Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Adroddiad Blynyddol 2010-2011 (Dysgu yn y system gyfiawnder) Annual Report 2010-2011 (Learning in the justice system)

Similar presentations


Presentation on theme: "Adroddiad Blynyddol 2010-2011 (Dysgu yn y system gyfiawnder) Annual Report 2010-2011 (Learning in the justice system)"— Presentation transcript:

1 Adroddiad Blynyddol (Dysgu yn y system gyfiawnder) Annual Report (Learning in the justice system)

2 Gweithgarwch arolygu Inspection activity
We carried out: a short inspection with HMI prisons of the only unit for remanded and sentenced young people in Wales; a full inspection of the largest prison for adults in Wales; and a joint review of the Youth Offending Services with the CSSIW and HIW. Cynhaliom: arolygiad byr gydag Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi o’r unig uned ar gyfer pobl ifanc sy’n cael eu cadw yn y ddalfa neu wedi’u dedfrydu i garchar yng Nghymru; arolygiad llawn o’r carchar mwyaf yng Nghymru i oedolion; ac adolygiad ar y cyd o’r Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid gydag AGGCC ac AGIC.

3 Deilliannau Outcomes In the young people’s unit, outcomes are good. Almost all young people achieve a relevant qualification and progress to a higher level course. In the adult prison, the success rate is very good in occupational classes and in general educational classes. Yn yr uned i bobl ifanc, mae deilliannau yn dda. Mae bron pob un o’r bobl ifanc yn cyflawni cymhwyster perthnasol ac yn mynd ymlaen i gwrs lefel uwch. Yn y carchar i oedolion, mae’r gyfradd llwyddiant yn dda iawn mewn dosbarthiadau galwedigaethol ac mewn dosbarthiadau addysgol cyffredinol.

4 Darpariaeth Provision
Mae’r uned i bobl ifanc yn cynnig ystod fwyfwy diddorol a pherthnasol o gyrsiau. Mae pobl ifanc yn treulio mwy o amser na chynt allan o’u celloedd yn gwneud gweithgareddau pwrpasol. Yn y carchar i oedolion, mae ystod y gweithgareddau addysg yn dda ond nid oes digon o leoedd ar gael mewn gweithgareddau i ganiatáu i bob carcharor gael cyfleoedd gwaith ac addysg. The young people’s unit offers an increasingly interesting and relevant range of courses. Young people spend more time than before out of their cells in purposeful activity. In the adult prison, the range of education activities is good but there are too few activity places to enable all prisoners to get employment and education opportunities.

5 Mae amrywiaeth eang iawn yn nifer yr oriau o addysg a gaiff plant a phobl ifanc sydd mewn cysylltiad â thimau troseddau ieuenctid sy’n mynd i ddarpariaeth addysgol amgen yn hytrach nag ysgolion prif ffrwd. There is a very wide range in the number of hours of education that are received by children and young people in contact with youth offending teams who attend alternative educational provision rather than mainstream schools.

6 Arweinyddiaeth a rheolaeth Leadership and management
Yn yr uned i bobl ifanc, mae’r rheolwyr yn cydweithio’n dda ag ysgolion i alluogi pobl ifanc i barhau â’u hastudiaethau pan fyddant yn y ddalfa. Yn y carchar i oedolion, mae arweinyddiaeth a rheolaeth y ddarpariaeth addysgol yn ddigonol. In the young people’s unit, managers liaise well with schools to enable young people to continue their studies while they are in custody. In the adult prison, leadership and management of educational provision are satisfactory.

7 Overall, management boards have improved their leadership and management of youth offending services. Local authorities still do not monitor well enough the standards and wellbeing of these children and young people. At ei gilydd, mae byrddau rheoli wedi gwella’u harweinyddiaeth a’u rheolaeth ar wasanaethau troseddau ieuenctid. Nid yw awdurdodau lleol yn monitro safonau a lles y plant a phobl ifanc hyn yn ddigon da o hyd.


Download ppt "Adroddiad Blynyddol 2010-2011 (Dysgu yn y system gyfiawnder) Annual Report 2010-2011 (Learning in the justice system)"

Similar presentations


Ads by Google