Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
2
Gweledigaeth ac athroniaeth
Rhoi cyfleoedd i bob dysgwr fod yn greadigol. Gwneud y cynnig yn gwbl gynhwysol. Yn gysylltiedig â deilliannau iechyd a lles cadarnhaol. Sicrhau bod sgiliau yn y Celfyddydau Mynegiannol yn cael eu cydnabod fel rhai trosglwyddadwy a bod cysylltiad uniongyrchol â gyrfaoedd a dysgu gydol oes. Amlygodd adroddiad yr Athro Dai Smith ar y celfyddydau ac addysg yng Nghymru bwysigrwydd addysg sy'n gyfoethog o ran y celfyddydau i bob dysgwr, gan gynnwys pwysigrwydd creadigrwydd yn y cwricwlwm. Dylai pob dysgwr gael cyfle i ddysgu a chael profiadau ym mhob un o bum disgyblaeth y Celfyddydau Mynegiannol. Mae ymchwil wedi dangos bod y maes dysgu a phrofiad hwn yn helpu i sicrhau canlyniadau iechyd a lles cadarnhaol. Mae'r maes hwn hefyd yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy ac ehangach – sgiliau creadigol a meddwl yn feirniadol sy'n helpu'r dysgwyr i gwestiynu, creu cysylltiadau, arloesi, datrys problemau, cyfathrebu, cydweithio a myfyrio'n feirniadol. Mae'r rhain yn sgiliau lefel uwch, y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr, ac maent yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr fod yn ddinasyddion yn yr unfed ganrif ar hugain – cyswllt hollbwysig â sector y diwydiannau creadigol a diwylliannol yng Nghymru, sy’n ffynnu, yn ogystal â dysgu gydol oes.
3
Y sail resymegol dros newid
Mae addysg sy’n gyfoethog yn gelfyddydol yn ganolog i brofiad cyfan dysgwr. Mae angen i bob dysgwr allu manteisio ar gyd-destunau cyfoethog lle mae ganddynt amser i archwilio, i ymateb ac i greu. Mae angen i ddysgwyr allu manteisio ar holl ddisgyblaethau’r Celfyddydau Mynegiannol. Unwaith eto, mae adroddiad yr Athro Dai Smith ar y celfyddydau ac addysg yng Nghymru yn cadarnhau bod y celfyddydau yn bwysig iawn i brofiad dysgwr yn yr ysgol, ynghyd â'r modd y mae cael profiad o'r celfyddydau drwy gyfrwng y cwricwlwm yn gallu dylanwadu ar frwdfrydedd a chyflawniad dysgwr. Mae angen i ddysgwyr gael cyfle i archwilio, ymateb a chreu yn y Celfyddydau Mynegiannol er mwyn meithrin eu sgiliau creadigol eu hunain. Mae hyn yn eu helpu i ddatblygu'n gyfranogwyr blaengar, creadigol – sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith (un o pedwar diben y cwricwlwm). Er enghraifft wrth iddynt brofi methiant, maent yn meithrin gwydnwch wrth greu yn y Celfyddydau Mynegiannol. Mae'n bwysig bod y dysgwyr hyn yn cael profiad o bob un o'r pum disgyblaeth yn y maes dysgu a phrofiad hwn.
4
Sut mae’n wahanol? Mae’n cwmpasu dawns, drama, ffilm a’r cyfryngau digidol, cerddoriaeth a’r celfyddydau gweledol, sydd wedi’u cysylltu gan broses greadigol gyffredin a sgiliau trosglwyddadwy. Mae’r dysgu’n cael ei gysylltu drwy’r broses greadigol sy’n fodd i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o ddisgyblaethau unigol. Nid yw cynnydd yn llinellol. Ffocws ar gyd-destunau cyfoethog a dilys ar gyfer dysgu yn bodoli o 3 i 16 oed. Anogir llais y dysgwr. Cydweithredu ar draws y maes dysgu a phrofiad ac ar draws meysydd dysgu a phrofiad eraill. Hyblygrwydd – amryw o fodelau cyflawni. Pum Disgyblaeth – dwy newydd yn y maes hwn, sef dawns a'r cyfryngau digidol. Mae pob un yn gysylltiedig drwy broses greadigol gyffredin a sgiliau trosglwyddadwy. Rhoi'r maes dysgu a phrofiad ar waith – nid oes llwybr llinol drwy'r Celfyddydau Mynegiannol. Drwy gysylltu eu dysgu, drwy'r broses greadigol neu thema, bydd y dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth ddyfnach ar draws y maes dysgu a phrofiad. Cyd-destunau cyfoethog, dilys, wedi'u hategu gan brosesau cynllunio a gweithio ar draws meysydd dysgu a phrofiad. Mae fframwaith y cwricwlwm a amlinellwyd ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol yn cefnogi ac yn annog cyfuniad o'r dulliau cyflwyno canlynol yn yr ysgol. Dull rhyngddisgyblaethol – mae dysgu rhyngddisgyblaethol yn ddull wedi'i gynllunio o gyflwyno'r Celfyddydau Mynegiannol, sy'n defnyddio'r broses greadigol, thema neu gyd-destun i gysylltu'r disgyblaethau gwahanol sy'n rhan o'r maes dysgu a phrofiad, sef: dawns, drama, ffilm a'r cyfryngau digidol, cerddoriaeth a'r celfyddydau gweledol. Drwy gysylltu'r broses greadigol ar draws y disgyblaethau, mae'r dysgwyr yn cysylltu eu profiadau, eu gwybodaeth a'u sgiliau er mwyn meithrin lefel ddyfnach o wybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r ddisgyblaeth. Dull Integredig/'Integredig' – mae cwricwlwm integredig y Celfyddydau Mynegiannol yn nodedig oherwydd y modd y caiff cyfuniad o ddawns, drama, ffilm a'r cyfryngau digidol, cerddoriaeth a'r celfyddydau gweledol eu haddysgu mewn un wers, yn hytrach nag ar wahân. Mae cyfuno'r disgyblaethau hyn yn annog y dysgwyr i greu cysylltiadau ac uno cysyniadau, sy'n eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau perthnasol ac ystyrlon, y gellir eu cysylltu â chyd-destunau cyfoethog, dilys. Gellir addysgu'r holl ddisgyblaethau mewn un wers, gan un athro, gyda thema gyffredinol sy'n galluogi'r dysgwyr i drosglwyddo'u sgiliau a chydweithio mewn cyd-destunau dilys. Mae hyn yn efelychu byd gwaith yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol. Dull tasgau penagored – yn ogystal â'r dulliau uchod, ac fel rhan o faes dysgu a phrofiad cytbwys, dylai'r dysgwyr gael cyfleoedd i archwilio, ymateb a chreu mewn un ddisgyblaeth neu fwy o'u dewis. Mae'r dull penagored hwn yn galluogi'r dysgwyr i arddangos arbenigedd neu feithrin sgiliau mewn disgyblaeth y maent yn teimlo bod angen iddynt ei datblygu. Mae'r dysgu yn effeithiol pan fo'n cynnwys profiad cyfoethog, penodol. Caiff y dysgwyr eu tywys drwy'r sgiliau a'r technegau, ond maent yn mynd ati wedyn i lywio eu taith ddysgu eu hunain o fewn y Celfyddydau Mynegiannol. Dylai pob dull cyflwyno gynnwys cyfleoedd ar gyfer dysgu annibynnol, gan alluogi'r dysgwyr i hunangyfeirio'r dysgu, ac i gael mwy o ymreolaeth a rheolaeth drosto.
5
Yr Hyn sy’n Bwysig mewn Celfyddydau Mynegiannol
Mae archwilio’r Celfyddydau Mynegiannol a drwyddynt yn dyfnhau ein gwybodaeth artistig ac yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o hunaniaethau, diwylliannau a chymdeithasau. Mae ymateb a myfyrio, fel artist a chynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu am y Celfyddydau Mynegiannol a thrwyddynt. Mae gwaith creadigol yn cyfuno gwybodaeth a sgiliau gan ddefnyddio’r synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg. Archwilio'r model – mae datganiadau yr hyn sy'n bwysig yn y Celfyddydau Mynegiannol yn seiliedig ar dri llinyn rhyngysylltiedig sy'n cynrychioli'r broses greadigol, sy'n gyffredin i bob disgyblaeth yn y Celfyddydau Mynegiannol. Beth yw'r pum disgyblaeth a'r gydberthynas rhyngddynt? – dawns, drama, ffilm a'r cyfryngau digidol, cerddoriaeth a'r celfyddydau gweledol – pob un â'i phrofiadau, ei gwybodaeth a'i sgiliau unigryw ei hun ond hefyd yn rhannu proses greadigol gyffredin a sgiliau trosglwyddadwy.
6
Sut gyrhaeddon ni yma? Dull gweithredu
Ffocws ar ymchwil, tystiolaeth a chyfraniadau gan arbenigwyr. Gwaith adolygu a thrafodaeth yn arwain at gytundeb i symud oddi wrth disgyblaethau unigol i Faes Dysgu a Phrofiad ehangach y Celfyddydau Mynegiannol. Ystyried arfer gorau a thrafodaethau proffesiynol o fewn y grŵp arloesi. Gweithredu ar adborth gan ysgolion y grŵp arloesi, rhanddeiliaid, a meysydd dysgu a phrofiad eraill, ac ati. Dull Ar ddechrau'r broses ddatblygu, cafwyd cryn drafodaeth ymhlith y grŵp arloesi ynghylch unigoliaeth y disgyblaethau a'r ffordd orau o ymdrin â'r maes dysgu a phrofiad mewn modd rhyngddisgyblaethol. Roedd y grŵp arloesi yn deall bod pob disgyblaeth yn wahanol a bod ganddi ei set sgiliau ei hun; fodd bynnag, ar ôl ymchwilio, adolygu tystiolaeth gan arbenigwyr a thrafod hynny, cytunodd y grŵp fod pob disgyblaeth yn rhannu proses greadigol a sgiliau trosglwyddadwy – dyma sut y datblygodd datganiadau yr hyn sy'n bwysig yn y Celfyddydau Mynegiannol.
7
Tystiolaeth a chyfraniad
gan arbenigwyr Ymchwil: adroddiadau yr OECD ar y celfyddydau a chreadigrwydd, Y Celfyddydau mewn Addysg yng Nghymru (yr Athro Dai Smith), Progression in Creativity (Spencer, Lucas, Claxton) Tystiolaeth: Dysgu Creadigol drwy’r rhaglen Celfyddydau (Cyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru); adroddiadau arfer gorau Estyn; addysgeg y Cyfnod Sylfaen; Creative Learning – Paul Collard; Syr Ken Robinson ar greadigrwydd mewn addysg. Cwricwla rhyngwladol a ystyriwyd – Awstralia, Columbia Brydeinig, Iwerddon, Quebec, Seland Newydd, yr Alban, Ontario. Tystiolaeth ac adborth Seiliedig ar ymchwil: Adroddiadau OECD ar y Celfyddydau a chreadigrwydd, Y Celfyddydau mewn Addysg yng Nghymru (Yr Athro Dai Smith), Progression in Creativity (Spencer, Lucas, Claxton). Tystiolaeth o'r canlynol: Rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau a gynhelir gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen hon yn cynnwys prosiectau Ysgolion Creadigol Arweiniol, grantiau Ewch i Weld sy'n galluogi ysgolion i fanteisio ar brofiadau celfyddydol allanol a rhwydweithiau addysg a'r celfyddydau rhanbarthol sy'n cynnal rhaglenni Hyrwyddwyr y Celfyddydau a chyfleoedd datblygiad proffesiynol i athrawon. Mynediad drwy'r Parth Dysgu Creadigol ar Hwb: hwb.gov.wales/getting-started Tystiolaeth o adroddiadau thematig Estyn ar y Celfyddydau – Arfer gorau yn y celfyddydau creadigol yng nghyfnod allweddol 2, Arfer gorau yn y celfyddydau creadigol yng nghyfnodau allweddol 3 a 4 (neu'r Parth Dysgu Creadigol ar Hwb). Tystiolaeth gadarnhaol gan Syr Ken Robinson ar greadigrwydd mewn addysg – ei wefan ei hun a TED Talks (sirkenrobinson.com). Adeiladu ar arfer gorau ac addysgeg y Cyfnod Sylfaen. Cynnydd – mewnbwn arbenigol gan dîm CAMAU o Brifysgol Glasgow a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (adroddiad Dysgu am Ddilyniant). Arfer gorau a deialog proffesiynol o fewn y grŵp – cynrychiolaeth dda iawn o bob disgyblaeth, cyfnod, ysgol.
8
Tystiolaeth a chyfraniad
gan arbenigwyr Cyfraniadau ac adborth gan arbenigwyr: Cyngor Celfyddydau Cymru; Estyn; Cymwysterau Cymru; Dawns – Geraldine Hurl; Drama – Emma Thayer, Ysgol Addysg Prifysgol Metropolitan Caerdydd; Ffilm – Into Film Cymru; y Cyfryngau Digidol – Dr Jenny Kidd, Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd; Martin Thomas, Coleg Cambria; Cerddoriaeth – yr Athro Chris Collins, Prifysgol Bangor; y Celfyddydau Gweledol – Gwenllian Beynon, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Cynnydd: Tîm CAMAU. Arfer gorau a thrafodaeth broffesiynol o fewn y grŵp arloesi. Defnyddio’r adborth gan ysgolion y grŵp arloesi, rhanddeiliaid, a meysydd dysgu a phrofiad eraill. Tystiolaeth ac adborth Seiliedig ar ymchwil: Adroddiadau OECD ar y Celfyddydau a chreadigrwydd, Y Celfyddydau mewn Addysg yng Nghymru (Yr Athro Dai Smith), Progression in Creativity (Spencer, Lucas, Claxton). Tystiolaeth o'r canlynol: Rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau a gynhelir gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen hon yn cynnwys prosiectau Ysgolion Creadigol Arweiniol, grantiau Ewch i Weld sy'n galluogi ysgolion i fanteisio ar brofiadau celfyddydol allanol a rhwydweithiau addysg a'r celfyddydau rhanbarthol sy'n cynnal rhaglenni Hyrwyddwyr y Celfyddydau a chyfleoedd datblygiad proffesiynol i athrawon. Mynediad drwy'r Parth Dysgu Creadigol ar Hwb: hwb.gov.wales/getting-started Tystiolaeth o adroddiadau thematig Estyn ar y Celfyddydau – Arfer gorau yn y celfyddydau creadigol yng nghyfnod allweddol 2, Arfer gorau yn y celfyddydau creadigol yng nghyfnodau allweddol 3 a 4 (neu'r Parth Dysgu Creadigol ar Hwb). Tystiolaeth gadarnhaol gan Syr Ken Robinson ar greadigrwydd mewn addysg – ei wefan ei hun a TED Talks (sirkenrobinson.com). Adeiladu ar arfer gorau ac addysgeg y Cyfnod Sylfaen. Cynnydd – mewnbwn arbenigol gan dîm CAMAU o Brifysgol Glasgow a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (adroddiad Dysgu am Ddilyniant). Arfer gorau a deialog proffesiynol o fewn y grŵp – cynrychiolaeth dda iawn o bob disgyblaeth, cyfnod, ysgol.
9
Ystyriaethau i ysgolion
Sut bydd eich arweinwyr, eich ymarferwyr a’ch rhwydweithiau’n gallu paratoi ar gyfer y cyfnod nesaf o gyd-greu a rhoi adborth ystyrlon? Beth, os o gwbl, yw’r goblygiadau o ran adnoddau (cenedlaethol a lleol)? Sut y gallwch chi ddefnyddio dull ysgol gyfan a/neu rhyng-adrannol i sicrhau bod pawb yn: – gwybod am y cwricwlwm newydd? – deall sut i gyflwyno’r cwricwlwm newydd?
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.