Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
Published byHarvey Roberts Modified over 9 years ago
1
Hanes Joseff (Rhan 2) Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies
2
5. O Flaen Pharo 6. Deg Brawd Yn Mynd I`r Aifft DEWISWCH STORI 7. Anfon Benjamin 8. Aduniad Y Teulu Dewiswch Adnod I'w Dysgu
3
Ond, nid oedd yr un ohonynt yn medru dehongli`r freuddwyd. Ymhen 2 flynedd union cafodd Pharo freuddwyd hynod. Galwodd am ei holl ddewiniaid a`i bobl doeth.
4
Dyma oedd breuddwyd Pharo: Gwelodd 7 o wartheg tew yn dod allan o`r afon Neil a dechrau pori ar y glaswellt. Ar eu hôl daeth 7 o wartheg tenau a sefyll wrth ymyl y gwartheg tew. Yn sydyn, dechreuodd y 7 o wartheg tenau fwyta`r 7 gwartheg tew. Ond, ar ôl iddynt fwyta, roeddent yn dal i fod yr un mor denau!
5
Ar ôl hyn cafodd Pharo freuddwyd arall: Gwelodd 7 dywysen dew yn tyfu ar un gwelltyn. Wedyn, gwelodd 7 dywysen denau yn tyfu ar yr un gwelltyn. Llyncodd y tywysennau tenau y 7 dywysen dew.
6
Yna, cofiodd y bwtler am Joseff. Dywedodd wrth Pharo am ei allu i ddehongli breuddwydion ac anfonodd y brenin am Joseff. Nid fi sy`n dehongli. Duw sy`n rhoi`r gallu i mi ddeall ystyr breuddwydion.
7
Bydd gwlad yr Aifft yn cael 7 mlynedd pan fydd cnydau yn tyfu`n arbennig o dda. Ond am y 7 mlynedd ar ôl hynny bydd newyn garw. Dyma ddehongliad Joseff.
8
Am i dy Dduw rhoi gwybod hyn oll i ti fe gei di fod yn reolwr dros yr Aifft. Rwyf am i ti drefnu bod y wlad yn barod ar gyfer y blynyddoedd o newyn. Roedd Pharo yn hapus iawn gyda Joseff.
9
Bendithiodd yr Arglwydd Joseff gyda gallu a doethineb. Ef oedd rheolwr newydd yr Aifft – dim ond Pharo oedd yn uwch nag ef.
10
Am 7 mlynedd bu tir yr Aifft yn ffrwythlon iawn gan ddwyn cnydau da. Trefnodd Joseff bod ŷd yn cael ei roi o`r neilltu a`i gadw ar gyfer y blynyddoedd o newyn.
11
Diolch i Joseff, mae gyda ni ddigon o fwyd. Pan ddaeth y newyn roedd yr Aifft yn barod.
12
Roedd y newyn wedi effeithio ar wlad Canaan hefyd. Roedd Jacob a`i deulu`n brin o fwyd. Beth allwn ni wneud?
13
Aeth 10 o frodyr Joseff i`r Aifft i brynu ŷd. Rwyf wedi clywed bod ŷd ar gael yn yr Aifft. Rhaid i chi fynd yno a phrynu digon i`n cadw`n fyw dros y newyn.
14
Ond doedd dim syniad gan y brodyr mae eu brawd Joseff oedd rheolwr yr Aifft. Pan welodd Joseff ei frodyr adnabyddodd hwy ar unwaith.
15
Rhoddodd Joseff hwy ar brawf. Dywedodd ei fod am weld eu brawd bach (Benjamin). Yn y cyfamser bydd Simeon yn aros yma.
16
Trefnodd Joseff bod yr arian am yr ŷd yn cael ei ddychwelyd i`r brodyr yn gyfrinachol. Mae`r arian nôl yn y sach.
17
Plîs dad. Mae`n rhaid i chi adael i Benjamin ddod nôl i`r Aifft gyda ni! Peth amser yn ddiweddarach ar ôl cyrraedd nôl yng ngwlad Canaan…
18
Ar ôl pwyso a mesur llawer penderfynodd Jacob ganiatáu i Benjamin deithio i`r Aifft gyda gweddill ei frodyr.
19
Ar ôl cyrraedd yr Aifft cafodd y brodyr groeso mawr gan Joseff.
20
Pan welodd Joseff ei frawd bach Benjamin roedd yn llawen dros ben. Aeth allan o`r ystafell ac wylo.
21
Cafodd Benjamin bump waith yn fwy na gweddill y brodyr. Trefnwyd gwledd i`r brodyr.
22
Rhowch fy nghwpan arian yn sach Benjamin ynghyd â`r arian a dalodd am yr ŷd.
23
Wrth i`r brodyr ddychwelyd am adref daeth swyddog tŷ Joseff ar eu holau. Pam wnaethoch chi ddwyn cwpan fy meistr?
24
Chwiliwyd pob un o`r brodyr gan ddechrau gyda`r hynaf nes dod o hyd i`r cwpan yn sach Benjamin.
25
Dw i ddim yn deall y peth. Rwy`n dweud y gwir – nid lladron ydym!
26
Fi yw Joseff. Doedd y brodyr ddim yn gwybod beth i ddweud. Roedd cywilydd mawr arnynt.
27
Cafodd Jacob sioc fawr. Roedd e braidd yn gallu credu bod Joseff dal yn fyw. Nôl yng ngwlad Canaan…
28
Symudodd Jacob a`i holl deulu, gan gynnwys ei blant a`i wyron a`i aneiliaid, i fyw yng ngwlad yr Aifft. Fy annwyl, annwyl fab.
29
DEWISWCH ADNOD Dw i’n trystio Duw does gen i ddim ofn. Salm pennod 56 adnod 3 Rhaid ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion. Actau pennod 5 adnod 29 Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th galon, ac â’th holl enaid a dy holl nerth. Deuteronomium pennod 6 adnod 5 Cliciwch ar ochr chwith y lygoden i ddewis adnod.
30
Dw i’n trystio Duw does gen i ddim ofn Salm pennod 56 adnod 3 Dw i’n trystio Duw does gen i ddim ofn Salm pennod 56 adnod 3 Dw i’n trystio Duw does gen i ddim ofn. Salm pennod 56 adnod 3
31
Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid a dy holl nerth. Deuteronomium pennod 6 adnod 5 Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid a dy holl nerth. Deuteronomium pennod 6 adnod 5
32
Rhaid ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion. Actau pennod 5 adnod 29 Rhaid ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion.. Actau pennod 5 adnod 29
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.