Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Sut mae lleoedd dros ben yn effeithio ar yr adnoddau sydd ar gael i wario ar wella deilliannau ar gyfer disgyblion? How do surplus places affect the resources.

Similar presentations


Presentation on theme: "Sut mae lleoedd dros ben yn effeithio ar yr adnoddau sydd ar gael i wario ar wella deilliannau ar gyfer disgyblion? How do surplus places affect the resources."— Presentation transcript:

1 Sut mae lleoedd dros ben yn effeithio ar yr adnoddau sydd ar gael i wario ar wella deilliannau ar gyfer disgyblion? How do surplus places affect the resources available for expenditure on improving outcomes for pupils?

2 Cefndir Background Mae’r broses ar gyfer cynllunio lleoedd ysgol yng Nghymru yn gymhleth yn sgîl: niferoedd yn gostwng mewn ysgolion uwchradd; niferoedd yn codi mewn ysgolion cynradd; gwahaniaethau rhwng ardaloedd trefol a gwledig; a galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg. The process of planning school places in Wales is complicated due to: falling rolls in secondary schools; rising rolls in primary schools; disparities between urban and rural areas; and a growing demand for Welsh medium education.

3 Cefndir Background Cytunir yn gyffredinol nad yw adnoddau ariannol yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon neu effeithiol i wella ansawdd addysg, lle mae lefel uwch na’r angen o leoedd ysgol. There is general agreement that, where there is a higher than necessary level of school places, financial resources are not being used in the most efficient or effective way to improve the quality of education.

4 Prif ganfyddiadau Main findings
Lle mae lefel uwch na’r angen o leoedd ysgol, mae adnoddau yn cael eu colli y gellid eu defnyddio'n well i wella ansawdd addysg. Mae yna un lle mewn pump yn fwy o leoedd heb eu llenwi yn 2011 nag oedd yn 2006, ac nid oes unrhyw awdurdod lleol wedi cyflawni’r lefel gan Lywodraeth a argymhellir o ddim mwy na 10% o leoedd gwag ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd. Where there is a higher than necessary level of school places, resources are lost that could be better used to improve the quality of education. There are one fifth more unfilled places in 2011 than there were in 2006 and no local authority has achieved the Welsh Government’s recommended level of no more than 10% surplus places across primary and secondary schools.

5 Prif ganfyddiadau Main findings
Ar hyn o bryd defnyddir ystod eang o strategaethau ar draws Cymru i leihau lleoedd dros ben. Y flaenoriaeth gan awdurdodau lleol yn gyffredinol yw i ad-drefnu ysgolion i wella safonau. Nid yw’r effaith ar ganlyniadau dysgwyr o'r defnydd mwy effeithlon o adnoddau yn sgîl ad-drefnu yn cael ei olrhain yn aml gan awdurdodau lleol. Currently a wide range of strategies is being used across Wales to reduce surplus places. The priority of local authorities generally is to reorganise schools to improve standards. The impact on learner outcomes from the more efficient use of resources brought about by reorganisation is rarely tracked by local authorities.

6 Prif ganfyddiadau Main findings
Dros gyfnod o amser, defnyddiwyd dulliau amrywiol dros amser i werthuso cost cynnal lleoedd dros ben mewn ysgolion o ran adnoddau a gollwyd. Mae diffyg dull safonol ar lefel genedlaethol yn creu anawsterau wrth gynnal trafodaeth ddeallus am effeithiolrwydd strategaethau. Various methods have been used over time to evaluate the cost of maintaining surplus places in schools in terms of lost resources. The lack of a standardised method at a national level creates difficulties in maintaining informed discussion about the effectiveness of strategies.

7 Prif ganfyddiadau Main findings
Mae'r awdurdodau lleol sydd wedi cyfrifo cost lleoedd dros ben yn ei gael yn ddefnyddiol wrth berswadio cymunedau ysgol, a rhai sy'n gwneud penderfyniadau, o'r angen i leihau lleoedd dros ben. Mae dadansoddiad atchweliad lluosog yn caniatáu adnabod y gost gyfartalog o leoedd gwag. Mae'n ddull safonol effeithiol oherwydd gall gyfrifo cyfartaledd ystadegol ar draws llawer o drefniadau cymhleth o ariannu ysgol a gaiff eu defnyddio gan awdurdodau lleol gwahanol yng Nghymru. Those local authorities that have calculated the cost of surplus places have found it useful in persuading school communities and decision makers of the need to reduce surplus places. Multiple regression analysis allows for the identification of the average cost of surplus places. It is an effective standardised method because it can calculate a statistical average across many complex school funding arrangements in use in different local authorities in Wales.

8 Argymhellion Recommendations
Dylai Llywodraeth Cymru: ystyried mabwysiadu dull safonol i’w ddefnyddio ar lefel genedlaethol ar draws pob ysgol er mwyn nodi cost gyfartalog lleoedd dros ben ac ysgolion dros ben; hyrwyddo gostwng lleoedd dros ben yn dystiolaeth o reoli adnoddau yn well a’r effaith ar wella ysgolion yn hytrach na fel diben ynddo’i hun; gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu a hyrwyddo arfer dda wrth arfarnu effaith cynlluniau ad-drefnu ysgolion; The Welsh Government should: consider the adoption of a standardised method to be used at a national level across all schools in order to identify the average cost of surplus places and surplus schools; promote the reduction of surplus places as evidence of better resource management and impact on school improvement rather than as an end in itself; work with local authorities to develop and promote good practice in evaluating the impact of school reorganisation schemes;

9 Argymhellion Recommendations
The Welsh Government should: require local authorities to conduct impact assessments on school reorganisation schemes where Welsh Government money is being used to support implementation; and work with local authorities to identify those school organisation and asset management strategies that contribute most positively to outcomes for learners and promote their use across all local authority consortia. Dylai Llywodraeth Cymru: gofyn i awdurdodau lleol gynnal asesiadau effaith ar gynlluniau ad-drefnu ysgolion lle defnyddir arian Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gweithredu; a gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi’r strategaethau trefnu ysgolion a rheoli asedau hynny sy’n cyfrannu yn y modd mwyaf cadarnhaol at ddeilliannau ar gyfer dysgwyr a hyrwyddo eu defnydd ar draws yr holl gonsortia awdurdodau lleol.

10 Argymhellion Recommendations
Local authorities and local authority consortia should: ensure strategic leaders prioritise school organisation and asset management, taking into account the impact on school effectiveness; engage all elected members, officers and headteachers in the drive to free resources in order to invest in improving outcomes for learners; carefully monitor and evaluate all school reorganisation projects in order to identify freed resources and their impact on improving outcomes for learners; Dylai awdurdodau lleol a chonsortia awdurdodau lleol: sicrhau bod arweinwyr strategol yn blaenoriaethu trefnu ysgolion a rheoli asedau, gan ystyried yr effaith ar effeithiolrwydd ysgolion; ennyn yr holl aelodau etholedig, swyddogion a phenaethiaid yn yr ymdrech i ryddhau adnoddau er mwyn buddsoddi mewn gwella deilliannau ar gyfer dysgwyr; monitro ac arfarnu’r holl brosiectau ad-drefnu ysgolion yn ofalus er mwyn nodi adnoddau a ryddhawyd a’u heffaith ar wella deilliannau ar gyfer dysgwyr;

11 Argymhellion Recommendations
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia awdurdodau lleol: gwella defnydd swyddogion o’r holl ddata sydd ar gael i ysgogi datblygiadau strategol ac arfarnu eu heffaith, gan ddefnyddio her o drefniadau craffu’r awdurdod; a chydweithio o fewn y consortia i hyrwyddo arfer dda, yn enwedig mewn perthynas â nodi a gweithredu i fynd i’r afael â thanberfformio. Local authorities and local authority consortia should: improve officers’ use of all available data to drive strategic developments and evaluate their impact, using challenge from the authority’s scrutiny arrangements; and work collaboratively within consortia to promote good practice, particularly in relation to identifying and implementing action to address underperformance.

12 10 cwestiwn i ddarparwyr 10 questions for providers
Pa strategaethau sydd yn eu lle i leihau lleoedd dros ben yn ein hysgolion? Pa effaith mae’r strategaethau hyn yn ei gael ar ddeilliannau dysgwyr? Beth ydym yn ei wneud i olrhain effaith ad-drefnu ysgolion ar ddeilliannau dysgwyr? Ai gwella safonau neu rheoli adnoddau yw ein prif amcan wrth weithredu strategaeth ad-drefnu? What strategies are currently in place to reduce the number of surplus places in our schools? What impact are these strategies having on learner outcomes? How do we track the impact of school reorganisation on learner outcomes? What is our main objective in implementing a reorganisation strategy – improving standards or managing resources?

13 10 cwestiwn i ddarparwyr 10 questions for providers
Ym mha ffordd ydyn ni’n sicrhau bod aelodau etholedig, swyddogion a phrifathrawon yn deall, ac yn ymrwymo i, ryddhau adnoddau er mwyn gwella deilliannau dysgwyr? Ym mha ffordd ydyn ni’n cydweithio ar draws ein consortiwm i adnabod y stratgeaethau rheoli a threfniadaeth hynny sy’n cyfrannu’n y dull mwyaf cadarnhaol at wella deilliannau? Beth yw natur y drafodaeth rhwng yr awdurdod lleol a/neu’r consortiwm ar y naill law, a Llywodraeth Cymru ar y llall, ynglŷn â natur strategaethau ad-drefnu? In what way do we ensure that elected members, officers and head teachers understand, and are engaged in, freeing resources to improve learner outcomes? How do we co-operate across our consortium to identify those management and organisational strategies that contribute most positively to improving outcomes? What is the nature of the discussion between the local authority and/or the consortium on one hand, and the Wales Government on the other, about the nature of re-organisation strategies?

14 10 cwestiwn i ddarparwyr 10 questions for providers
Beth ydym yn ei wneud i asesu effaith ariannol ac addysgol cynlluniau rhesymoli blaenorol? Pa fath o ddata sydd yn cael, ac y dylid, ei gasglu er mwyn sicrhau digon o wybodaeth am effaith lleoedd dros ben ar bob agwedd o’r ddarpariaeth addysgol Sut allwn ni gydweithio ar draws Cymru i sicrhau dull safonol o fesur effaith a chost lleoedd dros ben? What are we doing to assess the financial and educational impact of previous rationalisation plans? What kind of data exists, and what should be collated, to ensure enough information about the impact of surplus places on all aspects of educational provision? How can we co-operate across Wales to ensure a standardised approach of measuring the impact and cost of surplus places?

15 http://www. estyn. gov. uk/download/publication/244444

16 Cwestiynau... Questions…


Download ppt "Sut mae lleoedd dros ben yn effeithio ar yr adnoddau sydd ar gael i wario ar wella deilliannau ar gyfer disgyblion? How do surplus places affect the resources."

Similar presentations


Ads by Google