Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
Published byBennett Grant Modified over 5 years ago
1
Adroddiad Blynyddol (Lleoliadau i blant o dan bump oed) Annual Report (Settings for children under five)
2
Perfformiad a Rhagolygon Performance and Prospects
Mae perfformiad yn dda neu’n well yn gyffredinol mewn 86% o’r lleoliadau a arolygwyd. Mae perfformiad yn ddigonol mewn 14% o’r lleoliadau Mae’r rhagolygon gwella’n dda neu’n well mewn 91% o’r lleoliadau, a rhagolygon 6% yn rhagorol. Digonol yw rhagolygon 9% o’r lleoliadau a arolygwyd. Performance is good or better overall in 86% of settings inspected. Performance is adequate in 14% of settings. Prospects for improvement are good or better in 91% of settings and excellent in 6%. Prospects are adequate in 9% of settings inspected.
3
Gweithgarwch dilynol – mynd i mewn i’r categori Follow-up activity – going in
Mae angen gweithgarwch dilynol mewn 36% o’r lleoliadau: mae angen monitro gan yr awdurdod lleol ar 31 lleoliad; ac mae angen ymweliad monitro gan Estyn ar 21 lleoliad 36% of settings require follow-up activity: 31 need local authority monitoring; and 21 require an Estyn monitoring visit
4
Gweithgarwch dilynol – dod allan o’r categori Follow-up activity – coming out
Mae lleoliadau a roddwyd mewn categori gweithgarwch dilynol y llynedd wedi gwneud cynnydd da, a thynnwyd llawer ohonynt o’r categori ymweliadau dilynol pellach: roedd gwelliant mewn 71% yn cael eu monitro gan Estyn, ac nid oes angen gweithgarwch pellach arnynt; ac roedd gwelliant sylweddol hefyd mewn 60% yr oedd angen eu monitro gan yr awdurdod lleol. Astudiaeth achos – dod allan o’r categori monitro gan Estyn Settings placed in follow-up last year have made good progress and many were removed from further follow-up visits: 71% in Estyn monitoring improved and do not need any further follow-up; and 60% requiring local authority monitoring also made significant improvement. Case study – coming out of Estyn monitoring
5
Deilliannau Outcomes Mae’r rhan fwyaf o blant yn cyflawni’n dda ac yn gwneud cynnydd da o ran eu medrau llythrennedd a rhifedd cynnar. O safbwynt eu medrau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, mae cynnydd llawer o’r plant yn briodol ac weithiau’n dda. Most children achieve well and make good progress in their early literacy and numeracy skills. Many children make appropriate and occasionally good progress in their information and communication technology skills.
6
Mae’r plant yn gwrando’n astud, yn siarad yn glir ac yn mwynhau gwrando ar storïau a rhannu llyfrau ag oedolion. Mae’r plant hŷn a mwy aeddfed yn dechrau deall pwysigrwydd ysgrifennu, fel ysgrifennu rhestr cyn ymweld â’r siop neu wrth anfon gwahoddiad i barti. Mae plant ychydig o’r lleoliadau’n adnabod eu henwau ar eu matiau ar y bwrdd bwyd neu ar arddangosiadau ar y wal. Children listen attentively, speak clearly and enjoy listening to stories and sharing books with adults. Older and more mature children are beginning to understand the importance of writing, such as writing a list to visit the shop or sending an invitation to a party. In a few settings, children recognise their names on their tablemats at snack time or on wall displays.
7
Mae llawer o’r plant yn defnyddio iaith fathemategol gywir yn ystod gweithgareddau chwarae ac maen nhw’n defnyddio cofrestri arian a ffonau symudol yn hyderus wrth chwarae rôl. Mae medrau llawer o’r plant wrth reoli teganau sy’n rhedeg ar fatris neu lygoden cyfrifiadur yn dda hefyd. Mae bron pob un plentyn yn teimlo’n ddiogel ac yn mwynhau eu cyfnod yn y lleoliadau. Canlyniad hyn yw eu bod yn dod yn ddysgwyr mwy hyderus ac annibynnol. Many children use correct mathematical language during play activities and confidently use cash registers and mobile phones in role-play. Many also show good skills in controlling battery-operated toys or a computer mouse. Nearly all children feel safe and enjoy their time in the settings. As a result, they are becoming more confident, independent learners.
8
Nid yw’r plant mewn dros un o bob tri lleoliad cyfrwng Saesneg yn gwneud digon o gynnydd mewn Cymraeg. Nid yw’r plant yn ddigon hyderus at ei gilydd i ddefnyddio Cymraeg y tu allan i’r sesiynau byr gyda’r grŵp cyfan, fel adeg cofrestru neu yn ystod gweithgareddau canu ar ddiwedd sesiwn. Nid yw’r plant yn defnyddio’r Gymraeg wrth chwarae a dysgu, oni bai fod oedolyn yno i’w hannog. In over a third of English-medium settings, children do not make enough progress in Welsh. Children generally lack confidence in using Welsh outside short, whole-group sessions, such as registration periods or end-of-session singing activities. They do not use Welsh in their play and learning without prompts from adults.
9
Darpariaeth Provision
Mae darpariaeth tua 90% o’r lleoliadau’n dda. Mae llawer o’r lleoliadau’n cynllunio’r cwricwlwm yn dda. Mae cynlluniau’r ymarferwyr yn ddigon manwl a hyblyg i addasu wrth i ddiddordebau’r plant newid. Mae’r ymarferwyr yn pennu medrau’n glir wrth gynllunio dogfennau, ac maen nhw’n rhoi sylw da iddyn nhw ym mhob maes dysgu. Provision is good in around 90% of settings. Curriculum planning is sound in many settings. Practitioners’ planning is detailed and flexible enough to adapt as children’s interests change. Practitioners identify skills clearly in planning and there is good coverage across all areas of learning.
10
Mae gwendidau i’w gweld ym mron chwarter o’r lleoliadau yn y ddarpariaeth ar gyfer datblygu’r Gymraeg (yn y lleoliadau cyfrwng Saesneg), technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, a defnyddio’r awyr agored. Mae diffyg parhad a dilyniant i’w weld yn y gwaith cynllunio hefyd. Canlyniad hyn yw nad yw’r ymarferwyr yn cynnig digon o her bob tro i’r plant mwy galluog. Nid yw’r ymarferwyr mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg bob amser yn canolbwyntio’n ddigon da ar ymestyn galluoedd y plant y mae eu medrau mewn Cymraeg iaith gyntaf yn dda. In nearly a quarter of settings, there are weaknesses in provision for Welsh language development (in English-medium settings), information and communication technology and the use of the outdoors. There is also a lack of continuity and progression in planning. As a result, practitioners do not always provide enough challenge for more able children. Practitioners in Welsh-medium settings do not always focus well enough on extending the abilities of children with good Welsh first language skills.
11
Mae gwelliannau i’w gweld eleni o ran gallu’r ymarferwyr i ddeall sut mae plant yn dysgu a datblygu.
Mae llawer o’r ymarferwyr yn dangos hefyd eu bod yn deall yn well ei bod yn bwysig bod plant yn dysgu drwy brofiadau uniongyrchol, a bod yr addysgu a’r ymyrraeth yn canolbwyntio ar y plant. This year, there are improvements in practitioners’ understanding of how children learn and develop. Many practitioners also demonstrate a better understanding of how important it is that children learn through first-hand experiences and that they have focused teaching and intervention.
12
Yn y lleoliadau prin hynny lle mae gwendidau i’w gweld yn yr addysgu:
nid yw’r ymarferwyr yn defnyddio holi’n ddigon da gan annog y plant i feddwl drostyn nhw eu hunain; ac mae’r asesiadau’n arwynebol. In the few settings where there are weaknesses in teaching: practitioners do not use questioning well enough to encourage children to think for themselves; and assessments are superficial.
13
Care, support and guidance in nearly all settings are of a good quality.
Appropriate induction helps children to settle quickly on transition from home, eat healthily and take regular physical exercise. Practitioners encourage children to recycle their milk cartons and compost fruit. Mae gofal, cymorth ac arweiniad o ansawdd da ym mron pob un o’r lleoliadau. Mae cyfnod ymsefydlu priodol yn helpu’r plant i ymgartrefu’n gyflym wrth drosglwyddo o’r cartref, i fwyta’n iach ac i wneud ymarfer corff yn rheolaidd. Mae’r ymarferwyr yn annog y plant i ailgylchu eu cartonau llaeth ac i gompostio ffrwythau. Unsure of the first bullet point.
14
Mae’r amgylchedd yn y rhan fwyaf o’r lleoliadau’n gynnes ac yn groesawgar, ac mae’r plant yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel. Mae safon yr adnoddau’n dda ar y cyfan ac maen nhw’n gweddu i oedran a diddordebau’r plant. Mae lleiafrif o’r lleoliadau’n cael trafferth ariannu adnoddau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, sy’n rhwystro’r plant rhag gwneud cynnydd. Most settings provide a warm, welcoming environment where children feel happy and secure. Resources are generally of a good quality and suitable for the age and interests of the children. A minority of settings struggle to fund information and communication technology resources. This hampers children’s progress.
15
Arweinyddiaeth a rheolaeth Leadership and management
Mae gwaith arwain 89% o’r lleoliadau y gwnaethon ni eu harolygu’n dda neu’n well. Leadership is good or better overall in 89% of settings inspected.
16
Yn y nifer bach iawn o’r lleoliadau lle mae’r gwaith arwain yn rhagorol:
mae synnwyr clir o gyfeiriad a diben gan yr ymarferwyr, ac mae’r gwaith tîm yn effeithiol iawn ac yn cael blaenoriaeth. Mae’r arweinwyr yn rhoi pwyslais cadarn ar wella deilliannau, ac maen nhw’n barod i ddysgu ac i roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio. In the very few settings where leadership is excellent: Practitioners have a clear sense of direction and purpose, and teamwork is prioritised and highly effective. Leaders have a strong focus on improving outcomes and a willingness to learn and try new ways of working.
17
Yn yr ychydig o leoliadau lle nad yw’r gwaith arwain yn well na digonol:
nid yw’r pwyllgor rheoli, y person cofrestredig na’r perchennog yn deall yn iawn a yw’r lleoliad yn perfformio’n dda. Nid ydyn nhw chwaith yn canolbwyntio digon ar safonau a lles y plant. In the few settings where leadership is only adequate: the management committee, registered person or proprietor have little understanding of how well the setting is performing and do not focus enough on improving children’s standards and wellbeing.
18
Improving quality is a relatively weak area of leadership
Improving quality is a relatively weak area of leadership. The picture this year is a slightly worsening one compared to last year. In almost a quarter of settings with adequate or unsatisfactory practice, self-evaluation processes are superficial and planning is weak. These settings do not evaluate children’s progress robustly and improvement actions are not suitably prioritised or costed. Mae gwella ansawdd yn faes cymharol wan o’r gwaith arwain. Mae’r darlun eleni ychydig yn waeth o gymharu â’r llynedd. Ym mron chwarter y lleoliadau lle mae’r arfer yn ddigonol neu’n anfoddhaol, mae’r prosesau hunanarfarnu yn arwynebol ac mae’r cynllunio’n wan. Nid yw’r lleoliadau hyn yn arfarnu cynnydd y plant yn gadarn ac nid yw camau gwella’n cael blaenoriaeth iawn nac yn cael eu costio.
19
Mae gweithio mewn partneriaeth yn dda neu’n well yn y rhan fwyaf o'r lleoliadau.
Mae’r berthynas â’r rhieni a’r gofalwyr yn parhau’n un o’r prif gryfderau – mae lleoliadau’n cynnwys y rhieni a’r gofalwyr mwy a mwy yn addysg eu plant. Mae’r lleoliadau’n gwella’r cysylltiadau ag ysgolion cynradd yr ardal yn raddol, er mwyn sicrhau parhad eu dysgu a rhannu adnoddau. Partnership working is good or better in most settings. Relationships with parents and carers remain a significant strength - settings increasingly involving parents and carers in their children’s learning. Settings are gradually developing better links with local primary schools to support continuity in learning and to share resources.
20
Leaders manage resources well in most settings.
Mae arweinwyr y mwyafrif o’r lleoliadau’n rheoli adnoddau’n dda. Maen nhw’n defnyddio’u staff yn briodol i hybu dysgu’r plant, ac mae llawer o’r ymarferwyr wedi cael eu hyfforddi’n dda i gyflwyno’r cwricwlwm. Nid yw ymarferwyr lleiafrif sylweddol o’r lleoliadau cyfrwng Saesneg yn hyderus wrth ddefnyddio’r Gymraeg gyda’r plant. Nid ydyn nhw wedi cael eu hyfforddi’n dda yn y technegau i’w defnyddio wrth gynorthwyo plant i ddysgu Cymraeg. Leaders manage resources well in most settings. They use their staff appropriately to support children’s learning. Many practitioners are well trained to deliver the curriculum. In a significant minority of English-medium settings, practitioners are not confident in using Welsh with the children and are not well trained in using techniques to support children in learning Welsh.
21
Astudiaethau Achos o arfer orau Case Studies of best practice
Ymagwedd holistig at les –Cylch Meithrin Ynysybwl, Rhondda Cynon Taf Mae’r feithrinfa yn cynnig profiad dysgu personol i bob plentyn – Cylch Chwarae Cadwgan, Conwy Gwneud cynllunio gwersi’n hwyl – Meithrinfa Ddydd a Chlwb Hwyl Llywelyn, Sir Ddinbych A holistic approach to wellbeing –Cylch Meithrin Ynysybwl, Rhondda Cynon Taff Nursery offers each child a personalised learning experience – Cadwgan Playgroup, Conwy Putting the fun into lesson planning - Llywelyn Day Nursery and Fun Club, Denbighshire
22
Cwestiynau i'w hystyried Questions to consider
Safonau Sut ydyn ni’n gwybod pa mor dda yw medrau llythrennedd, rhifedd a TGCh y plant? A yw rhai plant yn gwneud mwy o gynnydd na phlant eraill? Pam hynny tybed? Os taw lleoliad cyfrwng Saesneg ydyn ni, pa mor aml ydyn ni’n clywed y plant yn siarad Cymraeg y tu allan i sesiwn strwythuredig? Os taw dim ond mewn sesiynau strwythuredig mae’r plant yn defnyddio Cymraeg, pam hynny tybed? Beth allwn ni wneud am hyn? Standards How do we know how good are children’s literacy, numeracy and ICT skills? Are some children making more progress than other children? Why do we think this is? If we are an English-medium setting, how often do we hear children speaking Welsh outside a structured session? If children only use Welsh in structured sessions, why do we think this is? What can we do about this?
23
Cwestiynau i'w hystyried Questions to consider
Darpariaeth Sut ydyn ni’n sicrhau bod amrywiaeth fawr o brofiadau dysgu o ansawdd uchel yn cael eu cynnig i’r plant? Pa mor dda yw ein gweithdrefnau asesu? Faint o ddefnydd ydyn ni’n gwneud o asesu yn ein cynllunio? Provision How do we ensure that children are provided with a wide range of high quality learning experiences? How good are our assessment procedures? How much use do we make of assessment in our planning?
24
Cwestiynau i'w hystyried Questions to consider
Darpariaeth Os taw lleoliad cyfrwng Cymraeg ydyn ni, sut ydyn ni’n darparu ar gyfer anghenion plant o wahanol gefndiroedd Cymraeg eu hiaith? A ydyn ni weithiau’n trefnu sesiynau stori ar gyfer plant sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf a’r rhai sy’n dysgu’r iaith? Sut ydyn ni’n gwneud yn siwr fod gweithgareddau’n heriol i bob plentyn? Sut ydyn ni’n gwybod os ydyn ni’n gwneud hyn yn dda? Provision If we are a Welsh-medium setting, how do we cater for the needs of children from different Welsh-language backgrounds? Do we sometimes arrange story sessions for children who have Welsh as a first language and those who are learning the language? How do we make sure that activities are challenging for all children? How do we know if we are doing this well?
25
Cwestiynau i'w hystyried Questions to consider
Arweinyddiaeth Pa mor dda yw ein gweithdrefnau hunanarfarnu? A allwn ni nodi enghreifftiau o ble mae’r hunanarfarnu wedi sicrhau gwelliannau yn safonau a / neu les y plant? A oes cysylltiad clir rhwng ein gwaith cynllunio ar gyfer gwelliant a hunanarfarnu? Pa mor dda ydyn ni’n rhoi blaenoriaeth i’r hyn sydd angen ei wella, gan ystyried bod cyllidebau’n eithaf tynn yn aml? Leadership How good are our self-evaluation procedures? Can we identify examples of where self-evaluation has brought about improvements in children’s standards and / or wellbeing? Is our planning for improvement clearly linked to self-evaluation? How well are we prioritising what needs to be improved, bearing in mind that budgets are often quite tight?
26
Cwestiynau i'w hystyried Questions to consider
Arweinyddiaeth Pa systemau sydd gennym ar waith i roi gwybodaeth gyson i’n pwyllgor rheoli / perchennog am waith ein lleoliad? Leadership What systems do we have in place to keep our management committee/ proprietor well informed about our setting’s work?
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.