Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Gweledigaeth ac athroniaeth

Similar presentations


Presentation on theme: "Gweledigaeth ac athroniaeth"— Presentation transcript:

1

2 Gweledigaeth ac athroniaeth
Yn cynnwys hanes, daearyddiaeth, addysg grefyddol, astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Dull gweithredu holistaidd, integredig a rhyngddisgyblaethol. Trylwyredd ac arbenigedd yng Ngham Cynnydd 5 yn paratoi dysgwyr ar gyfer astudiaethau pellach. Datblygu ymdeimlad o dreftadaeth a lle trwy eu cynefin, Cymru ac fel rhan o’r byd ehangach. Cwmpasu’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol, gan gynnwys rôl dysgwyr fel dinasyddion. Fel y nodwyd yn Dyfodol Llwyddiannus, mae Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yn cynnwys hanes, daearyddiaeth, addysg grefyddol, busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Cynefin – mae'n fwy na dim ond lle yn yr ystyr ffisegol neu ddaearyddol – mae'n rhywle hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol, sydd wedi llywio'r gymuned sy'n byw yno, ac sy'n parhau i'w llywio. Yn seiliedig ar ymchwil i fodelau cwricwlwm rhyngwladol, tystiolaeth a phrofiadau athrawon, lluniwyd Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau mewn modd cyfannol, a dylid ei ystyried yn y modd hwnnw. Felly, lluniwyd datganiadau o’r hyn sy'n bwysig mewn modd rhyngddisgyblaethol, ac, o bosibl, integredig. Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yn rhagweld y bydd dysgwyr yn cynnal lefel o ddealltwriaeth eang pan fyddant yn 14 i 16 oed, gan ganiatáu hefyd ar gyfer arbenigo mewn un ddisgyblaeth neu fwy. Er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn gallu dilyn astudiaethau Safon Uwch ac addysg uwch mewn pynciau penodol, daw'r disgyblaethau'n fwy amlwg ar Gam cynnydd 5. Mae cwricwlwm y Dyniaethau hefyd yn ceisio annog dysgwyr i feithrin ymdeimlad o berthyn a lle, ynghyd â dealltwriaeth o'u hardal leol, a'u treftadaeth. Mae cynnwys astudiaethau cymdeithasol yn y cwricwlwm wedi arwain at ffocws cynyddol yn y Dyniaethau ar ddinasyddiaeth a gweithredu cymdeithasol. Mae'r rhain yn gysyniadau allweddol mewn astudiaethau cymdeithasol. Yn wir, mae rôl y cysyniadau'n bwysig ar draws cwricwlwm cyfan y Dyniaethau. Dylid ailedrych ar y cysyniadau allweddol yn rheolaidd, a hynny mewn modd mwy manwl, cymhleth a soffistigedig. Mae canllawiau ar gael ar gyfer dewis cynnwys ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau.

3 Y rhesymeg o blaid newid
Mae ymreolaeth, hyblygrwydd a chreadigrwydd yn arwain at ddysgu dilys. Mae dull gweithredu rhyngddisgyblaethol yn cefnogi datblygu gwybodaeth a sgiliau. Mae cysylltu profiadau, gwybodaeth a sgiliau yn arwain at gyfleoedd cyfoethog. Mae’n ymgorffori astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Mae addysg grefyddol yn y cwricwlwm yn caniatáu ar gyfer cydraddoldeb. Un o egwyddorion Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yw y dylai fod gan ymarferwyr ymreolaeth i benderfynu ar y cynnwys penodol a addysgir yn y Dyniaethau. Mae'r ymreolaeth hon yn eu galluogi i addasu'r cynnwys i ddiwallu anghenion gwahanol y dysgwyr, gan sicrhau hyblygrwydd a mwy o gyfleoedd i'r dysgwyr lywio eu dysgu, a chyfrannu ato. Fodd bynnag, dylai'r broses o gynllunio cwricwla ysgolion sicrhau y caiff cyd-destunau a phrofiadau'r dysgwyr o'u hardal leol ac o Gymru eu hystyried yn rhan bwysig a chreiddiol o'r gwaith cynllunio. Gellir archwilio pynciau'r Dyniaethau ym mhob datganiad yr hyn sy'n bwysig. Dylai ysgolion greu cysylltiadau rhwng datganiadau o’r hyn sy'n bwysig a phynciau'r Dyniaethau. Mae astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol yn bynciau newydd yn y cwricwlwm sy'n cyfoethogi profiadau'r dysgwyr yn y Dyniaethau. Yng nghwricwlwm y Dyniaethau, ystyrir bod astudiaethau busnes yn canolbwyntio ar rôl, effaith a phwysigrwydd busnesau, ynghyd â rôl economaidd bosibl a gwirioneddol unigolyn. Ystyriwyd bod astudiaethau cymdeithasol yn y maes dysgu a phrofiad hwn yn ymdrin â materion cymdeithasol cyfredol, deall strwythurau cymdeithasol, amrywiaeth ddiwylliannol, a chysyniadau gweithredu cymdeithasol a dinasyddiaeth.

4 Sut mae’n wahanol? Holistaidd a rhyngddisgyblaethol.
Disgyblaethau yn fwy gweladwy o Gam cynnydd 4. Mwy o bwysigrwydd ar brofiadau dilys. Canolbwyntio ar ddinasyddiaeth fyd-eang a chymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol. Ymwneud ag astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol yn gynt. Cydbwysedd rhwng astudiaethau lleol, Cymreig/Prydeinig a byd-eang. Cynnwys addysg grefyddol a’i wneud yn statudol ar gyfer dysgwyr 3 i 16 oed. Mae cwricwlwm y Dyniaethau yn canolbwyntio ar gyd-destunau go iawn, materion cyfoes a pherthnasol, ac yn rhoi'r hyblygrwydd i ymateb i faterion cyfoes. Mae gan ddysgwyr yr hawl i gyfoethogi eu dysgu drwy brofiadau uniongyrchol. Bydd cysyniadau astudiaethau busnes/astudiaethau cymdeithasol yn cael eu cynnwys mewn cwricwlwm ehangach i ddysgwyr o oedran llawer cynharach nag sy'n digwydd ar hyn o bryd. Mae addysg grefyddol bellach wedi'i chynnwys yn y cwricwlwm, ynghyd â fframwaith ategol.

5 Yr Hyn sy’n Bwysig mewn Dyniaethau
Mae'r datganiadau hynny o’r hyn sy’n bwysig yn gysylltiedig ac ni fwriedir iddynt gael eu trin ar wahân. Mae datblygu meddwl ymholgar yn galluogi dysgwyr i archwilio ac ymchwilio i’r byd, i’w orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol, drostynt eu hunain. Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu canfod, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd. Mae’r byd naturiol yn amrywiol a deinamig, ac mae dylanwad prosesau ffisegol a gweithredoedd dynol arno. Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac amrywiol, ac maent yn cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl. Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon, egwyddorol a chynaliadwy. Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig  Mae'r rhain yn gysylltiedig, ac ni fwriedir iddynt gael eu cymryd ar wahân. Mae uned waith, neu gwestiwn allweddol, yn debygol o gwmpasu sawl un o ddatganiadau o’r hyn sy'n bwysig. Datblygu meddwl chwilfrydig ... – Mae'r datganiad hwn yn ymwneud â dysgu am sgiliau ymholi, eu meithrin a'u cymhwyso, yn ogystal â defnyddio amrywiaeth o dystiolaeth. Mae'n ymwneud â methodoleg pynciau'r Dyniaethau. Fodd bynnag, nid yw'n ymwneud yn gyfan gwbl â'r broses ymholi. Dylai annog dull o ddarganfod a chwestiynu, gan gynnwys y parodrwydd i ofyn cwestiynau pwysig am y dyniaethau. Digwyddiadau a phrofiadau dynol ... – Mae'r datganiad hwn yn ymwneud â deall sut a pham y mae dehongliadau gwahanol o bobl a digwyddiadau wedi dod i'r amlwg, ystyried yr amrywiaeth o ffactorau sy'n effeithio ar y modd y mae pobl yn llunio eu dehongliadau a'u safbwyntiau eu hunain, a'r ffyrdd gwahanol y cânt eu cyflwyno. Mae'n annog y dysgwyr i gwestiynu dilysrwydd dehongliadau, ac i feithrin ymagwedd feirniadol. Mae’r byd naturiol yn amrywiol a deinamig ... – Mae'r datganiad hwn yn ymwneud â deall y rhyngberthynas rhwng pobl a'r byd naturiol. Mae hyn yn cynnwys yr effaith y mae'r byd naturiol wedi ei chael arnom ni, a'r effaith yr ydym ni wedi ei chael ar y byd naturiol. Mae'n annog y dysgwyr i ystyried cwestiynau moesol a moesegol am gyfrifoldeb pobl dros y byd naturiol. Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac amrywiol ... – Mae'r datganiad hwn yn ymwneud â natur a dynameg cymdeithasau, y modd y mae cymdeithasau wedi newid dros amser, a'r modd y mae pobl wedi byw mewn ffyrdd gwahanol ar adegau gwahanol ac mewn lleoedd gwahanol. Mae'n galluogi'r dysgwyr i archwilio crefyddau a safbwyntiau'r byd mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae'r cysyniadau allweddol yn cynnwys cronoleg, newid a pharhad, achos a chanlyniadau. Dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol ... – Mae'r datganiad hwn yn ymwneud â deall yr heriau y mae'r ddynoliaeth yn eu hwynebu, er enghraifft y newid yn yr hinsawdd, cynaliadwyedd, eithafiaeth, gwrthdaro, a'r cyfleoedd sydd gennym i ymateb i'r heriau hyn. Yn bwysicaf oll, mae'n ymwneud â defnyddio'r hyn a ddysgwyd – deall ein rolau a'n cyfrifoldebau mewn cymdeithas a chymryd camau gwybodus ac ystyriol i lywio'r hyn a allai fod, yn hytrach na'i dderbyn yn oddefol ar ei ffurf bresennol.

6 Sut gyrhaeddon ni yma? Dull gweithredu
Ystyried modelau cwricwlwm rhyngwladol. Comisiynu papurau gan arbenigwyr. Nodi sgiliau, cysyniadau a themâu cyffredin. Nodi meysydd eang er mwyn llunio datganiadau o’r hyn sy’n bwysig. Datblygu’r prif gysyniadau a’r themâu disgyblaethol fel rhan o ddatganiadau o’r hyn sy’n bwysig. Adborth gan arbenigwyr a rhanddeiliaid. Cefnogaeth gan CAMAU o ran cynnydd. Sut yr ydym wedi cyrraedd y man hwn? Ystyriwyd modelau cwricwlwm rhyngwladol. Comisiynwyd papurau gan arbenigwyr ar bob maes disgyblaeth, yn ogystal â'r Dyniaethau yn gyffredinol. Nodwyd cysyniadau, sgiliau a themâu cyffredinol ar draws y Dyniaethau. Nodwyd meysydd eang er mwyn llunio sail Yr Hyn sy'n Bwysig. Datblygwyd cysyniadau a themâu disgyblaethol allweddol o fewn pob datganiad yr hyn sy'n bwysig cyffredinol. Defnyddiwyd adborth gan arbenigwyr a rhanddeiliaid i fireinio datganiadau o’r hyn sy'n bwysig a datblygu cynnydd. Cafodd y grŵp gymorth gan arbenigwyr CAMAU i ddatblygu cynnydd.

7 Cyfraniadau gan arbenigwyr
Arbenigwyr disgyblaethol E Jones – The Essentials of History (2017). C Sinnema – Social Studies in the Welsh Curriculum (2017). C Jones – Business and the Economy in the Welsh Curriculum (2017); Nation Cymru (2018). E Rawling – gwaith wedi’i gomisiynu ar y cwriclwlm daearyddiaeth (2017). G Millar – Geographical association and its contribution to ‘Big Ideas’. C Jones – Making Sense of Ourselves and Others (2017). P Sutch – Politics and the Humanities (2018). G Donaldson – Dyfodol Llwyddiannus (2015). B Wintersgill – Big Ideas for Religious Education. Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAGau). Estyn a Cymwysterau Cymru. Mae'r arloeswyr wedi defnyddio cwricwla rhyngwladol a mewnbwn gan arbenigwyr. Mae arbenigwyr wedi darparu papurau a gomisiynwyd, ac wedi rhoi adborth a chyngor i'r grŵp ar adegau penodol yn ystod y broses.

8 Tystiolaeth a chyfraniad
gan arbenigwyr Ystyried cwricwla eraill: Awstralia. Columbia Brydeinig, Canada. Ontario, Canada. Y Ffindir. Seland Newydd. Yr Alban. Singapôr. Mae'r arloeswyr wedi defnyddio cwricwla rhyngwladol a mewnbwn gan arbenigwyr. Mae arbenigwyr wedi darparu papurau a gomisiynwyd, ac wedi rhoi adborth a chyngor i'r grŵp ar adegau penodol yn ystod y broses.

9 Ystyriaethau i ysgolion
Sut bydd eich arweinwyr, ymarferwyr a rhwydweithiau’n gallu paratoi ar gyfer y cyfnod nesaf o gyd-greu a rhoi adborth ystyrlon? Beth, os o gwbl, yw’r goblygiadau o ran adnoddau (cenedlaethol a lleol)? Sut y gallwch chi ddefnyddio dull ysgol gyfan a/neu rhyng-adrannol i sicrhau bod pawb yn: – gwybod am y cwricwlwm newydd? – deall sut i gyflwyno’r cwricwlwm newydd?


Download ppt "Gweledigaeth ac athroniaeth"

Similar presentations


Ads by Google