Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

TRÖEDIGAETH SAUL Actau pennod 9: 1-27 Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies Golygydd Testun: Linda Lockley.

Similar presentations


Presentation on theme: "TRÖEDIGAETH SAUL Actau pennod 9: 1-27 Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies Golygydd Testun: Linda Lockley."— Presentation transcript:

1 TRÖEDIGAETH SAUL Actau pennod 9: 1-27 Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies Golygydd Testun: Linda Lockley

2 Roedd Saul yn ddyn crefyddol a galluog. Roedd e’n addoli Duw Israel ond doedd e ddim yn credu mai Iesu oedd Mab Duw.

3 Roedd Saul yn casáu dilynwyr Iesu ac roedd ganddo’r hawl i fynd o dŷ i dŷ er mwyn dod o hyd i Gristnogion a’u taflu i garchar.

4 Cafodd lythyrau oddi wrth yr Archoffeiriad yn rhoi’r hawl iddo fynd mor bell â Damascus i chwilio am Gristnogion er mwyn eu dal.

5 Felly, cychwynnodd Saul ar ei daith hir i Ddamascus i chwilio am y Cristnogion oedd yno.

6 Saul, Saul, pam wyt ti’n fy erlid i?

7 Pwy wyt ti, Arglwydd?

8 Iesu wyf fi, yr un rwyt ti’n ei erlid. Dos i mewn i Ddamascus ac fe gei di wybod beth sy’n raid i ti ei wneud.

9 Wedi iddo edrych ar y goleuni llachar, roedd Saul yn ddall. Bu’n rhaid i’w ffrindiau ei arwain i mewn i Ddamascus.

10 Yn y cyfamser, siaradodd yr Arglwydd â Christion o’r enw Ananias oedd yn byw yn Namascus.

11 Ond, mae e’n ddyn cas. Mae e wedi dod yma i ddal Cristnogion a’u dwyn i garchar. Ananias, rwyf am i ti gwrdd â Saul. Paid ag ofni dim. Mae Saul nawr yn eiddo i mi.

12 Saul, fy mrawd annwyl. Mae Iesu wedi fy anfon i er mwyn i ti gael gweld eto a chael dy lanw â’r Ysbryd Glân.

13 Bedyddiwyd Saul ac fe aeth i’r synagogau i dystio bod Iesu’n fyw ac i gyhoeddi mai Ef yw Mab Duw. Onid hwn yw’r dyn ddaeth yma i ddal y Cristnogion? Mae e nawr yn un ohonyn nhw!

14 Roedd yr Iddewon yn ddig iawn bod Saul wedi troi’n Gristion. Dechreuodd rhai ohonyn nhw gynllwynio i’w ladd a bu’n rhaid i Saul adael Damascus ar frys.

15 Pan gyrhaeddod Saul nôl yn Jerwsalem, ceisiodd ymuno â’r Cristnogion ond roedd pawb yn ei ofni. Doedden nhw ddim yn credu ei fod e wedi rhoi ei fywyd i Iesu. Ond credodd dyn o’r enw Barnabas stori Saul ac fe aeth ag e i’w gyflwyno i weddill y Cristnogion. Does dim angen i chi ofni Saul o hyn ymlaen. Mae’r Arglwydd wedi newid ei galon.


Download ppt "TRÖEDIGAETH SAUL Actau pennod 9: 1-27 Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies Golygydd Testun: Linda Lockley."

Similar presentations


Ads by Google