Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
1
Sally Holland yw Comisiynydd Plant Cymru
Sally Holland yw Comisiynydd Plant Cymru. Hi yw’r trydydd comisiynydd plant i Gymru, ac mae hi wedi bod yn y swydd ers 2015.
2
Dyma Sally Comisiynydd Plant Cymru Sally Holland
Dyma Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru. Sally yw’r trydydd comisiynydd plant i Gymru. Chwaraewch y fideo i glywed Sally’n esbonio ei rôl fel Comisiynydd Plant. Sally Holland
3
Gwaith Sally yw: Gwrando ar beth sydd gennych chi i’w ddweud
Mae pum rhan bwysig i waith Sally. Y rhan gyntaf yw gwrando ar farn plant yng Nghymru a chlywed am eu profiadau.
4
Gwaith Sally yw: Codi llais dros blant yng Nghymru
Yr ail ran yw codi llais dros blant fel bod oedolion yn ystyried plant wrth wneud penderfyniadau.
5
Gwaith Sally yw: Dweud wrthych chi am eich hawliau.
Mae Sally’n dweud wrth blant a phobl ifanc am eu hawliau mewn llawer o wahanol ffyrdd. Un ffordd bwysig yw’r cynllun Llysgenhadon Gwych. Mae angen i’r Llysgenhadon Gwych wneud yn siŵr bod plant yn eu hysgol yn gwybod bod ganddyn nhw hawliau a beth yw’r hawliau yna.
6
Gwaith Sally yw: Eich helpu i gael eich hawliau
Mae Sally a’r tîm yn gweithio i wneud yn siŵr bod holl blant Cymru yn cael eu hawliau.
7
Gwaith Sally yw: Siarad â chi os bydd gennych chi broblem
Mae rhif ffôn y gallwch chi ei ddefnyddio am ddim i siarad â thîm Sally. Byddwn ni’n dangos y rhif ar ddiwedd y cyflwyniad ac mae hefyd ar y posteri Hawliau Plant yn yr ysgol.
8
Maen nhw wedi cael eu nodi yn y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn
Beth yw hawliau plant? Dyma’r pethau rydych chi eu hangen i fod yn hapus, yn iach ac yn ddiogel. Maen nhw wedi cael eu nodi yn y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn Hawliau plant yw’r pethau dylai pob plentyn eu profi i fod yn hapus, yn iach ac yn ddiogel. Mae hawliau gan bob plentyn o dan 18 oed.
9
Nawr rydyn ni’n mynd i wylio ffilm sy’n esbonio hawliau plant a’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn.
10
Mae gwaith y Llysgenhadon Gwych yn cynnwys tri pheth:
Dweud wrthych chi am eich hawliau Dweud wrthych chi am Sally a’i gwaith Cyflawni tasg arbennig bob tymor Y Llysgenhadon Gwych yn yr ysgol hon yw… [Mae hwn yn gyfle da i ddweud wrth bawb beth yw enwau’r Llysgenhadon yn eich ysgol chi] Dewch i siarad â ni os hoffech chi wybod mwy am eich hawliau neu os hoffech chi ein helpu ni gyda’n gwaith. [Mae hwn yn gyfle da i gynnwys plant eraill mewn unrhyw weithgareddau cyfredol]
11
ADD IA VIDEO LINK Mae Sally’n gallu eich helpu hefyd os byddwch chi’n meddwl eich bod chi’n cael eich trin yn annheg. Bydd y fideo yma’n esbonio sut mae swyddfa Sally’n gwneud hyn. Gallwch chi ffonio swyddfa Sally os byddwch chi’n poeni eich bod chi ddim yn cael eich hawliau. Gall unrhyw oedolyn sy’n pryderu am blentyn ffonio swyddfa Sally ar yr un rhif.
12
Comisiynydd Plant Cymru Children’s Commissioner for Wales Tŷ Ystumllwynarth Oystermouth House Ffordd Ffenics Phoenix Way Llansamlet, Abertawe Swansea, SA7 9FS Llinell Ymchwiliadau a Chyngor Investigations and Advice Line Rhowch wybod i ni os ydych chi wedi rhannu’r cyflwyniad yma trwy drydar ar @complantcymru a defnyddio’r hashnod #AwrHawliau Hefyd gallwch chi gysylltu â’r Comisiynydd Plant mewn unrhyw un o’r ffyrdd yma.
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.