Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
Published byScott Phillips Modified over 8 years ago
1
Welsh Baccalaureate Qualification provision at level 3 in secondary schools Darpariaeth Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar lefel 3 mewn ysgolion uwchradd
2
Cefndir Background Blwyddyn - YearWedi eu cofrestru - Entries (% cyflawni - achieving) 20071,329 (81.0%) 20081,642 (81.1%) 20092,940 (89.6%) 20105,407 (87.0%) 20118,323 (90.8%)
3
Prif ganfyddiadau Main findings The Welsh Baccalaureate offers many benefits to students. The majority of students improve their essential skills and they achieve an understanding of a range of topics, that they would not have studied otherwise. Carrying out the individual investigation helps many students to develop some of the research and analytical skills needed for higher education and employment. Students also develop their confidence and social skills by engaging in community participation and work experience. Mae Bagloriaeth Cymru yn cynnig llawer o fanteision i fyfyrwyr. Mae mwyafrif y myfyrwyr yn gwella’u medrau hanfodol ac maent yn ennill dealltwriaeth o ystod o bynciau na fyddent wedi eu hastudio fel arall. Mae cyflawni’r ymchwiliad unigol yn helpu llawer o fyfyrwyr i ddatblygu rhai o’r medrau ymchwil a dadansoddi y mae eu hangen ar gyfer addysg uwch a gwaith. Hefyd, mae myfyrwyr yn datblygu eu hyder a’u medrau cymdeithasol trwy gymryd rhan mewn cyfranogi yn y gymuned a phrofiad gwaith.
4
However, the standards achieved on the Welsh Baccalaureate vary a good deal between students and between schools. For instance, standards in individual investigations can vary from level 3 pass level to a very high level. Much of the variation in standards reflects the variation in the way in which the provision is designed and delivered in different schools. It also reflects the wide ability-range of students who take the level 3 core. Fodd bynnag, mae’r safonau a gyflawnir ym Magloriaeth Cymru yn amrywio llawer iawn rhwng myfyrwyr a rhwng ysgolion. Er enghraifft, mae safonau mewn ymchwiliadau unigol yn gallu amrywio o basio ar lefel 3 i lefel uchel iawn. Mae llawer o’r amrywiaeth mewn safonau yn adlewyrchu’r amrywiaeth yn y ffordd y mae’r ddarpariaeth wedi’i chynllunio a’i chyflwyno mewn ysgolion gwahanol. Hefyd, mae’n adlewyrchu ystod gallu eang y myfyrwyr sy’n dilyn y craidd ar lefel 3. Prif ganfyddiadau Main findings
5
Students who attain the qualification also gain qualifications in a range of essential skills such as communication and application of number, but these are not always studied at a level that is appropriate to individual students. Of all the components in the core, the lowest standards are in the 20- hour language module, which is generally not challenging enough to engage students, especially the more able. Mae myfyrwyr sy’n ennill y cymhwyster yn ennill cymwysterau mewn ystod o fedrau hanfodol fel cyfathrebu a chymhwyso rhif hefyd, ond nid yw’r rhain bob amser yn cael eu hastudio ar lefel sy’n briodol i fyfyrwyr unigol. O’r holl elfennau yn y craidd, mae’r safonau isaf yn y modiwl iaith 20 awr, nad yw’n ddigon heriol yn gyffredinol i ennyn diddordeb myfyrwyr, yn enwedig y rhai mwy galluog. Prif ganfyddiadau Main findings
6
There is variability in the quality of provision too. In many schools, there is an imbalance between the time spent on completing the paperwork relating to essential skills qualifications and the time spent on improving students’ actual skills and transferring these to support learning across the curriculum. However, the quality of teaching in the core is generally good in the majority of schools. Mae amrywiaeth yn ansawdd y ddarpariaeth hefyd. Mewn llawer o ysgolion, mae anghydbwysedd rhwng yr amser sy’n cael ei dreulio’n cwblhau’r gwaith papur sy’n gysylltiedig â chymwysterau medrau hanfodol a’r amser sy’n cael ei dreulio’n gwella medrau go iawn myfyrwyr a throsglwyddo’r rhain i ategu dysgu ar draws y cwricwlwm. Fodd bynnag, mae ansawdd yr addysgu yn y craidd yn dda yn gyffredinol ym mwyafrif yr ysgolion. Prif ganfyddiadau Main findings
7
In a minority of teaching sessions, students are not challenged enough because teachers do not plan well enough to meet the needs of the full ability-range of students. Although many schools have well- established self-evaluation processes, the Welsh Baccalaureate often sits outside these quality assurance procedures. This means that school leaders do not know enough about the quality of teaching in the Welsh Baccalaureate programme or know how much progress students are making during lessons. Mewn lleiafrif o sesiynau addysgu, nid yw myfyrwyr yn cael eu herio digon gan nad yw athrawon yn cynllunio’n ddigon da i fodloni anghenion holl ystod gallu myfyrwyr. Er bod gan lawer o ysgolion brosesau hunanarfarnu sefydledig, mae Bagloriaeth Cymru yn aml yn sefyll y tu allan i’r gweithdrefnau sicrhau ansawdd hyn. Mae hyn yn golygu nad yw arweinwyr ysgol yn gwybod digon am ansawdd yr addysgu yn rhaglen Bagloriaeth Cymru nac yn gwybod faint o gynnydd y mae myfyrwyr yn ei wneud yn ystod gwersi. Prif ganfyddiadau Main findings
8
Argymhellion Recommendations The Welsh Government should: R1 consider reviewing the structure of the Welsh Baccalaureate Qualification, to build on its strengths and eliminate its weaknesses; R2 work with schools and the WJEC to plan how to introduce grading into the assessment of the Welsh Baccalaureate Qualification; and R3 review the arrangements for assessing essential skills qualifications. Dylai Llywodraeth Cymru: A1 ystyried adolygu strwythur Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, i adeiladu ar ei gryfderau a dileu ei wendidau; A2 gweithio gydag ysgolion a CBAC i gynllunio sut i gyflwyno graddio i asesu Cymhwyster Bagloriaeth Cymru; ac A3 adolygu’r trefniadau ar gyfer asesu cymwysterau medrau hanfodol.
9
Awarding organisations should: R4 provide further guidance and exemplar materials to support schools in the delivery and assessment of essential skills; and R5 develop the Welsh Baccalaureate website to include a wider range of approved resources, including Welsh-medium resources. Dylai cyrff dyfarnu: A4 ddarparu arweiniad a deunyddiau enghreifftiol pellach i gefnogi ysgolion wrth gyflwyno ac asesu medrau hanfodol; a A5 datblygu gwefan Bagloriaeth Cymru i gynnwys ystod ehangach o adnoddau cymeradwy, gan gynnwys adnoddau cyfrwng Cymraeg. Argymhellion Recommendations
10
Secondary schools should: R6 monitor more closely the arrangements for delivering and assessing essential skills so that they are not overly bureaucratic; R7 monitor the quality of learning and teaching on the Welsh Baccalaureate as part of their normal self-evaluation procedures, with a particular focus on student progress and standards; and R8 gather and use students’ evaluations of their experiences of the Welsh Baccalaureate to improve the provision. Dylai ysgolion uwchradd: A6 monitro’n agosach y trefniadau ar gyfer cyflwyno ac asesu medrau hanfodol fel nad ydynt yn or- fiwrocrataidd; A7 monitro ansawdd dysgu ac addysgu ym Magloriaeth Cymru fel rhan o’u gweithdrefnau hunanarfarnu arferol, gyda ffocws penodol ar gynnydd a safonau myfyrwyr; a A8 chasglu a defnyddio arfarniadau myfyrwyr o’u profiadau o Fagloriaeth Cymru i wella’r ddarpariaeth. Argymhellion Recommendations
11
Arfer orau Best practice Ysgol Y Preseli – Students’ knowledge, understanding and skills Ysgol Morgan Llwyd – Curriculum planning and delivery (The language module) Whitchurch High School – Staff development and training Hawarden High School – Mentoring programme Ysgol y Preseli – Gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau myfyrwyr Ysgol Morgan Llwyd – Cynllunio a chyflwyno’r cwricwlwm (Y modiwl iaith) Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd – Datblygiad a hyfforddiant staff Ysgol Uwchradd Penarlâg – Rhaglen fentora
12
10 cwestiwn i ddarparwyr 10 questions for providers What proportion of our learners complete the qualification successfully? What aspects of the qualification do learners find most or least challenging and why? Do learners participate well in the sessions? Do they find them interesting? What impact is the Welsh Baccalaureate Qualification having on our learners’ progression routes into further study or higher education? Pa gyfran o’n dysgwyr sy’n cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus? Pa agweddau ar y cymhwyster y mae dysgwyr yn eu gweld yn fwyaf heriol neu’n lleiaf heriol, a pham? A yw’r dysgwyr yn cyfranogi’n dda yn y sesiynau? A ydyn nhw’n eu gweld yn ddiddorol? Pa effaith mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru’n ei chael ar lwybrau dilyniant ein dysgwyr i addysg bellach neu addysg uwch?
13
10 cwestiwn i ddarparwyr 10 questions for providers Are the arrangements for developing learners’ essential skills working well? Are they working at the most appropriate level? What is the overall quality of our teaching and assessment in Welsh Baccalaureate sessions? Do we meet the needs of learners across the ability range? A yw’r trefniadau ar gyfer datblygu medrau hanfodol y dysgwyr yn gweithio’n dda? A ydyn nhw’n gweithio ar y lefel fwyaf priodol? Beth yw ansawdd cyffredinol ein haddysgu a’n hasesu mewn sesiynau Bagloriaeth Cymru? A ydyn ni’n diwallu anghenion dysgwyr ar draws yr ystod gallu?
14
10 cwestiwn i ddarparwyr 10 questions for providers How well do our leaders and managers promote, sustain and manage the delivery of the Welsh Baccalaureate? Are there clear and challenging targets for attainment in relation to the Welsh Baccalaureate? Is the Welsh Baccalaureate fully integrated into our quality assurance systems? Do our learners have the opportunity to influence decisions relating to the Welsh Baccalaureate? Pa mor dda mae ein harweinwyr a’n rheolwyr yn hyrwyddo, yn cynnal ac yn rheoli cyflwyno Bagloriaeth Cymru? A oes targedau clir a heriol ar gyfer cyrhaeddiad mewn perthynas â Bagloriaeth Cymru? A yw Bagloriaeth Cymru wedi’i hymgorffori’n llawn yn ein systemau sicrhau ansawdd? A yw ein dysgwyr yn cael y cyfle i ddylanwadu ar benderfyniadau’n ymwneud â Bagloriaeth Cymru?
15
http://www.estyn.gov.uk/download/publication/251078.1 /darpariaeth-cymhwyster-bagloriaeth-cymru-ar-lefel-3- mewn-ysgolion-uwchradd-gorffennaf-2012/ http://www.estyn.gov.uk/download/publication/251050.8 /welsh-baccalaureate-qualification-provision-at-level-3- in-secondary-schools-july-2012
16
Cwestiynau... Questions…
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.