Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Ynglŷn â'r cyflwyniad hwn;

Similar presentations


Presentation on theme: "Ynglŷn â'r cyflwyniad hwn;"— Presentation transcript:

1 Ynglŷn â'r cyflwyniad hwn;
Defnyddiwch y PowerPoint hon i gyflwyno gwasanaeth ynglŷn ag Wythnos Senedd y DU neu i gyflwyno gweithgareddau Wythnos Senedd y DU i’ch dosbarth. Bydd y cyflwyniad yma yn helpu eich disgyblion i ddeall beth yw Wythnos Senedd y DU ac yn eu hysbrydoli nhw i wrando, i siarad ag i gymryd rhan! Mae Wythnos Senedd y DU yn cymryd lle rhwng yr 2il a’r 8fed o Dachwedd 2019. Bydd y cyflwyniad yn cymryd tua munud

2 Wythnos Senedd y DU Mae Wythnos Senedd y DU yn gyfnod arbennig pam mae pobl o ledled y DU yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hwylus i ddysgu am weithredoedd y Senedd, i ofyn cwestiynau, i feddwl ac i drafod unrhyw faterion sy’n bwysig iddyn nhw! Mae eich ysgol chi, yn hyd a miloedd o ysgolion, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, grwpiau Sgowtiaid a chymunedau ffydd yn rhan o sgwrs ledled y DU ynglŷn â’n gwlad a Senedd y DU.

3 Senedd y DU Mae Senedd y DU yn cynnwys dau dŷ; Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Gyda’i gilydd maent yn cyfuno ymwybyddiaeth lleol Aelodau Seneddol, wedi’i hethol i Dŷ Cyffredin, gyda phrofiad ac arbenigedd Aelodau’r Tŷ Arglwyddi. Prif swyddogaeth Senedd y DU yw i… Greu ac i newid deddfau (deddfwriaeth) Wirio ac i herio gwaith y Llywodraeth (craffu) Ddadlau materion pwysig sy’n effeithio pawb (cynrychiolaeth)

4 Dadleuon yn Senedd y DU Pob wythnos, mae Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yn trafod amrywiaeth o faterion pwysig sy’n effeithio pawb. Mae’r trafodaethau ffurfiol yma yn gyfle i’r aelodau rannu eu syniadau a’u barn ar bwnc penodol. Mae’n gyfle i sicrhau ymwybyddiaeth ynglŷn â materion pwysig, i wrando ar wahanol safbwyntiau ac i berswadio pobl i feddwl yn wahanol! Mae’r dadleuon yn Senedd y DU yn ffocysu ar faterion lleol, y DU yn gyffredinol neu ar faterion rhyngwladol, sydd ag effaith fyd-eang. Os yw eich ysgol yn cynllunio trafodaeth yn ystod Wythnos Senedd y DU… Yn union fel aelodau’r Tŷ Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi, yn ystod Wythnos Senedd y DU efallai y gwnewch chi ymuno mewn dadl. Bydd yn rhaid i chi feddwl am y materion sy’n bwysig i chi, ac i gyfiawnhau eich safbwynt cyn gwrando ar farn eraill sy’n gwrthwynebu’r hyn yr ydych chi’n ei gredu. Meddyliwch am... Pa faterion sy’n bwysig i chi a pa bynciau yr hoffech chi ddadlau amdanynt hwy yn ystod Wythnos Senedd y DU. (Yr amgylchedd, llygredd, trosedd, addysg neu rywbeth arall sy’n berthnasol i chi yn eich ardal leol)

5 Cwestiynau yn Senedd y DU
Mae diwrnod yn y Tŷ Cyffredin ac yn Nhŷ’r Arglwyddi yn cychwyn gyda chwestiynau. Mae hwn yn bwysig gan ei fod yn gyfle i Aelodau Seneddol herio’r Llywodraeth ar faterion arbennig. Gallent hefyd ofyn am fwy o wybodaeth neu i bwyso’r Llywodraeth i weithredu. Mae gofyn cwestiynau yn sgil bwysig i bawb ei feithrin. Mae’n eich galluogi chi i gasglu fwy o wybodaeth am fater arbennig, neu os ydych yn teimlo bod rhywbeth yn annheg mae’n gyfle i herio’r sefyllfa ac i wneud gwahaniaeth positif. Cofiwch fod gwrando yn rhan hanfodol o ofyn cwestiynau hefyd! Mae eich syniadau yn werthfawr ond hefyd mae gwrando ar yr ateb a pharchu syniadau pobl eraill yn bwysig hefyd. Os yw eich ysgol yn cynllunio sesiwn cwestiynau yn ystod Senedd y DU… Gewch chi gyfle i ofyn cwestiynau, i herio ac i ddylanwadu'r bobl sy’n eich cynrychioli chi. Efallai y byddech yn cwestiynu eich prifathro neu’r cyngor ysgol ynglŷn â’ch ysgol, neu efallai y byddech yn cwestiynu eich Aelod Seneddol lleol. Pa gwestiynau y hoffwch ei ofyn iddynt hwy?

6 Pleidleisio Mae pleidleisio yn un o’r ffyrdd mwyaf syml i bobl ddatgan eu barn ac i’w llais gael ei glywed yn Senedd y DU. Yn ystod etholiad cyffredinol mae pobl y DU yn penderfynu, drwy bleidleisio pwy fydd yn cynrychioli eu hardal leol (yr etholaeth) yn y Tŷ’r Cyffredin. Y person gyda’r nifer fwyaf o bleidleisiau sy’n cael eu hethol fel Aelod Seneddol i’r ardal ac yn cynrychioli’r ardal yn y Tŷ’r Cyffredin. Mae Aelodau Seneddol yn cynrychioli pawb yn yr etholaeth- hyn yn oed y rheini na wnaeth bleidleisio drostynt! Oeddech chi’n ymwybodol bod y DU yn wlad ddemocrataidd- mae’r gair ddemocratiaeth yn dod o’r gair Groegaidd ‘demos’ sy’n cyfieithu i ‘pobl’ a ‘kratos’ sy’n golygu ‘rheoli’. Cofrestru i Bleidleisio Yn Lloegr, Cymru ac yng Ngogledd Iwerddon gallech gofrestru i bleidleisio o 17 mlwydd oed (16 mewn rhai achosion). Ac yn medru pleidleisio unwaith yr ydych yn 18. Yn Yr Alban gallech gofrestru i bleidleisio os yr ydych yn 15 mlwydd oed (14 mewn rhai achosion). Gallech bleidleisio mewn etholiadau lleol ac etholiadau i Senedd Yr Alban yn 16 ac mewn etholiadau cyffredinol y DU yn 18. Gallech gofrestru i bleidleisio drwy ddilyn y linc yma- Os ydych ysgol chi yn cynllunio cynnal etholiad yn ystod Wythnos Seneddol y DU… Yn ystod Wythnos Seneddol y DU efallai y cewch chi'r cyfle i bleidleisio. Mae’n ffordd o wneud penderfyniadau fel grŵp. Ydych chi wedi pleidleisio yn y gorffennol? Sut wnaethoch chi bleidleisio?

7 Yn ystod Wythnos Senedd y DU, byddwch yn hyderus a siaradwch am y materion sy’n bwysig i chi!
Cofiwch y gallech chi Trafod, Siarad a Cymryd rhan!

8 Mae’n cychwyn gyda chi! Efallai y byddwch chi neu un o’ch ffrindiau yn hoffi gweithredu a gwneud gwahaniaeth ar fater sy’n bwysig i chi! Efallai bod rhywun yn y gwasanaeth yma yn Aelod Seneddol y dyfodol, neu’r Prif Weinidog hyd yn oed!

9


Download ppt "Ynglŷn â'r cyflwyniad hwn;"

Similar presentations


Ads by Google