Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
1
Rhaglenni Datblygu Arweinyddiaeth
Wedi’u datblygu a’u cyflwyno mewn partneriaeth ag ysgolion, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac ERW Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS
2
Rhaglenni Datblygu Arweinyddiaeth
Dolen gyswllt ar-lein i gyflwyniad byr Leadership Development Opportunities at UWTSD
3
Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS
Beth sydd ar gynnig? Rhaglen datblygu arweinyddiaeth hyblyg, arloesol sy’n canolbwyntio ar arfer ac sy’n darparu achrediad gan brifysgol ar; Lefel 6 - Tystysgrif Dysgu Proffesiynol i Raddedigion Lefel 7 - MA Addysg (Arweinyddiaeth, Dysgu ac Addysgu, Cydraddoldeb mewn Addysg) Cyfle i athrawon ymgysylltu â dysgu proffesiynol sy’n canolbwyntio ar wella eu gwybodaeth a sgiliau arweinyddiaeth generig ynghyd â darparu llwybrau i’r rhai hynny sydd â diddordeb mewn arwain dysgu ac addysgu a chydraddoldeb mewn addysg. Ceir hefyd o fewn MA Addysg llwybrau ar gyfer y rhai hynny sydd â diddordeb mewn anghenion dysgu ychwanegol (ALN) ac Iaith a Llythrennedd Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS
4
Pam y dylai athrawon ymgysylltu â’r rhaglen hon ?
Mae’n darparu llwybr hyblyg sy’n ymwneud yn agos ag arfer; mae’n cydnabod ac yn achredu arfer ysgol-seiliedig. Mae’n galluogi athrawon i symud ymlaen yn gyflym i achrediad lefel 7 (Meistr) mewn ffordd gefnogol a strwythurol y gellir ei haddasu yn ôl yr angen; Dyluniwyd a chaiff ei chyflwyno mewn partneriaeth ag ysgolion er mwyn sicrhau mai’r arfer gorau posib yw craidd y dysgu, a chaiff hwn ei rannu drwy gydol y rhaglen. Caiff ei hysbysu gan ymchwil a gwnaiff gefnogi athrawon wrth iddynt ymgysylltu ag arfer wedi ei seilio ar dystiolaeth, ymchwil ac adfyfyrio beirniadol; Oherwydd gwaith athrawon cyfrannog, bwriad y rhaglen yw effeithio ar ddeilliannau dysgwyr ac ar wella ysgolion. Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS
5
Beth y disgwylir o gyfranogwyr?
Eu presenoldeb mewn sesiynau ysgol-seiliedig lle y byddant yn ymgysylltu â sesiynau a gyflwynir gan ysgolion croesawu a thiwtoriaid prifysgol; Cymryd rhan mewn Ymweliadau Dysgu drwy ymweld ag ysgolion eraill er mwyn ymwneud ag, ac adfyfyrio ar arfer effeithiol. Rhyngweithio a dysgu mewn Grwpiau Ymddiried sy’n darparu cefnogaeth ar gyfer ac yn herio cyfoedion, yn ogystal â darparu cyfleoedd rhannu arfer. Cwblhau aseiniadau sydd yn bennaf yn canolbwyntio ar y cyfrifoldebau ac arferion gwaith sydd eisoes yn bodoli; mae’r rhain yn gysylltiedig â thasgau gwella ysgolion ac yn adlewyrchu cyd-destunau a heriau penodol ysgolion. Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS
6
Beth yw manteision bod yn rhan o’r rhaglen o safbwynt yr unigolyn?
Cyfle i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol ac ennill achrediad Prifysgol ar lefel Meistr; Datblygiad proffesiynol a wnaiff eich helpu gyda dyrchafiad a chymryd ymlaen cyfrifoldebau arweinyddiaeth – gan gynnwys dysgu ac addysgu; Alinio gyda’r Safonau Arweinyddiaeth Cenedlaethol i’ch cefnogi wrth i chi wneud cynnydd yn eich gyrfa; Cyfle i ehangu eich mewnwelediad o ran arfer effeithiol a chael effaith yn eich ystafell ddosbarth a’ch ysgol; Ymgymryd â rhaglen unigryw sy’n cyfuno arfer rhagorol, fframwaith academaidd ar gyfer dysgu ac achrediad, ynghyd ag ysgolion yn dysgu oddi wrth ysgolion a dysgu cyfoedion. Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS
7
Beth yw manteision bod yn rhan o’r rhaglen o safbwynt yr ysgol?
Gwell gynhwysedd o ran gyrru ymlaen mentrau gwella ysgolion; Athrawon ac arweinwyr sydd â’r wybodaeth o ran arfer effeithiol, ymchwil a’r sgiliau i achosi gwelliant; Deilliannau dysgu proffesiynol sy’n cyd-fynd â pholisïau allweddol Llywodraeth Cymru, megis Dyfodol Llwyddiannus, Cymwys am Oes ac Ailysgrifennu’r Dyfodol; Staff brwdfrydig, cryf eu cymhelliad sy’n ymwneud ag ymchwil ac arfer arloesol ac sydd am arwain gwella ysgolion. Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS
8
Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS
Beth yw’r costau? Ar gyfer y Dystysgrif i Raddedigion - £350 y modwl Ar gyfer MA Addysg - £375 y modwl Dylai ysgolion neu grwpiau a hoffai gomisiynu rhaglenni neu fodylau penodol gysylltu â’r Brifysgol er mwyn trafod costau. Lesley Morgan, Gweinyddwr Dysgu Proffesiynol – Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS
9
Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS
Y Camau nesaf ? Ymgeisiwch drwy gysylltu â Lesley Morgan neu drwy gwblhau’r ffurflen sydd ar wefan ERW Dewch o hyd i fwy o wybodaeth a rhestr gyflawn o fodylau ar wefan PCYDDS continuing-professional-learning-and-development / neu wefan ERW Cysylltwch â Lesley er mwyn trefnu trafodaeth gyda thiwtoriaid y brifysgol Darllenwch am y rhaglenni yn y dogfennau canlynol; Rhaglenni Datblygu Arweinyddiaeth: Gwybodaeth ar gyfer Prifathrawon Darganfyddwch Ddysgu Proffesiynol: Arweinyddiaeth Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.