Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Perfformiad a Rhagolygon Performance and Prospects

Similar presentations


Presentation on theme: "Perfformiad a Rhagolygon Performance and Prospects"— Presentation transcript:

1 Adroddiad Blynyddol 2011-2012 (Ysgolion annibynnol) Annual Report 2011-2012 (Independent schools)

2 Perfformiad a Rhagolygon Performance and Prospects
Mae perfformiad yn rhagorol mewn tair o’r pedair ysgol a arolygwyd. Mae perfformiad yn dda mewn un ysgol. Mae rhagolygon gwella rhagorol mewn tair ysgol, ac yn ddigonol mewn un ysgol. Performance is excellent in three of the four schools inspected. It is good in one school. Prospects for improvement are excellent in three schools and adequate in one school.

3 Gweithgarwch dilynol Follow-up activity
Eleni, fe wnaeth pob ysgol a arolygwyd fodloni pob un o reoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol. Cynhaliom dri ymweliad monitro dilynol â thair ysgol nad oedd wedi bodloni’r rheoliadau y llynedd. Erbyn hyn mae dwy o’r ysgolion yn cydymffurfio â’r rheoliadau, ac mae’r ysgol arall yn bodloni bron pob un o’r gofynion. This year, all schools inspected met all of the Independent School Standards regulations. We carried out follow-up monitoring visits to three schools that had not met regulations last year. Two now fully comply with regulations and the other school meets almost all requirements.

4 Deilliannau Outcomes Mae safonau tair o’r ysgolion yn rhagorol, ac mae safonau un ysgol yn dda. Ym mhob ysgol, mae’r disgyblion yn gwneud cynnydd da ac mae llawer ohonynt yn gallu cymhwyso’u gwybodaeth mewn cyd-destunau newydd i lunio cysylltiadau a datrys problemau. Mewn tair ysgol, mae’r disgyblion yn cyflawni safonau uchel iawn ac yn sicrhau canlyniadau rhagorol yn yr arholiadau allanol. Standards are excellent in three schools and good in one. In all schools, pupils make good progress and many can apply their knowledge in new contexts to draw links and solve problems. In three schools, pupils achieve very high standards and attain outstanding results in external examinations. Unsure about the third bullet point. - DG

5 By the end of key stage 2, most pupils read fluently and accurately.
Mae’r disgyblion yn cyfrannu’n dda at drafodaethau mewn gwersi, ac yn cyflwyno’u syniadau yn hyderus, ac yn huawdl yn aml. Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn darllen yn rhugl ac yn gywir erbyn diwedd cyfnod allweddol 2. Mae disgyblion yn datblygu eu medrau ysgrifennu’n annibynnol yn dda. Erbyn diwedd cyfnod allweddol 4, mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn ysgrifennu’n estynedig mewn amryw o arddulliau, gan gyflwyno syniadau cymhleth yn effeithiol. Pupils contribute well to discussions in lessons and present their ideas confidently and often eloquently. By the end of key stage 2, most pupils read fluently and accurately. Pupils develop their independent writing skills well. By the end of key stage 4, most pupils write extensively in a range of styles, presenting complex ideas effectively.

6 Yng nghyfnod allweddol 2, nid yw lleiafrif o ddisgyblion hanner o’r ysgolion yn ysgrifennu’n estynedig yn ddigon da. Ym mhob un o’r cyfnodau allweddol, nid yw ychydig o’r disgyblion yn cyflwyno’u gwaith yn dda, ac maent yn gwneud camgymeriadau. Mae disgyblion tair o’r ysgolion yn cymhwyso’u medrau rhifedd yn sicr i gyfrifo fformwlâu a dehongli data. Yn yr ysgolion hyn, mae medrau meddwl beirniadol a medrau datrys problemau disgyblion wedi datblygu’n dda. At key stage 2 in half of the schools, a minority of pupils do not write at length well enough. In all key stages, a few pupils do not present their work well and make errors. In three schools, pupils apply their numeracy skills securely to calculate formulae and interpret data. In these schools, pupils’ critical thinking and problem-solving skills are highly developed. Not certain about the second bullet point - DG

7 Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn mynychu’n rheolaidd, yn dangos parch at ei gilydd ac yn dangos diddordeb brwd yn eu dysgu. Mae’r disgyblion yn cyfrannu at benderfyniadau am fywyd yr ysgol, ond yn amlach na pheidio, penderfyniadau ynghylch pethau fel adeiladau, yr amgylchedd ac ansawdd bwyd yw’r rhain yn hytrach na phenderfyniadau am drefniadau’r cwricwlwm. Most pupils attend regularly, show respect for one another and are highly engaged in their learning. Pupils contribute to decision-making about school life, but more commonly, decisions are limited to things like the accommodation, environment and quality of food rather than making decisions about curriculum arrangements.

8 Darpariaeth Provision
Mae pob un o’r ysgolion yn cynnig cwricwlwm cytbwys a chynhwysfawr sy’n bodloni Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru). Mae dewis da iawn o gyrsiau academaidd ar lefel TGAU a Safon Uwch ar gael i ddisgyblion tair o’r ysgolion. Yn gyffredinol, mae’r cysylltiadau rhwng adrannau cynradd a hŷn yr ysgolion yn sicrhau parhad ym mhrofiadau dysgu’r disgyblion. Mewn un o’r ysgolion, nid yw cynllunio’r cwricwlwm o oed babanod hyd at y plant hŷn yn adeiladu’n dda ar ddysgu blaenorol y disgyblion. All schools provide a broad and balanced curriculum that meets the Independent School Standards (Wales) Regulations. In three schools, pupils have a very good choice of academic courses at GCSE and A Level. Generally, links between primary and senior sections of the schools ensure continuity in pupils’ learning experiences. In one school, curriculum planning from infants to juniors does not build well on pupils’ previous learning.

9 Mae ysgolion yn cynllunio’n dda i ddatblygu medrau disgyblion, yn enwedig eu medrau siarad, darllen a meddwl. Nid yw’r cyfleoedd sydd ar gael mewn dwy o’r ysgolion yn cael eu cynllunio’n ddigon da i ddatblygu medrau llythrennedd ar draws y cwricwlwm. Mae tair ysgol yn cynnig dewis amrywiol iawn o weithgareddau allgyrsiol sy’n ehangu ac yn cyfoethogi profiadau dysgu’r disgyblion a’u datblygiad cymdeithasol a phersonol. Schools plan well to develop pupils’ skills, particularly in speaking, reading and thinking. In two schools, opportunities to develop literacy skills across the curriculum are not planned well enough. In three schools, a very wide range of extra-curricular activities broadens and enriches pupils’ learning experiences and their personal and social development.

10 Mae’r addysgu’n dda mewn dwy ysgol, lle :
Mae’r addysgu’n rhagorol mewn un ysgol lle mae gan yr athrawon wybodaeth bynciol eang, disgwyliadau arbennig o uchel o’r disgyblion a lefel herio gadarn. Mae’r addysgu’n dda mewn dwy ysgol, lle : mae’r athrawon yn cynnig esboniadau glir a chwestiynu craff fel bod disgyblion yn myfyrio ar eu gwaith; mae gweithgareddau dysgu ysgogol yn tanio dychymyg y disgyblion; mae adborth adeiladol yn helpu disgyblion i ddeall beth sydd angen iddynt wneud i wella. Teaching is excellent in one school where teachers have a broad subject knowledge, particularly high expectations of pupils and rigorous level of challenge. Teaching is good in two schools, where : - teachers offer clear explanations and astute questioning so pupils reflect on their work; - stimulating learning activities capture pupils’ imagination; - constructive feedback helps pupils to understand what they need to do to improve.

11 Teaching is adequate in one school because teachers:
Digonol yw’r addysgu mewn un ysgol am nad yw’r athrawon: - yn cynnig digon o her; ac - yn rhoi digon o gyfleoedd i’r disgyblion weithio’n annibynnol neu mewn grwpiau bach, i ymchwilio neu ddatrys problemau. Mae athrawon pob un o’r ysgolion yn monitro cynnydd y disgyblion yn ofalus Mewn tair ysgol, mae’r athrawon yn dadansoddi data asesu i wirio bod y disgyblion yn cael eu herio digon i wella, ac maent yn cynnig ymyrraeth briodol lle bo angen hynny. Teaching is adequate in one school because teachers: - do not provide enough challenge; and - do not give pupils enough opportunities to work independently or in small groups, to research or solve problems. In all schools, teachers monitor pupils’ progress carefully. In three schools, teachers analyse assessment data to check that pupils are suitably challenged to improve and provide appropriate intervention where necessary. Uncertain about the last bullet point. - DG

12 Mae pob un o’r ysgolion wedi rhoi trefniadau gofal, cymorth ac arweiniad effeithiol ar waith.
Maen nhw’n hybu datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn dda. All schools have effective care support and guidance arrangements. They promote pupils’ spiritual, moral, social and cultural development well.

13 Arweinyddiaeth a rheolaeth Leadership and management
Mae’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth yn rhagorol mewn tair o’r ysgolion a gafodd eu harolygu, ac yn ddigonol mewn un ysgol. Yn yr ysgolion lle mae’r arweinyddiaeth yn rhagorol, mae’r arweinwyr: yn sefydlu gweledigaeth strategol glir ar sail disgwyliadau uchel, amgylchedd cefnogol a’r ymdrech i sicrhau rhagoriaeth; yn pennu blaenoriaethau clir ac yn gosod cyfeiriad cadarn i waith yr ysgol; yn hyrwyddo synnwyr cadarn o ddiben ac ymrwymiad i werthoedd mae pawb yn eu rhannu. Leadership and management are excellent in three schools and adequate in one school inspected. In schools where leadership is excellent, leaders: establish a clear strategic vision based on high expectations, a supportive environment and pursuit of excellence; set out clear priorities and provide firm direction to the school’s work; promote a strong sense of purpose and commitment to shared values.

14 Pan fydd yr arweinyddiaeth yn ddigonol, nid oes diffiniad clir o rôl a chyfrifoldebau’r staff. Nid yw’r trefniadau rheoli perfformiad yn effeithio digon ar wella’r ddarpariaeth a safonau. Mae perchnogion pob un o’r ysgolion yn helpu i osod cyfeiriad strategol yr ysgol ac yn goruchwylio gwaith yr ysgol yn effeithiol. Maent yn wybodus am berfformiad yr ysgol ac yn cynnig her briodol. Where leadership is adequate, staff roles and responsibilities are not clearly defined and performance management arrangements do not have enough impact on improving provision and standards. In all schools, proprietors help to set the strategic direction and provide effective oversight of the school’s work. They are well informed about the school’s performance and provide appropriate challenge.

15 Mae’r hunanarfarnu a chynllunio ar gyfer gwella yn dda neu’n well mewn tair ysgol. Mae gan yr ysgolion hyn: drefniadau hunanarfarnu trylwyr; dadansoddiadau manwl o berfformiad disgyblion ac ansawdd y dysgu; blaenoriaethau datblygu clir; a gwelliannau sylweddol yn eu safonau a’u darpariaeth. Self-evaluation and improvement planning are good or better in three schools. These schools have: rigorous self-evaluation arrangements; detailed analyses of pupils’ performance and the quality of learning; clear development priorities; and significant improvements in their standards and provision.

16 Mewn un ysgol, digonol yw’r broses gwella ansawdd am nad yw arsylwadau gwersi’n ddigon trylwyr, ac nid yw’r rheolwyr yn dadansoddi data am berfformiad yn gadarn. Mae tair ysgol wedi sefydlu partneriaethau cadarn gyda sefydliadau busnes, cymunedol, chwaraeon a diwylliannol yn yr ardal. Mae’r cysylltiadau hyn yn helpu i wella cyflawniadau’r disgyblion a’u datblygiad personol a diwylliannol. In one school, improving quality is adequate because lesson observations lack rigour and managers do not analyse performance data robustly. Three schools have strong partnerships with local business, community, sporting and cultural organisations. These links help to raise pupils’ achievements and support their personal and cultural development.

17 Mae pob un o’r ysgolion yn rheoli’u materion ariannol yn ofalus, gan gynllunio’n ddoeth ar gyfer y dyfodol. Mae tair o’r ysgolion yn defnyddio adnoddau’n rhagorol, gan sicrhau bod cyllid yn cael ei ddyrannu i flaenoriaethau sydd wedi’u nodi, a chyflawni deilliannau rhagorol ar gyfer y disgyblion. All schools manage their financial matters carefully, planning prudently for the future. Three schools make excellent use of resources, ensuring that funding is allocated for identified priorities and achieving excellent outcomes for pupils. Not sure about the second bullet point. - DG

18 Astudiaethau Achos o arfer orau Case Studies of best practice
Cynllun gwobrwyo ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol 3 – Ysgol y Gadeirlan, Caerdydd Rhaglen Fentora ar gyfer athrawon – Ysgol y Gadeirlan, Caerdydd Award scheme for key stage 3 pupils – The Cathedral School, Cardiff Mentoring Programme for teachers – The Cathedral School, Cardiff

19 Cwestiynau i'w hystyried Questions to consider
Lle bo’n berthnasol, sut mae perfformiad ein hysgol yn cymharu â pherfformiad ysgolion tebyg? A yw ein cwricwlwm yn diwallu anghenion pob un o’r disgyblion ac yn eu helpu i ddatblygu’r medrau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y cyfnod nesaf yn eu dysgu? Pa mor dda mae disgyblion yn datblygu’u medrau darllen ac ysgrifennu ar lefel uwch ar draws y cwricwlwm? Where relevant, how does our school’s performance compare with that of similar schools? Is our curriculum meeting the needs of all pupils and helping them to develop the skills that they need for the next stage of their learning? How well are pupils developing their higher-order reading and writing skills across the curriculum?

20 Cwestiynau i'w hystyried Questions to consider
Mewn ysgolion pob oed, pa mor dda mae’r trefniadau pontio yn sicrhau parhad a dilyniant ym mhrofiadau dysgu’r disgyblion? A oes disgwyliadau ddigon uchel gan yr athrawon, yn enwedig gan y disgyblion mwy galluog? Pa mor gyson a defnyddiol yw’r adborth i ddisgyblion, ac a yw’n rhoi syniad clir iddynt o’r hyn y mae angen iddynt wneud i wella? Pa gyfleoedd mae disgyblion yn eu cael i ddylanwadu ar waith ein hysgol? Beth fu effaith llais y dysgwr? In all-age schools, how well do transition arrangements ensure continuity and progression in pupils’ learning experiences? Do teachers have high enough expectations, particularly of more able pupils? How consistent and helpful is feedback to pupils and does it provide them with a clear idea of what they need to do to improve? What opportunities do pupils have to influence our school’s work? What has been the impact of the pupil voice?

21 Cwestiynau i'w hystyried Questions to consider
A oes gan arweinwyr ar bob lefel ddealltwriaeth glir o’r cryfderau a’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwella, ac a ydynt yn cael eu dwyn i gyfrif am berfformiad eu meysydd cyfrifoldeb? A yw gweithgareddau hunanarfarnu, gan gynnwys arsylwadau o wersi, yn canolbwyntio’n ddigon manwl ar gynnydd a chyflawniad disgyblion? Do leaders at all levels have a clear understanding of the strengths and priority areas for improvement and are held to account for the performance of their areas of responsibility? Do self-evaluation activities including lesson observations focus closely enough on pupils’ progress and achievement?


Download ppt "Perfformiad a Rhagolygon Performance and Prospects"

Similar presentations


Ads by Google