. Mewn un awdurdod, mae’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth yn anfoddhaol. Leadership and the improvement of quality are good in just three of the local authorities inspected. In the remaining five there are important areas for improvement. In one authority, leadership and management are unsatisfactory.

32 Where leadership is good:
Lle mae arweinyddiaeth yn dda: mae’r awdurdodau yn gweithio’n agos gyda phartneriaid strategol i gyflawni eu gweledigaeth am ddeilliannau gwell i ddysgwyr; mae cysylltiadau clir rhwng anghenion canfyddadwy a chynllunio strategol a gweithredol, a ffocws cryf ar ddeilliannau; ac mae swyddogion yn barod i wneud penderfyniadau strategol anodd ac yn meithrin perthynas dryloyw a llwyddiannus gyda phartneriaid pwysig ac ysgolion. Where leadership is good: the authorities work closely with strategic partners to deliver their vision for improved outcomes for learners; there are clear links between identified needs and strategic and operational planning, and a strong focus on outcomes; and officers are prepared to take difficult strategic decisions and build transparent and successful relationships with important partners and schools.

33 In at least half the authorities inspected:
steps towards bringing all the authorities’ priorities into a single coherent plan are slow; and there is limited focus on improving outcomes for children and young people and a lack of clarity about how to bring about the necessary improvements. Mewn o leiaf hanner yr awdurdodau a arolygwyd: mae cynnydd tuag at ddod â holl flaenoriaethau’r awdurdodau ynghyd mewn un cynllun cydlynus yn araf; ac mae’r ffocws ar wella deilliannau ar gyfer plant a phobl ifanc yn gyfyngedig, ac mae diffyg eglurder ynghylch sut i ysgogi’r gwelliannau angenrheidiol.

34 Mewn tri awdurdod lle mae gwella ansawdd yn dda:
mae prosesau hunanarfarnu yn gynhwysfawr ac wedi’u sefydlu’n dda, ac maent yn nodi cryfderau a meysydd i’w gwella yn gywir; mae eu gweithdrefnau rheoli perfformiad yn effeithiol ac yn cael eu defnyddio’n dda i lywio cynllunio gwelliant; ac mae ganddynt ddiwylliant o atebolrwydd ac yn dangos cynnydd da wrth weithredu argymhellion o arolygiadau blaenorol. In three authorities where improving quality is good: self-evaluation processes are comprehensive and well established, and accurately identify strengths and areas for improvement; their performance management procedures are effective and used well to inform improvement planning; and they have a culture of accountability and show good progress in implementing recommendations from previous inspections.

35 Yn y pump awdurdod lle nad yw gwella ansawdd yn well na digonol:
nid yw adroddiadau hunanarfarnu yn nodi cynnydd anfoddhaol, ac nid ydynt bob amser yn cael eu hategu gan ddadansoddiad trylwyr o ddata; mae adroddiadau yn aml yn rhy ddisgrifiadol ac nid ydynt yn canolbwyntio digon ar effaith y gwasanaethau; ac gan nad yw swyddogion yn amlygu’r materion hyn yn eu hadroddiadau, nid yw aelodau etholedig yn gwbl ymwybodol o danberfformio, ac felly ni allant gynnig her briodol na dwyn swyddogion i gyfrif am berfformiad. In the five authorities where improving quality is no better than adequate: self-evaluation reports do not identify unsatisfactory progress and are not always supported by the rigorous analysis of data; reports are often too descriptive and do not focus enough on the impact of services; and because officers do not highlight these matters in their reports, elected members are not made fully aware of underperformance and so they cannot provide appropriate challenge or hold officers to account about performance.

36 Yn y tri awdurdod lle mae gweithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus, mae partneriaid strategol yn nodi anghenion cyffredin ac yn gweithio tuag at ddeilliannau cyffredin. Mae’r partneriaid yn yr awdurdodau hyn yn cytuno ar flaenoriaethau, yn cynllunio’n effeithiol ac yn dwyn ei gilydd i gyfrif yn dda. In the three authorities where partnership working is successful, strategic partners identify common needs and work towards common outcomes. The partners in these authorities agree priorities, plan effectively and hold each other to account well.

37 Yn y mwyafrif o awdurdodau, nid yw swyddogion yn arfarnu effaith partneriaethau ar ddeilliannau i blant a phobl ifanc. Nid yw’r awdurdodau hyn yn gwneud y defnydd gorau o’u hadnoddau a’u harbenigedd i ymgysylltu â dysgwyr gan nad ydynt yn mesur effaith y cydweithio a’i gost. In the majority of authorities, officers do not evaluate the impact of partnerships on outcomes for children and young people. These authorities do not make best use of their resources and expertise to engage learners because they do not measure the impact of collaboration and its cost.

38 Yn y tri awdurdod lle mae arweinyddiaeth yn dda:
mae adnoddau wedi eu cysylltu’n glir â blaenoriaethau’r cyngor. mae rheoli perfformiad yn effeithiol ar y cyfan ac mae rheolaeth ariannol yn gryf. mae ganddynt strategaethau ar waith i wella cost effeithiolrwydd eu gwasanaethau i ysgolion a’r rhai a gomisiynir yn allanol. In the three authorities where leadership is good: resources are linked clearly with the council’s priorities. overall performance management is effective and financial management is strong. they have strategies in place to improve the cost effectiveness of their services to schools and those commissioned externally.

39 Yn y mwyafrif o awdurdodau lleol, mae swyddogion cyllid yn rhoi cymorth effeithiol i ysgolion i wneud yn siwr bod diffygion a lleoedd dros ben yn cael eu rheoli’n dda. Fodd bynnag, mae gan draean o awdurdodau achosion tymor hir neu achosion cynyddol o ddiffygion neu leoedd gwag sylweddol mewn ysgolion, ac nid eir i’r afael â’r rhain yn ddigon cyflym. In the majority of local authorities, finance officers provide effective support for schools to make sure that deficits and surpluses are well managed. However, about a third of authorities have a long-term or rising incidence of significant deficits or surpluses in schools, which are not being addressed quickly enough.

40 Mae tua hanner awdurdodau yn ei chael yn anodd rheoli eu gwariant ar anghenion dysgu ychwanegol.
Ni all unrhyw un o’r awdurdodau a arolygwyd eleni adrodd ar y gwerth am arian a ddarperir gan eu partneriaethau strategol neu p’un a yw cydweithio yn gost effeithiol ai peidio. About half of the authorities find it difficult to keep their spending on additional learning needs under control. None of the authorities inspected this year can report on the value for money provided by their strategic partnerships or whether or not collaboration is cost effective.

41 Cwestiynau i'w hystyried Questions to consider
How well does the performance of our schools compare to similar schools across Wales? Have we met the WG expected benchmarks in recent years? How well do levels of attendance in schools compare to similar schools? Why is our performance and attendance different and what action should we take to improve? Pa mor dda y mae perfformiad ein hysgolion yn cymharu ag ysgolion tebyg ledled Cymru? A ydym ni wedi bodloni meincnodau disgwyliedig LlC yn y blynyddoedd diwethaf? Pa mor dda y mae lefelau presenoldeb mewn ysgolion yn cymharu ag ysgolion tebyg? Pam mae ein perfformiad a’n presenoldeb yn wahanol a pha gamau ddylem ni eu cymryd i wella?

42 Cwestiynau i'w hystyried Questions to consider
A yw swyddogion yn arfarnu ansawdd arweinyddiaeth a rheolaeth yn ein hysgolion yn annibynnol ac a ydym wedi defnyddio ein pwerau llawn i wella ysgolion yn ddigon cyflym? Pa mor effeithiol ydym ni’n defnyddio data i fonitro deilliannau disgyblion ag ADY ac yn cynllunio’n strategol i fodloni eu hanghenion? Do officers independently evaluate the quality of leadership and management in our schools and have we used our full powers to improve schools quickly enough? How effectively do we use data to monitor outcomes of pupils with ALN and plan strategically to meet their needs?

43 Cwestiynau i'w hystyried Questions to consider
How do we make sure that our safeguarding procedures are effective? How well do we monitor and hold to account the services we commission through our regional consortium? Sut ydym ni’n gwneud yn siwr bod ein gweithdrefnau diogelu yn effeithiol? Pa mor dda ydym ni’n monitro ac yn sicrhau bod y gwasanaethau yr ydym yn eu comisiynu trwy ein consortiwm rhanbarthol yn cael eu dwyn i gyfrif?

44 Cwestiynau i'w hystyried Questions to consider
Sut ydym ni’n gwneud yn siwr bod ein dysgwyr yn manteisio ar ddarpariaeth y blynyddoedd cynnar, eu hawl i wasanaethau cymorth ieuenctid ac addysg cyfrwng Cymraeg os bydd angen? Pa mor effeithiol ydym ni’n cofnodi manylion a gwybodaeth er mwyn cynllunio’n strategol? How do we make sure that our learners have access to appropriate early years provision, their entitlement to youth support services and Welsh medium education if required? How effectively do we capture intelligence and information in order to plan strategically?

45 Cwestiynau i'w hystyried Questions to consider
Pa mor dda y mae swyddogion ar bob lefel yn deall ein cryfderau a’n meysydd i’w gwella? Pa mor dda y defnyddir systemau rheoli perfformiad i ddwyn swyddogion i gyfrif am berfformiad eu gwasanaeth? A yw aelodau etholedig yn cael y wybodaeth a’r hyfforddiant cywir i’w galluogi i graffu a herio? How well do officers at all levels understand our strengths and areas for improvement? How well are performance management systems used to hold officers to account for the performance of their service? Do elected members receive the right information and training to enable them to scrutinise and challenge?


Download ppt "Adroddiad Blynyddol 2011-2012 (Gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc) Annual Report 2011-2012 (Local authority education services."

Similar presentations


Ads by Google