Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Effaith athrawon ymgynghorol ar leoliadau nas cynhelir a ariennir

Similar presentations


Presentation on theme: "Effaith athrawon ymgynghorol ar leoliadau nas cynhelir a ariennir"— Presentation transcript:

1 Effaith athrawon ymgynghorol ar leoliadau nas cynhelir a ariennir
The impact of advisory teachers in funded non-maintained settings

2 Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effaith athrawon ymgynghorol ar leoliadau nas cynhelir a ariennir. Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos o arfer orau sy’n dangos effaith athrawon ymgynghorol. Mae’r adroddiad wedi’i seilio ar ymweliadau â 14 o leoliadau a thystiolaeth o saith awdurdod lleol a phob consortiwm rhanbarthol. Mae hefyd yn ystyried tystiolaeth o arolygiadau Estyn o leoliadau nas cynhelir er 2010. This report examines the impact of advisory teachers on funded non-maintained settings. The report includes case studies of best practice illustrating the impact of advisory teachers. The report is based on visits to 14 settings and evidence from seven local authorities and all regional consortia. It also takes account of evidence from Estyn’s inspections of non-maintained settings since 2010.

3 Prif ganfyddiadau Main findings
Mae rôl athrawon ymgynghorol yn y sector nas cynhelir wedi newid dros amser. I ddechrau, roedd athrawon ymgynghorol yn modelu arfer dda, yn bennaf. Erbyn hyn, mae athrawon ymgynghorol yn darparu mwy o gymorth ar gyfer rheoli a gweinyddu, ond llai ar gyfer addysgu a dysgu. Fodd bynnag, mae gan y sector nas cynhelir drosiant uchel o staff, ac mae angen mwy o gymorth ar lawer o leoliadau ar ffurf modelu arfer dda. Mewn ychydig o leoliadau nas cynhelir lle mae athrawon ymgynghorol yn modelu addysgu da yn rheolaidd, mae ymarferwyr yn fwy hyderus o ran dod o hyd i ffyrdd i wella deilliannau i blant a barnu safonau plant. Mae modelu adrodd storïau neu sut i ennyn diddordeb plant mewn gwneud marciau yn cael effaith gadarnhaol ar y safonau y mae plant yn eu cyflawni. The role of the advisory teacher in the non-maintained sector has changed over time. At first, advisory teachers mainly modelled good practice. Now, advisory teachers provide more support for management and administration, but less for teaching and learning. However, the non-maintained sector has a high turn-over of staff and many settings need more support in the form of modelling good practice.  In few non-maintained settings where the advisory teacher regularly models good teaching, practitioners are more confident in finding ways to improve outcomes for children and in judging children’s standards. Modelling story-telling or how to interest children in mark-making have a positive impact on the standards children achieve.

4 Prif ganfyddiadau Main findings
Nid yw lleiafrif o leoliadau yn cael digon o gyngor ar sut i wella’r safonau y mae plant yn eu cyflawni na sut i gyflwyno gweithgareddau mewn ffyrdd amrywiol a diddorol. Dim ond lleiafrif o athrawon ymgynghorol sy’n darparu arweiniad ar weithgareddau i helpu plant mwy abl neu blant sy’n cael anawsterau. Yn y rhan fwyaf o leoliadau, mae athrawon ymgynghorol yn darparu cymorth effeithiol o ran datblygu dealltwriaeth ymarferwyr o agweddau ar y Cyfnod Sylfaen. Pan mae athrawon ymgynghorol yn canolbwyntio ar ansawdd rhyngweithio ymarferwyr â phlant, mae hyn yn cael effaith sylweddol ar y safonau y mae plant yn eu cyflawni. A minority of settings do not receive enough advice about how to improve the standards that children achieve or how to present activities in varied and interesting ways. Only a minority of advisory teachers provide guidance on activities to help more able children or children experiencing difficulties. In most settings, the advisory teacher provides effective support in developing practitioners’ understanding of aspects of the Foundation Phase.  Where advisory teachers focus on the quality of practitioners’ interaction with children, this has a significant impact on the standards children achieve.

5 Prif ganfyddiadau Main findings
Mewn llawer o leoliadau cyfrwng Saesneg, mae cymorth athrawon ymgynghorol wedi helpu i godi safonau Cymraeg plant. Yn y mwyafrif o ymweliadau athrawon ymgynghorol, mae gormod o bwyslais ar helpu’r lleoliad i lunio dogfennau polisi, fel cynllun datblygu neu adroddiad hunanarfarnu. Mae athrawon ymgynghorol yn dechrau darparu mwy o her o ran y safonau y mae plant yn eu cyflawni, ond yn y mwyafrif o leoliadau, maent yn canolbwyntio gormod ar fiwrocratiaeth rheoli a chynllunio o hyd, a dim digon ar addysgu a dysgu. In many English-medium settings, the support of the advisory teacher has helped to raise the standards of children’s Welsh.   In a majority of advisory teacher visits, there is an over-emphasis on helping the setting to produce policy documents, such as a development plan or a self-evaluation report. Advisory teachers are beginning to provide a greater level of challenge with regard to the standards children achieve, but in a majority of settings they still focus too much on the bureaucracy of management and planning, and not enough on teaching and learning.

6 Prif ganfyddiadau Main findings
Ledled Cymru, mae llawer o fodelau gwahanol o gymorth athrawon ymgynghorol. Y model mwyaf llwyddiannus yw pan fydd lleoliadau’n cael y dyraniad llawn o amser yr athro ymgynghorol ar y safle, pan fydd hyfforddiant ychwanegol yn cael ei ddarparu, a phan fydd disgwyl i leoliadau fynychu lleiafswm o hyfforddiant bob blwyddyn. Mae mwyafrif yr awdurdodau lleol yn dyrannu’r amser y mae pob lleoliad yn ei gael yn ôl ei asesiad o angen. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion Grant y Cyfnod Sylfaen o reidrwydd, i ddarparu cymorth athro cymwysedig am 10% o’r amser i bob lleoliad. Mae llawer o leoliadau da yn cael llai na’u dyraniad ac nid ydynt yn cael digon o gymorth i ddod yn rhagorol. Across Wales, there are many different models of advisory-teacher support. The most successful model is one in which settings receive the full allocation of advisory teacher time on site, additional training is provided, and there is an expectation that settings attend a minimum amount of training each year. A majority of local authorities allocate the amount of time each setting receives according to their assessment of need. This means that they do not necessarily comply with the requirements of the Foundation Phase Grant to provide each setting with the support of a qualified teacher for 10% of the time. Many good settings receive less than their allocation and do not receive enough support to become excellent.

7 Prif ganfyddiadau Main findings
Mae bron pob lleoliad yn adrodd eu bod yn cael ymweliadau ychwanegol a mwy o gymorth wedi i Estyn roi gwybod iddynt am arolygiad. Nid yw canolbwyntio amser athrawon ymgynghorol ar baratoi lleoliadau ar gyfer arolygiadau yn ddefnydd da o amser, ac nid yw’n darparu’r gwasanaeth gorau. Mae i ba raddau y caiff gwaith athrawon ymgynghorol ei fonitro yn amrywio ledled Cymru. Mae gan bron pob awdurdod lleol a chonsortiwm rhanbarthol weithdrefnau rheoli perfformiad sy’n gysylltiedig â thâl ac amodau athrawon, ond ychydig iawn ohonynt sy’n arsylwi athrawon ymgynghorol yn gweithio mewn lleoliad. Mae hyn yn golygu nad oes ganddynt wybodaeth uniongyrchol berthnasol am effeithiolrwydd eu hathrawon ymgynghorol o ran cynorthwyo lleoliadau. Nearly all settings report receiving additional visits and increased support once Estyn notify them of an inspection. Focusing advisory teacher time on preparing settings for inspection is not a good use of time and does not provide the best service.  The extent to which the work of advisory teachers is monitored varies across Wales. Nearly all local authorities and regional consortia have procedures for performance management linked to teachers’ pay and conditions, but very few observe advisory teachers at work in a setting. This means that they do not have relevant first-hand information about the effectiveness of their advisory teachers in supporting settings.

8 Prif ganfyddiadau Main findings
Mae mwyafrif yr awdurdodau lleol yn cynnal ac yn gwella medrau ac arbenigedd eu hathrawon ymgynghorol yn briodol. Mewn ychydig o awdurdodau lleol, yn enwedig lle nad yw athrawon ymgynghorol yn gweithio mewn ysgolion hefyd, nid ydynt yn cael gwybodaeth am newidiadau sy’n effeithio ar y sector fel mater o drefn bob amser, yn y modd y mae staff ysgolion yn cael y wybodaeth honno. Nid yw awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol yn gallu darparu hyfforddiant ym mhrif iaith y lleoliad bob tro. Mae llawer o awdurdodau lleol yn ne Cymru yn cynnig hyfforddiant uniaith Saesneg i leoliadau cyfrwng Cymraeg. Ychydig iawn o awdurdodau lleol sy’n hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig, ac mae ymarferwyr nad ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl yn ei chael yn anodd dilyn a deall yr hyfforddiant yn llawn. A majority of local authorities maintain and improve the skills and expertise of their advisory teachers appropriately. In a few local authorities, particularly where advisory teachers do not also work in schools, they do not always receive information about changes affecting the sector routinely in the way that school staff do.  Local authorities and regional consortia are not always able to provide training in the main language of a setting. Many local authorities in south Wales offer training in English only for Welsh-medium settings. A very few local authorities train through the medium of Welsh only and practitioners who are not fluent in Welsh find it difficult to follow and understand the training fully.

9 Prif ganfyddiadau Main findings
Mae heriau i awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol o ran amseru digwyddiadau hyfforddiant er mwyn i ymarferwyr o bob lleoliad fod yn bresennol. Mae ychydig o awdurdodau lleol yn ymwybodol o hyn ac yn amrywio amser yr hyfforddiant yn unol â hynny. Mewn llawer o awdurdodau lleol, mae’r diffyg cydweithio agos rhwng yr athrawon ymgynghorol ac asiantaethau’r sector gwirfoddol yn golygu bod ymarferwyr yn cael cyngor anghyson, ambell waith. Mewn ychydig o achosion, mae bylchau pwysig yn y cyngor a’r cymorth y mae ymarferwyr yn eu cael, er enghraifft yn ymwneud â gweithdrefnau diogelu neu sut i gynorthwyo plentyn y nodir bod ganddo anghenion dysgu ychwanegol. There are challenges for local authorities and regional consortia in timing training events so that practitioners from all settings can attend. A few local authorities are aware of this and vary the time of training accordingly.  In many local authorities, the lack of close working between the advisory teachers and the voluntary sector agencies means that practitioners sometimes receive conflicting advice. In a few instances, there are important gaps in the advice and support that practitioners receive, for example in relation to safeguarding procedures or how to support children identified as having additional learning needs.

10 Prif ganfyddiadau Main findings
Nid yw awdurdodau lleol yn cymryd cyfrifoldeb cyffredinol dros fonitro’r cymorth y mae lleoliadau’n ei gael gan fudiadau’r sector gwirfoddol bob tro, hyd yn oed pan fyddant yn talu am y gwasanaeth. Mae hyn yn golygu nad yw’r awdurdod lleol yn sicr ynghylch ansawdd y cyngor a ddarperir neu b’un a yw’r cyngor, ar ddiogelu plant er enghraifft, yn gyfredol. Mae’r ffordd y caiff arfer orau ei rhannu rhwng y sector ysgolion a’r sector nas cynhelir yn amrywio ar draws awdurdodau lleol a chonsortia gwahanol, ac nid yw’n manteisio i’r eithaf ar arbenigedd yn y naill sector neu’r llall bob tro. Local authorities do not always take overall responsibility for monitoring the support that settings receive from voluntary sector organisations, even when paying for the service. This means that the local authority is unsure about the quality of the advice provided or whether the advice, on child protection for example, is up-to-date.  The way best practice is shared between the school and non-maintained sectors varies across different local authorities and consortia, and does not always make the best use of the expertise in either sector.

11 Prif ganfyddiadau Main findings
Mae awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol yn ariannu amser athrawon ymgynghorol o Grant y Cyfnod Sylfaen. Mae’r symiau gwahanol iawn o arian a ddyrennir yn golygu bod gwahaniaethau sylweddol ledled Cymru o ran faint o gymorth a ddarperir. Wrth ddyrannu cyllid Grant y Cyfnod Sylfaen, mae llawer o awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol yn sicrhau bod bodloni cymarebau’r Cyfnod Sylfaen ar gyfer staff mewn ysgolion yn flaenoriaeth, wedi’i dilyn gan ddarparu hyfforddiant a chymorth i ysgolion. O ganlyniad, nid yw’r mwyafrif o leoliadau’n cael y 10% o amser athrawon ymgynghorol a argymhellir, oherwydd nid oes digon o adnoddau ar gael i ariannu hyn. Local authorities and regional consortia fund advisory teacher time from the Foundation Phase Grant. The very different amounts of money allocated mean considerable differences across Wales in the amount of support provided. When allocating Foundation Phase Grant funding, many local authorities and regional consortia make meeting Foundation Phase ratios for staff in schools their priority, followed by providing training and support for schools. As a result, a majority of settings do not receive the recommended 10% of advisory teacher time, because there is not enough resource left to fund this.

12 Prif ganfyddiadau Main findings
Nid yw awdurdodau lleol yn cynllunio’n systematig bob tro i sicrhau bod hawl plentyn i gael addysg wedi’i hariannu yn cael ei bodloni cystal mewn ysgolion a lleoliadau, oherwydd amrywioldeb yn y ffordd y maent yn defnyddio cymorth a chyllid ledled Cymru a rhwng y sectorau. Local authorities do not always plan systematically to ensure that a child’s entitlement to funded education is met equally well in both schools and settings, because of variability in how they deploy support and funding across Wales and between the sectors.

13 Argymhellion Recommendations Dylai athrawon ymgynghorol:
ddarparu lefel addas o her i leoliadau a sicrhau bod ymweliadau a hyfforddiant yn canolbwyntio ar wella safonau plant parhau i gynorthwyo arweinyddiaeth a rheolaeth, ond gwneud mwy i fodelu arfer effeithiol yn yr ystafell ddosbarth a rhannu syniadau newydd ag ymarferwyr cael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn addysg sy’n effeithio ar leoliadau Advisory teachers should: provide settings with a suitable level of challenge and ensure that visits and training are focused on improving children’s standards  continue supporting leadership and management but do more to model effective practice in the classroom and share new ideas with practitioners  keep up-to-date with changes in education that affect settings

14 Argymhellion Recommendations
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol: ddarparu 10% o amser athrawon ymgynghorol i bob lleoliad a sicrhau bod athrawon ymgynghorol yn ymweld â lleoliadau’n rheolaidd sicrhau bod lleoliadau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg yn cael cymorth a hyfforddiant yn yr iaith y maent yn gweithredu ynddi monitro gwaith athrawon ymgynghorol a sicrhau y caiff eu hanghenion hyfforddiant eu nodi a’u bodloni cydweithio â’i gilydd ac â mudiadau gwirfoddol i sicrhau bod lleoliadau’n cael cymorth cydgysylltiedig, cynhwysfawr yn enwedig yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol a diogelu Local authorities and regional consortia should: provide all settings with 10% of advisory teacher time and ensure that advisory teachers visit settings regularly  make sure that both Welsh and English-medium settings receive support and training in the language in which they operate  monitor the work of advisory teachers and ensure that their training needs are identified and met  work together and with voluntary organisations to ensure that settings receive comprehensive, joined-up support, particularly in relation to additional learning needs and safeguarding

15 Argymhellion Recommendations
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol: ddwyn mudiadau gwirfoddol a ariennir i gyfrif am ansawdd eu cymorth a’u harweiniad sicrhau y gall cymaint â phosibl o ymarferwyr lleoliadau nas cynhelir fynychu hyfforddiant ystyried penodi athrawon ymgynghorol am gyfnod penodol i adnewyddu’r gwasanaeth y gallant ei gynnig Local authorities and regional consortia should: hold funded voluntary organisations to account for the quality of their advice and guidance  ensure that as many non-maintained practitioners as possible can attend training  consider appointing advisory teachers for a fixed term to refresh the service they can offer

16 Argymhellion Recommendations Dylai Llywodraeth Cymru:
ystyried clustnodi cyllid i sicrhau bod pob lleoliad yn cael 10% o gymorth gan athrawon cymwysedig a hyfforddiant rheolaidd ar ben hyn creu rhwydwaith i athrawon ymgynghorol rannu gwybodaeth ac arfer orau The Welsh Government should: consider ring-fencing funding to ensure that all settings receive 10% support from a qualified teacher and regular training in addition to this  create a network for advisory teachers to share information and best practice

17 Arfer orau Best practice
Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o enghreifftiau o arfer orau. Un enghraifft yw’r modd y mae consortiwm y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) yn defnyddio Twitter i rannu arfer dda. Mae rheolwr y cyfrif yn trydar arfer dda yn ddyddiol, gan gynnwys syniadau gan addysgwyr cynnar lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd ag ymarferwyr. Mae lleoliadau’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi oherwydd bod GCA yn hyrwyddo eu gwaith ochr yn ochr â gwaith ysgolion, ac mae diwylliant cynyddol o rannu arfer dda â phob sector. Mae lleoliadau nas cynhelir yn adrodd bod enghreifftiau o arfer dda sy’n hawdd mynd atynt yn dylanwadu ar waith pobl eraill nad ydynt wedi mynychu cyrsiau efallai. The report contains a number of examples of best practice. One example is how the EAS consortium uses Twitter to share good practice. The account manager tweets good practice on a daily basis, this included ideas from local, national and international early educators along with practitioners’ posts. Settings feel valued that the EAS consortium promotes their work alongside that of schools and there is a growing culture of sharing good practice with all sectors. Non-maintained settings report that easy access to examples of good practice influences the work of others who may not have attended courses.

18 10 questions for providers
10 cwestiwn i ddarparwyr 10 questions for providers A oes gan bob ymweliad ddiben a ffocws clir sy’n cael eu rhannu â’r lleoliad? A ydych yn cynllunio amseriad ymweliadau i leihau amhariad? A ydych yn sicrhau bod y safonau y mae plant yn eu cyflawni o’r pwys mwyaf bob tro? A ydych yn monitro, arfarnu ac adolygu’r meysydd a nodwyd ar gyfer gweithgarwch dilynol o ymweliadau blaenorol? A ydych yn paratoi’n dda ac a ydych yn mynd ag enghreifftiau a syniadau ymarferol i’w rhannu? Do all visits have a clear purpose and focus that is shared with the setting? Do you plan the timing of visits to minimise disruption? Do you always ensure that the standards that children achieve are of primary importance? Do you monitor, evaluate and review the areas identified for follow-up from previous visits? Are you well prepared and do you take practical examples and ideas to share?

19 10 questions for providers
10 cwestiwn i ddarparwyr 10 questions for providers A ydych yn gweithio â phlant yn rheolaidd yn y lleoliad i fodelu addysgu a dysgu da? A ydych yn sicrhau bod ymweliadau’n darparu cymysgedd o fathau gwahanol o gymorth a bod cydbwysedd rhyngddynt? A ydych yn gosod tasgau’n rheolaidd i ymarferwyr eu cwblhau rhwng ymweliadau? A ydych yn darparu adborth defnyddiol ac amserol? A ydych yn asesu anghenion hyfforddiant ymarferwyr? Do you regularly work with children in the setting to model good teaching and learning? Do you ensure that visits provide a mixture of different types of support and there is a balance between them? Do you regularly set tasks for practitioners to complete between visits? Do you provide useful and timely feedback? Do you assess practitioners training needs?

20 Dolen we i’r adroddiad llawn: www.
Web-link to full report: www.

21 Cwestiynau... Questions…


Download ppt "Effaith athrawon ymgynghorol ar leoliadau nas cynhelir a ariennir"

Similar presentations


Ads by Google