Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Adroddiad Blynyddol 2011-2012 (Dysgu Oedolion yn y Gymuned) Annual Report 2011-2012 (Adult Community Learning)

Similar presentations


Presentation on theme: "Adroddiad Blynyddol 2011-2012 (Dysgu Oedolion yn y Gymuned) Annual Report 2011-2012 (Adult Community Learning)"— Presentation transcript:

1 Adroddiad Blynyddol (Dysgu Oedolion yn y Gymuned) Annual Report (Adult Community Learning)

2 Perfformiad a Rhagolygon Performance and Prospects
Mae perfformiad yn dda yn gyffredinol yn un o’r tair partneriaeth a arolygwyd gennym eleni. Mae perfformiad yn anfoddhaol mewn dwy o’r partneriaethau. Ceir rhagolygon gwella rhagorol mewn un bartneriaeth, a digonol yw’r rhagolygon yn y ddwy bartneriaeth arall. Performance is good overall in one of the three partnerships we inspected this year. Performance is unsatisfactory in two partnerships. Prospects for improvement are excellent in one partnership and adequate in the other two partnerships.

3 Gweithgarwch dilynol Follow-up activity
Mae angen gweithgarwch dilynol mewn dwy o’r partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned eleni gan fod eu perfformiad presennol yn anfoddhaol. Roedd angen gweithgarwch dilynol mewn dwy o’r partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned y llynedd hefyd. Two ACL partnerships require follow-up activity this year since current performance is unsatisfactory. Last year, two ACL partnerships also required follow-up activity.

4 Deilliannau Outcomes Mae safonau da yn cael eu cyflawni gan y dysgwyr mewn un bartneriaeth, maen nhw’n cyflawni safonau digonol mewn partneriaeth arall, a safonau annigonol yn y drydedd bartneriaeth a arolygwyd. Standards achieved by learners are good in one partnership, adequate in one and unsatisfactory in the third partnership inspected.

5 Ble mae’r safonau’n dda:
mae dysgwyr o wahanol gefndiroedd a galluoedd yn cyflawni safonau da yn eu gwaith. Mae llawer o’r dysgwyr y mae eu medrau sylfaenol yn wan yn llwyddo i wella’u medrau llythrennedd a rhifedd. Mae llawer o’r dysgwyr yn cyflawni safonau da yn eu dosbarthiadau ac yn sicrhau deilliannau sy’n rhagori ar y cyfartaledd cenedlaethol neu’n ddigon agos ato. Where standards are good: learners from different backgrounds and levels of ability achieve good standards in their work. Many learners with weak basic skills successfully improve their literacy and numeracy skills. Many learners achieve good standards in their classes and gain outcomes above or near to the national average.

6 Where standards are adequate or unsatisfactory:
Lle mae safonau yn ddigonol neu’n anfoddhaol: mae’r dysgwyr yn gwneud cynnydd araf, yn enwedig mewn ASO ac SSIE; yn aml maen nhw’n gweithio ar lefelau islaw eu gallu, nid ydyn nhw’n herio’u hunain nac yn symud yn ddigon cyflym i lefelau dysgu uwch; nid oes digon o ddysgwyr yn symud ymlaen o gyrsiau lefel mynediad i gyrsiau lefel 2. mae gormod o ddysgwyr mewn dosbarthiadau cyffredinol dysgu oedolion nad ydyn nhw’n datblygu’u medrau llythrennedd a rhifedd yn ddigon da. Where standards are adequate or unsatisfactory: learners make slow progress particularly in ABE and ESOL; they often work at levels below their ability, do not challenge themselves or progress quickly to higher levels of learning; and too few learners progress from entry level to level 2 courses. too many learners in general adult learning classes do not develop their literacy and numeracy skills well enough.

7 Mae hunanhyder a theimlad o hunan-werth y rhan fwyaf o’r dysgwyr, ynghyd â’u gallu i ddysgu, yn gwella wrth gymryd rhan mewn dysgu oedolion. Mae llawer o’r dysgwyr yn mynd ymlaen i waith neu i gymdeithasau gwirfoddol a chymunedol, ac yn defnyddio’u medrau a’u gwybodaeth yn dda yno. Most learners improve their self-confidence and feeling of self-worth and their ability to learn as a result of taking part in adult learning. Many learners make good use of their skills and knowledge subsequently in work, or voluntary and community organisations.

8 Mae agweddau’r mwyafrif o’r dysgwyr at ofalu am iechyd eu cyrff a’u meddyliau’n dod yn fwy cadarnhaol. Mae’r dysgwyr hŷn yn manteisio’n dda ar y dosbarthiadau i gynnal cysylltiadau cymdeithasol ac i ychwanegu at eu galluoedd deallusol. The majority of learners develop positive attitudes to looking after their physical and mental health. Older learners make good use of the classes they attend to maintain social contact and increase their intellectual abilities.

9 Darpariaeth Provision
Mae’r ddarpariaeth yn dda mewn un o’r partneriaethau a gafodd ei harolygu, ac mae’n ddigonol mewn dwy. Mae’r partneriaethau a gafodd eu harolygu eleni’n darparu dosbarthiadau a chyrsiau sy’n bodloni’r blaenoriaethau ar gyfer gwella medrau sylfaenol a medrau ar gyfer cael gwaith yn foddhaol. Provision is good in one of the partnerships inspected and adequate in two. The partnerships inspected this year are providing classes and courses which meet priorities for improving basic and employability skills satisfactorily.

10 Nid yw dwy o’r partneriaethau’n mynd ati’n ddigon da i ymchwilio i anghenion eu cymunedau er mwyn cynllunio ar gyfer cyflwyno’r ddarpariaeth. Canlyniad hyn yw nad ydyn nhw’n gwybod i ba raddau mae’r ddarpariaeth yn diwallu anghenion y cymunedau neu’r dysgwyr. At ei gilydd, nid oes digon o ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael i’r dysgwyr. Two of the partnerships do not research the needs of their communities well enough to plan the delivery of the provision. As a result, they do not know how well provision meets the needs of communities or learners. Overall, there is too little Welsh medium provision available for learners.

11 One partnership works well to combine basic skills with a wide range of courses, including information and communication technology and digital photography. In general adult learning classes, providers do not help learners to improve their literacy and numeracy skills well enough. Mae un bartneriaeth yn gweithio’n dda, gan gyfuno medrau sylfaenol â dewis eang o gyrsiau sy’n cynnwys technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a ffotograffiaeth ddigidol. Nid yw’r darparwyr sy’n cynnig dosbarthiadau cyffredinol ym maes dysgu oedolion yn helpu’r dysgwyr i wella’u medrau llythrennedd a rhifedd yn ddigon da.

12 Many tutors do not plan assessment well enough; and
Mae ansawdd yr addysgu’n dda neu’n well yn y mwyafrif o’r dosbarthiadau a gafodd eu harolygu. Nid yw llawer o’r tiwtoriaid yn cynllunio asesu’n ddigon da; ac Nid ydyn nhw’n defnyddio cynlluniau dysgu’n ddigon da i helpu’r dysgwyr i ddeall i ba raddau maen nhw’n dod yn eu blaenau ac i adnabod beth sydd angen iddyn nhw wneud i wella. The quality of teaching is good or better in the majority of classes inspected. Many tutors do not plan assessment well enough; and they do not make good enough use of learning plans to help learners to understand how well they are progressing and to recognise what they need to do to improve.

13 Ar y cyfan, nid yw’r partneriaethau’n gweithio’n ddigon da gyda’i gilydd i roi sylw i flaenoriaethau cenedlaethol dysgu oedolion. Nid oes dull cyson gan bartneriaethau dysgu oedolion i helpu dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i wneud cynnydd da. Generally, partnerships do not work well enough together to address the national priorities for adult learning. Adult learning partnerships do not have a consistent approach to helping learners with additional learning needs make good progress.

14 All partnerships work well to promote equality and diversity.
Mae pob un o’r partneriaethau’n gweithio’n dda i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae’r rhan fwyaf o’r tiwtoriaid yn rhoi sylw da i gydraddoldeb, ac mae’r awyrgylch ym mhob un o’r sesiynau yn groesawgar ac yn llawn parch. Ond nid yw’r partneriaethau’n gwneud digon i ymgorffori’r dimensiwn Cymreig i ddeunydd a chynnwys y cyrsiau. All partnerships work well to promote equality and diversity. Most tutors pay good attention to equality and the atmosphere in all sessions is welcoming and respectful. However, partnerships do not do enough to integrate the Welsh dimension into course material and content.

15 Arweinyddiaeth a rheolaeth Leadership and management
Mae’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth yn amrywio’n fawr o ran ansawdd, o fod yn dda mewn un bartneriaeth i fod yn anfoddhaol mewn dwy bartneriaeth a arolgwyd eleni. Leadership and management vary widely in quality, from good in one partnership to unsatisfactory in two partnerships inspected this year.

16 Where leadership is good, one partnership:
has good plans that set out clear aims and objectives; checks progress against these objectives well; has effective procedures for improving quality. Staff understand how well they are performing and where they need to improve. Outcomes for learners have improved because of better teaching and assessment. Lle mae’r arweinyddiaeth yn dda, mae un bartneriaeth: yn meddu ar gynlluniau da sy’n amlinellu nodau ac amcanion clir; yn gwirio cynnydd yn dda yn erbyn yr amcanion hyn; yn meddu ar weithdrefnau effeithiol ar gyfer gwella ansawdd. Mae’r staff yn deall pa mor dda maen nhw’n perfformio a ble mae angen iddynt wella. Mae’r deilliannau ar gyfer dysgwyr wedi gwella yn sgîl addysgu ac asesu gwell.

17 Yn y ddwy bartneriaeth lle mae’r arweinyddiaeth yn anfoddhaol:
nid oes ganddynt amcanion a thargedau clir i’w helpu i reoli’u gwaith, neu i fesur ac arfarnu ansawdd ac effaith eu darpariaeth ar y dysgwyr; ac nid ydynt yn mynd ati’n ddigon da i fonitro ac asesu ansawdd y ddarpariaeth. Two partnerships where leadership is unsatisfactory: do not have clear objectives and targets to help them to manage their work, or to measure and evaluate the quality and impact of their provision on learners; and do not monitor and assess the quality of provision well enough.

18 Ar y cyfan, mae cymwysterau’r tiwtoriaid dysgu oedolion yn briodol i addysgu eu pynciau.
Mae un bartneriaeth yn gweithio’n dda i gydlynu datblygiad staff pob un o’i phartneriaid. Nid yw’r ddwy bartneriaeth arall yn mynd ati’n ddigon da i gydlynu datblygiad y staff, ac nid ydyn nhw chwaith yn mesur effaith hyfforddiant staff ar ddysgu. Overall, adult learning tutors are appropriately qualified to teach their subjects. One partnership works well to co-ordinate staff development across all of its partners. The other two partnerships do not co-ordinate staff development well enough or measure the impact of staff training on learning.

19 Generally, ACL partnerships do not help tutors to undertake the professional aspects of their role well enough. This hinders the capacity of tutors to improve the quality of assessment and help learners to plan their learning, make good progress and improve their outcomes. Ar y cyfan, nid yw’r partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn helpu’r tiwtoriaid yn ddigon da i ymgymryd â’r agweddau proffesiynol ar eu rôl. Mae hyn yn rhwystro gallu’r tiwtoriaid i wella ansawdd yr asesu ac i helpu’r dysgwyr i gynllunio’u dysgu, i wneud cynnydd da ac i wella’u deilliannau.

20 Cwestiynau i'w hystyried Questions to consider
Sut gallwn ni wella cyfraddau dilyniant o fewn rhaglenni? Sut gallwn ni wella ansawdd asesiadau cychwynnol a phrofion diagnostig? A yw ein cynlluniau dysgu unigol yn ddigon manwl, ac a ydynt yn ddogfennau gweithio da? How can we improve progression rates within programmes? How can we improve the quality of initial assessments and diagnostic testing? Are our individual learning plans sufficiently detailed and are they good working documents?

21 Cwestiynau i'w hystyried Questions to consider
Sut gallwn ni wella’r broses o olrhain cynnydd y dysgwyr? Ym mha ffyrdd y gallwn ni ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd y dysgwyr ymhellach? Sut gallwn ni wella gwybodaeth cyflogwyr am ofynion rhaglenni’n gysylltiedig â gwaith? How can we improve the tracking of learners’ progress? In what ways can we further develop learners’ literacy and numeracy skills? How can we improve employers’ knowledge about the requirements of work related programmes?


Download ppt "Adroddiad Blynyddol 2011-2012 (Dysgu Oedolion yn y Gymuned) Annual Report 2011-2012 (Adult Community Learning)"

Similar presentations


Ads by Google