Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Ieithoedd Tramor Modern Modern Foreign Languages.

Similar presentations


Presentation on theme: "Ieithoedd Tramor Modern Modern Foreign Languages."— Presentation transcript:

1 Ieithoedd Tramor Modern Modern Foreign Languages

2 Cefndir Background • Cynghori ar ansawdd addysgu a dysgu mewn ieithoedd tramor modern Ystyried datblygiadau a materion mewn addysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru ers adroddiad diwethaf Estyn yn 2009 Yn 2015, i ymateb i’r gostyngiad yn y niferoedd sy’n dysgu ieithoedd tramor modern yng nghyfnodau allweddol 4 a 5, cyhoeddoedd y Gweinidog Addysg a Sgiliau yng Nghymru, ‘Dyfodol Byd-eang: cynllun i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor modern yng Nghymru 2015 – 2020’. Y bwriad yw bod ‘pob dysgwr yng Nghymru yn datblygu’n ddinasyddion byd-eang, ac yn gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn ieithoedd eraill a gwerthfawrogi diwylliannau eraill’ drwy fod yn ‘ddwyieithog a mwy’. • To advise on the quality of teaching and learning in modern foreign languages To consider developments and issues in modern foreign language teaching in Wales since Estyn’s last report in 2009 In 2015 in response to a decline of uptake in modern foreign language learning at key stages 4 and 5, Minister for Education and Skills in Wales published, ‘Global Futures:a plan to improve and promote modern foreign languages in Wales 2015 – 2020’. The intention is that ‘all learners in Wales become global citizens, able to communicate effectively in other languages and to appreciate other cultures’ though becoming ‘bilingual plus 1’.

3 Prif ganfyddiadau Main findings
Yng nghyfnod allweddol 3, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn cyflawni’n dda yn y pedwar medr iaith Mae llawer o ddisgyblion yn dangos dealltwriaeth dda o ramadeg. Mae hyn yn welliant o gymharu â chanfyddiadau Estyn yn 2009. Fodd bynnag, mae gormod o ddisgyblion yn gwneud camgymeriadau mynych â goslef ac ynganiad wrth ddarllen ar goedd, neu maent yn paratoi sgyrsiau yn ysgrifenedig cyn eu hymarfer ar lafar. Mae hyn yn amharu ar eu gallu i siarad yr iaith yn rhugl. Yng nghyfnod allweddol 4, mae gan y rhan fwyaf o ddysgwyr ddealltwriaeth dda ar y cyfan o’r medrau iaith sydd eu hangen ar gyfer arholiadau. Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwneud defnydd effeithiol o dechnoleg i’w cynorthwyo wrth iddynt ddysgu iaith In key stage 3, most pupils achieve well in the four language skills Many pupils show a good understanding of grammar. This is an improvement on Estyn’s findings in 2009. However, too many pupils make repeated mistakes with intonation and pronunciation when reading aloud, or they prepare conversations in writing before practising them orally. This detracts from their ability to speak the language fluently. In key stage 4, most learners generally have a good command of the language skills they require for examinations. Most learners make effective use of technology to support their language learning

4 Prif ganfyddiadau Main findings
Fodd bynnag, nid yw hyd yn oed y dysgwyr mwy abl yn siarad yr iaith yn ddigon rhugl. Yn aml, mae hyn yn digwydd o ganlyniad i’r ffaith fod dysgwyr wedi paratoi ar gyfer arholiadau llafar trwy ddysgu paragraffau wedi’u hysgrifennu ar y testunau penodedig ar eu cof. Ar ddiwedd cyfnod allweddol 3, mae canran y dysgwyr sy’n cyflawni’r lefel ddisgwyliedig, sef lefel 5 neu uwch, wedi gwella, ond ar 84% (2015), mae’n rhy isel o hyd. Ar y cyfan, mae bechgyn yn perfformio’n waeth na merched Ar ddiwedd cyfnod allweddol 4, mae canlyniadau arholiadau mewn ieithoedd tramor modern yn dda (77% graddau A* – C, 2015). Mae hyn yn well na’r rhan fwyaf o bynciau eraill y Cwricwlwm Cenedlaethol. Fodd bynnag, nid yw bechgyn yn perfformio cystal â merched o hyd mewn TGAU. However, even more able learners do not speak the language fluently enough. This often results from leaners by preparing for spoken examinations by learning by heart written paragraphs on prescribed topics. At the end of key stage 3, the percentage of learners achieving the expected level 5 or above has improved, but is still too low at 84% (2015). Boys generally perform worse than girls At the end of key stage 4, examination outcomes in modern foreign languages are good (77% A* – C grades, 2015). This is better than most other National Curriculum subjects. However, boys continue to perform less well than girls at GCSE.

5 Prif ganfyddiadau Main findings
Mae canlyniadau Safon Uwch yn dda mewn ieithoedd tramor modern ac yn cymharu’n dda â’r rheiny mewn pynciau eraill (A* - C 82%, 2015). Mae’r duedd o ran perfformiad uchel mewn Safon Uwch wedi parhau dros gyfnod. Mae ansawdd yr addysgu mewn llawer o ystafelloedd dosbarth ieithoedd tramor modern yn ddigonol. Mae’r rhan fwyaf o athrawon sy’n arbenigwyr iaith yn gymwys iawn ac yn siarad yr ieithoedd y maent yn eu haddysgu yn dda. Nid oes gan rai athrawon sy’n addysgu iaith dramor fodern fel ail bwnc afael digon cadarn ar y ffordd fwyaf effeithiol o addysgu iaith. Yn gynyddol, mae athrawon yn defnyddio technoleg ddigidol yn dda i ategu eu haddysgu a dysgu disgyblion. A level results are good in modern foreign languages and compare well with those in in other subjects (A* - C 82%, 2015). Trend of high performance at A level has persisted over time. Quality of teaching in many modern foreign language classrooms is adequate. Most teachers who are specialists in a language are well qualified and speak the languages they teach well. A few teachers who teach a modern foreign language as a second subject do not have a firm enough grasp of the most effective way to teach a language. Increasingly teachers are using digital technology well to support their teaching and pupils’ learning.

6 Prif ganfyddiadau Main findings
Mae’r graddau y mae athrawon yn addysgu trwy gyfrwng yr iaith asesedig wedi dirywio Mewn llawer o wersi llai effeithiol, mae athrawon yn rhoi lle rhy flaenllaw i addysgu gramadeg ar draul datblygu medrau allweddol siarad a gwrando Yn rhy aml, mae athrawon yn gofyn i ddisgyblion baratoi sgyrsiau yn ysgrifenedig cyn eu hymarfer: mae hyn yn rhwystro disgyblion rhag datblygu lefel dda o ruglder yn yr iaith dramor fodern Mae’r rhan fwyaf o athrawon yn marcio ac asesu gwaith yn effeithiol. Fodd bynnag, mae defnyddio technegau asesu ar gyfer dysgu wedi dirywio ers 2009. The extent to which teachers teach a language through the assessed language has declined In many less effective lessons, teachers allow teaching grammar to dominate at the expense of developing the key skills of speaking and listening Too often teachers ask pupils to script conversations before practising them: this hinders pupils from developing a good level of fluency in the modern foreign language Most teachers mark and assess work effectively. However, the use of assessment for learning techniques has declined since 2009.

7 Prif ganfyddiadau Main findings
Yn gynyddol, nid yw adrannau ieithoedd tramor modern yn rhannu gweledigaeth ysgrifenedig ar gyfer sut i addysgu iaith dramor fodern ac mae hyn yn arwain at arfer amrywiol. Ar gyfartaledd, caiff dysgwyr dair awr o addysgu dros gyfnod o bythefnos – mae hyn yn llai na’r ddwy awr yr wythnos a argymhellwyd yn 2009 Mae llawer o adrannau ieithoedd tramor modern yn cynnal gweithgareddau allgyrsiol effeithiol i annog pobl ifanc i ddilyn iaith i lefel arholiad Mae diffyg arholiadau i ddisgyblion ehangach eu gallu astudio iaith dramor fodern. Increasingly modern foreign language departments do not have a stated shared vision for how to teach a modern foreign language and this leads to varied practice. On average, learners experience three hours of teaching across a two week period – this is less than the two hours per week recommended in 2009 Many modern foreign languages departments run effective extra-curricular activities to encourage young people to take a language at examination level There is a lack of examinations for pupils of a wider range of ability to study a modern foreign language.

8 Prif ganfyddiadau Main findings
Mae’r rhan fwyaf o benaethiaid ac uwch arweinwyr yn arddangos cefnogaeth i roi cyfle i ddysgwyr ddysgu o leiaf un iaith dramor fodern i lefel arholiad. Fodd bynnag, mae hyn yn heriol gan fod lle mor flaenllaw yn cael ei roi i’r pynciau craidd yn y cwricwlwm. O ganlyniad, mae nifer fach o ysgolion yng Nghymru lle nad yw dysgwyr yn astudio iaith yng nghyfnod allweddol 4 gan fod yr iaith mewn colofn dewisiadau gyda phwnc arall y maent eisiau ei astudio. Dywed ysgolion sydd ag ychydig iawn o ddysgwyr, os o gwbl, yng nghyfnod allweddol 4, ei bod yn aml yn anodd recriwtio athrawon ieithoedd tramor modern Most headteachers and senior leaders are supportive of learners having the opportunity to learn at least one modern foreign language to examination level. However, this is a challenge due to the dominance in the curriculum of the core subjects. Due to this, there is a small number of schools in Wales where learners do not study a language at key stage 4 because the language is in an option column with another subject they wish to study. Schools with few or no learners at key stage 4 report that it is often difficulty to recruit modern foreign language teachers

9 Prif ganfyddiadau Main findings
Yn aml, mae’r athrawon sy’n gwneud cais am swyddi yn gallu cynnig un iaith yn unig – mae hyn yn lleihau hyblygrwydd o ran yr amserlen a nifer y dewisiadau sydd ar gael i ddysgwyr. Yn 2014 – 2015, fe wnaeth canolfannau hyfforddiant cychwynnol i athrawon recriwtio hanner y cwota ar y mwyaf o ran athrawon ieithoedd tramor modern a neilltuwyd iddynt Often teachers applying for posts are only able to offer one language – this reduces flexibility on the timetable and the number of options open to learners. In – 2015, initial teacher training centres recruited at most half of the numbers of the quota for modern foreign language teachers allocated to them

10 Argymhellion Recommendations
Dylai athrawon ieithoedd tramor modern: A1: wella ansawdd yr addysgu mewn ieithoedd tramor modern A2: mynychu grwpiau rhwydwaith rhanbarthol a hyfforddiant rhanbarthol, a chymryd rhan ynddynt, i ddatblygu medrau lefel uwch mewn addysgu a dysgu ieithoedd tramor modern Teachers of modern foreign languages should: R1: improve the quality of teaching in modern foreign languages R2: attend and engage with regional network groups and regional training to develop high-order skills in modern foreign language teaching and learning

11 Argymhellion Recommendations
Dylai penaethiaid ac uwch arweinwyr: A3: wella nifer y dysgwyr sy’n astudio o leiaf un iaith dramor fodern ar lefel arholiad trwy’r cwricwlwm ac amserlennu A4: gwneud yn siwr bod athrawon yn gallu manteisio ar ddatblygiad proffesiynol parhaus Dyfodol byd-eang a gynigir i wella ansawdd dysgu ac addysgu ieithoedd tramor modern. Headteachers and senior leaders should: R3: improve learners’ uptake of at least one modern foreign examination level through curriculum and timetabling R4: make sure that teachers are able to take advantage of Global Futures continuing professional development offered to improve the quality of learning and teaching in modern foreign languages.

12 Arfer effeithiol Effective practice
Symud o ddynwared i feistroli iaith dramor fodern: Ysgol Uwchradd Bishop Hedley Mae gan athrawon iaith ffocws clir iawn mewn gwersi iaith ar annog disgyblion, beth bynnag fo’u cyfnod dysgu a’u gallu, i ddefnyddio’r iaith asesedig cymaint ag y bo modd. Yn y dyddiau cynnar, mae athrawon yn addysgu geirfa ac ymadroddion syml i ddisgyblion sy’n galluogi iddynt weithredu yn yr iaith asesedig yn yr ystafell ddosbarth. Wrth iddynt wneud cynnydd yn eu dysgu, mae athrawon yn eu cyflwyno i iaith fwy cymhleth, er enghraifft i allu siarad am ramadeg yn yr iaith asesedig. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn awyddus i ddyfalbarhau, hyd yn oed pan fydd yr iaith y tu hwnt i’r lefel y maent wedi ei chyflawni hyd yn hyn. Moving from mimicry to mastery of a modern foreign language: Bishop Hedley High School Language teachers have a very clear focus in language lessons on encouraging pupils, whatever their stage of learning and ability, to use the assessed language as much as possible. In the early stages, teachers teach pupils simple vocabulary and phrases to allow them to operate in the assessed language in the classroom. As they progress in their learning, teachers introduce them to more complex for example to be able to talk about grammar in the assessed language. Most pupils are keen to persevere, even when the language is beyond the level they have attained so far.

13 Arfer effeithiol Effective practice
Mae athrawon yn mynd ati i annog disgyblion i ddefnyddio’r arddangosfeydd o eirfa a strwythurau ieithyddol ar y waliau i gyfeirio atynt yn ystod gwersi, beth bynnag fydd y gweithgareddau yn y gwersi iaith. Mae athrawon yn rhoi sylw da i gywiro cam-ynganu yn yr iaith asesedig a sicrhau bod disgyblion yn gallu darllen ar goedd gyda chywirdeb a goslef a mynegiant yn yr iaith. Trwy gael eu hamlygu’n fwy fel hyn i’r iaith asesedig yn yr amser sydd ar gael yn y wers, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn symud yn effeithiol trwy’r cam o ddynwared yr iaith i feistroli’r iaith; hynny yw, gallu defnyddio’r iaith asesedig yn annibynnol, yn greadigol ac at eu dibenion eu hunain. Teachers actively encourage pupils to use the wall displays of vocabulary and linguistic structures as references during lessons for all activities in the language lessons. Teachers pay good attention to correcting mispronunciation in the assessed language and ensuring pupils can read aloud with accuracy and intonation and expression in the language. With this greater exposure to the assessed language in the lesson time available, most pupils move effectively through the stage of mimicking the language to mastering the language, that is, to being able to use the assessed language independently, creatively and for their own purposes.

14 10 questions for providers
10 cwestiwn i ddarparwyr 10 questions for providers A yw staff ieithoedd tramor modern wedi cytuno ar yr addysgeg a ddefnyddiant i addysgu ieithoedd tramor modern, ac wedi’i rhannu? Os ydynt, a yw’r addysgeg gytûn wedi’i chofnodi mewn llawlyfr adrannol er gwybodaeth i newydd-ddyfodiaid i’r adran ac i’w defnyddio ganddynt? A yw athrawon mewn gwersi yn galluogi disgyblion i wneud cynnydd yn y pedwar medr iaith? A yw athrawon yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd wrth ddysgu iaith, gan symud trwy weithgareddau craidd fel ailadrodd i weithgareddau penagored, heriol, sy’n galw ar i ddisgyblion ddefnyddio iaith yn annibynnol a chreadigol? Have modern foreign languages staff agreed and shared the pedagogy they will use to teach modern foreign languages? If yes, has the agreed pedagogy been recorded in a departmental handbook for reference and use by those new to the department? Do teachers in lessons enable pupils to make progress in the four skills of language? Do teachers enable pupils to make progress in their language learning moving through core activities, such as repetition to challenging open-ended activities which require pupils’ independent and creative use of language?

15 10 questions for providers
10 cwestiwn i ddarparwyr 10 questions for providers A gaiff disgyblion eu hannog i wneud y gorau o ddysgu’r iaith yn ystod amser gwers trwy weithio cymaint ag y bo modd trwy gyfrwng yr iaith asesedig? Os na, sut gellir cyflawni hyn? A yw athrawon yn helpu disgyblion i ddeall y ffyrdd gorau o ddysgu iaith? Pa gyfleoedd sydd ar gael i alluogi athrawon ieithoedd tramor modern i rannu arfer effeithiol o fewn yr adran, ac ar draws ysgolion? I ba raddau y mae adrannau Cymraeg, Saesneg ac Ieithoedd Tramor Modern yn cydweithio i ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o iaith ymhellach? Are pupils are encouraged to maximise learning of the language in lesson time through working as much as possible through the medium of the assessed language? If not, how can this be achieved? Do teachers help pupils understand the best ways to learn a language? What opportunities are there to allow modern foreign language teachers to share effective practice within the department, across schools? To what extent do the English, Welsh and Modern Foreign Language departments work together to further pupils understanding of language?

16 Cwestiynau... Pa gyngor gyrfaol ar swyddi i weithwyr â medrau iaith sydd ar gael i ddisgyblion, a phryd? Beth yw safon y cyngor hwn? Questions… What career advice about jobs which workers with skills in languages is available to pupils, and when? What is the quality of the advice?


Download ppt "Ieithoedd Tramor Modern Modern Foreign Languages."

Similar presentations


Ads by Google