Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Adroddiad Blynyddol 2010-2011 (Gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc) Annual Report 2010-2011 (Local authority education services.

Similar presentations


Presentation on theme: "Adroddiad Blynyddol 2010-2011 (Gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc) Annual Report 2010-2011 (Local authority education services."— Presentation transcript:

1 Adroddiad Blynyddol (Gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc) Annual Report (Local authority education services for children and young people)

2 Perfformiad a Rhagolygon Performance and Prospects
Mae perfformiad yn dda at ei gilydd mewn dau o’r saith awdurdod lleol a arolygwyd gennym. Mae’n ddigonol mewn tri ac yn anfoddhaol mewn dau awdurdod. Mae’r rhagolygon gwella yn dda mewn dau awdurdod. Mae’r rhagolygon yn ddigonol mewn tri awdurdod ac yn anfoddhaol mewn dau. Performance is good overall in two of the seven authorities we inspected. It is adequate in three and unsatisfactory in two authorities. Prospects for improvement are good in two authorities. Prospects are adequate in three authorities and unsatisfactory in two.

3 Gweithgarwch dilynol Follow-up activity
Yn gyfan gwbl, mae angen gweithgarwch dilynol ar bump awdurdod: mae angen mesurau arbennig ar un awdurdod; mae angen gwelliant sylweddol ar un awdurdod; a bydd Estyn yn cynnal ymweliadau monitro â thri awdurdod lle nad yw sawl agwedd ar eu gwaith yn well na digonol. In total, five authorities require follow-up activity: one authority requires special measures; one requires significant improvement; and Estyn will carry out monitoring visits to three authorities where many aspects of their work are no better than adequate.

4 Deilliannau Outcomes Standards are good in five authorities, adequate in one authority and unsatisfactory in another. In those authorities where standards are adequate or unsatisfactory, too many schools are in the bottom 25% of schools in Wales when compared to similar schools elsewhere. Mae safonau yn dda mewn pump awdurdod, yn ddigonol mewn un awdurdod ac yn anfoddhaol mewn un arall. Yn yr awdurdodau hynny lle mae safonau yn ddigonol neu’n anfoddhaol, mae gormod o ysgolion ymhlith y 25% isaf yng Nghymru o’u cymharu ag ysgolion tebyg mewn mannau eraill.

5 Mae gormod o awdurdodau yn methu casglu digon o ddata am ddysgwyr sy’n ennill cymwysterau priodol mewn lleoliadau gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol neu leoliadau anffurfiol eraill, nac yn dadansoddi’r data hwn yn ddigon da, i allu cymharu deilliannau â darparwyr eraill. Too many authorities do not collect or analyse well enough data on learners who gain appropriate qualifications in local authority youth service settings or other informal settings to be able to compare outcomes with other providers.

6 Mewn pedwar awdurdod, lle mae’r lles yn dda:
mae presenoldeb dysgwyr mewn ysgolion yn gwella ac mae’n cymharu’n dda â hynny mewn awdurdodau eraill sydd â chefndir cymdeithasol ac economaidd tebyg; ac mae’r plant a’r bobl ifanc hynny sy’n cymryd rhan yn cyfrannu’n dda at y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, er enghraifft drwy gynadleddau a chynghorau ieuenctid. In four authorities, where wellbeing is good: learners’ attendance in schools is improving and compares well to that in other authorities that have a similar social and economic background; and those children and young people that participate contribute well to the decisions that affect them, for example through conferences and youth councils.

7 Yn yr awdurdodau hynny lle ceir meysydd i’w gwella mewn lles dysgwyr, mae’r rhain fel arfer o ganlyniad i gyfraddau presenoldeb a gwahardd nad ydynt yn gwella’n ddigon cyflym. In those authorities where there are areas for improvement in learners’ wellbeing, these are usually because attendance and exclusion rates are not improving quickly enough.

8 Darpariaeth Provision

9 Cymorth ar gyfer gwella ysgolion Support for school improvement
Support for school improvement is good in four authorities, adequate in two and unsatisfactory in one. Many authorities have improved the rigour of their approach to schools although in a few the degree of challenge varies too much between primary and secondary sectors. Mae’r cymorth ar gyfer gwella ysgolion yn dda mewn pedwar awdurdod, yn ddigonol mewn dau ac yn anfoddhaol mewn un awdurdod. Mae llawer o awdurdodau wedi gwella trylwyredd eu hymagwedd at ysgolion er, mewn ychydig awdurdodau, mae graddfa’r her yn amrywio’n ormodol rhwng y sectorau cynradd ac uwchradd.

10 Yn gynyddol, mae swyddogion yn dadansoddi data am berfformiad yn dda ac yn ei ddefnyddio i wella’u her i ysgolion. Nid yw swyddogion yn arfarnu ansawdd yr arweinyddiaeth a’r rheolaeth mewn ysgolion yn ddigon trylwyr nac yn targedu cymorth yn gyson at ysgolion sy’n tanberfformio. Officers increasingly analyse performance data well and use it to improve their challenge to schools. Officers do not evaluate rigorously enough the quality of leadership and management in schools or target support consistently on underperforming schools.

11 Mae’n anodd barnu effaith mentrau i fynd i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella safonau cyrhaeddiad gan nad yw swyddogion yn olrhain y cynnydd a wna dysgwyr yn ddigon da. Nid yw uwch reolwyr yn gyffredinol yn monitro gwaith swyddogion yn ddigon trylwyr i sicrhau bod pob ysgol yn cael ei herio’n gyson. It is difficult to judge the impact of initiatives to address national priorities on improving standards of attainment because officers do not track the progress learners make well enough. Senior managers do not generally monitor the work of officers rigorously enough to make sure all schools are challenged consistently.

12 Cymorth ar gyfer ADY a chynhwysiant addysgol Support for ALN and educational inclusion
One of the seven ALN services inspected is excellent and two are good. The remaining four services have important areas for improvement. Nearly all the authorities inspected fail to collate and evaluate systematically data on the performance of pupils with ALN. Mae un o’r saith gwasanaeth ADY a arolygwyd yn rhagorol ac mae dau yn dda. Mae gan y pedwar gwasanaeth sy’n weddill feysydd pwysig i’w gwella. Nid yw bron pob un o’r awdurdodau a arolygwyd yn coladu ac arfarnu data am berfformiad disgyblion ag ADY yn systematig.

13 Nid yw gwasanaethau ADY a gwasanaethau gwella ysgol eraill yn cydweithio’n rhesymegol i gynllunio’n strategol, nac i gyflwyno a monitro effaith eu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn gwella deilliannau disgyblion. Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn gweithio’n dda i feithrin gallu ysgolion i fodloni anghenion dysgu pob disgybl. ALN and other school improvement services do not work coherently together to plan strategically, nor to deliver and monitor the impact of their services to ensure that they actually improve pupils’ outcomes. Most local authorities are working well to build the capacity of schools to meet all pupils’ learning needs.

14 Hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a lles Promoting social inclusion and wellbeing
O’r saith awdurdod a arolygwyd, mae un yn rhagorol, un yn dda, pump yn ddigonol ac mae un yn anfoddhaol o safbwynt ansawdd eu gwasanaeth cynhwysiant cymdeithasol a lles. Of the seven authorities inspected, one is excellent, one is good, five are adequate and one is unsatisfactory for the quality of their social inclusion and wellbeing service.

15 Yn gyffredinol, mae awdurdodau lleol yn cynllunio’u gwasanaethau cynhwysiant yn briodol.
Fodd bynnag, yn rhy aml, nid yw’r trefniadau hyn wedi cael digon o effaith ar wella presenoldeb ac ymddygiad dysgwyr nac ar leihau nifer y rheiny nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Generally local authorities plan their inclusion services appropriately. However, too often these arrangements have not had enough impact on improving learners’ attendance and behaviour or on reducing the number of NEETs.

16 Mae’r holl awdurdodau lleol yn gweithio’n dda gydag ystod o bartneriaid ac asiantaethau perthnasol i fodloni anghenion plant a phobl ifanc sydd angen cymorth. Nid yw’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn arfarnu effaith eu darpariaeth yn ddigon cyson i wybod ymhle mae’r ddarpariaeth yn fwyaf effeithiol. All local authorities work well with a range of partners and relevant agencies to meet the needs of children and young people who need support. Most local authorities do not evaluate the impact of their provision consistently enough to know where it is most effective.

17 Mynediad a lleoedd ysgol Access and school places
Mae pump awdurdod yn dda a dau yn ddigonol o ran ansawdd eu gwasanaeth mynediad a lleoedd ysgol. Five authorities are good and two adequate for the quality of their access and school places service.

18 Mae gan lawer o awdurdodau strategaethau a chynlluniau cysylltiedig priodol, cytûn i foderneiddio ysgolion a lleihau nifer y lleoedd gwag. Mae llawer ohonynt wedi gwneud cynnydd da o ran aildrefnu ysgolion cynradd. Mae gan y rhan fwyaf o awdurdodau wybodaeth gywir a chyfredol am gyflwr, cynhwysedd ac addasrwydd eu hadeiladau ysgol. Many authorities have appropriate agreed strategies and associated plans to modernise schools and reduce surplus places. Many have made good progress in reorganising primary schools. Most authorities have accurate and up-to-date information on the condition, capacity and suitability of their school buildings.

19 All authorities provide an appropriate and sufficient range of early years provision.
In half the authorities inspected the range of youth support services is good. Mae’r holl awdurdodau yn cynnig ystod briodol a digonol o ddarpariaeth y blynyddoedd cynnar. Mewn hanner yr awdurdodau a arolygwyd, mae ystod y gwasanaethau cymorth ieuenctid yn dda.

20 Arweinyddiaeth a rheolaeth Leadership and management
Dim ond mewn dau o’r awdurdodau lleol a arolygwyd y mae arweinyddiaeth a gwella ansawdd yn dda. Yn y pump sy’n weddill, mae meysydd pwysig i’w gwella. Mewn dau awdurdod, mae’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth yn anfoddhaol. Leadership and the improvement of quality are good in just two of the local authorities inspected. In the remaining five there are important areas for improvement. In two authorities, leadership and management are unsatisfactory.

21 Lle mae’r arweinyddiaeth yn dda, mae aelodau etholedig ac uwch reolwyr yn rhannu gweledigaeth gyson a rhesymegol ar gyfer gwasanaethau addysg ac maent yn barod i wneud penderfyniadau anodd er budd dysgwyr. Mewn awdurdodau eraill, nid yw aelodau etholedig yn rhoi digon o bwyslais ar wella safonau dysgwyr pan fyddant yn gwneud eu penderfyniadau strategol. Where leadership is good, elected members and senior officers share a consistent and coherent vision for education services and are willing to take difficult decisions for the benefit of learners. In other authorities, elected members do not put enough emphasis on improving learners’ standards when they make their strategic decisions.

22 Mewn ychydig awdurdodau, nid yw swyddogion yn rhannu gwybodaeth ag aelodau etholedig fel mater o drefn. Mae hyn yn golygu bod aelodau etholedig yn ei chael hi’n anodd herio perfformiad gwasanaethau a barnu i ba raddau y maent yn cyflawni eu dyletswyddau diogelu. In a few authorities, officers do not routinely share information with elected members. This means that elected members have difficulty in challenging the performance of services and in judging the extent to which they fulfil their safeguarding duties.

23 Mewn mwyafrif o awdurdodau, nid yw prosesau hunanarfarnu yn ddigon trylwyr na chyson ac nid ydynt wedi’u hymgorffori yn y cylch gwella blynyddol ar gyfer pob gwasanaeth. Nid yw swyddogion yn arfarnu effaith cymorth na mentrau ar ddeilliannau dysgwyr yn gyson. In a majority of authorities self-evaluation processes are not rigorous or consistent enough and are not embedded in the annual improvement cycle for all services. Officers do not evaluate the impact of support or initiatives on learners’ outcomes consistently.

24 Nid yw ychydig iawn o awdurdodau yn cynnwys gwaith pob gwasanaeth neu’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc yn eu hadroddiadau hunanarfarnu. At ei gilydd, darganfuom fod partneriaethau yn effeithiol yn dwyn pobl ynghyd ar draws adrannau a sectorau. A very few authorities do not include the work of all services or of the Children and Young People’s Partnership in their self-evaluation reports. Overall, we found that partnerships are effective in bringing people together across departments and sectors.

25 Er bod pob awdurdod lleol yn ymwneud â’u consortia addysg rhanbarthol a lleol, ychydig iawn yn unig sy’n gallu adrodd yn glir ar effaith y gwaith hwn ar y cyd ar wella gwasanaethau neu ddeilliannau. At ei gilydd, mae systemau da gan awdurdodau lleol ar gyfer cynllunio ariannol. Although all local authorities engage with their regional and local education consortia only a very few can report clearly on the impact of this joint work on improving services or outcomes. Generally, local authorities have good systems for financial planning.


Download ppt "Adroddiad Blynyddol 2010-2011 (Gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc) Annual Report 2010-2011 (Local authority education services."

Similar presentations


Ads by Google