Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Gwers 3 Cofnodi gwybodaeth.

Similar presentations


Presentation on theme: "Gwers 3 Cofnodi gwybodaeth."— Presentation transcript:

1 Gwers 3 Cofnodi gwybodaeth

2 Atgoffa Weithiau gelwir ymchwil ________________ yn ymchwil pen desg.
Ymchwil ________________ yw casgliad a chyfuniad o wybodaeth a gyhoeddwyd yn barod. Gellir cynnal ymchwil ________________ gan ddefnyddio ystod o ddulliau; mae’r rhain yn cynnwys: _____________ Secondary Any from : Newspapers, Websites, Film or documentary, Reports, Cyfnodolyns, Textbooks, magazines

3 Deilliannau dysgu heddiw
Dysgu sut i gyfeirio’n effeithiol. Ystyried y defnydd o ddyddiaduron i gofnodi gwybodaeth.

4 Sut i ddefnyddio data eilaidd - heb lên-ladrata!
Beth yw llên-ladrad? Pan ydych yn cymryd gwaith rhywun arall ac yn ei gyflwyno fel eich gwaith chi eich hun. Sut allwch chi ei osgoi? CEWCH ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau eraill OND mae’n RHAID i chi roi cyfeiriad at y ffynhonnell.

5 Llyfryddiaeth a rhestr gyfeiriadau
Yn cynnwys manylion am yr holl adnoddau a ddefnyddir i gynhyrchu aseiniad. Rhestr gyfeiriadau- Rhestr o ffynonellau a nodwyd yn uniongyrchol yn yr aseiniad – wedi’u dyfynnu neu eu haralleirio.

6 System gyfeirio Harvard
Cyfeiriadau yn y testun Mae cyfeiriadau yn y testun yn ffurfio rhan o brif gorff yr aseiniad. Yn rhoi adroddiad byr am y ffynhonnell a ddefnyddir ac yn cynnwys yr awdur, dyddiad a rhif y dudalen (os yn briodol). Enghreifftiau - Mae astudiaeth ddiweddar yn datgelu gwybodaeth newydd am dlodi plant yn yr Alban (Weir 2007)………. Awgryma Fletcher et al. (2006: 88) bod newid yn yr hinsawdd fyd-eang yn y ganrif hon wedi achosi gwerth biliynau o ddoleri o ddifrod. Myfyrwyr i gwblhau’r tabl ar daflen dasg

7 System gyfeirio Harvard
Rhestr gyfeiriadau Rhestr o gyfeiriadau a gaiff ei chynnwys ar ddiwedd eich aseiniad. Mae’r rhestr o gyfeiriadau yn rhoi manylion llawn o’ch ffynhonnell ac yn rhoi digon o wybodaeth i ddarllenwyr ddod o hyd iddi os y dymunant. Llyfr Awdur, A. (blwyddyn cyhoeddi) Teitl llyfr, argraffiad Nfed. Man cyhoeddi: Cyhoeddwr Gwefan Awdur, A. (blwyddyn cyhoeddi/diweddariad) Gwefan neu Deitl yr Adnodd[ar-lein]. Ar gael o <URL> [Diwrnod Mis Blwyddyn] Cyfnodolyn Awdur, A. , Awdur, B. (blwyddyn cyhoeddi) ‘Teitl Erthygl’. Teitl y Cyfnodolyn rhif y gyfrol (rhifyn), rhif tudalen-rhif tudalen Myfyrwyr i gwblhau’r tabl ar daflen waith.

8 Gwneud bywyd yn hawdd!! Gallech bob amser ddefnyddio offeryn cyfeirio ar y we i’ch helpu.

9 A oes angen i chi gyfeirio?
Weithiau, nid yw'n glir os oes angen i chi gyfeirio; dilynwch y 4 cwestiwn hwn a dylech gael yr ateb: A yw wedi cael ei gyflwyno yn ffurfiol i'r parth cyhoeddus mewn rhyw ffordd? A yw wedi cael ei gyflwyno yn gyhoeddus ar ffurf ddiriaethol? (Megis deunydd printiedig, y Rhyngrwyd, sgwrs/darlith gyhoeddus, perfformiad cyhoeddus?) A oes rhywun, neu sefydliad, yn berchen arno?   A yw'r wybodaeth a gyflwynir yn y ffynhonnell dan sylw y tu allan i gylch 'gwybodaeth gyffredin'? Os ydych yn ateb ‘Ydyw’ i’r 4 – yna OES, mae angen i chi roi cyfeiriad. Ffynhonnell:

10 Cofnodi gwybodaeth ar ffurf dyddiadur
Defnyddiwyd dyddiaduron dros gyfnod maith i gofnodi data mewn meysydd fel maeth. Dyma enghraifft seiliedig ar bapur o ddyddiadur a ddefnyddir i reoli’r bwyd a gaiff ei fwyta gan unigolyn. Ffynhonnell: dyddiadur bwyd -

11 Dyddiadur electronig Mae nifer o ddyddiaduron ar-lein y gellir eu defnyddio ar gyfer ymchwil. Enghreifftiau: Myfitnessplan.com Penzu.com Gellir ei sefydlu i gofnodi data penodol neu fel system dyddiadur ansoddol.

12 Casglu mewn dyddiadur Manteision Anfanteision Cyfredol
Hawdd i’w lenwi – darnau bach o wybodaeth. Gellir casglu data meintiol neu ansoddol. Anfanteision Gellir anghofio ei lenwi ar y pryd, ac efallai na fydd data a roddir i mewn yn ddiweddarach mor gywir. Gall gymryd llawer o amser i gasglu’r data.

13 Gwirio Cynnydd Gweithgareddau Dosbarth
Cyfeirio yn y testun Rhestr gyfeiriadau Hypergysylltiadau i wefan isod ar gyfer gweithgaredd dosbarth ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol neu daflunydd Gweithgaredd cyfeirio yn y testun Rhestr gyfeiriadau

14 Gwirio Cynnydd A oes angen i chi gyfeirio?
Rydych yn eistedd ar fws ac mae dau athro o’ch coleg yn eistedd yn y sedd o'ch blaen. Maent yn dechrau trafod pwnc o ddiddordeb i chi – oherwydd mae rhaid i chi ysgrifennu aseiniad arno - a gallwch glywed eu sgwrs yn eithaf clir. Rydych yn cofio beth maent yn ei ddweud, yn meddwl amdano drosoch eich hun, ac yn ddiweddarach yn defnyddio eu syniadau yn eich aseiniad. Enghraifft1- Na, nid oes angen i chi roi cyfeiriad oherwydd nad yw wedi cael ei gyflwyno mewn ffordd ffurfiol i’r cyhoedd. Ffynhonnell:

15 Gwirio Cynnydd A oes angen i chi gyfeirio?
Tua wythnos yn ôl, yr oeddech yn deithiwr mewn car ac roeddech yn gwrando ar y radio. Gwnaeth y siaradwr ar y rhaglen - ni wnaethoch nodi ei enw - rai sylwadau diddorol a gwreiddiol ar theori o ddiddordeb i chi. Buoch yn meddwl am y syniadau hyn ac yna yn eu crynhoi mewn aseiniad. Oes, mae’n rhaid i chi wneud oherwydd fod yr wybodaeth wedi ei chyflwyno i’r cyhoedd mewn modd ffurfiol ac ar ffurf ddiriaethol. Ffynhonnell


Download ppt "Gwers 3 Cofnodi gwybodaeth."

Similar presentations


Ads by Google