Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Strwythur y prosiect Bwrdd Newid LlC Bwrdd Cyflawni Gweithredol LlC

Similar presentations


Presentation on theme: "Strwythur y prosiect Bwrdd Newid LlC Bwrdd Cyflawni Gweithredol LlC"— Presentation transcript:

1 Strwythur y prosiect Bwrdd Newid LlC Bwrdd Cyflawni Gweithredol LlC
GRŴP LLYWIO Darparu cyfeiriad strategol a chynllunio, hwyluso, cyfathrebu Tîm Prosiect Estyn a’r OECD Cyfleu cynnydd / syniadau’r Gweithgor Sefydlu egwyddorion a diffiniadau; mae’n cynllunio deunyddiau ac adnoddau GWEITHGOR Tîm Prosiect Estyn Yr OECD Arweinwyr ysgol ar draws sectorau (o bob un o’r 22 ALl) Cynrychiolwyr awdurdodau lleol / rhanbarthol Mae’n cynrychioli: Penaethiaid Byrddau esgobaethol Llywodraeth Leol Sefydliadau proffesiynol Llywodraethwyr Rhanddeiliaid eraill GRŴP RHANDDEILIAID Mae’r diagram yn dangos sut mae’r prosiect wedi’i strwythuro. Mae’r GRŴP LLYWIO yn cynnwys Tîm Prosiect Estyn (Claire Morgan, Cath Evans, Clive Phillips, Richard Lloyd a Steve Pringle) a Marco Kools o’r OECD. Rôl y grŵp hwn yw darparu cyfeiriad strategol ar gyfer y prosiect, trefnu a hwyluso digwyddiadau, darparu diweddariadau rheolaidd a sicrhau cyfathrebu da rhwng rhanddeiliaid. Mae’n werth nodi, er bod Estyn yn darparu’r cyfeiriad a’r drefniadaeth strategol, nid yw’n “arwain” y prosiect. Mae cyd-lunio yn egwyddor sylfaenol o’r gwaith hwn; nid ‘gwaith Estyn’ fydd canlyniadau’r prosiect – bydd wedi cael ei greu gan ystod eang o randdeiliaid. Y GWEITHGOR yw’r grŵp a fydd – fel y mae ei enw’n awgrymu – yn cwblhau’r gwaith pwysig sy’n gysylltiedig â’r prosiect. Mae hyn yn cynnwys pennu diffiniadau ac egwyddorion yn ogystal â chreu’r adnoddau a’r deunyddiau fydd yn cael eu defnyddio gan ysgolion ledled Cymru. Mae’n cynnwys uwch arweinwyr o ysgolion ledled Cymru: o ysgolion uwchradd, cynradd, arbennig ac UCDau; cynrychiolir pob un o’r 22 awdurdod; mae cyfuniad o gyd-destunau (trefol/gwledig, bach/mawr, cyfrwng Cymraeg/Saesneg, ac ati); cynrychiolir llywodraeth leol/consortia rhanbarthol hefyd. Bydd y grŵp hwn yn cyfarfod pob hanner tymor. Bydd y GRŴP RHANDDEILIAID yn rhoi adborth parhaus i’r Gweithgor ar ei holl waith. Gofynnir i aelodau geisio cael adborth gan eu rhanddeiliaid ar gynnydd y prosiect hefyd. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys ystod eang o randdeiliaid. Mae’n bwysig, ar ddiwedd y prosiect, fod pob grŵp sy’n gysylltiedig ag addysg yng Nghymru yn teimlo eu bod wedi cael dweud eu dweud. Bydd y grŵp hwn yn cyfarfod pob tymor. Rhoi adborth Cyfleu cynnydd yn y prosiect i’w randdeiliaid ei hun; yn derbyn a lledaenu adborth


Download ppt "Strwythur y prosiect Bwrdd Newid LlC Bwrdd Cyflawni Gweithredol LlC"

Similar presentations


Ads by Google