Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Chwarae Teg? Defnyddio'r Gemau Olympaidd i edrych ar anghydraddoldeb.

Similar presentations


Presentation on theme: "Chwarae Teg? Defnyddio'r Gemau Olympaidd i edrych ar anghydraddoldeb."— Presentation transcript:

1 Chwarae Teg? Defnyddio'r Gemau Olympaidd i edrych ar anghydraddoldeb

2 CYFLWYNIAD Gellid defnyddio’r sleidiau hyn yn gyflwyniad i’r adnoddau penodol i bwnc. Gellid gwneud hyn yn ystod amser dosbarth neu ddosbarth cofrestru, neu mewn gwasanaeth.

3 BETH RYDYCH CHI'N EI WYBOD AM Y GEMAU OLYMPAIDD?
Ble mae Gemau Olympaidd yr Haf yn digwydd yn 2016? Beijing Rio de Janeiro Sydney Cliciwch ymlaen ar y sleid i ddatgelu’r ateb cywir: Rio de Janeiro.

4 BETH RYDYCH CHI'N EI WYBOD AM Y GEMAU OLYMPAIDD?
Sawl gwlad fydd yn cymryd rhan yng Ngemau Olympaidd Rio 2016? 206 184 93 Cliciwch ymlaen ar y sleid i ddatgelu’r ateb cywir: 206.

5 BETH RYDYCH CHI'N EI WYBOD AM Y GEMAU OLYMPAIDD?
Faint o athletwyr fydd yn cymryd rhan yng Ngemau Olympaidd Rio 2016? 13,400 10,500 9,700 Cliciwch ymlaen ar y sleid i ddatgelu’r ateb cywir: 10,500.

6 BETH RYDYCH CHI'N EI WYBOD AM Y GEMAU OLYMPAIDD?
Pa un o'r campau canlynol na fydd yn rhan o Gemau Olympaidd Rio 2016? Golff Pêl-foli'r traeth Criced Cliciwch ymlaen ar y sleid i ddatgelu’r ateb cywir: Criced.

7 BETH RYDYCH CHI'N EI WYBOD AM Y GEMAU OLYMPAIDD?
Cymerodd 204 o wledydd ran yng Ngemau Olympaidd Llundain Sawl gwlad enillodd o leiaf un fedal? 156 112 85 Cliciwch ymlaen ar y sleid i ddatgelu’r ateb cywir: 85.

8 BETH RYDYCH CHI'N EI WYBOD AM Y GEMAU OLYMPAIDD?
Pa wlad ddaeth ar frig y tabl medalau yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012? Y DU UDA China Cliciwch ymlaen ar y sleid i ddatgelu’r ateb cywir: USA.

9 BETH RYDYCH CHI'N EI WYBOD AM Y GEMAU OLYMPAIDD?
Faint o athletwyr o'r DU fu'n cystadlu yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012? 556 423 279 Cliciwch ymlaen ar y sleid i ddatgelu’r ateb cywir: 556.

10 BETH RYDYCH CHI'N EI WYBOD AM Y GEMAU OLYMPAIDD?
Faint o athletwyr o Sierra Leone fu'n cystadlu yng Ngemau Olympaidd Llundain ? 41 23 2 Cliciwch ymlaen ar y sleid i ddatgelu’r ateb cywir: 2.

11 BETH SY'N BWYSIG? Cyfeillgarwch Rhagoriaeth Penderfyniad Parch
Esboniwch fod y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn seiliedig ar rai gwerthoedd craidd (tri o werthoedd Olympaidd a pedwar o werthoedd Paralympaidd). Gofynnwch i’r dysgwyr a ydyn nhw’n gwybod beth allai’r gwerthoedd hyn fod. Cliciwch ymlaen ar y sleid i ddatgelu’r saith o werthoedd. Gofynnwch i’r dysgwyr feddwl am bobl yn eu hysgol, eu cymuned neu’r byd ehangach sydd wedi dangos y gwerthoedd hyn. Ffynhonnell y ddelwedd: Y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol - Nodyn: Mae hyn at ddefnydd golygyddol yn unig ac nid yw’r adnodd hwn yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â’r Pwyllgor Rhyngwladol Olympaidd . Ysbrydoliaeth Dewrder Cydraddoldeb

12 PETHAU TEBYG A GWAHANOL
Eglurwch y bydd 206 gwlad o bedwar ban y byd yn cymryd rhan yng Ngemau Olympaidd Rio 2016. Dywedwch mai dyma rai o faneri’r gwledydd a fydd yn cymryd rhan. Gofynnwch i’r dysgwyr a ydyn nhw’n gallu adnabod unrhyw rai. Yna gofynnwch pa bethau sy’n debyg ac yn wahanol rhwng y gwledydd hyn a’r bobl sy’n byw ynddyn nhw, yn eu barn nhw. Trafodwch syniadau’r dysgwyr fel dosbarth cyfan. Mae’r cwestiynau posibl i’w trafod yn cynnwys: O ble mae eich syniadau am y pethau tebyg a gwahanol hyn wedi dod? Er enghraifft, efallai bod y syniadau’n seiliedig ar ddysgu blaenorol yn yr ysgol, ymweliadau â’r gwledydd neu’r cyfryngau. Ydych chi wedi gwneud unrhyw dybiaethau am wledydd eraill? Ar ba dystiolaeth rydych chi’n seilio eich syniadau a’ch tybiaethau? O’r chwith i’r dde Y rhes uchaf: Ethiopia, India, Periw, Vietnam, Y DU, Brasil Yr ail res: Ghana, China, Norwy, Pakistan, Ukrain, Nigeria Y drydedd res: México, Yr Eidal, De Affrica, Iran, Malawi Y bedwaredd res: Ffederasiwn Rwsia, Yr Unol Daleithiau, Tunisia, Chile, Bulgaria Y bumed res: Nepal, Mongolia, Awstralia, Y Pilipinas/Philipines, Bolivia Y chweched res: Yemen, Rwanda, Jamaica, Yr Almaen, Japan

13 BETH YW ANGHYDRADDOLDEB?
Gallwn edrych ar anghydraddoldeb fel y gwahaniaeth rhwng y pethau sydd gan rhai grwpiau o bobl o'u cymharu â phobl eraill. Mae ychydig fel edrych ar ba mor fawr yw'r darn o deisen sydd gan un person o'i gymharu â pherson arall. Cydnabyddiaeth y llun: Liz Newbon/Oxfam

14 Dywedwch fod Oxfam wedi cyhoeddi’r ystadegyn hwn ym mis Ionawr 2016, mae'r 62 person cyfoethocaf yn y byd yn berchen ar yr un cyfoeth â hanner tlotaf poblogaeth y byd (3.6 biliwn o bobl). Nawr mae gan y 1% cyfoethocaf fwy o gyfoeth na gweddill y byd gyda’i gilydd. Dychmygwch fod 100 o bobl yn y byd yn unig. Felly byddai gan un person fwy o gyfoeth na’r 99 arall gyda’i gilydd. Defnyddiwch gymhariaeth y deisen, lle byddai gan un person fwy na hanner y deisen, a’r gweddill yn cael ei rannu rhwng 99 person. Trafodwch ymateb y dysgwyr i’r ystadegau hyn. Ydyn nhw’n credu bod y ffordd y mae cyfoeth wedi cael ei ddosbarthu’n deg? Ffynhonnell y data: An economy for the 1%: How privilege and power in the economy drive extreme inequality and how this can be stopped (Deborah Hardoon, Ricardo Fuentes-Nieva a Sophia Ayele, Oxfam International, 2016) policy-practice.oxfam.org.uk/publications/an-economy-for-the-1-how-privilege-and-power-in-the-economy-drive-extreme-inequ Working for the few: Political capture and economic inequality (Ricardo Fuentes-Nieva a Nick Galasso, Oxfam International, 2014) policy-practice.oxfam.org.uk/publications/working-for-the-few-political-capture-and-economic-inequality

15 Trafodwch y gosodiad: Dylai pawb yn ein cymdeithas fod yn gydradd
Trafodwch y gosodiad: Dylai pawb yn ein cymdeithas fod yn gydradd. Tynnwch sylw at y pwynt y bydd peth anghydraddoldeb bob amser ac na ddylem ddisgwyl i bawb fod yr un fath. Gofynnwch i'r dysgwyr a ydynt o'r farn y byddai hi'n deg petai pawb yn ennill yr un faint o arian. Er enghraifft, efallai fod rhai pobl yn haeddu mwy o arian am fod â mwy o gyfrifoldeb yn eu gwaith. Bydd anghenion gwahanol bobl yn amrywio hefyd (er enghraifft, bydd gan blant anghenion gwahanol i oedolion), felly fyddai hi ddim yn deg petai gan bawb yn union yr un fath. Eglurwch mai nod cydraddoldeb yw gwneud i bethau fod yn deg drwy roi i bawb y pethau sydd eu hangen arnynt i fwynhau bywydau da, iach. Ond nid yw hyn yn gweithio ond pan fydd pawb yn dechrau o'r un man ac ag angen yr un pethau. Mae tegwch yn golygu ceisio deall beth sydd ei angen ar wahanol bobl er mwyn byw bywydau da, iach. Er enghraifft, yn yr ysgol, mae plant iau yn cael amser chwarae ychwanegol neu'n cael mynd i ginio'n gynt, tra gall fod gan blant hŷn fwy o gyfrifoldebau o gwmpas yr ysgol. Gofynnwch i ddysgwyr feddwl am enghreifftiau eraill. Gwybodaeth am y ddelwedd: Noder nad yw ffynhonnell y ddelwedd yn hysbys er gwaethaf ymdrechion i ddod o hyd iddi.

16 ANGHYDRADDOLDEB RHWNG GWLEDYDD
Mae anghydraddoldeb rhwng gwledydd yn y byd. Mae hyn yn golygu nad yw pethau wedi'u rhannu'n deg rhwng gwledydd. Er enghraifft, mae rhai gwledydd yn gyfoethog ac mae eraill yn hynod o dlawd.

17 INCWM GWLEDYDD Mae Banc y Byd yn dosbarthu pob gwlad naill ai fel:
gwlad incwm isel (GII) gwlad incwm canolig is (GICI) gwlad incwm canolig uwch (GICU) gwlad incwm uchel (GIU) Ym mha grŵp mae pob un o'r gwledydd hyn, tybed? Eglurwch fod gwahaniaethau enfawr rhwng incwm gwledydd. Mae sefydliad o'r enw Banc y Byd yn rhoi sylw manwl i hyn. Maen nhw'n benthyg arian i wledydd gwahanol, ac yn cyfrifo "incwm" gwledydd. Maen nhw'n gweithio hyn allan fel cyfartaledd y person er mwyn gallu cymharu gwledydd sydd â mwy neu lai o bobl. I'w gyfrifo maen nhw'n adio cyfanswm yr arian sy'n cael ei wneud yn y wlad honno dros y flwyddyn. Yna maen nhw'n rhannu hyn â nifer y bobl yn y wlad. Maen nhw'n gwneud y cyfrifiad hwn mewn doleri fel y gallant gymharu pob gwlad yn deg. Yna mae Banc y Byd yn didoli'r gwledydd i grwpiau gwahanol yn ôl eu hincwm. Gofynnwch i'r dysgwyr ym mha grŵp incwm mae pob un o'r gwledydd a ddangosir. Trafodwch syniadau'r dysgwyr a'u rhesymau amdanynt. Cliciwch ymlaen ar y sleid i ddatgelu'r atebion cywir a thrafodwch ymatebion y dysgwyr. Ydy unrhyw rai o'r atebion yn eu synnu? Pa rai a pham? Brasil Y DU Nepal Nigeria GICU GIU GII GICI

18 ANGHYDRADDOLDEB O FEWN GWLEDYDD
Hefyd mae anghydraddoldeb o fewn gwledydd. Mae hyn yn golygu nad yw pethau'n cael eu rhannu'n deg o fewn yr un wlad. Er enghraifft, efallai fod gan rhai pobl fwy o arian nag eraill. Eglurwch fod anghydraddoldeb hefyd yn aml o fewn gwledydd, lle mae gan rai pobl ychydig yn unig ac mae gan ychydig o bobl lawer iawn. Gallwn roi sgôr tegwch i wlad yn ôl pa mor gydradd neu anghydradd ydy hi.

19 Eglurwch fod Brasil yn wlad anghydradd iawn lle mae gan rai pobl lawer mwy o gyfoeth a llawer mwy o gyfleoedd bywyd nag eraill. Dywedwch fod y ddelwedd hon wedi'i thynnu yn ninas São Paulo yn Brasil. Ar un ochr mae favela Paraisópolis, ar yr ochr draw mae ardal gyfoethog Morumbi. Efallai y bydd angen ichi egluro mai tref shanti yw favela, mae llawer o favelas mewn dinasoedd a threfi ledled Brasil. Gofynnwch i'r dysgwyr sut mae'r ddelwedd hon yn gwneud iddyn nhw deimlo. Pa bethau allai fod yn wahanol rhwng bywyd ar ddwy ochr wahanol y ffotograff, ym marn y dysgwyr? Gwybodaeth am y ddelwedd: São Paulo, Brazil Mae favela Paraisópolis (tref sianti Dinas Paradwys) yn ffinio ag ardal gyfoethog Morumbi. Cydnabyddiaeth y ffotograff: Tuca Vieira

20 YSTYRIED ANGHYDRADDOLDEB
Nid mater o sut caiff arian ei rannu rhwng ac o fewn gwledydd yn unig yw anghydraddoldeb. Gall fod anghydraddoldeb hefyd yn y mathau o gyfleoedd sydd gan bobl yn eu bywyd. Eglurwch nad yw anghydraddoldeb yn golygu dim ond faint o arian sy'n cael ei rannu rhwng neu o fewn gwledydd. Mae anghydraddoldeb yn effeithio ar y cyfleoedd sydd gan bobl hefyd. Gofynnwch i'r dysgwyr feddwl am ffyrdd eraill lle gallai bywydau pobl fod yn anghydradd, fel mynediad i ddŵr, addysg a gofal iechyd. Clocwedd o’r llun uchaf ar y chwith Mynediad i ddŵr Gwybodaeth am y ddelwedd: Bachgen yn nôl dŵr o ffynnon yn Dargalar, Azerbaijan. Cydnabyddiaeth y ddelwedd: David Levene/Oxfam Mynediad i chwarae Gwybodaeth am y ddelwedd: Mae Lucas yn byw yn Macuscani, tref fach yn uchel ym mynyddoedd Periw. Cydnabyddiaeth y ddelwedd: Annie Bungeroth/Oxfam Mynediad i addysg Gwybodaeth am y ddelwedd: Myfyrwyr mewn ysgol i ferched ym mhentref Sanjar Bhatti, ardal Kambar Shahdad Kot, Rhanbarth Sindh, Pakistan. O’r chwith i’r dde: Gori Bhatt, Amna Khatoon Brohi aShazzia Bhatti. Cydnabyddiaeth y ddelwedd: Irina Werning/Oxfam Mynediad i ofal iechyd Gwybodaeth am y ddelwedd: Dr Amen Yagoub yn edrych ar Barka, 6 oed yng Nghlinig Iechyd Maddodha yn Sayoun, Yemen. Cydnabyddiaeth y ddelwedd: Abbie Trayler-Smith/Oxfam Mynediad i dechnoleg Gwybodaeth am y ddelwedd: Noorkishili Naing’isa, arweinydd menywod, yn derbyn galwad ar ei ffôn symudol wrth bori ei gwartheg yn Mairowa Chini, Ololosokwan, Ngorongoro, Tanzania. Cydnabyddiaeth y ddelwedd: Geoff Sayer/Oxfam

21 MEDALAU OLYMPAIDD Dywedwch y gall fod anghydraddoldebau ym maes chwaraeon hefyd. Er enghraifft mae gan rai athletwyr fynediad I gyfleusterau a hyfforddiant gwell nag eraill. Esboniwch fod y map hwn o’r byd yn dangos y medalau a enillodd y gwledydd a gymerodd ran yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012. Mae aur yn cynrychioli’r gwledydd a enillodd o leiaf un fedal aur. Mae arian yn cynrychioli’r gwledydd a enillodd o leiaf un fedal arian. Mae efydd yn cynrychioli’r gwledydd a enillodd o leiaf un fedal efydd. Mae glas yn cynrychioli’r gwledydd nad enillon nhw unrhyw fedalau. Mae coch yn cynrychioli’r gwledydd na chymeron nhw ran yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012. Nodyn: Lluniwyd y map hwn ar 9 Awst 2012 ac efallai nad yw’n cynrychioli’r canlyniadau terfynol. Cydnabyddiaeth: Spacejam2: commons.wikimedia.org/wiki/File:2012_Summer_Olympics_medal_map.png Trwyddedwyd o dan drwydded: Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported license: creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0/deed.en

22 CYMRYD CAMAU GWEITHREDU
Eglurwch fod Oxfam, ynghyd â llawer o gyrff a phobl eraill o gwmpas y byd, yn gweithredu i leihau anghydraddoldeb. Mae Oxfam yn rhoi pwysau ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a busnesau mawr i geisio gwneud i bethau fod yn gyfartal ac i wneud i'r byd fod yn lle tecach.

23 BETH FYDDAI'N HELPU I WNEUD I'N BYD FOD YN DECACH?
Clowch drwy drafod beth mae dysgwyr yn meddwl y dylid ei wneud er mwyn i'n byd fod yn lle tecach. Gwybodaeth am y ddelwedd: Ymunodd grŵp o 28 myfyriwr ysgol o bob rhan o Brydain ag Oxfam ar ymweliad â 10 Stryd Downing yn Roedden nhw'n cynrychioli'r 1000 o fyfyrwyr a gymerodd ran yng nghynadleddau dinasyddiaeth fyd-eang Oxfam yn ystod tymor yr hydref ac roedden nhw'n cario llyfr o negeseuon i'w roi i Gordon Brown, y Prif Weinidog, cyn Cynhadledd Newid HInsawdd Copenhagen. Cydnabyddiaeth y ffotograff: Crispin Hughes/Oxfam


Download ppt "Chwarae Teg? Defnyddio'r Gemau Olympaidd i edrych ar anghydraddoldeb."

Similar presentations


Ads by Google