Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

ACHOSION O ANAFIADAU – CAUSES OF INJURY Mae yna nifer o wahanol fathau o anafiadau yn ymwneud a chymryd rhan mewn chwaraeon. Mae hi’n bwysig i ni wybod.

Similar presentations


Presentation on theme: "ACHOSION O ANAFIADAU – CAUSES OF INJURY Mae yna nifer o wahanol fathau o anafiadau yn ymwneud a chymryd rhan mewn chwaraeon. Mae hi’n bwysig i ni wybod."— Presentation transcript:

1

2 ACHOSION O ANAFIADAU – CAUSES OF INJURY Mae yna nifer o wahanol fathau o anafiadau yn ymwneud a chymryd rhan mewn chwaraeon. Mae hi’n bwysig i ni wybod beth sy’n achosi anafiadau er mwyn gallu eu hosgoi. Dyma rai achosion o anafiadau: llwytho ffactorau cynhenid ac allanol gor-ddefnydd aliniad dwysedd effaith liferi disgyrchiant a gwrthiant There are a number of different injuries associated with taking part in sport. it is important for us to know what causes these injuries to ensure that they can be avoided. Here are a few causes of injury: loading intrinsic and extrinsic factors over-use alignment intensity effect of levers gravity and resistance

3 MATHAU O ANAFIADAU – TYPES OF INJURIES Dyma’r mathau o anafiadau y gallwch eu cael o ganlyniad i gymryd rhan mewn chwaraeon: clais straen ysigiad tendonitis torriad caeedig torriad agored cyfergyd anaf i’r asgwrn cefn sblintiau crimog dadleoliad crafiad pothell Here are the type of injuries that you could have as a result of taking part in sport: bruise strain sprain tendonitis closed fracture open fracture concussion spinal injury shin splints dislocation graze blister

4 CLAIS - BRUISE Pwll o waed yn caslglu ym meinwe’r corff, sydd hefyd yn cael ei alw yn hematoma. Also known as a haematoma, this is a mass of blood trapped in the body tissues.

5 STRAEN - STRAIN Anaf i’r cyhyr lle mae ffibrau’r cyhyr wedi cael eu rhwygo. A muscle injury in which the muscle fibres are torn.

6 YSIGIAD - SPRAIN Anaf i’r gewynnau sy’n uno esgyrn gyda’i gilydd. Injury to the ligaments that join bones together.

7 TENDONITIS Tendonnau llidus a phoenus sy’n uno cyhyrau i’r esgyrn. Inflamed and sore tendons that join muscles to bones.

8 TORRIAD CAEEDIG – CLOSED FRACTURE Torriad yn yr asgwrn neu mae’r asgwrn yn torri yn ddau ddarn. A break in the bone or the bone breaks into two pieces.

9 TORRIAD AGORED – OPEN FRACTURE Mae’r asgwrn yn torri yn ddau ddarn ac yn treiddio trwy’r croen. The bone breaks into two pieces and also pierces the skin.

10 CYFERGYD - CONCUSSION Anaf i’r ymenydd, lle mae niwed yn cael ei wneud i bibellau gwaed yr ymenydd ac fe all y person fynd yn anymwybodol. Injury to the brain, where the blood vessels in the brain are damaged and the person may become unconscious.

11 ANAF I’R ASGWRN CEFN – SPINAL INJURY Anaf i golofn y cefn yn cynnwys yr esgyrn, nerfau a’r gewynnau. Injury to the spinal column including the bones, nerves and ligaments.

12 SBLINTIAU CRIMOG – SHIN SPLINTS Poen ac anesmwythder yn nhy blaen y rhan isaf o’r goes. Pain and discomfort at the front of the lower leg.

13 DADLEOLIAD - DISLOCATION Lle mae asgwrn yn dod o’i le ac allan o’i soced. Where a bone comes away from its socket.

14 CRAFIAD - GRAZE Mae’r haen arwynebol o’r croen wedi cael ei grafu i ffwrdd. The superficial layer of skin is rubbed off.

15 POTHELL - BLISTER Swigen sy’n ffurfio ar y croen. A bubble which forms on the skin.

16 MATHAU O AFIECHYDON – TYPES OF ILLNESSES Dyma’r mathau o afiechydon y gallwch eu cael o ganlyniad i gymryd rhan mewn chwaraeon: hypoglycaemia haint feirol asthma trawiad ar y galon Here are the type of illnesses that you could have as a result of taking part in sport: hypoglycaemia viral infection asthma heart attack

17 HYPOGLYCAEMIA Mae lefel gliwcos y gwaed yn disgyn yn is na’r hyn sy’n ddelfrydol ar gyfer y corff. Mae arwyddion yn cynnwys pwls cryf a chyflym, chwysu, crynnu, drysu a gwelwedd. Blood glucose levels fall below the ideal level for the body. Signs include a strong and fast pulse, sweating, shaking, confusion and pallor.

18 HAINT FEIROL – VIRAL INFECTION Feirysau sy’n meddiannu a lluosi yn ein celloedd i achosi anwydau Mae arwyddion yn cynnwys tymheredd uchel, cur pen a dolur gwddw. Viruses that invade our cells and multiply causing colds. Signs include a high temperature, headache and a sore throat.

19 ASTHMA Mae llwybr anadlu’r person yn cael ei effeithio sy’n ei gwneud hi’n anodd anadlu. Mae arwyddion yn cynnwys gwichian wrth anadlu, tagu a diffyg anadlu. A person’s airways are affected making it hard for them to breathe. Signs include wheezing, coughing and breathlessness.

20 TRAWIAD AR Y GALON – HEART ATTACK Poen yn y frest sydd wedi ei achosi gan rwystr yn y rhydweli coronaidd. Mae arwyddion yn cynnwys poen yn y gwddw y frest neu’r breichiau, chwysu, diffyg anadlu, gwelwedd a phwls gwan ac afreolaidd. Pain in the chest cause by a blockage of a coronary artery. Signs include pain in the neck and chest or the arms, sweating, breathlessness, pallor and a weak and irregular pulse.


Download ppt "ACHOSION O ANAFIADAU – CAUSES OF INJURY Mae yna nifer o wahanol fathau o anafiadau yn ymwneud a chymryd rhan mewn chwaraeon. Mae hi’n bwysig i ni wybod."

Similar presentations


Ads by Google