Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Report Writing Study Skills Workshop Ysgrifennu Adroddiad Gweithdy

Similar presentations


Presentation on theme: "Report Writing Study Skills Workshop Ysgrifennu Adroddiad Gweithdy"— Presentation transcript:

1 Report Writing Study Skills Workshop Ysgrifennu Adroddiad Gweithdy Sgiliau Astudio

2 Beth yw Adroddiad? /What is a Report?
A report is a highly structured form of writing that is used across a range of academic disciplines, particularly in the sciences. A report gives clear information to a specific audience. Information and evidence are presented, analysed and applied to a particular problem or issue. When you are asked to write a report you will usually be given a brief which provides you with instructions and guidelines. It is important to follow this brief carefully. The report brief may outline the purpose, audience and problem or issue that your report must address, together with any specific requirements for format or structure. The format for a report differs from that of an essay, but it still requires you to use clear academic writing. Mae adroddiad yn ffurf strwythuredig iawn o ysgrifennu a ddefnyddir ar draws ystod o ddisgyblaethau academaidd, yn enwedig yn y gwyddorau. Mae adroddiad yn rhoi gwybodaeth glir i gynulleidfa benodol. Mae gwybodaeth a thystiolaeth yn cael eu cyflwyno, dadansoddi a’u cymhwyso i broblem neu fater penodol. Pan ofynnir i chi ysgrifennu adroddiad fel arfer rhoir briff i chi sydd yn darparu cyfarwyddiadau a chanllawiau i chi. Mae’n bwysig dilyn y briff hwn yn ofalus. Gall briff yr adroddiad amlinellu’r pwrpas, y gynulleidfa a’r broblem neu fater y mae’n rhaid i’ch adroddiad roi sylw iddo, ynghyd ag unrhyw ofynion penodol o ran ffurf neu strwythur. Mae’r fformat ar gyfer adroddiad yn wahanol i un traethawd, ond mae gofyn ichi o hyd ddefnyddio ysgrifennu academaidd clir.

3 Strwythur Adroddiad /Report Structure
Byddwch fwy na thebyg yn derbyn briff sydd yn cynnwys y wybodaeth y byddwch angen ei chynnwys yn eich adroddiad. Mae’n bosib hefyd y rhoir cyngor i chi sut y dylai’r adroddiad gael ei strwythuro. Yn gyffredinol mae adroddiadau yn dilyn strwythur penodol. Byddant fwyaf tebygol yn cynnwys: Tudalen Deitl Tudalen Gynnwys Crynodeb Cyflwyniad Dulliau Canlyniadau Trafodaeth Casgliad Cyfeiriadau Atodiadau You will most likely be given a brief which includes the information you will need to include in your report. You may also be advised as to how the report should be structured. Generally reports follow a specific structure. They will most likely include: Title Page Contents Page Abstract Introduction Methods Results Discussion Conclusion References Appendices

4 Termau adroddiad wedi eu hesbonio /Report terms explained
Some of the terms, such as references, may be familiar to you from previous work. Others may be new. Abstract: an abstract is a brief summary of the aims and findings of the report. It is generally no longer than 250 words and provides your reader with an overview of the report. Contents: contents provide your reader with a way to quickly locate information within the report. It should list different chapters or headings and the page number. Introduction: the introduction lets your reader know what the report is about. It should describe the aims and objectives of the report and let the reader know what issue is being researched and why. Methods: this section lets your reader know how you carried out your research. Your methods may include what type of data you collected, how you collected it, and what equipment you used. Bydd rhai o’r termau, megis cyfeiriadau yn gyfarwydd i chi o waith blaenorol. Gall eraill fod yn newydd. Crynodeb (abstract): crynodeb byr yw hwn o nodau a darganfyddiadau’r adroddiad. Yn gyffredinol nid yw yn hirach na 250 o eiriau ac mae’n darparu arolwg o’r adroddiad i’ch darllenydd. Cynnwys: Mae cynnwys yn darparu ffordd gyflym i’ch darllenydd i leoli gwybodaeth o fewn yr adroddiad. Dylai restru gwahanol nodau neu benawdau a rhif y dudalen. Cyflwyniad: mae’r cyflwyniad yn gadael i’ch darllenydd wybod yr hyn mae’r adroddiad amdano. Dylai nodi nodau ac amcanion yr adroddiad a gadael i’r darllenydd wybod pa fater sy’n cael ei ymchwilio a pham. Dulliau: mae’r adran hon yn gadael i’ch darllenydd wybod sut y gwnaethoch gyflawni eich ymchwil. Gall eich dulliau gynnwys pa fath o ddata a gasglwyd gennych, sut y gwnaethoch ei gasglu, a pha offer a ddefnyddiwyd gennych.

5 Termau adroddiad wedi eu hesbonio /Report Terms Explained
Results: the results section summarises your findings. You may want to present information in this section by using graphs, charts, or diagrams. Discussion: the discussion section is where you analyse and interpret your findings or results. You should highlight the significance of your findings and link it to the general area you have been researching. Conclusion: the conclusion section draws together the main points of your report. Be careful not to include any new information in this section Canlyniadau: mae’r adran canlyniadau yn crynhoi eich darganfyddiadau. Medrwch gyflwyno gwybodaeth yn yr adran hon drwy ddefnyddio graffiau, siartiau neu ddiagramau. Trafodaeth: yr adran drafodaeth yw’r adran lle y dadansoddwch ac y dehonglwch eich darganfyddiadau neu ganlyniadau. Dylech dynnu sylw at arwyddocâd eich darganfyddiadau a’i gysylltu â’r maes cyffredinol y buoch yn ei ymchwilio. Casgliad: mae adran y casgliad yn tynnu at ei gilydd brif bwyntiau eich adroddiad. Byddwch yn ofalus i beidio â chyflwyno unrhyw wybodaeth newydd yn yr adran hon.

6 Termau adroddiad wedi eu hesbonio /Result Terms Explained
References: as with any piece of academic writing, it is extremely important to reference any published information that you refer to in your report. This includes information found on the internet, television, or radio as well as published books and journals. Ask your tutor if you are unsure which referencing style to use. Appendices: the appendix contains examples of the raw data that you have collected or used. This could include examples of transcripts, surveys, or statistical data. Cyfeiriadau: fel gyda unrhyw ddarn o ysgrifennu academaidd, mae’n bwysig iawn i gyfeirnodi unrhyw wybodaeth wedi ei gyhoeddi y cyfeiriwch ato yn eich adroddiad. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a geir ar y rhyngrwyd, teledu neu radio yn ogystal â llyfrau a chyfnodolion a gyhoeddwyd. Gofynnwch i’ch tiwtor os ydych yn ansicr pa arddull cyfeirnodi i’w ddefnyddio. Atodiadau: mae’r atodiad yn cynnwys esiamplau o’r data crai a gasglwyd neu a ddefnyddiwyd gennych. Gallai hyn gynnwys esiamplau o drawsysgrifau, arolygon neu ddata ystadegol.

7 Cyflwyniad /Presentation
As with any academic writing, presentation counts for a lot. You may be given specific presentation guidelines to follow, but in general the following basic rules apply: Make sure that you have understood and followed the guidelines set in your report brief or assignment guidelines. Make sure you proof-read your work carefully before submission. Check for spelling, grammar and punctuation as well as unclear sentences. Make sure that you have correctly labelled all charts and diagrams. Make sure that you have numbered all pages and listed them correctly in your table of contents. Allow yourself plenty of time for proof-reading and revisions. This may mean you will have to plan to finish writing your report a few days before it is due. Fel gydag unrhyw ysgrifennu academaidd, mae’r cyflwyniad yn cyfrif llawer. Efallai y rhoir canllawiau cyflwyno penodol i chi i’w dilyn, ond yn gyffredinol mae’r rheolau sylfaenol canlynol yn berthnasol : Gwnewch yn siwr eich bod wedi deall a dilyn y canllawiau a osodwyd yn eich briff adroddiad neu ganllawiau aseiniad. Gwnewch yn siwr eich bod yn prawf ddarllen eich gwaith yn ofalus cyn ei gyflwyno. Gwiriwch am sillafu, gramadeg ac atalnodi yn ogystal a brawddegau aneglur. Gwnewch yn siwr eich bod wedi labelu yn gywir yr holl siartiau a’r diagramau. Gwnewch yn siwr eich bod wedi rhifo yr holl dudalennau gan eu rhestru yn gywir yn eich tabl o gynnwys. Caniatewch ddigon o amser i’ch hun ar gyfer prawf ddarllen ac adolygiadau. Gall hyn olygu y bydd yn rhaid i chi gynllunio i orffen ysgrifennu eich adroddiad ychydig ddiwrnodau cyn bo’n rhaid ei gyflwyno.

8 Y Cam Nesaf /The Next Step
If you want to learn more, contact your Success Centre to arrange further study skills support. Os ydych eisiau gwybod mwy cysylltwch â’ch Canolfan Llwyddiant i drefnu cefnogaeth sgiliau astudio pellach.


Download ppt "Report Writing Study Skills Workshop Ysgrifennu Adroddiad Gweithdy"

Similar presentations


Ads by Google